Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd, er coffa.
38 Arglwydd, na cherydda fi yn dy lid: ac na chosba fi yn dy ddicllonedd. 2 Canys y mae dy saethau ynglŷn ynof, a’th law yn drom arnaf. 3 Nid oes iechyd yn fy nghnawd, oherwydd dy ddicllonedd; ac nid oes heddwch i’m hesgyrn, oblegid fy mhechod. 4 Canys fy nghamweddau a aethant dros fy mhen: megis baich trwm y maent yn rhy drwm i mi. 5 Fy nghleisiau a bydrasant ac a lygrasant, gan fy ynfydrwydd. 6 Crymwyd a darostyngwyd fi yn ddirfawr: beunydd yr ydwyf yn myned yn alarus. 7 Canys fy lwynau a lanwyd o ffieiddglwyf; ac nid oes iechyd yn fy nghnawd. 8 Gwanhawyd, a drylliwyd fi yn dra mawr: rhuais gan aflonyddwch fy nghalon. 9 O’th flaen di, Arglwydd, y mae fy holl ddymuniad; ac ni chuddiwyd fy uchenaid oddi wrthyt. 10 Fy nghalon sydd yn llamu; fy nerth a’m gadawodd; a llewyrch fy llygaid nid yw chwaith gennyf. 11 Fy ngharedigion a’m cyfeillion a safent oddi ar gyfer fy mhla; a’m cyfneseifiaid a safent o hirbell. 12 Y rhai hefyd a geisient fy einioes, a osodasent faglau; a’r rhai a geisient fy niwed, a draethent anwireddau, ac a ddychmygent ddichellion ar hyd y dydd. 13 A minnau fel byddar ni chlywn; eithr oeddwn fel mudan heb agoryd ei enau. 14 Felly yr oeddwn fel gŵr ni chlywai, ac heb argyhoeddion yn ei enau. 15 Oherwydd i mi obeithio ynot, Arglwydd; ti, Arglwydd fy Nuw, a wrandewi. 16 Canys dywedais, Gwrando fi, rhag llawenychu ohonynt i’m herbyn: pan lithrai fy nhroed, ymfawrygent i’m herbyn. 17 Canys parod wyf i gloffi, a’m dolur sydd ger fy mron yn wastad. 18 Diau y mynegaf fy anwiredd, ac y pryderaf oherwydd fy mhechod. 19 Ac y mae fy ngelynion yn fyw, ac yn gedyrn: amlhawyd hefyd y rhai a’m casânt ar gam. 20 A’r rhai a dalant ddrwg dros dda, a’m gwrthwynebant; am fy mod yn dilyn daioni. 21 Na ad fi, O Arglwydd: fy Nuw, nac ymbellha oddi wrthyf. 22 Brysia i’m cymorth, O Arglwydd fy iachawdwriaeth.
24 A phan ddychwelodd Saul oddi ar ôl y Philistiaid, mynegwyd iddo, gan ddywedyd, Wele Dafydd yn anialwch En-gedi. 2 Yna y cymerth Saul dair mil o wŷr etholedig o holl Israel; ac efe a aeth i geisio Dafydd a’i wŷr, ar hyd copa creigiau y geifr gwylltion. 3 Ac efe a ddaeth at gorlannau y defaid, ar y ffordd; ac yno yr oedd ogof: a Saul a aeth i mewn i wasanaethu ei gorff. A Dafydd a’i wŷr oedd yn aros yn ystlysau yr ogof. 4 A gwŷr Dafydd a ddywedasant wrtho ef, Wele y dydd am yr hwn y dywedodd yr Arglwydd wrthyt, Wele fi yn rhoddi dy elyn yn dy law di, fel y gwnelych iddo megis y byddo da yn dy olwg. Yna Dafydd a gyfododd, ac a dorrodd gwr y fantell oedd am Saul yn ddirgel. 5 Ac wedi hyn calon Dafydd a’i trawodd ef, oherwydd iddo dorri cwr mantell Saul. 6 Ac efe a ddywedodd wrth ei wŷr, Na ato yr Arglwydd i mi wneuthur y peth hyn i’m meistr, eneiniog yr Arglwydd, i estyn fy llaw yn ei erbyn ef; oblegid eneiniog yr Arglwydd yw efe. 7 Felly yr ataliodd Dafydd ei wŷr â’r geiriau hyn, ac ni adawodd iddynt gyfodi yn erbyn Saul. A Saul a gododd i fyny o’r ogof, ac a aeth i ffordd. 8 Ac ar ôl hyn Dafydd a gyfododd, ac a aeth allan o’r ogof; ac a lefodd ar ôl Saul, gan ddywedyd, Fy arglwydd frenin. A phan edrychodd Saul o’i ôl, Dafydd a ostyngodd ei wyneb tua’r ddaear, ac a ymgrymodd.
