Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Jeremeia 23:1-6

23 Gwae y bugeiliaid sydd yn difetha ac yn gwasgaru defaid fy mhorfa! medd yr Arglwydd. Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd Dduw Israel yn erbyn y bugeiliaid sydd yn bugeilio fy mhobl; Chwi a wasgarasoch fy nefaid, ac a’u hymlidiasoch, ac nid ymwelsoch â hwynt: wele fi yn ymweled â chwi, am ddrygioni eich gweithredoedd, medd yr Arglwydd. A mi a gasglaf weddill fy nefaid o’r holl wledydd lle y gyrrais hwynt, a mi a’u dygaf hwynt drachefn i’w corlannau; yna yr amlhânt ac y chwanegant. Gosodaf hefyd arnynt fugeiliaid, y rhai a’u bugeilia hwynt; ac nid ofnant mwyach, ac ni ddychrynant, ac ni byddant yn eisiau, medd yr Arglwydd.

Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, a Brenin a deyrnasa ac a lwydda, ac a wna farn a chyfiawnder ar y ddaear. Yn ei ddyddiau ef yr achubir Jwda, ac Israel a breswylia yn ddiogel: a hyn fydd ei enw ar yr hwn y gelwir ef, YR ARGLWYDD EIN CYFIAWNDER.

Salmau 46

I’r Pencerdd o feibion Cora, Cân ar Alamoth.

46 Duw sydd noddfa a nerth i ni, cymorth hawdd ei gael mewn cyfyngder. Am hynny nid ofnwn pe symudai y ddaear, a phe treiglid y mynyddoedd i ganol y môr: Er rhuo a therfysgu o’i ddyfroedd, er crynu o’r mynyddoedd gan ei ymchwydd ef. Sela. Y mae afon, a’i ffrydiau a lawenhânt ddinas Duw; cysegr preswylfeydd y Goruchaf. Duw sydd yn ei chanol; nid ysgog hi: Duw a’i cynorthwya yn fore iawn. Y cenhedloedd a derfysgasant, y teyrnasoedd a ysgogasant: efe a roddes ei lef, toddodd y ddaear. Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; y mae Duw Jacob yn amddiffynfa i ni. Sela. Deuwch, gwelwch weithredoedd yr Arglwydd; pa anghyfanhedd‐dra a wnaeth efe ar y ddaear. Gwna i ryfeloedd beidio hyd eithaf y ddaear; efe a ddryllia y bwa, ac a dyr y waywffon, efe a lysg y cerbydau â thân. 10 Peidiwch, a gwybyddwch mai myfi sydd Dduw: dyrchefir fi ymysg y cenhedloedd, dyrchefir fi ar y ddaear. 11 Y mae Arglwydd y lluoedd gyda ni; amddiffynfa i ni yw Duw Jacob. Sela.

Colosiaid 1:11-20

11 Wedi eich nerthu â phob nerth yn ôl ei gadernid gogoneddus ef, i bob dioddefgarwch a hirymaros gyda llawenydd; 12 Gan ddiolch i’r Tad, yr hwn a’n gwnaeth ni yn gymwys i gael rhan o etifeddiaeth y saint yn y goleuni: 13 Yr hwn a’n gwaredodd ni allan o feddiant y tywyllwch, ac a’n symudodd i deyrnas ei annwyl Fab: 14 Yn yr hwn y mae i ni brynedigaeth trwy ei waed ef, sef maddeuant pechodau: 15 Yr hwn yw delw y Duw anweledig, cyntaf‐anedig pob creadur: 16 Canys trwyddo ef y crewyd pob dim a’r sydd yn y nefoedd, ac sydd ar y ddaear, yn weledig ac yn anweledig, pa un bynnag ai thronau, ai arglwyddiaethau, ai tywysogaethau, ai meddiannau; pob dim a grewyd trwyddo ef, ac erddo ef. 17 Ac y mae efe cyn pob peth, ac ynddo ef y mae pob peth yn cydsefyll. 18 Ac efe yw pen corff yr eglwys; efe, yr hwn yw’r dechreuad, y cyntaf‐anedig oddi wrth y meirw; fel y byddai efe yn blaenori ym mhob peth. 19 Oblegid rhyngodd bodd i’r Tad drigo o bob cyflawnder ynddo ef; 20 Ac, wedi iddo wneuthur heddwch trwy waed ei groes ef, trwyddo ef gymodi pob peth ag ef ei hun; trwyddo ef, meddaf, pa un bynnag ai pethau ar y ddaear, ai pethau yn y nefoedd.

Luc 23:33-43

33 A phan ddaethant i’r lle a elwir Calfaria, yno y croeshoeliasant ef, a’r drwgweithredwyr; un ar y llaw ddeau, a’r llall ar yr aswy.

34 A’r Iesu a ddywedodd, O Dad, maddau iddynt: canys ni wyddant pa beth y maent yn ei wneuthur. A hwy a ranasant ei ddillad ef, ac a fwriasant goelbren. 35 A’r bobl a safodd yn edrych. A’r penaethiaid hefyd gyda hwynt a watwarasant, gan ddywedyd, Eraill a waredodd efe; gwareded ef ei hun, os hwn yw Crist, etholedig Duw. 36 A’r milwyr hefyd a’i gwatwarasant ef, gan ddyfod ato, a chynnig iddo finegr, 37 A dywedyd, Os tydi yw Brenin yr Iddewon, gwared dy hun. 38 Ac yr ydoedd hefyd arysgrifen wedi ei hysgrifennu uwch ei ben ef, â llythrennau Groeg, a Lladin, a Hebraeg, HWN YW BRENIN YR IDDEWON.

39 Ac un o’r drwgweithredwyr a grogasid a’i cablodd ef, gan ddywedyd, Os tydi yw Crist, gwared dy hun a ninnau. 40 Eithr y llall a atebodd, ac a’i ceryddodd ef, gan ddywedyd, Onid wyt ti yn ofni Duw, gan dy fod dan yr un ddamnedigaeth? 41 A nyni yn wir yn gyfiawn; canys yr ydym yn derbyn yr hyn a haeddai’r pethau a wnaethom: eithr hwn ni wnaeth ddim allan o’i le. 42 Ac efe a ddywedodd wrth yr Iesu, Arglwydd, cofia fi pan ddelych i’th deyrnas. 43 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Yn wir meddaf i ti, Heddiw y byddi gyda mi ym mharadwys.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.