Old/New Testament
8 Yn y drydedd flwyddyn o deyrnasiad Belsassar y brenin, yr ymddangosodd i mi weledigaeth, sef i myfi Daniel, wedi yr hon a ymddangosasai i mi ar y cyntaf. 2 Gwelais hefyd mewn gweledigaeth, (a bu pan welais, mai yn Susan y brenhinllys, yr hwn sydd o fewn talaith Elam, yr oeddwn i,) ie, gwelais mewn gweledigaeth, ac yr oeddwn i wrth afon Ulai. 3 Yna y cyfodais fy llygaid, ac a welais, ac wele ryw hwrdd yn sefyll wrth yr afon, a deugorn iddo; a’r ddau gorn oedd uchel, ac un yn uwch na’r llall; a’r uchaf a gyfodasai yn olaf. 4 Gwelwn yr hwrdd yn cornio tua’r gorllewin, tua’r gogledd, a thua’r deau, fel na safai un bwystfil o’i flaen ef; ac nid oedd a achubai o’i law ef; ond efe a wnaeth yn ôl ei ewyllys ei hun, ac a aeth yn fawr. 5 Ac fel yr oeddwn yn ystyried, wele hefyd fwch geifr yn dyfod o’r gorllewin, ar hyd wyneb yr holl ddaear, ac heb gyffwrdd â’r ddaear; ac i’r bwch yr oedd corn hynod rhwng ei lygaid. 6 Ac efe a ddaeth hyd at yr hwrdd deugorn a welswn i yn sefyll wrth yr afon, ac efe a redodd ato ef yn angerdd ei nerth. 7 Gwelais ef hefyd yn dyfod hyd at yr hwrdd, ac efe a fu chwerw wrtho, ac a drawodd yr hwrdd, ac a dorrodd ei ddau gorn ef, ac nid oedd nerth yn yr hwrdd i sefyll o’i flaen ef, eithr efe a’i bwriodd ef i lawr, ac a’i sathrodd ef; ac nid oedd a allai achub yr hwrdd o’i law ef. 8 Am hynny y bwch geifr a aeth yn fawr iawn; ac wedi ei gryfhau, torrodd y corn mawr: a chododd pedwar o rai hynod yn ei le ef, tua phedwar gwynt y nefoedd. 9 Ac o un ohonynt y daeth allan gorn bychan, ac a dyfodd yn rhagorol, tua’r deau, a thua’r dwyrain, a thua’r hyfryd wlad. 10 Aeth yn fawr hefyd hyd lu y nefoedd, a bwriodd i lawr rai o’r llu, ac o’r sêr, ac a’u sathrodd hwynt. 11 Ymfawrygodd hefyd hyd at dywysog y llu, a dygwyd ymaith yr offrwm gwastadol oddi arno ef, a bwriwyd ymaith le ei gysegr ef. 12 A rhoddwyd iddo lu yn erbyn yr offrwm beunyddiol oherwydd camwedd, ac efe a fwriodd y gwirionedd i lawr; felly y gwnaeth, ac y llwyddodd.
13 Yna y clywais ryw sant yn llefaru, a dywedodd rhyw sant arall wrth y rhyw sant hwnnw oedd yn llefaru, Pa hyd y bydd y weledigaeth am yr offrwm gwastadol, a chamwedd anrhaith i roddi y cysegr a’r llu yn sathrfa? 14 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Hyd ddwy fil a thri chant o ddiwrnodiau: yna y purir y cysegr.
