Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Hosea 1-4

Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Hosea, mab Beeri, yn nyddiau Usseia, Jotham, Ahas, a Heseceia, brenhinoedd Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas, brenin Israel. Dechrau ymadrodd yr Arglwydd trwy Hosea. Yr Arglwydd a ddywedodd wrth Hosea, Dos, cymer i ti wraig o odineb, a phlant o odineb: oherwydd y mae y wlad gan buteinio yn puteinio oddi ar ôl yr Arglwydd. Ac efe a aeth ac a gymerodd Gomer merch Diblaim; a hi a feichiogodd, ac a ddug iddo ef fab. A’r Arglwydd a ddywedodd wrtho, Galw ei enw ef Jesreel: canys ar fyrder y dialaf waed Jesreel ar dŷ Jehu, ac y gwnaf i frenhiniaeth tŷ Israel ddarfod. A’r dydd hwnnw y torraf fwa Israel yng nglyn Jesreel.

A hi a feichiogodd eilwaith, ac a esgorodd ar ferch. A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Galw ei henw hi Lo‐rwhama; am na chwanegaf drugarhau wrth dŷ Israel; eithr dygaf hwynt ymaith yn llwyr. Ac eto mi a drugarhaf wrth dŷ Jwda, ac a’u cadwaf hwynt trwy yr Arglwydd eu Duw; ac nid â bwa, nac â chleddyf, nac â rhyfel, nac â meirch nac â marchogion, y cadwaf hwynt.

A hi a ddiddyfnodd Lo‐rwhama, ac a feichiogodd, ac a esgorodd ar fab. A Duw a ddywedodd, Galw ei enw ef Lo‐ammi: canys nid ydych bobl i mi, ac ni byddaf i chwithau yn Dduw.

10 Eto bydd nifer meibion Israel fel tywod y môr, yr hwn nis mesurir, ac nis cyfrifir: a bydd, yn y man lle y dywedwyd wrthynt, Nid pobl i mi ydych chwi, y dywedir yno wrthynt, Meibion y Duw byw ydych. 11 Yna meibion Jwda a meibion Israel a gesglir ynghyd, a hwy a osodant iddynt un pen; a deuant i fyny o’r tir: canys mawr fydd dydd Jesreel.

Dywedwch wrth eich brodyr, Ammi; ac wrth eich chwiorydd, Rwhama. Dadleuwch â’ch mam, dadleuwch: canys nid fy ngwraig yw hi, ac nid ei gŵr hi ydwyf finnau: bwried hithau ymaith ei phuteindra o’i golwg, a’i godineb oddi rhwng ei bronnau; Rhag i mi ei diosg hi yn noeth lymun, a’i gosod fel y dydd y ganed hi, a’i gwneuthur fel anialwch, a’i gosod fel tir diffaith, a’i lladd â syched. Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb. Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr, fy ngwlân a’m llin, fy olew a’m diodydd.

Am hynny wele, mi a gaeaf i fyny dy ffordd di â drain, ac a furiaf fur, fel na chaffo hi ei llwybrau. A hi a ddilyn ei chariadau, ond nis goddiwedd hwynt; a hi a’u cais hwynt, ond nis caiff: yna y dywed, Af a dychwelaf at fy ngŵr cyntaf; canys gwell oedd arnaf fi yna nag yr awr hon. Ac ni wyddai hi mai myfi a roddais iddi ŷd, a gwin, ac olew, ac a amlheais ei harian a’i haur, y rhai a ddarparasant hwy i Baal. Am hynny y dychwelaf, a chymeraf fy ŷd yn ei amser, a’m gwin yn ei dymor; a dygaf ymaith fy ngwlân a’m llin a guddiai ei noethni hi. 10 A mi a ddatguddiaf bellach ei brynti hi yng ngolwg ei chariadau; ac nis gwared neb hi o’m llaw i. 11 Gwnaf hefyd i’w holl orfoledd hi, ei gwyliau, ei newyddleuadau, a’i Sabothau, a’i holl uchel wyliau, beidio. 12 A mi a anrheithiaf ei gwinwydd hi a’i ffigyswydd, am y rhai y dywedodd, Dyma fy ngwobrwyon y rhai a roddodd fy nghariadau i mi; ac mi a’u gosodaf yn goedwig, a bwystfilod y maes a’u difa hwynt. 13 A mi a ymwelaf â hi am ddyddiau Baalim, yn y rhai y llosgodd hi arogl‐darth iddynt, ac y gwisgodd ei chlustfodrwyau a’i thlysau, ac yr aeth ar ôl ei chariadau, ac yr anghofiodd fi, medd yr Arglwydd.

