Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Neginoth, Salm Dafydd.
61 Clyw, O Dduw, fy llefain; gwrando ar fy ngweddi. 2 O eithaf y ddaear y llefaf atat, pan lesmeirio fy nghalon: arwain fi i graig a fyddo uwch na mi. 3 Canys buost yn noddfa i mi, ac yn dŵr cadarn rhag y gelyn. 4 Preswyliaf yn dy babell byth: a’m hymddiried fydd dan orchudd dy adenydd. Sela. 5 Canys ti, Dduw, a glywaist fy addunedau: rhoddaist etifeddiaeth i’r rhai a ofnant dy enw. 6 Ti a estynni oes y Brenin; ei flynyddoedd fyddant fel cenedlaethau lawer. 7 Efe a erys byth gerbron Duw; darpar drugaredd a gwirionedd, fel y cadwont ef. 8 Felly y canmolaf dy enw yn dragywydd, fel y talwyf fy addunedau beunydd.
19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Dos mewn heddwch. Ac efe a aeth oddi wrtho ef encyd o ffordd.
20 Ond Gehasi, gwas Eliseus gŵr Duw, a ddywedodd, Wele, fy meistr a arbedodd Naaman y Syriad hwn, heb gymryd o’i law ef yr hyn a ddygasai efe: fel mai byw yr Arglwydd, mi a redaf ar ei ôl ef, ac a gymeraf ryw beth ganddo ef. 21 Felly Gehasi a ganlynodd ar ôl Naaman. A phan welodd Naaman ef yn rhedeg ar ei ôl, efe a ddisgynnodd oddi ar y cerbyd i’w gyfarfod ef, ac a ddywedodd, A yw pob peth yn dda? 22 Dywedodd yntau, Y mae pob peth yn dda. Fy meistr a’m hanfonodd i, gan ddywedyd, Wele, yr awr hon dau lanc o fynydd Effraim, o feibion y proffwydi, a ddaeth ataf fi: dyro yn awr iddynt hwy dalent o arian, a dau bâr o ddillad. 23 A Naaman a ddywedodd, Bydd fodlon, cymer ddwy dalent. Ac efe a fu daer arno ef; ac a rwymodd ddwy dalent arian mewn dwy god, a deubar o ddillad; ac efe a’u rhoddodd ar ddau o’i weision, i’w dwyn o’i flaen ef. 24 A phan ddaeth efe i’r bwlch, efe a’u cymerth o’u llaw hwynt, ac a’u rhoddodd i gadw yn tŷ; ac a ollyngodd ymaith y gwŷr, a hwy a aethant ymaith. 25 Ond efe a aeth i mewn, ac a safodd o flaen ei feistr. Ac Eliseus a ddywedodd wrtho ef, O ba le y daethost ti, Gehasi? Dywedodd yntau, Nid aeth dy was nac yma na thraw. 26 Ac efe a ddywedodd wrtho, Onid aeth fy nghalon gyda thi, pan drodd y gŵr oddi ar ei gerbyd i’th gyfarfod di? a ydoedd hi amser i gymryd arian, ac i gymryd gwisgoedd, ac olewyddlannau, a gwinllannau, a defaid, a gwartheg, a gweision, a morynion? 27 Am hynny gwahanglwyf Naaman a lŷn wrthyt ti, ac wrth dy had yn dragywydd. Ac efe a aeth ymaith o’i ŵydd ef yn wahanglwyfus cyn wynned â’r eira.
10 Heblaw hyn, fy mrodyr, ymnerthwch yn yr Arglwydd, ac yng nghadernid ei allu ef. 11 Gwisgwch holl arfogaeth Duw, fel y galloch sefyll yn erbyn cynllwynion diafol. 12 Oblegid nid yw ein hymdrech ni yn erbyn gwaed a chnawd, ond yn erbyn tywysogaethau, yn erbyn awdurdodau, yn erbyn bydol lywiawdwyr tywyllwch y byd hwn, yn erbyn drygau ysbrydol yn y nefolion leoedd. 13 Am hynny cymerwch atoch holl arfogaeth Duw, fel y galloch wrthsefyll yn y dydd drwg; ac wedi gorffen pob peth, sefyll. 14 Sefwch gan hynny, wedi amgylchwregysu eich lwynau â gwirionedd, a gwisgo dwyfronneg cyfiawnder; 15 A gwisgo am eich traed esgidiau paratoad efengyl tangnefedd: 16 Uwchlaw pob dim, wedi cymryd tarian y ffydd, â’r hon y gellwch ddiffoddi holl bicellau tanllyd y fall. 17 Cymerwch hefyd helm yr iachawdwriaeth, a chleddyf yr Ysbryd, yr hwn yw gair Duw: 18 Gan weddïo bob amser â phob rhyw weddi a deisyfiad yn yr Ysbryd, a bod yn wyliadwrus at hyn yma, trwy bob dyfalbara, a deisyfiad dros yr holl saint; 19 A throsof finnau, fel y rhodder i mi ymadrodd, trwy agoryd fy ngenau yn hy, i hysbysu dirgelwch yr efengyl; 20 Dros yr hon yr wyf yn gennad mewn cadwyn: fel y traethwyf yn hy amdani, fel y perthyn imi draethu.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.