Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Sechareia 13-14

13 Y dydd hwnnw y bydd ffynnon wedi ei hagoryd i dŷ Dafydd, ac i breswylwyr Jerwsalem, i bechod ac aflendid.

A bydd y dwthwn hwnnw, medd Arglwydd y lluoedd, i mi dorri enwau yr eilunod allan o’r tir, ac nis cofir hwynt mwyach; a gyrraf hefyd y proffwydi ac ysbryd aflendid o’r wlad. A bydd pan broffwydo un mwyach, y dywed ei dad a’i fam a’i cenedlasant ef wrtho, Ni chei fyw; canys dywedaist gelwydd yn enw yr Arglwydd: a’i dad a’i fam a’i cenedlasant ef a’i gwanant ef pan fyddo yn proffwydo. A bydd y dydd hwnnw, i’r proffwydi gywilyddio bob un am ei weledigaeth, wedi iddo broffwydo; ac ni wisgant grys o rawn i dwyllo: Ond efe a ddywed, Nid proffwyd ydwyf fi; llafurwr y ddaear ydwyf fi; canys dyn a’m dysgodd i gadw anifeiliaid o’m hieuenctid. A dywed un wrtho, Beth a wna y gwelïau hyn yn dy ddwylo? Yna efe a ddywed, Dyma y rhai y’m clwyfwyd â hwynt yn nhŷ fy ngharedigion.

Deffro, gleddyf, yn erbyn fy mugail, ac yn erbyn y gŵr sydd gyfaill i mi, medd Arglwydd y lluoedd: taro y bugail, a’r praidd a wasgerir; a dychwelaf fy llaw ar y rhai bychain. A bydd yn yr holl dir, medd yr Arglwydd, y torrir ymaith ac y bydd marw dwy ran ynddo; a’r drydedd a adewir ynddo. A dygaf drydedd ran trwy y tân, a phuraf hwynt fel puro arian, a choethaf hwynt fel coethi aur: hwy a alwant ar fy enw, a minnau a’u gwrandawaf: dywedaf, Fy mhobl yw efe; ac yntau a ddywed, Yr Arglwydd yw fy Nuw.

14 Wele ddydd yr Arglwydd yn dyfod, a rhennir dy ysbail yn dy ganol di. Canys mi a gasglaf yr holl genhedloedd i ryfel yn erbyn Jerwsalem: a’r ddinas a oresgynnir, y tai a anrheithir, a’r gwragedd a dreisir; a hanner y ddinas a â allan i gaethiwed, a’r rhan arall o’r bobl nis torrir ymaith o’r ddinas. A’r Arglwydd a â allan, ac a ryfela yn erbyn y cenhedloedd hynny, megis y dydd y rhyfelodd efe yn nydd y gad.

A’i draed a safant y dydd hwnnw ar fynydd yr Olewydd, yr hwn sydd ar gyfer Jerwsalem, o du y dwyrain; a mynydd yr Olewydd a hyllt ar draws ei hanner tua’r dwyrain a thua’r gorllewin, a bydd dyffryn mawr iawn: a hanner y mynydd a symud tua’r gogledd, a’i hanner tua’r deau. A chwi a ffowch i ddyffryn y mynyddoedd; canys dyffryn y mynyddoedd a gyrraedd hyd Asal: a ffowch fel y ffoesoch rhag y ddaeargryn yn nyddiau Usseia brenin Jwda: a daw yr Arglwydd fy Nuw, a’r holl saint gyda thi. A’r dydd hwnnw y daw i ben, na byddo goleuni disglair, na thywyll: Ond bydd un diwrnod, hwnnw a adwaenir gan yr Arglwydd, nid dydd, ac nid nos; ond bydd goleuni yn yr hwyr. A bydd y dwthwn hwnnw, y daw allan o Jerwsalem ddyfroedd bywiol; eu hanner hwynt tua môr y dwyrain, a’u hanner tua’r môr eithaf: haf a gaeaf y bydd hyn. A’r Arglwydd a fydd yn Frenin ar yr holl ddaear: y dydd hwnnw y bydd un Arglwydd, a’i enw yn un. 10 Troir yr holl dir megis yn wastad o Geba hyd Rimmon, o’r tu deau i Jerwsalem: hi a ddyrchefir, ac a gyfanheddir yn ei lle, o borth Benjamin hyd le y porth cyntaf, hyd borth y gongl, ac o dŵr Hananeel hyd winwryfau y brenin. 11 Yno y trigant ynddi, ac ni bydd yn ddifrod mwyach; ond Jerwsalem a gyfanheddir yn ddienbyd.

