Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Asaff.
73 Yn ddiau da yw Duw i Israel; sef i’r rhai glân o galon. 2 Minnau, braidd na lithrodd fy nhraed: prin na thripiodd fy ngherddediad. 3 Canys cenfigennais wrth y rhai ynfyd, pan welais lwyddiant y rhai annuwiol. 4 Canys nid oes rhwymau yn eu marwolaeth; a’u cryfder sydd heini. 5 Nid ydynt mewn blinder fel dynion eraill; ac ni ddialeddir arnynt hwy gyda dynion eraill. 6 Am hynny y cadwynodd balchder hwynt, ac y gwisg trawster amdanynt fel dilledyn. 7 Eu llygaid a saif allan gan fraster: aethant dros feddwl calon o gyfoeth. 8 Y maent wedi llygru, yn chwedleua yn ddrygionus am drawster; yn dywedyd yn uchel. 9 Gosodasant eu genau yn erbyn y nefoedd: a’u tafod a gerdd trwy y ddaear. 10 Am hynny y dychwel ei bobl ef yma; ac y gwesgir iddynt ddwfr ffiol lawn. 11 Dywedant hefyd, Pa fodd y gŵyr Duw? a oes gwybodaeth gan y Goruchaf? 12 Wele, dyma y rhai annuwiol, a’r rhai sydd lwyddiannus yn y byd, ac a amlhasant olud. 13 Diau mai yn ofer y glanheais fy nghalon, ac y golchais fy nwylo mewn diniweidrwydd. 14 Canys ar hyd y dydd y’m maeddwyd; fy ngherydd a ddeuai bob bore. 15 Os dywedwn, Mynegaf fel hyn; wele, â chenhedlaeth dy blant di y gwnawn gam. 16 Pan amcenais wybod hyn, blin oedd hynny yn fy ngolwg i; 17 Hyd onid euthum i gysegr Duw: yna y deellais eu diwedd hwynt. 18 Diau osod ohonot hwynt mewn llithrigfa, a chwympo ohonot hwynt i ddinistr. 19 Mor ddisymwth yr aethant yn anghyfannedd! pallasant, a darfuant gan ofn. 20 Fel breuddwyd wrth ddihuno un; felly, O Arglwydd, pan ddeffroech, y dirmygi eu gwedd hwynt. 21 Fel hyn y gofidiodd fy nghalon, ac y’m pigwyd yn fy arennau. 22 Mor ynfyd oeddwn, ac heb wybod; anifail oeddwn o’th flaen di. 23 Eto yr ydwyf yn wastad gyda thi: ymaflaist yn fy llaw ddeau. 24 A’th gyngor y’m harweini; ac wedi hynny y’m cymeri i ogoniant. 25 Pwy sydd gennyf fi yn y nefoedd ond tydi? ac ni ewyllysiais ar y ddaear neb gyda thydi. 26 Pallodd fy nghnawd a’m calon: ond nerth fy nghalon a’m rhan yw Duw yn dragywydd. 27 Canys wele, difethir y rhai a bellhânt oddi wrthyt: torraist ymaith bob un a buteinio oddi wrthyt. 28 Minnau, nesáu at Dduw sydd dda i mi: yn yr Arglwydd Dduw y gosodais fy ngobaith, i draethu dy holl weithredoedd.
6 A’r Arglwydd a atebodd Job allan o’r corwynt, ac a ddywedodd, 7 Gwregysa yn awr dy lwynau fel gŵr; a myfi a ofynnaf i ti, mynega dithau i mi. 8 A wnei di fy marn i yn ofer? a ferni di fi yn anghyfiawn, i’th gyfiawnhau dy hun? 9 A oes i ti fraich fel i Dduw? neu a wnei di daranau â’th lais fel yntau? 10 Ymdrwsia yn awr â mawredd ac â godidowgrwydd, ac ymwisg â gogoniant ac â phrydferthwch. 11 Gwasgar gynddaredd dy ddigofaint; ac edrych ar bob balch, a thafl ef i lawr. 12 Edrych ar bob balch, a gostwng ef; a mathra yr annuwiol yn eu lle. 13 Cuddia hwynt ynghyd yn y pridd, a rhwym eu hwynebau hwynt mewn lle cuddiedig. 14 Yna hefyd myfi a addefaf i ti, y gall dy ddeheulaw dy achub.
42 A Job a atebodd yr Arglwydd, ac a ddywedodd, 2 Myfi a wn y gelli di bob peth; ac na atelir un meddwl oddi wrthyt. 3 Pwy ydyw yr hwn sydd yn cuddio cyngor heb wybodaeth? am hynny y lleferais yr hyn nis deellais; pethau rhy ryfedd i mi, y rhai nis gwyddwn. 4 Gwrando, atolwg, a myfi a lefaraf: gofynnaf i ti, dysg dithau finnau. 5 Myfi a glywais â’m clustiau sôn amdanat: ond yn awr fy llygad a’th welodd di. 6 Am hynny y mae yn ffiaidd gennyf fi fy hun; ac yr ydwyf yn edifarhau mewn llwch a lludw.
31 A’r Arglwydd a ddywedodd, Simon, Simon, wele, Satan a’ch ceisiodd chwi, i’ch nithio fel gwenith: 32 Eithr mi a weddïais drosot, na ddiffygiai dy ffydd di: tithau pan y’th droer, cadarnha dy frodyr. 33 Ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, yr ydwyf fi yn barod i fyned gyda thi i garchar, ac i angau.
54 A hwy a’i daliasant ef, ac a’i harweiniasant, ac a’i dygasant i mewn i dŷ’r archoffeiriad. A Phedr a ganlynodd o hirbell. 55 Ac wedi iddynt gynnau tân yng nghanol y neuadd, a chydeistedd ohonynt, eisteddodd Pedr yntau yn eu plith hwynt. 56 A phan ganfu rhyw lances ef yn eistedd wrth y tân, a dal sylw arno, hi a ddywedodd, Yr oedd hwn hefyd gydag ef. 57 Yntau a’i gwadodd ef, gan ddywedyd, O wraig, nid adwaen i ef. 58 Ac ychydig wedi, un arall a’i gwelodd ef, ac a ddywedodd, Yr wyt tithau hefyd yn un ohonynt. A Phedr a ddywedodd, O ddyn, nid ydwyf. 59 Ac ar ôl megis ysbaid un awr, rhyw un arall a daerodd, gan ddywedyd, Mewn gwirionedd yr oedd hwn hefyd gydag ef: canys Galilead yw. 60 A Phedr a ddywedodd, Y dyn, nis gwn beth yr wyt yn ei ddywedyd. Ac yn y man, ac efe eto yn llefaru, canodd y ceiliog. 61 A’r Arglwydd a drodd, ac a edrychodd ar Pedr. A Phedr a gofiodd ymadrodd yr Arglwydd, fel y dywedasai efe wrtho, Cyn canu o’r ceiliog, y gwedi fi deirgwaith. 62 A Phedr a aeth allan, ac a wylodd yn chwerw‐dost.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.