14 Am hynny wele, mi a’i denaf hi, ac a’i dygaf i’r anialwch, ac a ddywedaf wrth fodd ei chalon. 15 A mi a roddaf iddi ei gwinllannoedd o’r fan honno, a dyffryn Achor yn ddrws gobaith; ac yno y cân hi, fel yn nyddiau ei hieuenctid, ac megis yn y dydd y daeth hi i fyny o wlad yr Aifft. 16 Y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y’m gelwi Issi, ac ni’m gelwi mwyach Baali. 17 Canys bwriaf enwau Baalim allan o’i genau hi, ac nis coffeir hwy mwyach wrth eu henwau. 18 A’r dydd hwnnw y gwnaf amod drostynt ag anifeiliaid y maes, ac ag ehediaid y nefoedd, ac ag ymlusgiaid y ddaear; a’r bwa, a’r cleddyf, a’r rhyfel, a dorraf ymaith o’r ddaear, a gwnaf iddynt orwedd yn ddiogel. 19 A mi a’th ddyweddïaf â mi fy hun yn dragywydd; ie, dyweddïaf di â mi fy hun mewn cyfiawnder, ac mewn barn, ac mewn tiriondeb, ac mewn trugareddau. 20 A dyweddïaf di â mi mewn ffyddlondeb; a thi a adnabyddi yr Arglwydd. 21 A’r dydd hwnnw y gwrandawaf, medd yr Arglwydd, ar y nefoedd y gwrandawaf; a hwythau a wrandawant ar y ddaear; 22 A’r ddaear a wrendy ar yr ŷd, a’r gwin, a’r olew; a hwythau a wrandawant ar Jesreel. 23 A mi a’i heuaf hi i mi fy hun yn y ddaear, ac a drugarhaf wrth yr hon ni chawsai drugaredd; ac a ddywedaf wrth y rhai nid oedd bobl i mi, Fy mhobl wyt ti: a hwythau a ddywedant, O fy Nuw.

Yna yr Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos eto, câr wraig, (hoff gan ei chyfaill, a hithau wedi torri ei phriodas,) yn ôl cariad yr Arglwydd ar feibion Israel, a hwythau yn edrych ar ôl duwiau dieithr, ac yn hoffi costrelau gwin. A mi a’i prynais hi i mi er pymtheg o arian, ac er homer o haidd, a hanner homer o haidd: A dywedais wrthi, Aros amdanaf lawer o ddyddiau; na phuteinia, ac na fydd i ŵr arall: a minnau a fyddaf felly i tithau. Canys llawer o ddyddiau yr erys meibion Israel heb frenin, a heb dywysog, a heb aberth, a heb ddelw, a heb effod, a heb deraffim. Wedi hynny y dychwel meibion Israel, ac y ceisiant yr Arglwydd eu Duw, a Dafydd eu brenin; ac a barchant yr Arglwydd a’i ddaioni yn y dyddiau diwethaf.

Meibion Israel, gwrandewch air yr Arglwydd: canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o Dduw, yn y wlad. Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed. Am hynny y galara y wlad, ac y llesgâ oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd; pysgod y môr hefyd a ddarfyddant. Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad. Am hynny ti a syrthi y dydd, a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.

Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybodaeth, minnau a’th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dy Dduw, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd. Fel yr amlhasant, felly y pechasant i’m herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth. Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon. A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd. 10 Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhânt; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr Arglwydd. 11 Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.

12 Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion, a’u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu Duw. 13 Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl‐darth, dan y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a’ch gwragedd a dorrant briodas. 14 Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont, nac â’ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a’r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant.

15 Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth‐afen; ac na thyngwch, Byw yw yr Arglwydd. 16 Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr Arglwydd yr awr hon a’u portha hwynt fel oen mewn ehangder. 17 Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo. 18 Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi. 19 Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau.