12 A hyn fydd y pla â’r hwn y tery yr Arglwydd yr holl bobloedd a ryfelant yn erbyn Jerwsalem; Eu cnawd a dderfydd, er eu bod yn sefyll ar eu traed, a’u llygaid a ddarfyddant yn eu tyllau, a’u tafod a dderfydd yn eu safn. 13 Y dydd hwnnw y bydd mawr derfysg oddi wrth yr Arglwydd yn eu plith hwynt; a phob un a ymafael yn llaw ei gymydog, a’i law a gyfyd yn erbyn llaw ei gymydog. 14 A Jwda hefyd a ryfela yn Jerwsalem: a chesglir golud yr holl genhedloedd o amgylch, aur ac arian, a gwisgoedd lawer iawn. 15 Ac felly y bydd pla y march, y mul, y camel, yr asyn, a phob anifail a fyddo yn y gwersylloedd hyn, fel y pla hwn.

16 A bydd i bob un a adawer o’r holl genhedloedd a ddaethant yn erbyn Jerwsalem, fyned i fyny o flwyddyn i flwyddyn, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ac i gadw gŵyl y pebyll. 17 A phwy bynnag nid êl i fyny o deuluoedd y ddaear i Jerwsalem, i addoli y Brenin, Arglwydd y lluoedd, ni bydd glaw arnynt. 18 Ac os teulu yr Aifft nid â i fyny, ac ni ddaw, y rhai nid oes glaw arnynt; yno y bydd y pla â’r hwn y tery yr Arglwydd y cenhedloedd y rhai nid esgynnant i gadw gŵyl y pebyll. 19 Hyn a fydd cosb yr Aifft, a chosb yr holl genhedloedd nid elont i fyny i gadw gŵyl y pebyll.

20 Y dydd hwnnw y bydd ar ffrwynau y meirch, SANCTEIDDRWYDD I’R ARGLWYDD; a bydd y crochanau yn nhŷ yr Arglwydd fel meiliau gerbron yr allor. 21 Bydd pob crochan yn Jerwsalem ac yn Jwda yn Sancteiddrwydd i Arglwydd y lluoedd: a daw pob aberthwr, ac a gymerant ohonynt, ac a ferwant ynddynt: ac ni bydd Canaanead mwyach yn nhŷ Arglwydd y lluoedd y dydd hwnnw.

