Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Daniel 11-12

11 Ac yn y flwyddyn gyntaf i Dareius y Mediad, y sefais i i’w gryfhau ac i’w nerthu ef. Ac yr awr hon y gwirionedd a fynegaf i ti; Wele, tri brenin eto a safant o fewn Persia, a’r pedwerydd a fydd gyfoethocach na hwynt oll: ac fel yr ymgadarnhao efe yn ei gyfoeth, y cyfyd efe bawb yn erbyn teyrnas Groeg. A brenin cadarn a gyfyd, ac a lywodraetha â llywodraeth fawr, ac a wna fel y mynno. A phan safo efe, dryllir ei deyrnas, ac a’i rhennir tua phedwar gwynt y nefoedd; ac nid i’w hiliogaeth ef, nac fel ei lywodraeth a lywodraethodd efe: oherwydd ei frenhiniaeth ef a ddiwreiddir i eraill heblaw y rhai hynny.

Yna y cryfha brenin y deau, ac un o’i dywysogion: ac efe a gryfha uwch ei law ef, ac a lywodraetha: llywodraeth fawr fydd ei lywodraeth ef. Ac yn niwedd blynyddoedd yr ymgysylltant; canys merch brenin y deau a ddaw at frenin y gogledd i wneuthur cymod; ond ni cheidw hi nerth y braich; ac ni saif yntau, na’i fraich: eithr rhoddir hi i fyny, a’r rhai a’i dygasant hi, a’r hwn a’i cenhedlodd hi, a’i chymhorthwr, yn yr amseroedd hyn. Eithr yn ei le ef y saif un allan o flaguryn ei gwraidd hi, yr hwn a ddaw â llu, ac a â i amddiffynfa brenin y gogledd, ac a wna yn eu herbyn hwy, ac a orchfyga; Ac a ddwg hefyd i gaethiwed i’r Aifft, eu duwiau hwynt, a’u tywysogion, a’u dodrefn annwyl o arian ac aur; ac efe a bery fwy o flynyddoedd na brenin y gogledd. A brenin y deau a ddaw i’w deyrnas, ac a ddychwel i’w dir ei hun. 10 A’i feibion a gyffroir, ac a gasglant dyrfa o luoedd mawrion: a chan ddyfod y daw un, ac a lifeiria, ac a â trosodd: yna efe a ddychwel, ac a gyffroir hyd ei amddiffynfa ef. 11 Yna y cyffry brenin y deau, ac yr â allan, ac a ymladd ag ef, sef â brenin y gogledd: ac efe a gyfyd dyrfa fawr; ond y dyrfa a roddir i’w law ef. 12 Pan gymerer ymaith y dyrfa, yr ymddyrchafa ei galon, ac efe a gwympa fyrddiwn; er hynny ni bydd efe gryf. 13 Canys brenin y gogledd a ddychwel, ac a gyfyd dyrfa fwy na’r gyntaf, ac ymhen ennyd o flynyddoedd, gan ddyfod y daw â llu mawr, ac â chyfoeth mawr. 14 Ac yn yr amseroedd hynny llawer a safant yn erbyn brenin y deau; a’r ysbeilwyr o’th bobl a ymddyrchafant i sicrhau y weledigaeth; ond hwy a syrthiant. 15 Yna y daw brenin y gogledd, ac a fwrw glawdd, ac a ennill y dinasoedd caerog, ond breichiau y deau ni wrthsafant, na’i bobl ddewisol ef; ac ni bydd nerth i sefyll. 16 A’r hwn a ddaw yn ei erbyn ef a wna fel y mynno, ac ni bydd a safo o’i flaen; ac efe a saif yn y wlad hyfryd, a thrwy ei law ef y difethir hi. 17 Ac efe a esyd ei wyneb ar fyned â chryfder ei holl deyrnas, a rhai uniawn gydag ef; fel hyn y gwna: ac efe a rydd iddo ferch gwragedd, gan ei llygru hi; ond ni saif hi ar ei du ef, ac ni bydd hi gydag ef. 18 Yna y try efe ei wyneb at yr ynysoedd, ac a ennill lawer; ond pennaeth a bair i’w warth ef beidio, er ei fwyn ei hun, heb warth iddo ei hun: efe a’i detry arno ef. 19 Ac efe a dry ei wyneb at amddiffynfeydd ei dir ei hun: ond efe a dramgwydda, ac a syrth, ac nis ceir ef. 20 Ac yn ei le ef y saif un a gyfyd drethau yng ngogoniant y deyrnas; ond o fewn ychydig ddyddiau y distrywir ef; ac nid mewn dig, nac mewn rhyfel. 21 Ac yn ei le yntau y saif un dirmygus, ac ni roddant iddo ogoniant y deyrnas: eithr efe a ddaw i mewn yn heddychol, ac a ymeifl yn y frenhiniaeth trwy weniaith. 22 Ac â breichiau llifeiriant y llifir trostynt o’i flaen ef, ac y dryllir hwynt, a thywysog y cyfamod hefyd. 23 Ac wedi ymgyfeillach ag ef, y gwna efe dwyll: canys efe a ddaw i fyny, ac a ymgryfha ag ychydig bobl. 24 I’r dalaith heddychol a bras y daw efe, ac a wna yr hyn ni wnaeth ei dadau, na thadau ei dadau: ysglyfaeth, ac ysbail, a golud, a daena efe yn eu mysg: ac ar gestyll y bwriada efe ei fwriadau, sef dros amser. 25 Ac efe a gyfyd ei nerth a’i galon yn erbyn brenin y deau â llu mawr: a brenin y deau a ymesyd i ryfel â llu mawr a chryf iawn; ond ni saif efe: canys bwriadant fwriadau yn ei erbyn ef. 26 Y rhai a fwytânt ran o’i fwyd ef a’i difethant ef, a’i lu ef a lifeiria; a llawer a syrth yn lladdedig. 27 A chalon y ddau frenin hyn fydd ar wneuthur drwg, ac ar un bwrdd y traethant gelwydd; ond ni thycia: canys eto y bydd y diwedd ar yr amser nodedig. 28 Ac efe a ddychwel i’w dir ei hun â chyfoeth mawr; a’i galon fydd yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel i’w wlad. 29 Ar amser nodedig y dychwel, ac y daw tua’r deau; ac ni bydd fel y daith gyntaf, neu fel yr olaf.

