Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Amos 7-9

Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele ef yn ffurfio ceiliogod rhedyn pan ddechreuodd yr adladd godi; ac wele, adladd wedi lladd gwair y brenin oedd. A phan ddarfu iddynt fwyta glaswellt y tir, yna y dywedais, Arbed, Arglwydd, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn, eb yr Arglwydd.

Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd Dduw i mi: ac wele yr Arglwydd Dduw yn galw i farn trwy dân; a difaodd y tân y dyfnder mawr, ac a ysodd beth. Yna y dywedais, Arglwydd Dduw, paid, atolwg: pwy a gyfyd Jacob? canys bychan yw. Edifarhaodd yr Arglwydd am hyn: Ni bydd hyn chwaith, eb yr Arglwydd Dduw.

Fel hyn y dangosodd efe i mi: ac wele yr Arglwydd yn sefyll ar gaer a wnaethpwyd wrth linyn, ac yn ei law linyn. A’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Beth a weli di, Amos? a mi a ddywedais, Llinyn. A’r Arglwydd a ddywedodd, Wele, gosodaf linyn yng nghanol fy mhobl Israel, ac ni chwanegaf fyned heibio iddynt mwyach. Uchelfeydd Isaac hefyd a wneir yn anghyfannedd, a chysegrau Israel a ddifethir; a mi a gyfodaf yn erbyn tŷ Jeroboam â’r cleddyf.

10 Yna Amaseia offeiriad Bethel a anfonodd at Jeroboam brenin Israel, gan ddywedyd, Cydfwriadodd Amos i’th erbyn yng nghanol tŷ Israel: ni ddichon y tir ddwyn ei holl eiriau ef. 11 Canys fel hyn y dywed Amos, Jeroboam a fydd farw trwy y cleddyf, ac Israel a gaethgludir yn llwyr allan o’i wlad. 12 Dywedodd Amaseia hefyd wrth Amos, Ti weledydd, dos, ffo ymaith i wlad Jwda; a bwyta fara yno, a phroffwyda yno: 13 Na chwanega broffwydo yn Bethel mwy: canys capel y brenin a llys y brenin yw.

14 Yna Amos a atebodd ac a ddywedodd wrth Amaseia, Nid proffwyd oeddwn i, ac nid mab i broffwyd oeddwn i: namyn bugail oeddwn i, a chasglydd ffigys gwylltion: 15 A’r Arglwydd a’m cymerodd oddi ar ôl y praidd; a’r Arglwydd a ddywedodd wrthyf, Dos, a phroffwyda i’m pobl Israel.

16 Yr awr hon gan hynny gwrando air yr Arglwydd; Ti a ddywedi, Na phroffwyda yn erbyn Israel, ac nac yngan yn erbyn tŷ Isaac. 17 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Dy wraig a buteinia yn y ddinas, dy feibion a’th ferched a syrthiant gan y cleddyf, a’th dir a rennir wrth linyn; a thithau a fyddi farw mewn tir halogedig, a chan gaethgludo y caethgludir Israel allan o’i wlad.

Fel hyn y dangosodd yr Arglwydd i mi; ac wele gawellaid o ffrwythydd haf. Ac efe a ddywedodd, Beth a weli di, Amos? A mi a ddywedais, Cawellaid o ffrwythydd haf. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Daeth y diwedd ar fy mhobl Israel; nid af heibio iddynt mwyach. Caniadau y deml hefyd a droir yn udo ar y dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw: llawer o gelaneddau a fydd ym mhob lle; bwrir hwynt allan yn ddistaw.

