Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 113

113 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd. Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd. Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd. Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel, Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl. Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.

Eseciel 22:17-31

17 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 18 Ha fab dyn, tŷ Israel a aeth gennyf yn amhuredd: pres, ac alcam, a haearn, a phlwm, ydynt oll yng nghanol y pair: amhuredd arian ydynt. 19 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Am eich bod chwi oll yn amhuredd, am hynny wele fi yn eich casglu chwi i ganol Jerwsalem. 20 Fel casglu arian, a phres, a haearn, a phlwm, ac alcam, i ganol y ffwrn, i chwythu tân arnynt i’w toddi; felly yn fy llid a’m dig y casglaf chwi, ac a’ch gadawaf yno, ac a’ch toddaf. 21 Ie, casglaf chwi, a chwythaf arnoch â thân fy llidiowgrwydd, fel y todder chwi yn ei chanol hi. 22 Fel y toddir arian yng nghanol y pair, felly y toddir chwi yn ei chanol hi; fel y gwypoch mai myfi yr Arglwydd a dywelltais fy llidiowgrwydd arnoch.

23 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, 24 Dywed wrthi hi, fab dyn, Ti yw y tir sydd heb ei buro, heb lawio arno yn nydd dicter. 25 Cydfradwriaeth ei phroffwydi o’i mewn, sydd fel llew rhuadwy yn ysglyfaethu ysglyfaeth; eneidiau a ysasant; trysor a phethau gwerthfawr a gymerasant; ei gweddwon hi a amlhasant hwy o’i mewn. 26 Ei hoffeiriaid a dreisiasant fy nghyfraith, ac a halogasant fy mhethau sanctaidd: ni wnaethant ragor rhwng cysegredig a halogedig, ac ni wnaethant wybod rhagor rhwng yr aflan a’r glân; cuddiasant hefyd eu llygaid oddi wrth fy Sabothau, a halogwyd fi yn eu mysg hwynt. 27 Ei phenaethiaid oedd yn ei chanol fel bleiddiaid yn ysglyfaethu ysglyfaeth, i dywallt gwaed, i ddifetha eneidiau, er elwa elw. 28 Ei phroffwydi hefyd a’u priddasant hwy â chlai annhymherus, gan weled gwagedd, a dewinio iddynt gelwydd, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw, a’r Arglwydd heb ddywedyd. 29 Pobl y tir a arferasant dwyll, ac a dreisiasant drais, ac a orthrymasant y truan a’r tlawd; y dieithr hefyd a orthrymasant yn anghyfiawn. 30 Ceisiais hefyd ŵr ohonynt i gau y cae, ac i sefyll ar yr adwy o’m blaen dros y wlad, rhag ei dinistrio; ac nis cefais. 31 Am hynny y tywelltais fy nigofaint arnynt, â thân fy llidiowgrwydd y difethais hwynt; eu ffordd eu hun a roddais ar eu pennau hwynt, medd yr Arglwydd Dduw.

Rhufeiniaid 8:31-39

31 Beth gan hynny a ddywedwn ni wrth y pethau hyn? Os yw Duw trosom, pwy a all fod i’n herbyn? 32 Yr hwn nid arbedodd ei briod Fab, ond a’i traddododd ef trosom ni oll; pa wedd gydag ef hefyd na ddyry efe i ni bob peth; 33 Pwy a rydd ddim yn erbyn etholedigion Duw? Duw yw’r hwn sydd yn cyfiawnhau: 34 Pwy yw’r hwn sydd yn damnio? Crist yw’r hwn a fu farw, ie, yn hytrach, yr hwn a gyfodwyd hefyd; yr hwn hefyd sydd ar ddeheulaw Duw, yr hwn hefyd sydd yn erfyn trosom ni. 35 Pwy a’n gwahana ni oddi wrth gariad Crist? ai gorthrymder, neu ing, neu ymlid, neu newyn, neu noethni, neu enbydrwydd, neu gleddyf? 36 Megis y mae yn ysgrifenedig, Er dy fwyn di yr ydys yn ein lladd ni ar hyd y dydd; cyfrifwyd ni fel defaid i’r lladdfa. 37 Eithr yn y pethau hyn oll yr ydym ni yn fwy na choncwerwyr, trwy’r hwn a’n carodd ni. 38 Canys y mae’n ddiogel gennyf, na all nac angau, nac einioes, nac angylion, na thywysogaethau, na meddiannau, na phethau presennol, na phethau i ddyfod, 39 Nac uchder, na dyfnder, nac un creadur arall, ein gwahanu ni oddi wrth gariad Duw, yr hwn sydd yng Nghrist Iesu ein Harglwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.