Datguddiad 1

Datguddiad Iesu Grist, yr hwn a roddes Duw iddo ef, i ddangos i’w wasanaethwyr y pethau sydd raid eu dyfod i ben ar fyrder; a chan ddanfon trwy ei angel, efe a’i hysbysodd i’w wasanaethwr Ioan: Yr hwn a dystiolaethodd air Duw, a thystiolaeth Iesu Grist, a’r holl bethau a welodd. Dedwydd yw’r hwn sydd yn darllen, a’r rhai sydd yn gwrando geiriau’r broffwydoliaeth hon, ac yn cadw y pethau sydd yn ysgrifenedig ynddi: canys y mae’r amser yn agos.

Ioan at y saith eglwys sydd yn Asia: Gras fyddo i chwi, a thangnefedd, oddi wrth yr hwn sydd, a’r hwn a fu, a’r hwn sydd ar ddyfod; ac oddi wrth y saith Ysbryd sydd gerbron ei orseddfainc ef; Ac oddi wrth Iesu Grist, yr hwn yw y Tyst ffyddlon, y Cyntaf-anedig o’r meirw, a Thywysog brenhinoedd y ddaear. Iddo ef yr hwn a’n carodd ni, ac a’n golchodd ni oddi wrth ein pechodau yn ei waed ei hun, Ac a’n gwnaeth ni yn frenhinoedd ac yn offeiriaid i Dduw a’i Dad ef; iddo ef y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Wele, y mae efe yn dyfod gyda’r cymylau; a phob llygad a’i gwêl ef, ie, y rhai a’i gwanasant ef: a holl lwythau’r ddaear a alarant o’i blegid ef. Felly, Amen. Mi yw Alffa ac Omega, y dechrau a’r diwedd, medd yr Arglwydd, yr hwn sydd, a’r hwn oedd, a’r hwn sydd i ddyfod, yr Hollalluog. Myfi Ioan, yr hwn wyf hefyd eich brawd, a’ch cydymaith mewn cystudd, ac yn nheyrnas ac amynedd Iesu Grist, oeddwn yn yr ynys a elwir Patmos, am air Duw, ac am dystiolaeth Iesu Grist. 10 Yr oeddwn i yn yr ysbryd ar ddydd yr Arglwydd; ac a glywais o’r tu ôl i mi lef fawr fel llais utgorn, 11 Yn dywedyd, Mi yw Alffa ac Omega, y cyntaf a’r diwethaf: a’r hyn yr wyt yn ei weled, ysgrifenna mewn llyfr, a danfon i’r saith eglwys y rhai sydd yn Asia; i Effesus, ac i Smyrna, ac i Pergamus, ac i Thyatira, ac i Sardis, a Philadelffia, a Laodicea. 12 Ac mi a droais i weled y llef a lefarai wrthyf. Ac wedi i mi droi, mi a welais saith ganhwyllbren aur; 13 Ac yng nghanol y saith ganhwyllbren, un tebyg i Fab y dyn, wedi ymwisgo â gwisg laes hyd ei draed, ac wedi ymwregysu ynghylch ei fronnau â gwregys aur. 14 Ei ben ef a’i wallt oedd wynion fel gwlân, cyn wynned â’r eira; a’i lygaid fel fflam dân; 15 A’i draed yn debyg i bres coeth, megis yn llosgi mewn ffwrn; a’i lais fel sŵn llawer o ddyfroedd. 16 Ac yr oedd ganddo yn ei law ddeau saith seren: ac o’i enau yr oedd cleddau llym daufiniog yn dyfod allan: a’i wynepryd fel yr haul yn disgleirio yn ei nerth. 17 A phan welais ef, mi a syrthiais wrth ei draed ef fel marw. Ac efe a osododd ei law ddeau arnaf fi, gan ddywedyd wrthyf, Nac ofna; myfi yw’r cyntaf a’r diwethaf: 18 A’r hwn wyf fyw, ac a fûm farw; ac wele, byw ydwyf yn oes oesoedd, Amen; ac y mae gennyf agoriadau uffern a marwolaeth. 19 Ysgrifenna’r pethau a welaist, a’r pethau sydd, a’r pethau a fydd ar ôl hyn; 20 Dirgelwch y saith seren a welaist yn fy llaw ddeau, a’r saith ganhwyllbren aur. Y saith seren, angylion y saith eglwys ydynt: a’r saith ganhwyllbren a welaist, y saith eglwys ydynt.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.