Revised Common Lectionary (Complementary)
8 O Arglwydd Dduw y lluoedd, clyw fy ngweddi: gwrando, O Dduw Jacob. Sela. 9 O Dduw ein tarian, gwêl, ac edrych ar wyneb dy Eneiniog. 10 Canys gwell yw diwrnod yn dy gynteddau di na mil: dewiswn gadw drws yn nhŷ fy Nuw, o flaen trigo ym mhebyll annuwioldeb. 11 Canys haul a tharian yw yr Arglwydd Dduw: yr Arglwydd a rydd ras a gogoniant: ni atal efe ddim daioni oddi wrth y rhai a rodiant yn berffaith. 12 O Arglwydd y lluoedd, gwyn fyd y dyn a ymddiried ynot.
13 Yna y ducpwyd Daniel o flaen y brenin: a llefarodd y brenin, a dywedodd wrth Daniel, Ai tydi yw Daniel, yr hwn wyt o feibion caethglud Jwda, y rhai a ddug y brenin fy nhad i o Jwda? 14 Myfi a glywais sôn amdanat, fod ysbryd y duwiau ynot, a chael ynot ti oleuni, a deall, a doethineb rhagorol. 15 Ac yr awr hon dygwyd y doethion, yr astronomyddion, o’m blaen, i ddarllen yr ysgrifen hon, ac i fynegi i mi ei dehongliad: ond ni fedrent ddangos dehongliad y peth. 16 Ac mi a glywais amdanat ti, y medri ddeongl deongliadau, a datod clymau; yr awr hon os medri ddarllen yr ysgrifen, a hysbysu i mi ei dehongliad, tydi a wisgir â phorffor, ac a gei gadwyn aur am dy wddf, ac a gei lywodraethu yn drydydd yn y deyrnas.
17 Yna yr atebodd Daniel, ac y dywedodd o flaen y brenin, Bydded dy roddion i ti, a dod dy anrhegion i arall; er hynny yr ysgrifen a ddarllenaf i’r brenin, a’r dehongliad a hysbysaf iddo. 18 O frenin, y Duw goruchaf a roddes i Nebuchodonosor dy dad di frenhiniaeth, a mawredd, a gogoniant, ac anrhydedd. 19 Ac oherwydd y mawredd a roddasai efe iddo, y bobloedd, y cenhedloedd, a’r ieithoedd oll, oedd yn crynu ac yn ofni rhagddo ef: yr hwn a fynnai a laddai, a’r hwn a fynnai a gadwai yn fyw; hefyd y neb a fynnai a gyfodai, a’r neb a fynnai a ostyngai. 20 Eithr pan ymgododd ei galon ef, a chaledu o’i ysbryd ef mewn balchder, efe a ddisgynnwyd o orseddfa ei frenhiniaeth, a’i ogoniant a dynasant oddi wrtho: 21 Gyrrwyd ef hefyd oddi wrth feibion dynion, a gwnaethpwyd ei galon fel bwystfil, a chyda’r asynnod gwylltion yr oedd ei drigfa: â gwellt y porthasant ef fel eidion, a’i gorff a wlychwyd gan wlith y nefoedd, hyd oni wybu mai y Duw goruchaf oedd yn llywodraethu ym mrenhiniaeth dynion, ac yn gosod arni y neb a fynno. 22 A thithau, Belsassar ei fab ef, ni ddarostyngaist dy galon, er gwybod ohonot hyn oll; 23 Eithr ymddyrchefaist yn erbyn Arglwydd y nefoedd, a llestri ei dŷ ef a ddygasant ger dy fron di, a thithau a’th dywysogion, dy wragedd a’th ordderchadon, a yfasoch win ynddynt; a thi a foliennaist dduwiau o arian, ac o aur, o bres, haearn, pren, a maen, y rhai ni welant, ac ni chlywant, ac ni wyddant ddim: ac nid anrhydeddaist y Duw y mae dy anadl di yn ei law, a’th holl ffyrdd yn eiddo. 24 Yna yr anfonwyd darn y llaw oddi ger ei fron ef, ac yr ysgrifennwyd yr ysgrifen hon.
25 A dyma yr ysgrifen a ysgrifennwyd: MENE, MENE, TECEL, UFFARSIN. 26 Dyma ddehongliad y peth: MENE; Duw a rifodd dy frenhiniaeth, ac a’i gorffennodd. 27 TECEL; Ti a bwyswyd yn y cloriannau, ac a’th gaed yn brin. 28 PERES: Rhannwyd dy frenhiniaeth, a rhoddwyd hi i’r Mediaid a’r Persiaid. 29 Yna y gorchmynnodd Belsassar, a hwy a wisgasant Daniel â phorffor, ac â chadwyn aur am ei wddf; a chyhoeddwyd amdano, y byddai efe yn drydydd yn llywodraethu yn y frenhiniaeth.
30 Y noson honno y lladdwyd Belsassar brenin y Caldeaid. 31 A Dareius y Mediad a gymerodd y frenhiniaeth, ac efe yn ddwy flwydd a thrigain oed.
28 Ond beth dybygwch chwi? Yr oedd gan ŵr ddau fab: ac efe a ddaeth at y cyntaf, ac a ddywedodd, Fy mab, dos, gweithia heddiw yn fy ngwinllan. 29 Ac yntau a atebodd ac a ddywedodd, Nid af: ond wedi hynny efe a edifarhaodd, ac a aeth. 30 A phan ddaeth efe at yr ail, efe a ddywedodd yr un modd. Ac efe a atebodd ac a ddywedodd, Myfi a af, arglwydd; ac nid aeth efe. 31 Pa un o’r ddau a wnaeth ewyllys y tad? Dywedasant wrtho, Y cyntaf. Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Yn wir meddaf i chwi, yr â’r publicanod a’r puteiniaid i mewn i deyrnas Dduw o’ch blaen chwi. 32 Canys daeth Ioan atoch yn ffordd cyfiawnder, ac ni chredasoch ef; ond y publicanod a’r puteiniaid a’i credasant ef: chwithau, yn gweled, nid edifarhasoch wedi hynny, fel y credech ef.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.