Old/New Testament
42 Ac efe a’m dug i’r cyntedd nesaf allan, y ffordd tua’r gogledd; ac a’m dug i’r ystafell oedd ar gyfer y llannerch neilltuol, yr hon oedd ar gyfer yr adail tua’r gogledd. 2 Drws y gogledd oedd ar gyfer hyd y can cufydd, a lled y deg cufydd a deugain. 3 Ar gyfer yr ugain cufydd y rhai oedd i’r cyntedd nesaf i mewn, ac ar gyfer y palmant yr hwn oedd i’r cyntedd nesaf allan, yr ydoedd ystafell ar gyfer ystafell yn dri uchder. 4 Ac o flaen yr ystafelloedd yr oedd rhodfa yn ddeg cufydd o led oddi fewn, ffordd o un cufydd, a’u drysau tua’r gogledd. 5 A’r ystafelloedd uchaf oedd gulion: oherwydd yr ystafelloedd oeddynt uwch na’r rhai hyn, na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r adeiladaeth. 6 Canys yn dri uchder yr oeddynt hwy, ac heb golofnau iddynt fel colofnau y cynteddoedd: am hynny yr oeddynt hwy yn gyfyngach na’r rhai isaf ac na’r rhai canol o’r llawr i fyny. 7 A’r mur yr hwn oedd o’r tu allan ar gyfer yr ystafelloedd, tua’r cyntedd nesaf allan o flaen yr ystafelloedd, oedd ddeg cufydd a deugain ei hyd. 8 Oherwydd hyd yr ystafelloedd y rhai oedd yn y cyntedd nesaf allan oedd ddeg cufydd a deugain: ac wele, o flaen y deml yr oedd can cufydd. 9 Ac oddi tan yr ystafelloedd hyn yr ydoedd mynediad i mewn o du y dwyrain, ffordd yr elid iddynt hwy o’r cyntedd nesaf allan. 10 O fewn tewder mur y cyntedd tua’r dwyrain, ar gyfer y llannerch neilltuol, ac ar gyfer yr adeiladaeth, yr oedd yr ystafelloedd. 11 A’r ffordd o’u blaen hwynt oedd fel gwelediad yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r gogledd; un hyd â hwynt oeddynt, ac un lled â hwynt: a’u holl fynediad allan oedd yn ôl eu dull hwynt, ac yn ôl eu drysau hwynt. 12 Ac fel drysau yr ystafelloedd y rhai oedd tua’r deau, yr oedd drws ym mhen y ffordd, y ffordd ym mhen y mur yn union tua’r dwyrain, yn y ddyfodfa i mewn.
13 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ystafelloedd y gogledd ac ystafelloedd y deau, y rhai sydd ar gyfer y llannerch neilltuol, ystafelloedd sanctaidd yw y rhai hynny, lle y bwyty yr offeiriaid y rhai a nesânt at yr Arglwydd, y pethau sanctaidd cysegredig: yno y gosodant y sanctaidd bethau cysegredig, a’r bwyd‐offrwm, a’r pech‐aberth, a’r aberth dros gamwedd; canys y lle sydd sanctaidd. 14 A phan elo yr offeiriaid i mewn iddynt, nid ânt allan o’r cysegr i’r cyntedd nesaf allan, eithr yno y gosodant eu dillad y rhai y gwasanaethant ynddynt; am eu bod yn sanctaidd; ac a wisgant wisgoedd eraill, ac a nesânt at yr hyn a berthyn i’r bobl. 15 Pan orffenasai efe fesuro y tŷ oddi fewn, efe a’m dug i tua’r porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain, ac a’i mesurodd ef o amgylch ogylch. 16 Efe a fesurodd du y dwyrain â chorsen fesur, yn bum cant o gorsennau, wrth y gorsen fesur oddi amgylch. 17 Efe a fesurodd du y gogledd yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur oddi amgylch. 18 Y tu deau a fesurodd efe yn bum can corsen, wrth y gorsen fesur.
19 Efe a aeth o amgylch i du y gorllewin, ac a fesurodd bum can corsen, wrth y gorsen fesur. 20 Efe a fesurodd ei bedwar ystlys ef: mur oedd iddo ef o amgylch ogylch, yn bum can corsen o hyd, ac yn bum can corsen o led, i wahanu rhwng y cysegr a’r digysegr.