15 A phan welais i Daniel y weledigaeth, a cheisio ohonof y deall, yna wele, safodd ger fy mron megis rhith gŵr. 16 A chlywais lais dyn rhwng glannau Ulai, ac efe a lefodd ac a ddywedodd, Gabriel, gwna i hwn ddeall y weledigaeth. 17 Ac efe a ddaeth yn agos i’r lle y safwn; a phan ddaeth, mi a ddychrynais, ac a syrthiais ar fy wyneb: ac efe a ddywedodd wrthyf, Deall, fab dyn; oherwydd y weledigaeth fydd yn amser y diwedd. 18 A thra yr oedd efe yn llefaru wrthyf, syrthiais mewn trymgwsg i lawr ar fy wyneb: ac efe a gyffyrddodd â mi, ac a’m cyfododd yn fy sefyll. 19 Dywedodd hefyd, Wele fi yn hysbysu i ti yr hyn a fydd yn niwedd y dicter; canys ar yr amser gosodedig y bydd y diwedd. 20 Yr hwrdd deugorn a welaist, yw brenhinoedd Media a Phersia. 21 A’r bwch blewog yw brenin Groeg; a’r corn mawr, yr hwn sydd rhwng ei lygaid ef, dyna y brenin cyntaf. 22 Lle y torrwyd ef, ac y cyfododd pedwar yn ei le, pedair brenhiniaeth a gyfodant o’r un genedl, ond nid un nerth ag ef. 23 A thua diwedd eu brenhiniaeth hwynt, pan gyflawner y troseddwyr, y cyfyd brenin wyneb‐greulon, ac yn deall damhegion. 24 A’i nerth ef a gryfha, ond nid trwy ei nerth ei hun; ac efe a ddinistria yn rhyfedd, ac a lwydda, ac a wna, ac a ddinistria y cedyrn, a’r bobl sanctaidd. 25 A thrwy ei gyfrwystra y ffynna ganddo dwyllo; ac efe a ymfawryga yn ei galon, a thrwy heddwch y dinistria efe lawer: ac efe a saif yn erbyn tywysog y tywysogion; ond efe a ddryllir heb law. 26 A gweledigaeth yr hwyr a’r bore, yr hon a draethwyd, sydd wirionedd: selia dithau y weledigaeth, oherwydd dros ddyddiau lawer y bydd. 27 Minnau Daniel a euthum yn llesg, ac a fûm glaf ennyd o ddyddiau; yna y cyfodais, ac y gwneuthum orchwyl y brenin, ac a synnais oherwydd y weledigaeth, ond nid oedd neb yn ei deall.
9 Yn y flwyddyn gyntaf i Dareius mab Ahasferus, o had y Mediaid, yr hwn a wnaethid yn frenin ar deyrnas y Caldeaid, 2 Yn y flwyddyn gyntaf o’i deyrnasiad ef, myfi Daniel a ddeellais wrth lyfrau rifedi y blynyddoedd, am y rhai y daethai gair yr Arglwydd at Jeremeia y proffwyd, y cyflawnai efe ddeng mlynedd a thrigain yn anghyfanhedd‐dra Jerwsalem.
3 Yna y troais fy wyneb at yr Arglwydd Dduw, i geisio trwy weddi ac ymbil, ynghyd ag ympryd, a sachliain, a lludw. 4 A gweddïais ar yr Arglwydd fy Nuw, a chyffesais, a dywedais, Atolwg, Arglwydd Dduw mawr ac ofnadwy, ceidwad cyfamod a thrugaredd i’r rhai a’i carant, ac i’r rhai a gadwant ei orchmynion; 5 Pechasom, a gwnaethom gamwedd, a buom anwir, gwrthryfelasom hefyd, sef trwy gilio oddi wrth dy orchmynion, ac oddi wrth dy farnedigaethau. 