30 Canys llongau Chittim a ddeuant yn ei erbyn ef; am hynny yr ymofidia, ac y dychwel, ac y digia yn erbyn y cyfamod sanctaidd: felly y gwna efe, ac y dychwel; ac efe a ymgynghora â’r rhai a adawant y cyfamod sanctaidd. 31 Breichiau hefyd a safant ar ei du ef, ac a halogant gysegr yr amddiffynfa, ac a ddygant ymaith y gwastadol aberth, ac a osodant yno y ffieidd‐dra anrheithiol. 32 A throseddwyr y cyfamod a lygra efe trwy weniaith: eithr y bobl a adwaenant eu Duw, a fyddant gryfion, ac a ffynnant. 33 A’r rhai synhwyrol ymysg y bobl a ddysgant lawer; eto syrthiant trwy y cleddyf, a thrwy dân, trwy gaethiwed, a thrwy ysbail, ddyddiau lawer. 34 A phan syrthiant, â chymorth bychan y cymhorthir hwynt: eithr llawer a lŷn wrthynt hwy trwy weniaith. 35 A rhai o’r deallgar a syrthiant i’w puro, ac i’w glanhau, ac i’w cannu, hyd amser y diwedd: canys y mae eto dros amser nodedig. 36 A’r brenin a wna wrth ei ewyllys ei hun, ac a ymddyrcha, ac a ymfawryga uwchlaw pob duw; ac yn erbyn Duw y duwiau y traetha efe bethau rhyfedd, ac a lwydda nes diweddu y dicter; canys yr hyn a ordeiniwyd, a fydd. 37 Nid ystyria efe Dduw ei dadau, na serch ar wragedd, ie, nid ystyria un duw: canys goruwch pawb yr ymfawryga. 38 Ac efe a anrhydedda Dduw y nerthoedd yn ei le ef: ie, duw yr hwn nid adwaenai ei dadau a ogonedda efe ag aur ac ag arian, ac â meini gwerthfawr, ac â phethau dymunol. 39 Fel hyn y gwna efe yn yr amddiffynfeydd cryfaf gyda duw dieithr, yr hwn a gydnebydd efe, ac a chwanega ei ogoniant: ac a wna iddynt lywodraethu ar lawer, ac a ranna y tir am werth. 40 Ac yn amser y diwedd yr ymgornia brenin y deau ag ef, a brenin y gogledd a ddaw fel corwynt yn ei erbyn ef, â cherbydau, ac â marchogion, ac â llongau lawer; ac efe a ddaw i’r tiroedd, ac a lifa, ac a â trosodd. 41 Ac efe a ddaw i’r hyfryd wlad, a llawer o wledydd a syrthiant: ond y rhai hyn a ddihangant o’i law ef, Edom, a Moab, a phennaf meibion Ammon. 42 Ac efe a estyn ei law ar y gwledydd; a gwlad yr Aifft ni bydd dihangol. 43 Eithr efe a lywodraetha ar drysorau aur ac arian, ac ar holl annwyl bethau yr Aifft: y Libyaid hefyd a’r Ethiopiaid fyddant ar ei ôl ef. 44 Eithr chwedlau o’r dwyrain ac o’r gogledd a’i trallodant ef: ac efe a â allan mewn llid mawr i ddifetha, ac i ddifrodi llawer. 45 Ac efe a esyd bebyll ei lys rhwng y moroedd, ar yr hyfryd fynydd sanctaidd: eto efe a ddaw hyd ei derfyn, ac ni bydd cynorthwywr iddo.

