Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 119:65-72

65 Gwnaethost yn dda â’th was, O Arglwydd, yn ôl dy air. 66 Dysg i mi iawn ddeall a gwybodaeth: oherwydd dy orchmynion di a gredais. 67 Cyn fy nghystuddio yr oeddwn yn cyfeiliorni: ond yn awr cedwais dy air di. 68 Da ydwyt, a daionus: dysg i mi dy ddeddfau. 69 Y beilchion a glytiasant gelwydd i’m herbyn; minnau a gadwaf dy orchmynion â’m holl galon. 70 Cyn frased â’r bloneg yw eu calon: minnau a ymddigrifais yn dy gyfraith di. 71 Da yw i mi fy nghystuddio; fel y dysgwn dy ddeddfau. 72 Gwell i mi gyfraith dy enau, na miloedd o aur ac arian.

IOD

Eseia 57:14-21

14 Ac efe a ddywed, Palmentwch, palmentwch, paratowch y ffordd, cyfodwch y rhwystr o ffordd fy mhobl. 15 Canys fel hyn y dywed y Goruchel a’r dyrchafedig, yr hwn a breswylia dragwyddoldeb, ac y mae ei enw yn Sanctaidd, Y goruchelder a’r cysegr a breswyliaf; a chyda’r cystuddiedig a’r isel o ysbryd, i fywhau y rhai isel o ysbryd, ac i fywhau calon y rhai cystuddiedig. 16 Canys nid byth yr ymrysonaf, ac nid yn dragywydd y digiaf: oherwydd yr ysbryd a ballai o’m blaen i, a’r eneidiau a wneuthum i. 17 Am anwiredd ei gybydd‐dod ef y digiais, ac y trewais ef: ymguddiais, a digiais, ac efe a aeth rhagddo yn gildynnus ar hyd ffordd ei galon. 18 Ei ffyrdd a welais, a mi a’i hiachâf ef: tywysaf ef hefyd, ac adferaf gysur iddo, ac i’w alarwyr. 19 Myfi sydd yn creu ffrwyth y gwefusau; Heddwch, heddwch, i bell, ac i agos, medd yr Arglwydd: a mi a’i hiachâf ef. 20 Ond y rhai anwir sydd fel y môr yn dygyfor, pan na allo fod yn llonydd, yr hwn y mae ei ddyfroedd yn bwrw allan dom a llaid. 21 Ni bydd heddwch, medd fy Nuw, i’r rhai annuwiol.

Luc 14:15-24

15 A phan glywodd rhyw un o’r rhai oedd yn eistedd ar y bwrdd y pethau hyn, efe a ddywedodd wrtho, Gwyn ei fyd y neb a fwytao fara yn nheyrnas Dduw. 16 Ac yntau a ddywedodd wrtho, Rhyw ŵr a wnaeth swper mawr, ac a wahoddodd lawer: 17 Ac a ddanfonodd ei was bryd swper, i ddywedyd wrth y rhai a wahoddasid, Deuwch; canys weithian y mae pob peth yn barod. 18 A hwy oll a ddechreuasant yn unfryd ymesgusodi. Y cyntaf a ddywedodd wrtho, Mi a brynais dyddyn, ac y mae’n rhaid i mi fyned a’i weled: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol. 19 Ac arall a ddywedodd, Mi a brynais bum iau o ychen, ac yr ydwyf yn myned i’w profi hwynt: atolwg i ti, cymer fi yn esgusodol. 20 Ac arall a ddywedodd, Mi a briodais wraig; ac am hynny nis gallaf fi ddyfod. 21 A’r gwas hwnnw, pan ddaeth adref, a fynegodd y pethau hyn i’w arglwydd. Yna gŵr y tŷ, wedi digio, a ddywedodd wrth ei was, Dos allan ar frys i heolydd ac ystrydoedd y ddinas, a dwg i mewn yma y tlodion, a’r anafus, a’r cloffion, a’r deillion. 22 A’r gwas a ddywedodd, Arglwydd, gwnaethpwyd fel y gorchmynnaist; ac eto y mae lle. 23 A’r arglwydd a ddywedodd wrth y gwas, Dos allan i’r priffyrdd a’r caeau, a chymell hwynt i ddyfod i mewn, fel y llanwer fy nhŷ. 24 Canys yr wyf yn dywedyd i chwi, na chaiff yr un o’r gwŷr hynny a wahoddwyd, brofi o’m swper i.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.