Old/New Testament
1 Gweledigaeth Obadeia. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw am Edom; Clywsom sôn oddi wrth yr Arglwydd, a chennad a hebryngwyd ymysg y cenhedloedd; Codwch, a chyfodwn i ryfela yn ei herbyn hi. 2 Wele, mi a’th wneuthum yn fychan ymysg y cenhedloedd; dibris iawn wyt.
3 Balchder dy galon a’th dwyllodd: ti yr hwn wyt yn trigo yn holltau y graig, yn uchel ei drigfa; yr hwn a ddywed yn ei galon, Pwy a’m tyn i’r llawr? 4 Ped ymddyrchefit megis yr eryr, a phe rhoit dy nyth ymhlith y sêr, mi a’th ddisgynnwn oddi yno, medd yr Arglwydd. 5 Pe delai lladron atat, neu ysbeilwyr nos, (pa fodd y’th dorrwyd ymaith!) oni ladratasent hwy eu digon? pe delsai cynullwyr grawnwin atat, oni weddillasent rawn? 6 Pa fodd y chwiliwyd Esau, ac y ceisiwyd ei guddfeydd ef! 7 Yr holl wŷr y rhai yr oedd cyfamod rhyngot a hwynt, a’th yrasant hyd y terfyn; y gwŷr yr oedd heddwch rhyngot a hwynt, a’th dwyllasant, ac a’th orfuant, bwytawyr dy fara a roddasant archoll danat: nid oes deall ynddo. 8 Oni ddinistriaf y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y doethion allan o Edom, a’r deall allan o fynydd Esau? 9 Dy gedyrn di, Teman, a ofnant; fel y torrer ymaith bob un o fynydd Esau trwy laddfa.
10 Am dy draha yn erbyn dy frawd Jacob, gwarth a’th orchuddia, a thi a dorrir ymaith byth. 11 Y dydd y sefaist o’r tu arall, y dydd y caethgludodd estroniaid ei olud ef, a myned o ddieithriaid i’w byrth ef, a bwrw coelbrennau ar Jerwsalem, tithau hefyd oeddit megis un ohonynt. 12 Ond ni ddylesit ti edrych ar ddydd dy frawd, y dydd y dieithriwyd ef; ac ni ddylesit lawenychu o achos plant Jwda, y dydd y difethwyd hwynt; ac ni ddylesit ledu dy safn ar ddydd y cystudd. 13 Ni ddylesit ddyfod o fewn porth fy mhobl yn nydd eu haflwydd; ie, ni ddylesit edrych ar eu hadfyd yn nydd eu haflwydd; ac ni ddylesit estyn dy law ar eu golud yn nydd eu difethiad hwynt: 14 Ac ni ddylesit sefyll ar y croesffyrdd, i dorri ymaith y rhai a ddihangai ohono; ac ni ddylesit roi i fyny y gweddill ohono ar ddydd yr adfyd. 15 Canys agos yw dydd yr Arglwydd ar yr holl genhedloedd: fel y gwnaethost, y gwneir i tithau; dy wobr a ddychwel ar dy ben dy hun. 16 Canys megis yr yfasoch ar fy mynydd sanctaidd, felly yr holl genhedloedd a yfant yn wastad; ie, yfant, a llyncant, a byddant fel pe na buasent.
17 Ond ar fynydd Seion y bydd ymwared, ac y bydd sancteiddrwydd; a thŷ Jacob a berchenogant eu perchenogaeth hwynt. 18 Yna y bydd tŷ Jacob yn dân, a thŷ Joseff yn fflam, a thŷ Esau yn sofl, a chyneuant ynddynt, a difânt hwynt; ac ni bydd un gweddill o dŷ Esau: canys yr Arglwydd a’i dywedodd. 19 Goresgyn y deau hefyd fynydd Esau. a’r gwastadedd y Philistiaid; a pherchenogant feysydd Effraim, a meysydd Samaria, a Benjamin a feddianna Gilead; 20 A chaethglud y llu hwn o blant Israel, yr hyn a fu eiddo y Canaaneaid, hyd Sareffath; a chaethion Jerwsalem, y rhai sydd yn Seffarad, a feddiannant ddinasoedd y deau. 21 A gwaredwyr a ddeuant i fyny ar fynydd Seion i farnu mynydd Esau: a’r frenhiniaeth fydd eiddo yr Arglwydd.
9 A’r pumed angel a utganodd; ac mi a welais seren yn syrthio o’r nef i’r ddaear: a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod. 2 Ac efe a agorodd y pydew heb waelod; a chododd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a’r awyr gan fwg y pydew. 3 Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid ar y ddaear; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gan ysgorpionau’r ddaear awdurdod. 4 A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaear, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond yn unig i’r dynion oedd heb sêl Duw yn eu talcennau. 5 A rhoddwyd iddynt na laddent hwynt, ond bod iddynt eu blino hwy bum mis: ac y byddai eu gofid hwy fel gofid oddi wrth ysgorpion, pan ddarfyddai iddi frathu dyn. 6 Ac yn y dyddiau hynny y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac a chwenychant farw, a marwolaeth a gilia oddi wrthynt. 7 A dull y locustiaid oedd debyg i feirch wedi eu paratoi i ryfel; ac yr oedd ar eu pennau megis coronau yn debyg i aur, a’u hwynebau fel wynebau dynion. 8 A gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd, a’u dannedd oedd fel dannedd llewod. 9 Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haearn; a llais eu hadenydd oedd fel llais cerbydau llawer o feirch yn rhedeg i ryfel. 10 Ac yr oedd ganddynt gynffonnau tebyg i ysgorpionau, ac yr oedd colynnau yn eu cynffonnau hwy: a’u gallu oedd i ddrygu dynion bum mis. 11 Ac yr oedd ganddynt frenin arnynt, sef angel y pydew diwaelod: a’i enw ef yn Hebraeg ydyw Abadon, ac yn Roeg y mae iddo enw Apolyon. 12 Un wae a aeth heibio; wele, y mae yn dyfod eto ddwy wae ar ôl hyn. 13 A’r chweched angel a utganodd; ac mi a glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon sydd gerbron Duw. 14 Yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â’r utgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel sydd yn rhwym yn yr afon fawr Ewffrates. 15 A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu paratoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, fel y lladdent y traean o’r dynion. 16 A rhifedi’r llu o wŷr meirch oedd ddwy fyrddiwn o fyrddiynau: ac mi a glywais eu rhifedi hwynt. 17 Ac fel hyn y gwelais i’r meirch yn y weledigaeth, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt, a chanddynt lurigau tanllyd, ac o liw hyacinth a brwmstan: a phennau’r meirch oedd fel pennau llewod; ac yr oedd yn myned allan o’u safnau, dân, a mwg, a brwmstan. 18 Gan y tri hyn y llas traean y dynion, gan y tân, a chan y mwg, a chan y brwmstan, oedd yn dyfod allan o’u safnau hwynt. 19 Canys eu gallu hwy sydd yn eu safn, ac yn eu cynffonnau: canys y cynffonnau oedd debyg i seirff, a phennau ganddynt; ac â’r rhai hynny y maent yn drygu. 20 A’r dynion eraill, y rhai ni laddwyd gan y plâu hyn, nid edifarhasant oddi wrth weithredoedd eu dwylo eu hun, fel nad addolent gythreuliaid, a delwau aur, ac arian, a phres, a main, a phrennau, y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio: 21 Ac nid edifarhasant oddi wrth eu llofruddiaeth, nac oddi wrth eu cyfareddion, nac oddi wrth eu godineb, nac oddi wrth eu lladrad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.