43 Ac efe a’m dug i’r porth, sef y porth sydd yn edrych tua’r dwyrain. 2 Ac wele ogoniant Duw Israel yn dyfod o ffordd y dwyrain; a’i lais fel sŵn dyfroedd lawer, a’r ddaear yn disgleirio o’i ogoniant ef. 3 Ac yr oedd yn ôl gwelediad y weledigaeth a welais, sef yn ôl y weledigaeth a welais pan ddeuthum i ddifetha y ddinas: a’r gweledigaethau oedd fel y weledigaeth a welswn wrth afon Chebar: yna y syrthiais ar fy wyneb. 4 A gogoniant yr Arglwydd a ddaeth i’r tŷ ar hyd ffordd y porth sydd â’i wyneb tua’r dwyrain. 5 Felly yr ysbryd a’m cododd, ac a’m dug i’r cyntedd nesaf i mewn; ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd y tŷ. 6 Clywn ef hefyd yn llefaru wrthyf o’r tŷ; ac yr oedd y gŵr yn sefyll yn fy ymyl.
7 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, dyma le fy ngorseddfa, a lle gwadnau fy nhraed, lle y trigaf ymysg meibion Israel yn dragywydd; a’m henw sanctaidd ni haloga tŷ Israel mwy, na hwynt‐hwy, na’u brenhinoedd, trwy eu puteindra, na thrwy gyrff meirw eu brenhinoedd yn eu huchel leoedd. 8 Wrth osod eu rhiniog wrth fy rhiniog i, a’u gorsin wrth fy ngorsin i, a phared rhyngof fi a hwynt, hwy a halogasant fy enw sanctaidd â’u ffieidd‐dra y rhai a wnaethant: am hynny mi a’u hysais hwy yn fy llid. 9 Pellhânt yr awr hon eu puteindra, a chelanedd eu brenhinoedd oddi wrthyf fi, a mi a drigaf yn eu mysg hwy yn dragywydd.
10 Ti fab dyn, dangos y tŷ i dŷ Israel, fel y cywilyddiont am eu hanwireddau; a mesurant y portreiad. 11 Ac os cywilyddiant am yr hyn oll a wnaethant, hysbysa iddynt ddull y tŷ, a’i osodiad, a’i fynediadau allan, a’i ddyfodiadau i mewn, a’i holl ddull, a’i holl ddeddfau, a’i holl ddull, a’i holl gyfreithiau; ac ysgrifenna o flaen eu llygaid hwynt, fel y cadwont ei holl ddull ef, a’i holl ddeddfau, ac y gwnelont hwynt. 12 Dyma gyfraith y tŷ; Ar ben y mynydd y bydd ei holl derfyn ef, yn gysegr sancteiddiolaf o amgylch ogylch. Wele, dyma gyfraith y tŷ.
13 A dyma fesurau yr allor wrth gufyddau. Y cufydd sydd gufydd a dyrnfedd; y gwaelod fydd yn gufydd, a’r lled yn gufydd, a’i hymylwaith ar ei min o amgylch fydd yn rhychwant: a dyma le uchaf yr allor. 14 Ac o’r gwaelod ar y llawr, hyd yr ystôl isaf, y bydd dau gufydd, ac un cufydd o led; a phedwar cufydd o’r ystôl leiaf hyd yr ystôl fwyaf, a chufydd o led. 15 Felly yr allor fydd bedwar cufydd; ac o’r allor y bydd hefyd tuag i fyny bedwar o gyrn. 16 A’r allor fydd ddeuddeg cufydd o hyd, a deuddeg o led, yn ysgwâr yn ei phedwar ystlys. 17 A’r ystôl fydd bedwar cufydd ar ddeg o hyd, a phedwar ar ddeg o led, yn ei phedwar ystlys; a’r ymylwaith o amgylch iddi yn hanner cufydd; a’i gwaelod yn gufydd o amgylch: a’i grisiau yn edrych tua’r dwyrain.
18 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Ha fab dyn, fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Dyma ddeddfau yr allor, yn y dydd y gwneler hi, i boethoffrymu poethoffrwm arni, ac i daenellu gwaed arni. 19 Yna y rhoddi at yr offeiriaid y Lefiaid, (y rhai sydd o had Sadoc yn nesáu ataf fi, medd yr Arglwydd Dduw, i’m gwasanaethu,) fustach ieuanc yn bech‐aberth. 20 A chymer o’i waed ef, a dyro ar ei phedwar corn hi, ac ar bedair congl yr ystôl, ac ar yr ymyl o amgylch: fel hyn y glanhei ac y cysegri hi. 21 Cymeri hefyd fustach y pech‐aberth, ac efe a’i llysg ef yn y lle nodedig i’r tŷ, o’r tu allan i’r cysegr. 22 Ac ar yr ail ddydd ti a offrymi fwch geifr perffaith‐gwbl yn bech‐aberth; a hwy a lanhânt yr allor, megis y glanhasant hi â’r bustach. 23 Pan orffennych ei glanhau, ti a offrymi fustach ieuanc perffaith‐gwbl, a hwrdd perffaith‐gwbl o’r praidd. 24 Ac o flaen yr Arglwydd yr offrymi hwynt; a’r offeiriaid a fwriant halen arnynt, ac a’u hoffrymant hwy yn boethoffrwm i’r Arglwydd. 25 Saith niwrnod y darperi fwch yn bech‐aberth bob dydd; darparant hefyd fustach ieuanc, a hwrdd o’r praidd, o rai perffaith‐gwbl. 26 Saith niwrnod y cysegrant yr allor, ac y glanhânt hi, ac yr ymgysegrant. 27 A phan ddarffo y dyddiau hyn, bydd ar yr wythfed dydd, ac o hynny allan, i’r offeiriaid offrymu ar yr allor eich poethoffrymau a’ch ebyrth hedd: a mi a fyddaf fodlon i chwi, medd yr Arglwydd Dduw.
