Revised Common Lectionary (Complementary)
113 Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd. 2 Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. 3 O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd. 4 Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a’i ogoniant sydd goruwch y nefoedd. 5 Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel, 6 Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear? 7 Efe sydd yn codi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r domen, 8 I’w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl. 9 Yr hwn a wna i’r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.
8 Gwae y rhai sydd yn cysylltu tŷ at dŷ, ac yn cydio maes wrth faes, hyd oni byddo eisiau lle, ac y trigoch chwi yn unig yng nghanol y tir. 9 Lle y clywais y dywedodd Arglwydd y lluoedd, Yn ddiau bydd tai lawer, mawrion a theg, yn anghyfannedd heb drigiannydd. 10 Canys deg cyfair o winllan a ddygant un bath, a lle homer a ddwg effa.
11 Gwae y rhai a gyfodant yn fore i ddilyn diod gadarn, a arhosant hyd yr hwyr, hyd oni enynno y gwin hwynt. 12 Ac yn eu gwleddoedd hwynt y mae y delyn, a’r nabl, y dympan, a’r bibell, a’r gwin: ond am waith yr Arglwydd nid edrychant, a gweithred ei ddwylo ef nid ystyriant.
13 Am hynny y caethgludwyd fy mhobl, am nad oes ganddynt wybodaeth: a’u gwŷr anrhydeddus sydd newynog, a’u lliaws a wywodd gan syched. 14 Herwydd hynny yr ymehangodd uffern, ac yr agorodd ei safn yn anferth; ac yno y disgyn eu gogoniant, a’u lliaws, a’u rhwysg, a’r hwn a lawenycha ynddi. 15 A’r gwrêng a grymir, a’r galluog a ddarostyngir, a llygaid y rhai uchel a iselir. 16 Ond Arglwydd y lluoedd a ddyrchefir mewn barn; a’r Duw sanctaidd a sancteiddir mewn cyfiawnder. 17 Yr ŵyn hefyd a borant yn ôl eu harfer; a dieithriaid a fwytânt ddiffeithfaoedd y breision. 18 Gwae y rhai a dynnant anwiredd â rheffynnau oferedd, a phechod megis â rhaffau men: 19 Y rhai a ddywedant, Brysied, a phrysured ei orchwyl, fel y gwelom; nesaed hefyd, a deued cyngor Sanct yr Israel, fel y gwypom.
20 Gwae y rhai a ddywedant am y drwg, Da yw; ac am y da, Drwg yw; gan osod tywyllwch am oleuni, a goleuni am dywyllwch: y rhai a osodant chwerw am felys, a melys am chwerw. 21 Gwae y rhai sydd ddoethion yn eu golwg eu hun, a’r rhai deallgar yn eu golwg eu hun. 22 Gwae y rhai cryfion i yfed gwin, a’r dynion nerthol i gymysgu diod gadarn: 23 Y rhai a gyfiawnhânt yr anwir er gwobr, ac a gymerant ymaith gyfiawnder y rhai cyfiawn oddi ganddynt.
41 A’r Iesu a eisteddodd gyferbyn â’r drysorfa, ac a edrychodd pa fodd yr oedd y bobl yn bwrw arian i’r drysorfa: a chyfoethogion lawer a fwriasant lawer. 42 A rhyw wraig weddw dlawd a ddaeth, ac a fwriodd i mewn ddwy hatling, yr hyn yw ffyrling. 43 Ac efe a alwodd ei ddisgyblion ato, ac a ddywedodd wrthynt, Yn wir yr wyf yn dywedyd i chwi, fwrw o’r wraig weddw dlawd hon i mewn fwy na’r rhai oll a fwriasant i’r drysorfa. 44 Canys hwynt‐hwy oll a fwriasant o’r hyn a oedd yng ngweddill ganddynt: ond hon o’i heisiau a fwriodd i mewn yr hyn oll a feddai, sef ei holl fywyd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.