Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 57

I’r Pencerdd, Al‐taschith, Michtam Dafydd, pan ffodd rhag Saul i’r ogof.

57 Trugarha wrthyf, O Dduw, trugarha wrthyf: canys ynot y gobeithiodd fy enaid; ie, yng nghysgod dy adenydd y gobeithiaf, hyd onid êl yr aflwydd hwn heibio. Galwaf ar Dduw Goruchaf; ar Dduw a gwblha â mi. Efe a enfyn o’r nefoedd, ac a’m gwared oddi wrth warthrudd yr hwn a’m llyncai. Sela. Denfyn Duw ei drugaredd a’i wirionedd. Fy enaid sydd ymysg llewod: gorwedd yr wyf ymysg dynion poethion, sef meibion dynion, y rhai y mae eu dannedd yn waywffyn a saethau, a’u tafod yn gleddyf llym. Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear. Darparasant rwyd i’m traed; crymwyd fy enaid; cloddiasant bydew o’m blaen; syrthiasant yn ei ganol. Sela. Parod yw fy nghalon, O Dduw, parod yw fy nghalon: canaf a chanmolaf. Deffro, fy ngogoniant; deffro, nabl a thelyn: deffroaf yn fore. Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd. 10 Canys mawr yw dy drugaredd hyd y nefoedd, a’th wirionedd hyd y cymylau. 11 Ymddyrcha, Dduw, uwch y nefoedd; a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear.

1 Samuel 25:23-35

23 A phan welodd Abigail Dafydd, hi a frysiodd ac a ddisgynnodd oddi ar yr asyn, ac a syrthiodd gerbron Dafydd ar ei hwyneb, ac a ymgrymodd hyd lawr, 24 Ac a syrthiodd wrth ei draed ef, ac a ddywedodd, Arnaf fi, fy arglwydd, arnaf fi bydded yr anwiredd; a llefared dy wasanaethferch, atolwg, wrthyt, a gwrando eiriau dy lawforwyn. 25 Atolwg, na osoded fy arglwydd ei galon yn erbyn y gŵr Belial hwn, sef Nabal: canys fel y mae ei enw ef, felly y mae yntau; Nabal yw ei enw ef, ac ynfydrwydd sydd gydag ef: a minnau dy wasanaethferch, ni welais weision fy arglwydd, y rhai a anfonaist. 26 Ac yn awr, fy arglwydd, fel y mae yr Arglwydd yn fyw, ac mai byw dy enaid di, gan i’r Arglwydd dy luddias di rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’th law dy hun; yn awr bydded dy elynion di, a’r sawl a geisiant niwed i’m harglwydd, megis Nabal. 27 Ac yn awr yr anrheg yma, yr hon a ddug dy wasanaethferch i’m harglwydd, rhodder hi i’r llanciau sydd yn canlyn fy arglwydd. 28 A maddau, atolwg, gamwedd dy wasanaethferch: canys yr Arglwydd gan wneuthur a wna i’m harglwydd dŷ sicr; oherwydd fy arglwydd sydd yn ymladd rhyfeloedd yr Arglwydd, a drygioni ni chafwyd ynot ti yn dy holl ddyddiau. 29 Er cyfodi o ddyn i’th erlid di, ac i geisio dy enaid; eto enaid fy arglwydd a fydd wedi ei rwymo yn rhwymyn y bywyd gyda’r Arglwydd dy Dduw; ac enaid dy elynion a chwyrn deifi efe, fel o ganol ceudeb y ffon dafl. 30 A phan wnelo yr Arglwydd i’m harglwydd yn ôl yr hyn oll a lefarodd efe o ddaioni amdanat, a phan y’th osodo di yn flaenor ar Israel; 31 Yna ni bydd hyn yn ochenaid i ti, nac yn dramgwydd calon i’m harglwydd, ddarfod i ti dywallt gwaed heb achos, neu ddial o’m harglwydd ef ei hun: ond pan wnelo Duw ddaioni i’m harglwydd, yna cofia di dy lawforwyn.

32 A dywedodd Dafydd wrth Abigail, Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel, yr hwn a’th anfonodd di y dydd hwn i’m cyfarfod i: 33 Bendigedig hefyd fo dy gyngor, a bendigedig fyddych dithau yr hon a’m lluddiaist y dydd hwn rhag dyfod i dywallt gwaed, ac i ymddial â’m llaw fy hun. 34 Canys yn wir, fel y mae Arglwydd Dduw Israel yn fyw, yr hwn a’m hataliodd i rhag dy ddrygu di, oni buasai i ti frysio a dyfod i’m cyfarfod, diau na adawsid i Nabal, erbyn goleuni y bore, un gwryw. 35 Yna y cymerodd Dafydd o’i llaw hi yr hyn a ddygasai hi iddo ef; ac a ddywedodd wrthi hi, Dos i fyny mewn heddwch i’th dŷ: gwêl, mi a wrandewais ar dy lais, ac a dderbyniais dy wyneb.

Iago 5:7-12

Byddwch gan hynny yn ymarhous, frodyr, hyd ddyfodiad yr Arglwydd. Wele, y mae’r llafurwr yn disgwyl am werthfawr ffrwyth y ddaear, yn dda ei amynedd amdano, nes iddo dderbyn y glaw cynnar a diweddar. Byddwch chwithau hefyd dda eich amynedd; cadarnhewch eich calonnau: oblegid dyfodiad yr Arglwydd a nesaodd. Na rwgnechwch yn erbyn eich gilydd, frodyr, fel na’ch condemnier: wele, y mae’r Barnwr yn sefyll wrth y drws. 10 Cymerwch, fy mrodyr, y proffwydi, y rhai a lefarasant yn enw yr Arglwydd, yn siampl o ddioddef blinder, ac o hirymaros. 11 Wele, dedwydd yr ydym yn gadael y rhai sydd ddioddefus. Chwi a glywsoch am amynedd Job, ac a welsoch ddiwedd yr Arglwydd: oblegid tosturiol iawn yw’r Arglwydd, a thrugarog. 12 Eithr o flaen pob peth, fy mrodyr, na thyngwch, nac i’r nef, nac i’r ddaear, nac un llw arall: eithr bydded eich ie chwi yn ie, a’ch nage yn nage; fel na syrthioch i farnedigaeth.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.