6 Ni wrandawsom chwaith ar y proffwydi dy weision, y rhai a lefarasant yn dy enw di wrth ein brenhinoedd, ein tywysogion, ein tadau, ac wrth holl bobl y tir. 7 I ti, Arglwydd, y perthyn cyfiawnder, ond i ni gywilydd wynebau, megis heddiw; i wŷr Jwda, ac i drigolion Jerwsalem, ac i holl Israel, yn agos ac ymhell, trwy yr holl wledydd lle y gyrraist hwynt, am eu camwedd a wnaethant i’th erbyn. 8 Arglwydd, y mae cywilydd wynebau i ni, i’n brenhinoedd, i’n tywysogion, ac i’n tadau, oherwydd i ni bechu i’th erbyn. 9 Gan yr Arglwydd ein Duw y mae trugareddau a maddeuant, er gwrthryfelu ohonom i’w erbyn. 10 Ni wrandawsom chwaith ar lais yr Arglwydd ein Duw, i rodio yn ei gyfreithiau ef, y rhai a roddodd efe o’n blaen ni trwy law ei weision y proffwydi. 11 Ie, holl Israel a droseddasant dy gyfraith di, sef trwy gilio rhag gwrando ar dy lais di: am hynny y tywalltwyd arnom ni y felltith a’r llw a ysgrifennwyd yng nghyfraith Moses gwasanaethwr Duw, am bechu ohonom yn ei erbyn ef. 12 Ac efe a gyflawnodd ei eiriau y rhai a lefarodd efe yn ein herbyn ni, ac yn erbyn ein barnwyr y rhai a’n barnent, gan ddwyn arnom ni ddialedd mawr; canys ni wnaethpwyd dan yr holl nefoedd megis y gwnaethpwyd ar Jerwsalem. 13 Megis y mae yn ysgrifenedig yng nghyfraith Moses y daeth yr holl ddrygfyd hyn arnom ni: eto nid ymbiliasom o flaen yr Arglwydd ein Duw, gan droi oddi wrth ein hanwiredd, a chan ddeall dy wirionedd di. 14 Am hynny y gwyliodd yr Arglwydd ar y dialedd, ac a’i dug arnom ni; oherwydd cyfiawn yw yr Arglwydd ein Duw yn ei holl weithredoedd y mae yn eu gwneuthur: canys ni wrandawsom ni ar ei lais ef. 15 Eto yr awr hon, O Arglwydd ein Duw, yr hwn a ddygaist dy bobl allan o wlad yr Aifft â llaw gref, ac a wnaethost i ti enw megis heddiw, nyni a bechasom, ni a wnaethom anwiredd.
16 O Arglwydd, yn ôl dy holl gyfiawnderau, atolwg, troer dy lidiowgrwydd a’th ddicter oddi wrth dy ddinas Jerwsalem, dy fynydd sanctaidd; oherwydd am ein pechodau, ac am anwireddau ein tadau, y mae Jerwsalem a’th bobl yn waradwydd i bawb o’n hamgylch. 17 Ond yr awr hon gwrando, O ein Duw ni, ar weddi dy was, ac ar ei ddeisyfiadau, a llewyrcha dy wyneb ar dy gysegr anrheithiedig, er mwyn yr Arglwydd. 18 Gostwng dy glust, O fy Nuw, a chlyw; agor dy lygaid, a gwêl ein hanrhaith ni, a’r ddinas y gelwir dy enw di arni: oblegid nid oherwydd ein cyfiawnderau ein hun yr ydym ni yn tywallt ein gweddïau ger dy fron, eithr oherwydd dy aml drugareddau di. 19 Clyw, Arglwydd; arbed, Arglwydd; ystyr, O Arglwydd, a gwna; nac oeda, er dy fwyn dy hun, O fy Nuw: oherwydd dy enw di a alwyd ar y ddinas hon, ac ar dy bobl.
