Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm.
98 Cenwch i’r Arglwydd ganiad newydd: canys efe a wnaeth bethau rhyfedd: ei ddeheulaw a’i fraich sanctaidd a barodd iddo fuddugoliaeth. 2 Hysbysodd yr Arglwydd ei iachawdwriaeth: datguddiodd ei gyfiawnder yng ngolwg y cenhedloedd. 3 Cofiodd ei drugaredd a’i wirionedd i dŷ Israel: holl derfynau y ddaear a welsant iachawdwriaeth ein Duw ni. 4 Cenwch yn llafar i’r Arglwydd, yr holl ddaear: llefwch, ac ymlawenhewch, a chenwch. 5 Cenwch i’r Arglwydd gyda’r delyn; gyda’r delyn, a llef salm. 6 Ar utgyrn a sain cornet, cenwch yn llafar o flaen yr Arglwydd y Brenin. 7 Rhued y môr a’i gyflawnder; y byd a’r rhai a drigant o’i fewn. 8 Cured y llifeiriaint eu dwylo; a chydganed y mynyddoedd 9 O flaen yr Arglwydd; canys y mae yn dyfod i farnu y ddaear: efe a farna y byd â chyfiawnder, a’r bobloedd ag uniondeb.
3 A Samuel a fuasai farw; a holl Israel a alarasent amdano ef, ac a’i claddasent yn Rama, sef yn ei ddinas ei hun. A Saul a yrasai ymaith y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad.
4 A’r Philistiaid a ymgynullasant ac a ddaethant ac a wersyllasant yn Sunem: a Saul a gasglodd holl Israel ynghyd; a hwy a wersyllasant yn Gilboa. 5 A phan welodd Saul wersyll y Philistiaid, efe a ofnodd, a’i galon a ddychrynodd yn ddirfawr. 6 A phan ymgynghorodd Saul â’r Arglwydd, nid atebodd yr Arglwydd iddo, na thrwy freuddwydion, na thrwy Urim, na thrwy broffwydi.
7 Yna y dywedodd Saul wrth ei weision, Ceisiwch i mi wraig o berchen ysbryd dewiniaeth, fel yr elwyf ati, ac yr ymofynnwyf â hi. A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele, y mae gwraig o berchen ysbryd dewiniaeth yn Endor. 8 A Saul a newidiodd ei ddull, ac a wisgodd ddillad eraill; ac efe a aeth, a dau ŵr gydag ef, a hwy a ddaethant at y wraig liw nos. Ac efe a ddywedodd, Dewinia, atolwg, i mi trwy ysbryd dewiniaeth, a dwg i fyny ataf fi yr hwn a ddywedwyf wrthyt. 9 A’r wraig a ddywedodd wrtho ef, Wele, ti a wyddost yr hyn a wnaeth Saul, yr hwn a ddifethodd y swynyddion a’r dewiniaid o’r wlad: paham gan hynny yr ydwyt ti yn gosod magl yn erbyn fy einioes i, i beri i mi farw? 10 A Saul a dyngodd wrthi hi i’r Arglwydd, gan ddywedyd, Fel mai byw yr Arglwydd, ni ddigwydd i ti niwed am y peth hyn. 11 Yna y dywedodd y wraig, Pwy a ddygaf fi i fyny atat ti? Ac efe a ddywedodd, Dwg i mi Samuel i fyny. 12 A’r wraig a ganfu Samuel, ac a lefodd â llef uchel: a’r wraig a lefarodd wrth Saul, gan ddywedyd, Paham y twyllaist fi? canys ti yw Saul. 13 A’r brenin a ddywedodd wrthi hi, Nac ofna: canys beth a welaist ti? A’r wraig a ddywedodd wrth Saul, Duwiau a welais yn dyrchafu o’r ddaear. 14 Yntau a ddywedodd wrthi, Pa ddull sydd arno ef? A hi a ddywedodd, Gŵr hen sydd yn dyfod i fyny, a hwnnw yn gwisgo mantell. A gwybu Saul mai Samuel oedd efe; ac efe a ostyngodd ei wyneb i lawr, ac a ymgrymodd.
15 A Samuel a ddywedodd wrth Saul, Paham yr aflonyddaist arnaf, gan beri i mi ddyfod i fyny? A dywedodd Saul, Y mae yn gyfyng iawn arnaf fi: canys y mae y Philistiaid yn rhyfela yn fy erbyn i, a Duw a giliodd oddi wrthyf fi, ac nid yw yn fy ateb mwyach, na thrwy law proffwydi, na thrwy freuddwydion: am hynny y gelwais arnat ti, i hysbysu i mi beth a wnawn. 16 Yna y dywedodd Samuel, Paham gan hynny yr ydwyt ti yn ymofyn â mi, gan i’r Arglwydd gilio oddi wrthyt, a bod yn elyn i ti? 17 Yr Arglwydd yn ddiau a wnaeth iddo, megis y llefarodd trwy fy llaw i: canys yr Arglwydd a rwygodd y frenhiniaeth o’th law di, ac a’i rhoddes hi i’th gymydog, i Dafydd: 18 Oherwydd na wrandewaist ti ar lais yr Arglwydd, ac na chyflewnaist lidiowgrwydd ei ddicter ef yn erbyn Amalec; am hynny y gwnaeth yr Arglwydd y peth hyn i ti y dydd hwn. 19 Yr Arglwydd hefyd a ddyry Israel gyda thi yn llaw y Philistiaid: ac yfory y byddi di a’th feibion gyda mi: a’r Arglwydd a ddyry wersylloedd Israel yn llaw y Philistiaid.
18 Canys digofaint Duw a ddatguddiwyd o’r nef yn erbyn pob annuwioldeb ac anghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn atal y gwirionedd mewn anghyfiawnder. 19 Oherwydd yr hyn a ellir ei wybod am Dduw, sydd eglur ynddynt hwy: canys Duw a’i heglurodd iddynt. 20 Canys ei anweledig bethau ef er creadigaeth y byd, wrth eu hystyried yn y pethau a wnaed, a welir yn amlwg, sef ei dragwyddol allu ef a’i Dduwdod; hyd onid ydynt yn ddiesgus: 21 Oblegid a hwy yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megis Duw, ac na buont ddiolchgar iddo; eithr ofer fuont yn eu rhesymau, a’u calon anneallus hwy a dywyllwyd. 22 Pan dybient eu bod yn ddoethion, hwy a aethant yn ffyliaid; 23 Ac a newidiasant ogoniant yr anllygredig Dduw i gyffelybiaeth llun dyn llygredig, ac ehediaid, ac anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. 24 O ba herwydd Duw hefyd a’u rhoddes hwy i fyny, yn nhrachwantau eu calonnau, i aflendid, i amherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain: 25 Y rhai a newidiasant wirionedd Duw yn gelwydd, ac a addolasant ac a wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr, yr hwn sydd fendigedig yn dragwyddol. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.