Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
121 Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth. 2 Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nefoedd a daear. 3 Ni ad efe i’th droed lithro: ac ni huna dy geidwad. 4 Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel. 5 Yr Arglwydd yw dy geidwad: yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw. 6 Ni’th dery yr haul y dydd, na’r lleuad y nos. 7 Yr Arglwydd a’th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid. 8 Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a’th ddyfodiad, o’r pryd hwn hyd yn dragywydd.
11 Y druan, helbulus gan dymestl, y ddigysur, wele, mi a osodaf dy gerrig di â charbuncl, ac a’th sylfaenaf â meini saffir. 12 Gwnaf hefyd dy ffenestri o risial, a’th byrth o feini disglair, a’th holl derfynau o gerrig dymunol. 13 Dy holl feibion hefyd fyddant wedi eu dysgu gan yr Arglwydd; a mawr fydd heddwch dy feibion. 14 Mewn cyfiawnder y’th sicrheir: byddi bell oddi wrth orthrymder, canys nid ofni; ac oddi wrth ddychryn, canys ni nesâ atat. 15 Wele, gan ymgasglu hwy a ymgasglant, ond nid ohonof fi: pwy bynnag ohonot ti a ymgasglo i’th erbyn, efe a syrth. 16 Wele, myfi a greais y gof, yr hwn a chwyth y marwor yn tân, ac a ddefnyddia arf i’w waith; myfi hefyd a greais y dinistrydd i ddistrywio.
17 Ni lwydda un offeryn a lunier i’th erbyn; a thi a wnei yn euog bob tafod a gyfodo i’th erbyn mewn barn. Dyma etifeddiaeth gweision yr Arglwydd, a’u cyfiawnder hwy sydd oddi wrthyf fi, medd yr Arglwydd.
22 Yna y safodd Paul yng nghanol Areopagus, ac a ddywedodd, Ha wŷr Atheniaid, mi a’ch gwelaf chwi ym mhob peth yn dra choelgrefyddol: 23 Canys wrth ddyfod heibio, ac edrych ar eich defosiynau, mi a gefais allor yn yr hon yr ysgrifenasid, I’R DUW NID ADWAENIR. Yr hwn gan hynny yr ydych chwi heb ei adnabod yn ei addoli, hwnnw yr wyf fi yn ei fynegi i chwi. 24 Y Duw a wnaeth y byd, a phob peth sydd ynddo, gan ei fod yn Arglwydd nef a daear, nid yw yn trigo mewn temlau o waith dwylo: 25 Ac nid â dwylo dynion y gwasanaethir ef, fel pe bai arno eisiau dim; gan ei fod ef yn rhoddi i bawb fywyd, ac anadl, a phob peth oll. 26 Ac efe a wnaeth o un gwaed bob cenedl o ddynion, i breswylio ar holl wyneb y ddaear, ac a bennodd yr amseroedd rhagosodedig, a therfynau eu preswylfod hwynt; 27 Fel y ceisient yr Arglwydd, os gallent ymbalfalu amdano ef, a’i gael, er nad yw efe yn ddiau nepell oddi wrth bob un ohonom: 28 Oblegid ynddo ef yr ydym ni yn byw, yn symud, ac yn bod; megis y dywedodd rhai o’ch poëtau chwi eich hunain, Canys ei hiliogaeth ef hefyd ydym ni. 29 Gan ein bod ni gan hynny yn hiliogaeth Duw, ni ddylem ni dybied fod y Duwdod yn debyg i aur, neu arian, neu faen, o gerfiad celfyddyd a dychymyg dyn. 30 A Duw, wedi esgeuluso amseroedd yr anwybodaeth hon, sydd yr awron yn gorchymyn i bob dyn ym mhob man edifarhau: 31 Oherwydd iddo osod diwrnod yn yr hwn y barna efe y byd mewn cyfiawnder, trwy y gŵr a ordeiniodd efe; gan roddi ffydd i bawb, oherwydd darfod iddo ei gyfodi ef oddi wrth y meirw.
32 A phan glywsant sôn am atgyfodiad y meirw, rhai a watwarasant; a rhai a ddywedasant, Ni a’th wrandawn drachefn am y peth hwn. 33 Ac felly Paul a aeth allan o’u plith hwynt. 34 Eithr rhai gwŷr a lynasant wrtho, ac a gredasant: ymhlith y rhai yr oedd Dionysius yr Areopagiad, a gwraig a’i henw Damaris, ac eraill gyda hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.