Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 61

I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.

61 Clyw, O Dduw, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi. O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi. Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn. Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela. Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw. Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer. Efe a erys byth gerbron Duw; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef. Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.

2 Brenhinoedd 15:1-7

15 Yn y seithfed flwyddyn ar hugain i Jeroboam brenin Israel y teyrnasodd Asareia mab Amaseia brenin Jwda. Mab un flwydd ar bymtheg ydoedd efe pan ddechreuodd deyrnasu, a deuddeng mlynedd a deugain y teyrnasodd efe yn Jerwsalem; ac enw ei fam oedd Jecholeia o Jerwsalem. Ac efe a wnaeth yr hyn oedd uniawn yng ngolwg yr Arglwydd, yn ôl yr hyn oll a wnaethai Amaseia ei dad ef: Ond na thynnwyd ymaith yr uchelfeydd: y bobl oedd eto yn aberthu ac yn arogldarthu yn yr uchelfeydd.

A’r Arglwydd a drawodd y brenin, fel y bu efe wahanglwyfus hyd ddydd ei farwolaeth, ac y trigodd mewn tŷ o’r neilltu: a Jotham mab y brenin oedd ar y tŷ yn barnu pobl y wlad. A’r rhan arall o hanes Asareia, a’r hyn oll a wnaeth efe, onid ydynt hwy yn ysgrifenedig yn llyfr cronicl brenhinoedd Jwda? Ac Asareia a hunodd gyda’i dadau, a chladdasant ef gyda’i dadau yn ninas Dafydd; a Jotham ei fab a deyrnasodd yn ei le ef.

Mathew 10:5-15

Y deuddeg hyn a anfonodd yr Iesu, ac a orchmynnodd iddynt, gan ddywedyd, Nac ewch i ffordd y Cenhedloedd, ac i ddinas y Samariaid nac ewch i mewn: Eithr ewch yn hytrach at gyfrgolledig ddefaid tŷ Israel. Ac wrth fyned, pregethwch, gan ddywedyd, Fod teyrnas nefoedd yn nesáu. Iachewch y cleifion, glanhewch y rhai gwahanglwyfus, cyfodwch y meirw, bwriwch allan gythreuliaid: derbyniasoch yn rhad, rhoddwch yn rhad. Na feddwch aur, nac arian, nac efydd i’ch pyrsau; 10 Nac ysgrepan i’r daith, na dwy bais, nac esgidiau, na ffon: canys teilwng i’r gweithiwr ei fwyd. 11 Ac i ba ddinas bynnag neu dref yr eloch, ymofynnwch pwy sydd deilwng ynddi; ac yno trigwch hyd onid eloch ymaith. 12 A phan ddeloch i dŷ, cyferchwch well iddo. 13 Ac os bydd y tŷ yn deilwng, deued eich tangnefedd arno: ac oni bydd yn deilwng, dychweled eich tangnefedd atoch. 14 A phwy bynnag ni’ch derbynio chwi, ac ni wrandawo eich geiriau, pan ymadawoch o’r tŷ hwnnw, neu o’r ddinas honno, ysgydwch y llwch oddi wrth eich traed. 15 Yn wir meddaf i chwi, Esmwythach fydd i dir y Sodomiaid a’r Gomoriaid yn nydd y farn, nag i’r ddinas honno.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.