Gwrandewch hyn, y sawl ydych yn llyncu yr anghenog, i ddifa tlodion y tir, Gan ddywedyd, Pa bryd yr â y mis heibio, fel y gwerthom ŷd? a’r Saboth, fel y dygom allan y gwenith, gan brinhau yr effa, a helaethu y sicl, ac anghyfiawnu y cloriannau trwy dwyll? I brynu y tlawd er arian, a’r anghenus er pâr o esgidiau, ac i werthu gwehilion y gwenith? Tyngodd yr Arglwydd i ragorfraint Jacob, Diau nid anghofiaf byth yr un o’u gweithredoedd hwynt. Oni chrŷn y ddaear am hyn? ac oni alara ei holl breswylwyr? cyfyd hefyd i gyd fel llif; a bwrir hi ymaith, a hi a foddir, megis gan afon yr Aifft. A’r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd Dduw, y gwnaf i’r haul fachludo hanner dydd, a thywyllaf y ddaear liw dydd golau. 10 Troaf hefyd eich gwyliau yn alar, a’ch holl ganiadau yn oernad: dygaf sachliain ar yr holl lwynau, a moelni ar bob pen: a mi a’i gwnaf fel galar am unmab, a’i ddiwedd fel dydd chwerw.

11 Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd Dduw, yr anfonaf newyn i’r tir; nid newyn am fara, ac nid syched am ddwfr, ond am wrando geiriau yr Arglwydd. 12 A hwy a grwydrant o fôr i fôr, ac a wibiant o’r gogledd hyd y dwyrain, i geisio gair yr Arglwydd, ac nis cânt. 13 Y diwrnod hwnnw y gwyryfon glân a’r meibion ieuainc a ddiffoddant o syched. 14 Y rhai a dyngant i bechod Samaria, ac a ddywedant, Byw yw dy dduw di, O Dan; a, Byw yw ffordd Beerseba; hwy a syrthiant, ac ni chodant mwy.

Gwelais yr Arglwydd yn sefyll ar yr allor: ac efe a ddywedodd, Taro gapan y drws, fel y siglo y gorsingau; a thor hwynt oll yn y pen; minnau a laddaf y rhai olaf ohonynt â’r cleddyf: ni ffy ymaith ohonynt a ffo, ac ni ddianc ohonynt a ddihango. Pe cloddient hyd uffern, fy llaw a’u tynnai hwynt oddi yno; a phe dringent i’r nefoedd, mi a’u disgynnwn hwynt oddi yno: A phe llechent ar ben Carmel, chwiliwn, a chymerwn hwynt oddi yno; a phe ymguddient o’m golwg yng ngwaelod y môr, oddi yno y gorchmynnaf i’r sarff eu brathu hwynt: Ac os ânt i gaethiwed o flaen eu gelynion, oddi yno y gorchmynnaf i’r cleddyf, ac efe a’u lladd hwynt: a gosodaf fy ngolwg yn eu herbyn er drwg, ac nid er da iddynt. Ac Arglwydd Dduw y lluoedd a gyffwrdd â’r ddaear, a hi a dawdd; a galara pawb a’r a drig ynddi, a hi a gyfyd oll fel llifeiriant, ac a foddir megis gan afon yr Aifft. Yr hwn a adeilada ei esgynfeydd yn y nefoedd, ac a sylfaenodd ei fintai ar y ddaear, yr hwn a eilw ddyfroedd y môr, ac a’u tywallt ar wyneb y ddaear: Yr Arglwydd yw ei enw. Onid ydych chwi, meibion Israel, i mi fel meibion yr Ethiopiaid? medd yr Arglwydd: oni ddygais i fyny feibion Israel allan o dir yr Aifft, a’r Philistiaid o Cafftor, a’r Syriaid o Cir? Wele lygaid yr Arglwydd ar y deyrnas bechadurus, a mi a’i difethaf oddi ar wyneb y ddaear: ond ni lwyr ddifethaf dŷ Jacob, medd yr Arglwydd. Canys wele, myfi a orchmynnaf, ac a ogrynaf dŷ Israel ymysg yr holl genhedloedd, fel y gogrynir ŷd mewn gogr; ac ni syrth y gronyn lleiaf i’r llawr. 10 Holl bechaduriaid fy mhobl a fyddant feirw gan y cleddyf, y rhai a ddywedant, Ni oddiwedd drwg ni, ac ni achub ein blaen.