44 Ac efe a wnaeth i mi ddychwelyd ar hyd ffordd porth y cysegr nesaf allan, yr hwn sydd yn edrych tua’r dwyrain, ac yr oedd yn gaead. 2 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Y porth hwn fydd gaead; nid agorir ef, ac nid â neb i mewn trwyddo ef: oherwydd Arglwydd Dduw Israel a aeth i mewn trwyddo ef; am hynny y bydd yn gaead. 3 I’r tywysog y mae; y tywysog, efe a eistedd ynddo i fwyta bara o flaen yr Arglwydd: ar hyd ffordd cyntedd y porth hwnnw y daw efe i mewn, a hyd ffordd yr un yr â efe allan.
4 Ac efe a’m dug i ffordd porth y gogledd o flaen y tŷ: a mi a edrychais, ac wele, llanwasai gogoniant yr Arglwydd dŷ yr Arglwydd: a mi a syrthiais ar fy wyneb. 5 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Gosod dy galon, fab dyn, a gwêl â’th lygaid, clyw hefyd â’th glustiau, yr hyn oll yr ydwyf yn ei ddywedyd wrthyt, am holl ddeddfau tŷ yr Arglwydd, ac am ei holl gyfreithiau; a gosod dy feddwl ar ddyfodfa y tŷ, ac ar bob mynedfa allan o’r cysegr. 6 A dywed wrth y gwrthryfelgar, sef tŷ Israel, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Digon i chwi hyn, tŷ Israel, o’ch holl ffieidd‐dra; 7 Gan ddwyn ohonoch ddieithriaid dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, i fod yn fy nghysegr i’w halogi ef, sef fy nhŷ i, pan offrymasoch fy mara, y braster a’r gwaed; a hwy a dorasant fy nghyfamod, oherwydd eich holl ffieidd‐dra chwi. 8 Ac ni chadwasoch gadwraeth fy mhethau cysegredig; eithr gosodasoch i chwi eich hunain geidwaid ar fy nghadwraeth yn fy nghysegr.
9 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Ni ddaw i’m cysegr un mab dieithr dienwaededig o galon, a dienwaededig o gnawd, o’r holl feibion dieithr y rhai sydd ymysg meibion Israel. 10 A’r Lefiaid y rhai a giliasant ymhell oddi wrthyf, pan gyfeiliornodd Israel, y rhai a grwydrasant oddi wrthyf ar ôl eu delwau, hwy a ddygant eu hanwiredd. 11 Eto hwy a fyddant yn fy nghysegr, yn weinidogion mewn swydd ym mhyrth y tŷ, ac yn gweini i’r tŷ: hwy a laddant yr offrwm poeth, ac aberth y bobl, a hwy a safant o’u blaen hwy i’w gwasanaethu hwynt. 12 Oherwydd gwasanaethu ohonynt hwy o flaen eu heilunod, a bod ohonynt i dŷ Israel yn dramgwydd i anwiredd, am hynny y dyrchefais fy llaw yn eu herbyn hwynt, medd yr Arglwydd Dduw, a hwy a ddygant eu hanwiredd. 13 Ac ni ddeuant yn agos ataf fi i offeiriadu i mi, nac i nesáu at yr un o’m pethau sanctaidd yn y cysegr sancteiddiolaf: eithr dygant eu cywilydd, a’u ffieidd‐dra a wnaethant. 14 Eithr gwnaf hwynt yn geidwaid cadwraeth y tŷ, yn ei holl wasanaeth, ac yn yr hyn oll a wneir ynddo.
15 Yna yr offeiriaid y Lefiaid, meibion Sadoc, y rhai a gadwasant gadwraeth fy nghysegr, pan gyfeiliornodd meibion Israel oddi wrthyf, hwynt‐hwy a nesânt ataf fi i’m gwasanaethu, ac a safant o’m blaen i offrymu i mi y braster a’r gwaed, medd yr Arglwydd Iôr: 16 Hwy a ânt i mewn i’m cysegr, a hwy a nesânt at fy mwrdd i’m gwasanaethu, ac a gadwant fy nghadwraeth.
