Revised Common Lectionary (Complementary)
Caniad y graddau.
123 Atat ti y dyrchafaf fy llygaid, ti yr hwn a breswyli yn y nefoedd. 2 Wele, fel y mae llygaid gweision ar law eu meistriaid, neu fel y mae llygaid llawforwyn ar law ei meistres; felly y mae ein llygaid ni ar yr Arglwydd ein Duw, hyd oni thrugarhao efe wrthym ni. 3 Trugarha wrthym, Arglwydd, trugarha wrthym; canys llanwyd ni â dirmyg yn ddirfawr. 4 Yn ddirfawr y llanwyd ein henaid â gwatwargerdd y rhai goludog, ac â diystyrwch y beilchion.
21 A Job a atebodd ac a ddywedodd,
17 Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? Duw a ran ofidiau yn ei ddig. 18 Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt. 19 Duw a guddia ei anwiredd ef i’w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a’i gwybydd. 20 Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog. 21 Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef? 22 A ddysg neb wybodaeth i Dduw? gan ei fod yn barnu y rhai uchel. 23 Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl. 24 Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a’i esgyrn yn iraidd gan fêr. 25 A’r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch. 26 Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a’r pryfed a’u gorchuddia hwynt. 27 Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a’r bwriadau yr ydych chwi yn eu dychmygu ar gam yn fy erbyn. 28 Canys dywedwch, Pa le y mae tŷ y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion? 29 Oni ofynasoch chwi i’r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy, 30 Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan. 31 Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth? 32 Eto efe a ddygir i’r bedd, ac a erys yn y pentwr. 33 Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o’i flaen ef. 34 Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?
1 Yr henuriad at yr etholedig arglwyddes a’i phlant, y rhai yr wyf fi yn eu caru yn y gwirionedd; ac nid myfi yn unig, ond pawb hefyd a adnabuant y gwirionedd; 2 Er mwyn y gwirionedd, yr hwn sydd yn aros ynom ni, ac a fydd gyda ni yn dragywydd. 3 Bydded gyda chwi ras, trugaredd, a thangnefedd, oddi wrth Dduw Dad, ac oddi wrth yr Arglwydd Iesu Grist, Mab y Tad, mewn gwirionedd a chariad. 4 Bu lawen iawn gennyf i mi gael o’th blant di rai yn rhodio mewn gwirionedd, fel y derbyniasom orchymyn gan y Tad. 5 Ac yn awr yr wyf yn atolwg i ti, arglwyddes, nid fel un yn ysgrifennu gorchymyn newydd i ti, eithr yr hwn oedd gennym o’r dechreuad, garu ohonom ein gilydd. 6 A hyn yw’r cariad: bod i ni rodio yn ôl ei orchmynion ef. Hwn yw’r gorchymyn; Megis y clywsoch o’r dechreuad, fod i chwi rodio ynddo. 7 Oblegid y mae twyllwyr lawer wedi dyfod i mewn i’r byd, y rhai nid ydynt yn cyffesu ddyfod Iesu Grist yn y cnawd. Hwn yw’r twyllwr a’r anghrist. 8 Edrychwch arnoch eich hunain, fel na chollom y pethau a wnaethom, ond bod i ni dderbyn llawn wobr. 9 Pob un a’r sydd yn troseddu, ac heb aros yn nysgeidiaeth Crist, nid yw Duw ganddo ef. Yr hwn sydd yn aros yn nysgeidiaeth Crist, hwnnw y mae’r Tad a’r Mab ganddo. 10 Od oes neb yn dyfod atoch, a heb ddwyn y ddysgeidiaeth hon, na dderbyniwch ef i dŷ, ac na ddywedwch, Duw yn rhwydd, wrtho: 11 Canys yr hwn sydd yn dywedyd wrtho, Duw yn rhwydd, sydd gyfrannog o’i weithredoedd drwg ef. 12 Er bod gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu atoch, nid oeddwn yn ewyllysio ysgrifennu â phapur ac inc: eithr gobeithio yr ydwyf ddyfod atoch, a llefaru wyneb yn wyneb, fel y byddo ein llawenydd yn gyflawn. 13 Y mae plant dy chwaer etholedig yn dy annerch. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.