11 Y dydd hwnnw y codaf babell Dafydd, yr hon a syrthiodd, ac a gaeaf ei bylchau, ac a godaf ei hadwyau, ac a’i hadeiladaf fel yn y dyddiau gynt: 12 Fel y meddianno y rhai y gelwir fy enw arnynt, weddill Edom, a’r holl genhedloedd, medd yr Arglwydd, yr hwn a wna hyn. 13 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, y goddiwedd yr arddwr y medelwr, a sathrydd y grawnwin yr heuwr had; a’r mynyddoedd a ddefnynnant felyswin, a’r holl fryniau a doddant. 14 A dychwelaf gaethiwed fy mhobl Israel; a hwy a adeiladant y dinasoedd anghyfannedd, ac a’u preswyliant; a hwy a blannant winllannoedd, ac a yfant o’u gwin; gwnânt hefyd erddi, a bwytânt eu ffrwyth hwynt. 15 Ac mi a’u plannaf hwynt yn eu tir, ac nis diwreiddir hwynt mwyach o’u tir a roddais i iddynt, medd yr Arglwydd dy Dduw.

Datguddiad 8

Aphan agorodd efe y seithfed sêl, yr ydoedd gosteg yn y nef megis dros hanner awr. Ac mi a welais y saith angel y rhai oedd yn sefyll gerbron Duw: a rhoddwyd iddynt saith o utgyrn. Ac angel arall a ddaeth, ac a safodd gerbron yr allor, a thuser aur ganddo: a rhoddwyd iddo arogl-darth lawer, fel yr offrymai ef gyda gweddïau’r holl saint ar yr allor aur, yr hon oedd gerbron yr orseddfainc. Ac fe aeth mwg yr arogl-darth gyda gweddïau’r saint, o law yr angel i fyny gerbron Duw. A’r angel a gymerth y thuser, ac a’i llanwodd hi o dân yr allor, ac a’i bwriodd i’r ddaear: a bu lleisiau, a tharanau, a mellt, a daeargryn. A’r saith angel, y rhai oedd â’r saith utgorn ganddynt, a ymbaratoesant i utganu. A’r angel cyntaf a utganodd; a bu cenllysg a thân wedi eu cymysgu â gwaed, a hwy a fwriwyd i’r ddaear: a thraean y prennau a losgwyd, a’r holl laswellt a losgwyd. A’r ail angel a utganodd; a megis mynydd mawr yn llosgi gan dân a fwriwyd i’r môr: a thraean y môr a aeth yn waed; A bu farw traean y creaduriaid y rhai oedd yn y môr, ac â byw ynddynt; a thraean y llongau a ddinistriwyd. 10 A’r trydydd angel a utganodd; a syrthiodd o’r nef seren fawr yn llosgi fel lamp, a hi a syrthiodd ar draean yr afonydd, ac ar ffynhonnau’r dyfroedd; 11 Ac enw’r seren a elwir Wermod: ac aeth traean y dyfroedd yn wermod; a llawer o ddynion a fuant feirw gan y dyfroedd, oblegid eu myned yn chwerwon. 12 A’r pedwerydd angel a utganodd; a thrawyd traean yr haul, a thraean y lleuad, a thraean y sêr; fel y tywyllwyd eu traean hwynt, ac ni lewyrchodd y dydd ei draean, a’r nos yr un ffunud. 13 Ac mi a edrychais, ac a glywais angel yn ehedeg yng nghanol y nef, gan ddywedyd â llef uchel, Gwae, gwae, gwae, i’r rhai sydd yn trigo ar y ddaear, rhag lleisiau eraill utgorn y tri angel, y rhai sydd eto i utganu!

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.