17 A phan ddelont i byrth y cyntedd nesaf i mewn, gwisgant wisgoedd lliain; ac na ddeued gwlân amdanynt, tra y gwasanaethant ym mhyrth y cyntedd nesaf i mewn, ac o fewn. 18 Capiau lliain fydd am eu pennau hwynt, a llodrau lliain fydd am eu llwynau hwynt: nac ymwregysant â dim a baro chwys. 19 A phan elont i’r cyntedd nesaf allan, sef at y bobl i’r cyntedd oddi allan, diosgant eu gwisgoedd y rhai y gwasanaethasant ynddynt, a gosodant hwynt o fewn celloedd y cysegr, a gwisgant ddillad eraill; ac na chysegrant y bobl â’u gwisgoedd. 20 Eu pennau hefyd nid eilliant, ac ni ollyngant eu gwallt yn llaes: gan dalgrynnu talgrynnant eu pennau. 21 Hefyd, nac yfed un offeiriad win, pan ddelont i’r cyntedd nesaf i mewn. 22 Na chymerant chwaith yn wragedd iddynt wraig weddw, neu ysgaredig; eithr morynion o had tŷ Israel, neu y weddw a fyddo gweddw offeiriad, a gymerant. 23 A dysgant i’m pobl ragor rhwng y sanctaidd a’r halogedig, a gwnânt iddynt wybod gwahan rhwng aflan a glân. 24 Ac mewn ymrafael hwy a safant mewn barn, ac a farnant yn ôl fy marnedigaethau i: cadwant hefyd fy nghyfreithiau a’m deddfau yn fy holl uchel wyliau; a sancteiddiant fy Sabothau. 25 Ni ddeuant chwaith at ddyn marw i ymhalogi: eithr wrth dad, ac wrth fam, ac wrth fab, ac wrth ferch, wrth frawd, ac wrth chwaer yr hon ni bu eiddo gŵr, y gallant ymhalogi. 26 Ac wedi ei buredigaeth y cyfrifir iddo saith niwrnod. 27 A’r dydd yr elo i’r cysegr, o fewn y cyntedd nesaf i mewn, i weini yn y cysegr, offrymed ei bech‐aberth, medd yr Arglwydd Dduw. 28 A bydd yn etifeddiaeth iddynt hwy; myfi yw eu hetifeddiaeth hwy. Ac na roddwch berchenogaeth iddynt hwy yn Israel; myfi yw eu perchenogaeth hwy. 29 Y bwyd‐offrwm, a’r pech‐aberth, a’r aberth dros gamwedd, a fwytânt hwy; a phob peth cysegredig yn Israel fydd eiddynt hwy. 30 A blaenion pob blaenffrwyth o bob peth, a phob offrwm pob dim oll o’ch holl offrymau, fydd eiddo yr offeiriaid: blaenffrwyth eich toes hefyd a roddwch i’r offeiriad, i osod bendith ar dy dŷ. 31 Na fwytaed yr offeiriaid ddim a fu farw ei hun, neu ysglyfaeth o aderyn neu o anifail.
1 Yr hyn oedd o’r dechreuad, yr hyn a glywsom, yr hyn a welsom â’n llygaid, yr hyn a edrychasom arno, ac a deimlodd ein dwylo am Air y bywyd; 2 (Canys y bywyd a eglurhawyd, ac ni a welsom, ac ydym yn tystiolaethu, ac yn mynegi i chwi’r bywyd tragwyddol, yr hwn oedd gyda’r Tad, ac a eglurhawyd i ni;) 3 Yr hyn a welsom ac a glywsom yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni: a’n cymdeithas ni yn wir sydd gyda’r Tad, a chyda’i Fab ef Iesu Grist. 4 A’r pethau hyn yr ydym yn eu hysgrifennu atoch, fel y byddo eich llawenydd yn gyflawn. 5 A hon yw’r genadwri a glywsom ganddo ef, ac yr ydym yn ei hadrodd i chwi; Mai goleuni yw Duw, ac nad oes ynddo ddim tywyllwch. 6 Os dywedwn fod i ni gymdeithas ag ef, a rhodio yn y tywyllwch, celwyddog ydym, ac nid ydym yn gwneuthur y gwirionedd: 7 Eithr os rhodiwn yn y goleuni, megis y mae efe yn y goleuni, y mae i ni gymdeithas â’n gilydd, a gwaed Iesu Grist ei Fab ef, sydd yn ein glanhau ni oddi wrth bob pechod. 8 Os dywedwn nad oes ynom bechod, yr ydym yn ein twyllo ein hunain, a’r gwirionedd nid yw ynom. 9 Os cyfaddefwn ein pechodau, ffyddlon yw efe a chyfiawn, fel y maddeuo i ni ein pechodau, ac y’n glanhao oddi wrth bob anghyfiawnder. 10 Os dywedwn na phechasom, yr ydym yn ei wneuthur ef yn gelwyddog, a’i air ef nid yw ynom.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.