20 A mi eto yn llefaru, ac yn gweddïo, ac yn cyffesu fy mhechod, a phechod fy mhobl Israel, ac yn tywallt fy ngweddi gerbron yr Arglwydd fy Nuw dros fynydd sanctaidd fy Nuw; 21 Ie, a mi eto yn llefaru mewn gweddi, yna y gŵr Gabriel, yr hwn a welswn mewn gweledigaeth yn y dechreuad, gan ehedeg yn fuan, a gyffyrddodd â mi ynghylch pryd yr offrwm prynhawnol. 22 Ac efe a barodd i mi ddeall, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd, Daniel, deuthum yn awr allan i beri i ti fedru deall. 23 Yn nechrau dy weddïau yr aeth y gorchymyn allan, ac mi a ddeuthum i’w fynegi i ti: canys annwyl ydwyt ti: ystyr dithau y peth, a deall y weledigaeth. 24 Deng wythnos a thrigain a derfynwyd ar dy bobl, ac ar dy ddinas sanctaidd i ddibennu camwedd, ac i selio pechodau, ac i wneuthur cymod dros anwiredd, ac i ddwyn cyfiawnder tragwyddol, ac i selio y weledigaeth a’r broffwydoliaeth, ac i eneinio y sancteiddiolaf. 25 Gwybydd gan hynny a deall, y bydd o fynediad y gorchymyn allan am adferu ac am adeiladu Jerwsalem, hyd y blaenor Meseia, saith wythnos, a dwy wythnos a thrigain: yr heol a adeiledir drachefn, a’r mur, sef mewn amseroedd blinion. 26 Ac wedi dwy wythnos a thrigain y lleddir y Meseia, ond nid o’i achos ei hun: a phobl y tywysog yr hwn a ddaw a ddinistria y ddinas a’r cysegr; a’i ddiwedd fydd trwy lifeiriant, a hyd ddiwedd y rhyfel y bydd dinistr anrheithiol. 27 Ac efe a sicrha y cyfamod â llawer dros un wythnos: ac yn hanner yr wythnos y gwna efe i’r aberth a’r bwyd‐offrwm beidio; a thrwy luoedd ffiaidd yr anrheithia efe hi, hyd oni thywallter y diben terfynedig ar yr anrheithiedig.
10 Yn y drydedd flwyddyn i Cyrus brenin Persia, y datguddiwyd peth i Daniel, yr hwn y gelwid ei enw Beltesassar; a’r peth oedd wir, ond yr amser nodedig oedd hir; ac efe a ddeallodd y peth, ac a gafodd wybod y weledigaeth. 2 Yn y dyddiau hynny y galerais i Daniel dair wythnos o ddyddiau. 3 Ni fwyteais fara blasus, ac ni ddaeth cig na gwin yn fy ngenau; gan ymiro hefyd nid ymirais, nes cyflawni tair wythnos o ddyddiau. 4 Ac yn y pedwerydd dydd ar hugain o’r mis cyntaf, fel yr oeddwn i wrth ymyl yr afon fawr, honno yw Hidecel; 5 Yna y cyfodais fy llygaid, ac yr edrychais, ac wele ryw ŵr wedi ei wisgo â lliain, a’i lwynau wedi eu gwregysu ag aur coeth o Uffas: 6 A’i gorff oedd fel maen beryl, a’i wyneb fel gwelediad mellten, a’i lygaid fel lampau tân, a’i freichiau a’i draed fel lliw pres gloyw, a sain ei eiriau fel sain tyrfa. 7 A mi Daniel yn unig a welais y weledigaeth; canys y dynion y rhai oedd gyda mi ni welsant y weledigaeth; eithr syrthiodd arnynt ddychryn mawr, fel y ffoesant i ymguddio. 8 A mi a adawyd fy hunan, ac a welais y weledigaeth fawr hon, ac ni thrigodd nerth ynof: canys fy ngwedd a drodd ynof yn llygredigaeth, ac nid ateliais nerth. 9 Eto mi a glywais sain ei eiriau ef: a phan glywais sain ei eiriau ef, yna yr oeddwn mewn trymgwsg ar fy wyneb, a’m hwyneb tua’r ddaear.