Datguddiad 21

21 Ac mi a welais nef newydd, a daear newydd: canys y nef gyntaf a’r ddaear gyntaf a aeth heibio; a’r môr nid oedd mwyach. A myfi Ioan a welais y ddinas sanctaidd, Jerwsalem newydd, yn dyfod oddi wrth Dduw i waered o’r nef, wedi ei pharatoi fel priodasferch wedi ei thrwsio i’w gŵr. Ac mi a glywais lef uchel allan o’r nef, yn dywedyd, Wele, y mae pabell Duw gyda dynion, ac efe a drig gyda hwynt, a hwy a fyddant bobl iddo ef, a Duw ei hun a fydd gyda hwynt, ac a fydd yn Dduw iddynt. Ac fe sych Duw ymaith bob deigr oddi wrth eu llygaid hwynt; a marwolaeth ni bydd mwyach, na thristwch, na llefain, na phoen ni bydd mwyach: oblegid y pethau cyntaf a aeth heibio. A dywedodd yr hwn oedd yn eistedd ar yr orseddfainc, Wele, yr wyf yn gwneuthur pob peth yn newydd. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ysgrifenna: canys y mae’r geiriau hyn yn gywir ac yn ffyddlon. Ac efe a ddywedodd wrthyf, Darfu. Myfi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd. I’r hwn sydd sychedig y rhoddaf o ffynnon dwfr y bywyd yn rhad. Yr hwn sydd yn gorchfygu, a etifedda bob peth: ac mi a fyddaf iddo ef yn Dduw, ac yntau a fydd i minnau yn fab. Ond i’r rhai ofnog, a’r di-gred, a’r ffiaidd, a’r llofruddion, a’r puteinwyr, a’r swyn-gyfareddwyr, a’r eilun-addolwyr, a’r holl gelwyddwyr, y bydd eu rhan yn y llyn sydd yn llosgi â thân a brwmstan: yr hwn yw’r ail farwolaeth. A daeth ataf un o’r saith angel yr oedd y saith ffiol ganddynt yn llawn o’r saith bla diwethaf, ac a ymddiddanodd â mi, gan ddywedyd, Tyred, mi a ddangosaf i ti’r briodasferch, gwraig yr Oen. 10 Ac efe a’m dug i ymaith yn yr ysbryd i fynydd mawr ac uchel, ac a ddangosodd i mi’r ddinas fawr, Jerwsalem sanctaidd, yn disgyn allan o’r nef oddi wrth Dduw, 11 A gogoniant Duw ganddi: a’i golau hi oedd debyg i faen o’r gwerthfawrocaf, megis maen iasbis, yn loyw fel grisial; 12 Ac iddi fur mawr ac uchel, ac iddi ddeuddeg porth, ac wrth y pyrth ddeuddeg angel, ac enwau wedi eu hysgrifennu arnynt, y rhai yw enwau deuddeg llwyth plant Israel. 13 O du’r dwyrain, tri phorth; o du’r gogledd, tri phorth; o du’r deau, tri phorth; o du’r gorllewin, tri phorth. 14 Ac yr oedd mur y ddinas â deuddeg sylfaen iddo, ac ynddynt enwau deuddeg apostol yr Oen. 15 A’r hwn oedd yn ymddiddan â mi, oedd â chorsen aur ganddo, i fesuro’r ddinas, a’i phyrth hi, a’i mur. 16 A’r ddinas sydd wedi ei gosod yn bedeirongl, a’i hyd sydd gymaint â’i lled. Ac efe a fesurodd y ddinas â’r gorsen, yn ddeuddeng mil o ystadau. A’i hyd, a’i lled, a’i huchder, sydd yn ogymaint. 17 Ac efe a fesurodd ei mur hi yn gant a phedwar cufydd a deugain, wrth fesur dyn, hynny yw, eiddo’r angel. 18 Ac adeilad ei mur hi oedd o faen iasbis: a’r ddinas oedd aur pur, yn debyg i wydr gloyw. 19 A seiliau mur y ddinas oedd wedi eu harddu â phob rhyw faen gwerthfawr. Y sail cyntaf oedd faen iasbis; yr ail, saffir; y trydydd, chalcedon; y pedwerydd, smaragdus; 20 Y pumed, sardonycs; y chweched, sardius; y seithfed, chrysolithus; yr wythfed, beryl; y nawfed, topasion; y degfed, chrysoprasus; yr unfed ar ddeg, hyacinthus; y deuddegfed, amethystus. 21 A’r deuddeg porth, deuddeg perl oeddynt; a phob un o’r pyrth oedd o un perl: a heol y ddinas oedd aur pur, fel gwydr gloyw. 22 A theml ni welais ynddi: canys yr Arglwydd Dduw Hollalluog, a’r Oen, yw ei theml hi. 23 A’r ddinas nid rhaid iddi wrth yr haul, na’r lleuad, i oleuo ynddi: canys gogoniant Duw a’i goleuodd hi, a’i goleuni hi ydyw’r Oen. 24 A chenhedloedd y rhai cadwedig a rodiant yn ei goleuni hi: ac y mae brenhinoedd y ddaear yn dwyn eu gogoniant a’u hanrhydedd iddi hi. 25 A’i phyrth hi ni chaeir ddim y dydd: canys ni bydd nos yno. 26 A hwy a ddygant ogoniant ac anrhydedd y cenhedloedd iddi hi. 27 Ac nid â i mewn iddi ddim aflan, nac yn gwneuthur ffieidd-dra, na chelwydd: ond y rhai sydd wedi eu hysgrifennu yn llyfr bywyd yr Oen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.