Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Amos 1-3

Geiriau Amos, (yr hwn oedd ymysg bugeiliaid Tecoa,) y rhai a welodd efe am Israel, yn nyddiau Usseia brenin Jwda, ac yn nyddiau Jeroboam mab Joas brenin Israel, ddwy flynedd o flaen y ddaeargryn. Ac efe a ddywedodd, Yr Arglwydd a rua o Seion, ac a rydd ei lef o Jerwsalem; a chyfanheddau y bugeiliaid a alarant, a phen Carmel a wywa. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oherwydd tair o anwireddau Damascus, ac oherwydd pedair, ni throaf ymaith ei chosb hi: am iddynt ddyrnu Gilead ag offer dyrnu o heyrn. Ond anfonaf dân i dŷ Hasael, ac efe a ddifa balasau Benhadad. Drylliaf drosol Damascus, a thorraf ymaith y preswylwyr o ddyffryn Afen, a’r hwn sydd yn dal teyrnwialen o dŷ Eden; a phobl Syria a ânt yn gaeth i Cir, medd yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Gasa, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt gaethgludo y gaethiwed gyflawn, i’w rhoddi i fyny i Edom. Eithr anfonaf dân ar fur Gasa, ac efe a ddifa ei phalasau hi. A mi a dorraf y preswylwyr o Asdod, a’r hwn a ddeil deyrnwialen o Ascalon; a throaf fy llaw yn erbyn Ecron, a derfydd am weddill y Philistiaid, medd yr Arglwydd Dduw.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Tyrus, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; oherwydd iddynt hwy roddi i fyny gwbl o’r gaethiwed i Edom, ac na chofiasant y cyfamod brawdol. 10 Eithr anfonaf dân i fur Tyrus, ac efe a ddifa ei phalasau hi.

11 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Edom, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo erlid ei frawd â’r cleddyf, a llygru ei drugaredd, a bod ei ddig yn rhwygo yn wastadol, a’i fod yn cadw ei lid yn dragwyddol. 12 Eithr anfonaf dân i Teman, yr hwn a ddifa balasau Bosra.

13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau meibion Ammon, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt hwy rwygo gwragedd beichiogion Gilead, er mwyn helaethu eu terfynau. 14 Eithr cyneuaf dân ym mur Rabba, ac efe a ddifa ei phalasau, gyda gwaedd ar ddydd y rhyfel, gyda thymestl ar ddydd corwynt. 15 A’u brenin a â yn gaeth, efe a’i benaethiaid ynghyd, medd yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Moab, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddo losgi esgyrn brenin Edom yn galch. Eithr anfonaf dân i Moab, yr hwn a ddifa balasau Cerioth: a Moab fydd marw mewn terfysg, gweiddi, a llais utgorn. A mi a dorraf ymaith y barnwr o’i chanol hi, a’i holl bendefigion a laddaf gydag ef, medd yr Arglwydd.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Jwda, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt ddirmygu cyfraith yr Arglwydd, ac na chadwasant ei ddeddfau ef; a’u celwyddau a’u cyfeiliornodd hwynt, y rhai yr aeth eu tadau ar eu hôl. Eithr anfonaf dân i Jwda, ac efe a ddifa balasoedd Jerwsalem.

Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Am dair o anwireddau Israel, ac am bedair, ni throaf ymaith ei chosb hi; am iddynt werthu y cyfiawn am arian, a’r tlawd er pâr o esgidiau: Y rhai a ddyheant ar ôl llwch y ddaear ar ben y tlodion, ac a wyrant ffordd y gostyngedig: a gŵr a’i dad a â at yr un llances, i halogi fy enw sanctaidd. Ac ar ddillad wedi eu rhoi yng ngwystl y gorweddant wrth bob allor; a gwin y dirwyol a yfant yn nhŷ eu duw.

Eto myfi a ddinistriais yr Amoriad o’u blaen hwynt, yr hwn yr oedd ei uchder fel uchder y cedrwydd, ac efe oedd gryf fel derw; eto mi a ddinistriais ei ffrwythau oddi arnodd, a’i wraidd oddi tanodd. 10 Myfi hefyd a’ch dygais chwi i fyny o wlad yr Aifft, ac a’ch arweiniais chwi ddeugain mlynedd trwy yr anialwch, i feddiannu gwlad yr Amoriad. 11 A mi a gyfodais o’ch meibion chwi rai yn broffwydi, ac o’ch gwŷr ieuainc rai yn Nasareaid. Oni bu hyn, O meibion Israel? medd yr Arglwydd 12 Ond chwi a roesoch i’r Nasareaid win i’w yfed; ac a orchmynasoch i’ch proffwydi, gan ddywedyd, Na phroffwydwch. 13 Wele fi wedi fy llethu tanoch fel y llethir y fen lawn o ysgubau. 14 A metha gan y buan ddianc, a’r cryf ni chadarnha ei rym, a’r cadarn ni wared ei enaid ei hun: 15 Ni saif a ddalio y bwa, ni ddianc y buan o draed, nid achub marchog march ei einioes ei hun. 16 A’r cryfaf ei galon o’r cedyrn a ffy y dwthwn hwnnw yn noeth lymun medd yr Arglwydd.