12 Ac yn yr amser hwnnw y saif Michael y tywysog mawr, yr hwn sydd yn sefyll dros feibion dy bobl: yna y bydd amser blinder, y cyfryw ni bu er pan yw cenedl hyd yr amser hwnnw: ac yn yr amser hwnnw y gwaredir dy holl bobl, y rhai a gaffer yn ysgrifenedig yn y llyfr. A llawer o’r rhai sydd yn cysgu yn llwch y ddaear a ddeffroant, rhai i fywyd tragwyddol, a rhai i warth a dirmyg tragwyddol. A’r doethion a ddisgleiriant fel disgleirdeb y ffurfafen; a’r rhai a droant lawer i gyfiawnder, a fyddant fel y sêr byth yn dragywydd. Tithau, Daniel, cae ar y geiriau, a selia y llyfr hyd amser y diwedd: llawer a gyniweirant, a gwybodaeth a amlheir.

Yna myfi Daniel a edrychais, ac wele ddau eraill yn sefyll, un o’r tu yma ar fin yr afon, ac un arall o’r tu arall ar fin yr afon. Ac un a ddywedodd wrth yr hwn a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, Pa hyd fydd hyd ddiwedd y rhyfeddodau hyn? Clywais hefyd y gŵr, a wisgasid â lliain, yr hwn ydoedd ar ddyfroedd yr afon, pan ddyrchafodd efe ei law ddeau a’i aswy tua’r nefoedd, ac y tyngodd i’r hwn sydd yn byw yn dragywydd, y bydd dros amser, amserau, a hanner: ac wedi darfod gwasgaru nerth y bobl sanctaidd, y gorffennir hyn oll. Yna y clywais, ond ni ddeellais: eithr dywedais, O fy arglwydd, beth fydd diwedd y pethau hyn? Ac efe a ddywedodd, Dos, Daniel: canys caewyd a seliwyd y geiriau hyd amser y diwedd. 10 Llawer a burir, ac a gennir, ac a brofir; eithr y rhai drygionus a wnânt ddrygioni: ac ni ddeall yr un o’r rhai drygionus; ond y rhai doethion a ddeallant. 11 Ac o’r amser y tynner ymaith y gwastadol aberth, ac y gosoder i fyny y ffieidd‐dra anrheithiol, y bydd mil dau cant a deg a phedwar ugain o ddyddiau. 12 Gwyn ei fyd a ddisgwylio, ac a ddêl hyd y mil tri chant a phymtheg ar hugain o ddyddiau. 13 Dos dithau hyd y diwedd: canys gorffwysi, a sefi yn dy ran yn niwedd y dyddiau.

