Old/New Testament
Salm Dafydd, pan oedd efe yn niffeithwch Jwda.
63 Ti, O Dduw, yw fy Nuw i; yn fore y’th geisiaf: sychedodd fy enaid amdanat, hiraethodd fy nghnawd amdanat, mewn tir cras a sychedig heb ddwfr; 2 I weled dy nerth a’th ogoniant, fel y’th welais yn y cysegr. 3 Canys gwell yw dy drugaredd di na’r bywyd: fy ngwefusau a’th foliannant. 4 Fel hyn y’th glodforaf yn fy mywyd: dyrchafaf fy nwylo yn dy enw. 5 Megis â mer ac â braster y digonir fy enaid; a’m genau a’th fawl â gwefusau llafar: 6 Pan y’th gofiwyf ar fy ngwely, myfyriaf amdanat yng ngwyliadwriaethau y nos. 7 Canys buost gynhorthwy i mi; am hynny yng nghysgod dy adenydd y gorfoleddaf. 8 Fy enaid a lŷn wrthyt: dy ddeheulaw a’m cynnal. 9 Ond y rhai a geisiant fy enaid i ddistryw, a ânt i iselderau y ddaear. 10 Syrthiant ar fin y cleddyf: rhan llwynogod fyddant. 11 Ond y Brenin a lawenycha yn Nuw: gorfoledda pob un a dyngo iddo ef: eithr caeir genau y rhai a ddywedant gelwydd.
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
64 Clyw fy llef, O Dduw, yn fy ngweddi: cadw fy einioes rhag ofn y gelyn. 2 Cudd fi rhag cyfrinach y rhai drygionus; rhag terfysg gweithredwyr anwiredd: 3 Y rhai a hogant eu tafod fel cleddyf, ac a ergydiant eu saethau, sef geiriau chwerwon: 4 I saethu y perffaith yn ddirgel: yn ddisymwth y saethant ef, ac nid ofnant. 5 Ymwrolant mewn peth drygionus, ymchwedleuant am osod maglau yn ddirgel; dywedant, Pwy a’u gwêl hwynt? 6 Chwiliant allan anwireddau; gorffennant ddyfal chwilio: ceudod a chalon pob un ohonynt sydd ddofn. 7 Eithr Duw a’u saetha hwynt; â saeth ddisymwth yr archollir hwynt. 8 Felly hwy a wnânt i’w tafodau eu hun syrthio arnynt: pob un a’u gwelo a gilia. 9 A phob dyn a ofna, ac a fynega waith Duw: canys doeth ystyriant ei waith ef. 10 Y cyfiawn a lawenycha yn yr Arglwydd, ac a obeithia ynddo; a’r rhai uniawn o galon oll a orfoleddant.
I’r Pencerdd, Salm a Chân Dafydd.
65 Mawl a’th erys di yn Seion, O Dduw: ac i ti y telir yr adduned. 2 Ti yr hwn a wrandewi weddi, atat ti y daw pob cnawd. 3 Pethau anwir a’m gorchfygasant: ein camweddau ni, ti a’u glanhei. 4 Gwyn ei fyd yr hwn a ddewisech, ac a nesaech atat; fel y trigo yn dy gynteddoedd: nyni a ddigonir â daioni dy dŷ, sef dy deml sanctaidd. 5 Atebi i ni trwy bethau ofnadwy, yn dy gyfiawnder, O Dduw ein hiachawdwriaeth; gobaith holl gyrrau y ddaear, a’r rhai sydd bell ar y môr. 6 Yr hwn a sicrha y mynyddoedd trwy ei nerth, ac a wregysir â chadernid. 7 Yr hwn a ostega dwrf y moroedd, twrf eu tonnau, a therfysg y bobloedd. 8 A phreswylwyr eithafoedd y byd a ofnant dy arwyddion: gwnei i derfyn bore a hwyr lawenychu. 9 Yr wyt yn ymweled â’r ddaear, ac yn ei dyfrhau hi; yr ydwyt yn ei chyfoethogi hi yn ddirfawr ag afon Duw, yr hon sydd yn llawn dwfr: yr wyt yn paratoi ŷd iddynt, pan ddarperaist felly iddi. 10 Gan ddyfrhau ei chefnau, a gostwng ei rhychau, yr ydwyt yn ei mwydo hi â chafodau, ac yn bendithio ei chnwd hi. 11 Coroni yr ydwyt y flwyddyn â’th ddaioni; a’th lwybrau a ddiferant fraster. 12 Diferant ar borfeydd yr anialwch: a’r bryniau a ymwregysant â hyfrydwch. 13 Y dolydd a wisgir â defaid, a’r dyffrynnoedd a orchuddir ag ŷd; am hynny y bloeddiant, ac y canant.
6 Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras? 2 Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef? 3 Oni wyddoch chwi, am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i’w farwolaeth ef? 4 Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb buchedd. 5 Canys os gwnaed ni yn gyd‐blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef: 6 Gan wybod hyn, ddarfod croeshoelio ein hen ddyn ni gydag ef, er mwyn dirymu corff pechod, fel rhag llaw na wasanaethom bechod. 7 Canys y mae’r hwn a fu farw, wedi ei ryddhau oddi wrth bechod. 8 Ac os buom feirw gyda Crist, yr ydym ni yn credu y byddwn byw hefyd gydag ef: 9 Gan wybod nad yw Crist, yr hwn a gyfodwyd oddi wrth y meirw, yn marw mwyach; nad arglwyddiaetha marwolaeth arno mwyach. 10 Canys fel y bu efe farw, efe a fu farw unwaith i bechod: ac fel y mae yn byw, byw y mae i Dduw. 11 Felly chwithau hefyd, cyfrifwch eich hunain yn feirw i bechod: eithr yn fyw i Dduw, yng Nghrist Iesu ein Harglwydd. 12 Na theyrnased pechod gan hynny yn eich corff marwol, i ufuddhau ohonoch iddo yn ei chwantau. 13 Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw. 14 Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras. 15 Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddeddf, eithr dan ras? Na ato Duw. 16 Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd‐dod i gyfiawnder? 17 Ond i Dduw y bo’r diolch, eich bod chwi gynt yn weision i bechod; eithr ufuddhau ohonoch o’r galon i’r ffurf o athrawiaeth a draddodwyd i chwi. 18 Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder. 19 Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd. 20 Canys pan oeddech yn weision pechod, rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawnder. 21 Pa ffrwyth gan hynny oedd i chwi y pryd hwnnw o’r pethau y mae arnoch yr awr hon gywilydd o’u plegid? canys diwedd y pethau hynny yw marwolaeth. 22 Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol. 23 Canys cyflog pechod yw marwolaeth; eithr dawn Duw yw bywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.