Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 84:8-12

O Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O Dduw Jacob. Sela. O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog. 10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. 11 Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith. 12 O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.

1 Samuel 2:1-10

A Hanna a weddïodd, ac a ddywedodd, Llawenychodd fy nghalon yn yr Arglwydd; fy nghorn a ddyrchafwyd yn yr Arglwydd: fy ngenau a ehangwyd ar fy ngelynion: canys llawenychais yn dy iachawdwriaeth di. Nid sanctaidd neb fel yr Arglwydd; canys nid dim hebot ti: ac nid oes graig megis ein Duw ni. Na chwanegwch lefaru yn uchel uchel; na ddeued allan ddim balch o’ch genau: canys Duw gwybodaeth yw yr Arglwydd, a’i amcanion ef a gyflawnir. Bwâu y cedyrn a dorrwyd, a’r gweiniaid a ymwregysasant â nerth. Y rhai digonol a ymgyflogasant er bara; a’r rhai newynog a beidiasant; hyd onid esgorodd yr amhlantadwy ar saith, a llesgáu yr aml ei meibion. Yr Arglwydd sydd yn marwhau, ac yn bywhau: efe sydd yn dwyn i waered i’r bedd, ac yn dwyn i fyny. Yr Arglwydd sydd yn tlodi, ac yn cyfoethogi; yn darostwng, ac yn dyrchafu. Efe sydd yn cyfodi’r tlawd o’r llwch, ac yn dyrchafu’r anghenus o’r tomennau, i’w gosod gyda thywysogion, ac i beri iddynt etifeddu teyrngadair gogoniant: canys eiddo yr Arglwydd colofnau y ddaear, ac efe a osododd y byd arnynt. Traed ei saint a geidw efe, a’r annuwiolion a ddistawant mewn tywyllwch: canys nid trwy nerth y gorchfyga gŵr. 10 Y rhai a ymrysonant â’r Arglwydd, a ddryllir: efe a darana yn eu herbyn hwynt o’r nefoedd: yr Arglwydd a farn derfynau y ddaear; ac a ddyry nerth i’w frenin, ac a ddyrchafa gorn ei eneiniog.

1 Pedr 4:12-19

12 Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi: 13 Eithr llawenhewch, yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. 14 Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir. 15 Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill: 16 Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran. 17 Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw? 18 Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur? 19 Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchmynnant eu heneidiau iddo ef, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.