Jwdas

Jwdas, gwasanaethwr Iesu Grist, a brawd Iago, at y rhai a sancteiddiwyd gan Dduw Dad, ac a gadwyd yn Iesu Grist, ac a alwyd: Trugaredd i chwi, a thangnefedd, a chariad, a luosoger. Anwylyd, pan roddais bob diwydrwydd ar ysgrifennu atoch am yr iachawdwriaeth gyffredinol, anghenraid oedd i mi ysgrifennu atoch gan eich annog i ymdrech ym mhlaid y ffydd, yr hon a rodded unwaith i’r saint. Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i mewn, y rhai a ragordeiniwyd er ys talm i’r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi gras ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu’r unig Arglwydd Dduw, a’n Harglwydd Iesu Grist. Ewyllysio gan hynny yr ydwyf eich coffáu chwi, gan eich bod unwaith yn gwybod hyn; i’r Arglwydd, wedi iddo waredu’r bobl o dir yr Aifft, ddistrywio eilwaith y rhai ni chredasant. Yr angylion hefyd, y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr a adawsant eu trigfa eu hun, a gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol dan dywyllwch, i farn y dydd mawr. Megis y mae Sodom a Gomorra, a’r dinasoedd o’u hamgylch mewn cyffelyb fodd â hwynt, wedi puteinio, a myned ar ôl cnawd arall, wedi eu gosod yn esampl, gan ddioddef dialedd tân tragwyddol. Yr un ffunud hefyd y mae’r breuddwydwyr hyn yn halogi’r cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu’r rhai sydd mewn awdurdod. Eithr Michael yr archangel, pan oedd efe, wrth ymddadlau â diafol, yn ymresymu ynghylch corff Moses, ni feiddiodd ddwyn barn gablaidd arno, eithr efe a ddywedodd, Cerydded yr Arglwydd dydi. 10 Eithr y rhai hyn sydd yn cablu’r pethau nis gwyddant: a pha bethau bynnag y maent yn anianol, fel anifeiliaid direswm, yn eu gwybod, yn y rhai hynny ymlygru y maent. 11 Gwae hwynt-hwy! oblegid hwy a gerddasant yn ffordd Cain, ac a’u collwyd trwy dwyll gwobr Balaam, ac a’u difethwyd yng ngwrthddywediad Core. 12 Y rhai hyn sydd frychau yn eich cariad-wleddoedd chwi, yn cydwledda â chwi, yn ddi-ofn yn eu pesgi eu hunain: cymylau di-ddwfr ydynt, a gylcharweinir gan wyntoedd; prennau diflanedig heb ffrwyth, dwywaith yn feirw, wedi eu diwreiddio; 13 Tonnau cynddeiriog y môr, yn ewynnu allan eu cywilydd eu hunain; sêr gwibiog, i’r rhai y cadwyd niwl y tywyllwch yn dragywydd. 14 Ac Enoch hefyd, y seithfed o Adda, a broffwydodd am y rhai hyn, gan ddywedyd, Wele, y mae’r Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o’i saint, 15 I wneuthur barn yn erbyn pawb, ac i lwyr argyhoeddi’r holl rai annuwiol ohonynt am holl weithredoedd eu hannuwioldeb, y rhai a wnaethant hwy yn annuwiol, ac am yr holl eiriau caledion, y rhai a lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef. 16 Y rhai hyn sydd rwgnachwyr, tuchanwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig, yn mawrygu wynebau dynion er mwyn budd. 17 Eithr chwi, O rai annwyl, cofiwch y geiriau a ragddywedwyd gan apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; 18 Ddywedyd ohonynt i chwi, y bydd yn yr amser diwethaf watwarwyr, yn cerdded yn ôl eu chwantau annuwiol eu hunain. 19 Y rhai hyn yw’r rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. 20 Eithr chwychwi, anwylyd, gan eich adeiladu eich hunain ar eich sancteiddiaf ffydd, a gweddïo yn yr Ysbryd Glân, 21 Ymgedwch yng nghariad Duw, gan ddisgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist i fywyd tragwyddol. 22 A thrugarhewch wrth rai, gan wneuthur rhagor: 23 Eithr rhai cedwch trwy ofn, gan eu cipio hwy allan o’r tân; gan gasáu hyd yn oed y wisg a halogwyd gan y cnawd. 24 Eithr i’r hwn a ddichon eich cadw chwi yn ddi-gwymp, a’ch gosod gerbron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd, 25 I’r unig ddoeth Dduw, ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, gallu ac awdurdod, yr awr hon ac yn dragywydd. Amen.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.