Gwrandewch y gair a lefarodd yr Arglwydd i’ch erbyn chwi, plant Israel, yn erbyn yr holl deulu a ddygais i fyny o wlad yr Aifft, gan ddywedyd, Chwi yn unig a adnabûm o holl deuluoedd y ddaear: am hynny ymwelaf â chwi am eich holl anwireddau. A rodia dau ynghyd, heb fod yn gytûn? A rua y llew yn y goedwig, heb ganddo ysglyfaeth? a leisia cenau llew o’i ffau, heb ddal dim? A syrth yr aderyn yn y fagl ar y ddaear, heb fod croglath iddo? a gyfyd un y fagl oddi ar y ddaear, heb ddal dim? A genir utgorn yn y ddinas, heb ddychrynu o’r bobl? a fydd niwed yn y ddinas, heb i’r Arglwydd ei wneuthur? Canys ni wna yr Arglwydd ddim, a’r nas dangoso ei gyfrinach i’w weision y proffwydi. Rhuodd y llew, pwy nid ofna? yr Arglwydd Iôr a lefarodd, pwy ni phroffwyda?

Cyhoeddwch o fewn y palasau yn Asdod, ac yn y palasau yng ngwlad yr Aifft, a dywedwch, Deuwch ynghyd ar fynyddoedd Samaria, a gwelwch derfysgoedd lawer o’i mewn, a’r gorthrymedigion yn ei chanol hi. 10 Canys ni fedrant wneuthur uniondeb, medd yr Arglwydd: pentyrru y maent drais ac ysbail yn eu palasau. 11 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gelyn fydd o amgylch y tir; ac efe a dynn i lawr dy nerth oddi wrthyt, a’th balasoedd a ysbeilir. 12 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Fel yr achub y bugail o safn y llew y ddwy goes, neu ddarn o glust; felly yr achubir meibion Israel y rhai sydd yn trigo yn Samaria mewn cwr gwely, ac yn Damascus mewn gorweddle. 13 Gwrandewch, a thystiolaethwch yn nhŷ Jacob, medd yr Arglwydd Dduw, Duw y lluoedd, 14 Mai y dydd yr ymwelaf ag anwiredd Israel arno ef, y gofwyaf hefyd allorau Bethel: a chyrn yr allor a dorrir, ac a syrthiant i’r llawr. 15 A mi a drawaf y gaeafdy a’r hafdy; a derfydd am y tai ifori, a bydd diben ar y teiau mawrion, medd yr Arglwydd.

Datguddiad 6

Ac mi a welais pan agorodd yr Oen un o’r seliau, ac mi a glywais un o’r pedwar anifail yn dywedyd, fel trwst taran, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch gwyn: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a bwa ganddo; a rhoddwyd iddo goron: ac efe a aeth allan yn gorchfygu, ac i orchfygu. A phan agorodd efe yr ail sêl, mi a glywais yr ail anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac fe aeth allan farch arall, un coch: a’r hwn oedd yn eistedd arno, y rhoddwyd iddo gymryd heddwch oddi ar y ddaear, fel y lladdent ei gilydd: a rhoddwyd iddo ef gleddyf mawr. A phan agorodd efe y drydedd sêl, mi a glywais y trydydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a welais; ac wele farch du: a’r hwn oedd yn eistedd arno, a chlorian ganddo yn ei law. Ac mi a glywais lais yng nghanol y pedwar anifail, yn dywedyd, Mesur o wenith er ceiniog, a thri mesur o haidd er ceiniog; a’r olew a’r gwin, na wna niwed iddynt. A phan agorodd efe y bedwaredd sêl, mi a glywais lais y pedwerydd anifail yn dywedyd, Tyred, a gwêl. Ac mi a edrychais: ac wele farch gwelw-las: ac enw’r hwn oedd yn eistedd arno oedd Marwolaeth; ac yr oedd Uffern yn canlyn gydag ef. A rhoddwyd iddynt awdurdod ar y bedwaredd ran o’r ddaear, i ladd â chleddyf, ac â newyn, ac â marwolaeth, ac â bwystfilod y ddaear. A phan agorodd efe y bumed sêl, mi a welais dan yr allor eneidiau’r rhai a laddesid am air Duw, ac am y dystiolaeth oedd ganddynt. 10 A hwy a lefasant â llef uchel, gan ddywedyd, Pa hyd, Arglwydd, sanctaidd a chywir, nad ydwyt yn barnu ac yn dial ein gwaed ni ar y rhai sydd yn trigo ar y ddaear? 11 A gynau gwynion a roed i bob un ohonynt; a dywedwyd wrthynt, ar iddynt orffwys eto ychydig amser, hyd oni chyflawnid rhif eu cyd-weision a’u brodyr, y rhai oedd i gael eu lladd, megis ag y cawsent hwythau. 12 Ac mi a edrychais pan agorodd efe y chweched sêl; ac wele, bu daeargryn mawr; a’r haul a aeth yn ddu fel sachlen flew, a’r lleuad a aeth fel gwaed; 13 A sêr y nef a syrthiasant ar y ddaear, fel y mae’r ffigysbren yn bwrw ei ffigys gleision, pan ei hysgydwer gan wynt mawr. 14 A’r nef a aeth heibio fel llyfr wedi ei blygu ynghyd; a phob mynydd ac ynys a symudwyd allan o’u lleoedd. 15 A brenhinoedd y ddaear, a’r gwŷr mawr, a’r cyfoethogion, a’r pen-capteiniaid, a’r gwŷr cedyrn, a phob gŵr caeth, a phob gŵr rhydd, a ymguddiasant yn yr ogofeydd, ac yng nghreigiau’r mynyddoedd; 16 Ac a ddywedasant wrth y mynyddoedd a’r creigiau, Syrthiwch arnom ni, a chuddiwch ni o ŵydd yr hwn sydd yn eistedd ar yr orseddfainc, ac oddi wrth lid yr Oen: 17 Canys daeth dydd mawr ei ddicter ef; a phwy a ddichon sefyll?

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.