10 Ac wele, llaw a gyffyrddodd â mi, ac a’m gosododd ar fy ngliniau, ac ar gledr fy nwylo. 11 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Daniel, ŵr annwyl, deall y geiriau a lefaraf wrthyt, a saf yn dy sefyll: canys atat ti y’m hanfonwyd yr awr hon. Ac wedi iddo ddywedyd y gair hwn, sefais gan grynu. 12 Yna efe a ddywedodd wrthyf, Nac ofna, Daniel: oherwydd er y dydd cyntaf y rhoddaist dy galon i ddeall, ac i ymgystuddio gerbron dy Dduw, y gwrandawyd dy eiriau; ac oherwydd dy eiriau di y deuthum i. 13 Ond tywysog teyrnas Persia a safodd yn fy erbyn un diwrnod ar hugain: ond wele Michael, un o’r tywysogion pennaf, a ddaeth i’m cynorthwyo; a mi a arhosais yno gyda brenhinoedd Persia. 14 A mi a ddeuthum i beri i ti ddeall yr hyn a ddigwydd i’th bobl yn y dyddiau diwethaf: oherwydd y mae y weledigaeth eto dros ddyddiau lawer. 15 Ac wedi iddo lefaru wrthyf y geiriau hyn, gosodais fy wyneb tua’r ddaear, ac a euthum yn fud. 16 Ac wele, tebyg i ddyn a gyffyrddodd â’m gwefusau: yna yr agorais fy safn, ac y lleferais, ac y dywedais wrth yr hwn oedd yn sefyll ar fy nghyfer, O fy arglwydd, fy ngofidiau a droesant arnaf gan y weledigaeth, ac nid ateliais nerth. 17 A pha fodd y dichon gwasanaethwr fy arglwydd yma lefaru wrth fy arglwydd yma? a minnau yna ni safodd nerth ynof, ac nid arhodd ffun ynof. 18 Yna y cyffyrddodd eilwaith â mi fel dull dyn, ac a’m cryfhaodd i, 19 Ac a ddywedodd, Nac ofna, ŵr annwyl; heddwch i ti, ymnertha, ie, ymnertha. A phan lefarasai efe wrthyf, ymnerthais, a dywedais, Llefared fy arglwydd; oherwydd cryfheaist fi. 20 Ac efe a ddywedodd, a wyddost ti paham y deuthum atat? ac yn awr dychwelaf i ryfela â thywysog Persia: ac wedi i mi fyned allan, wele, tywysog tir Groeg a ddaw. 21 Eithr mynegaf i ti yr hyn a hysbyswyd yn ysgrythur y gwirionedd; ac nid oes un yn ymegnïo gyda mi yn hyn, ond Michael eich tywysog chwi.
1 Yr henuriad at yr annwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu mewn gwirionedd. 2 Yr anwylyd, yr ydwyf yn bennaf dim yn dymuno dy fod yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo. 3 Canys mi a lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megis ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd. 4 Mwy llawenydd na hyn nid oes gennyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd. 5 Yr anwylyd, yr ydwyt yn gwneuthur yn ffyddlon yr hyn yr ydwyt yn ei wneuthur tuag at y brodyr, a thuag at ddieithriaid; 6 Y rhai a dystiolaethasant am dy gariad di gerbron yr eglwys: y rhai os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnei. 7 Canys er mwyn ei enw yr aethant allan, heb gymryd dim gan y Cenhedloedd. 8 Ni a ddylem gan hynny dderbyn y cyfryw rai, fel y byddom gyd-gynorthwywyr i’r gwirionedd. 9 Mi a ysgrifennais at yr eglwys: eithr Diotreffes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim ohonom. 10 Oherwydd hyn, os deuaf, mi a ddygaf ar gof ei weithredoedd y mae efe yn eu gwneuthur, gan wag siarad i’n herbyn â geiriau drygionus: ac heb fod yn fodlon ar hynny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr; a’r rhai sydd yn ewyllysio, y mae yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o’r eglwys. 11 Anwylyd, na ddilyn yr hyn sydd ddrwg, ond yr hyn sydd dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae: ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw. 12 Y mae i Demetrius air da gan bawb, a chan y gwirionedd ei hun: a ninnau hefyd ein hunain ydym yn tystiolaethu; a chwi a wyddoch fod ein tystiolaeth ni yn wir. 13 Yr oedd gennyf lawer o bethau i’w hysgrifennu, ond nid wyf yn chwennych ysgrifennu ag inc a phin atat ti: 14 Eithr gobeithio yr ydwyf gael dy weled ar fyrder, ac ni a ymddiddanwn wyneb yn wyneb. 15 Tangnefedd i ti. Y mae’r cyfeillion i’th annerch. Annerch y cyfeillion wrth eu henwau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.