9 A Dafydd a ddywedodd wrth Saul, Paham y gwrandewi eiriau dynion, gan ddywedyd, Wele, y mae Dafydd yn ceisio niwed i ti? 10 Wele, dy lygaid a welsant y dydd hwn ddarfod i’r Arglwydd dy roddi di yn fy llaw i heddiw yn yr ogof: a dywedwyd wrthyf am dy ladd di; ond fy enaid a’th arbedodd di: a dywedais, Nid estynnaf fy llaw yn erbyn fy meistr; canys eneiniog yr Arglwydd yw efe. 11 Fy nhad hefyd, gwêl, ie gwêl gwr dy fantell yn fy llaw i: canys pan dorrais ymaith gwr dy fantell di, heb dy ladd; gwybydd a gwêl nad oes yn fy llaw i ddrygioni na chamwedd, ac na phechais i’th erbyn: eto yr wyt ti yn hela fy einioes i, i’w dala hi. 12 Barned yr Arglwydd rhyngof fi a thithau, a dialed yr Arglwydd fi arnat ti: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. 13 Megis y dywed yr hen ddihareb, Oddi wrth y rhai anwir y daw anwiredd: ond ni bydd fy llaw i arnat ti. 14 Ar ôl pwy y daeth brenin Israel allan? ar ôl pwy yr ydwyt ti yn erlid? ar ôl ci marw, ar ôl chwannen. 15 Am hynny bydded yr Arglwydd yn farnwr, a barned rhyngof fi a thi: edryched hefyd, a dadleued fy nadl, ac achubed fi o’th law di.
16 A phan orffennodd Dafydd lefaru y geiriau hyn wrth Saul, yna y dywedodd Saul, Ai dy lef di yw hon, fy mab Dafydd? A Saul a ddyrchafodd ei lef, ac a wylodd. 17 Efe a ddywedodd hefyd wrth Dafydd, Cyfiawnach wyt ti na myfi: canys ti a delaist i mi dda, a minnau a delais i ti ddrwg. 18 A thi a ddangosaist heddiw wneuthur ohonot â mi ddaioni: oherwydd rhoddodd yr Arglwydd fi yn dy law di, ac ni’m lleddaist. 19 Oblegid os caffai ŵr ei elyn, a ollyngai efe ef mewn ffordd dda? am hynny yr Arglwydd a dalo i ti ddaioni, am yr hyn a wnaethost i mi y dydd hwn. 20 Ac wele yn awr, mi a wn gan deyrnasu y teyrnesi di, ac y sicrheir brenhiniaeth Israel yn dy law di. 21 Twng dithau wrthyf fi yn awr i’r Arglwydd, na thorri ymaith fy had i ar fy ôl, ac na ddifethi fy enw i o dŷ fy nhad. 22 A Dafydd a dyngodd wrth Saul. A Saul a aeth i’w dŷ: Dafydd hefyd a’i wŷr a aethant i fyny i’r amddiffynfa.
17 Eithr wrth ddywedyd hyn, nid ydwyf yn eich canmol, eich bod yn dyfod ynghyd, nid er gwell, ond er gwaeth. 18 Canys yn gyntaf, pan ddeloch ynghyd yn yr eglwys, yr ydwyf yn clywed fod ymrafaelion yn eich mysg chwi; ac o ran yr wyf fi yn credu. 19 Canys rhaid yw bod hefyd heresïau yn eich mysg, fel y byddo’r rhai cymeradwy yn eglur yn eich plith chwi. 20 Pan fyddoch chwi gan hynny yn dyfod ynghyd i’r un lle, nid bwyta swper yr Arglwydd ydyw hyn. 21 Canys y mae pob un wrth fwyta, yn cymryd ei swper ei hun o’r blaen; ac un sydd â newyn arno, ac arall sydd yn feddw. 22 Onid oes gennych dai i fwyta ac i yfed? ai dirmygu yr ydych chwi eglwys Dduw, a gwaradwyddo’r rhai nid oes ganddynt? Pa beth a ddywedaf wrthych? a ganmolaf fi chwi yn hyn? Nid wyf yn eich canmol.
27 Am hynny, pwy bynnag a fwytao’r bara hwn, neu a yfo gwpan yr Arglwydd yn annheilwng, euog fydd o gorff a gwaed yr Arglwydd. 28 Eithr holed dyn ef ei hun; ac felly bwytaed o’r bara, ac yfed o’r cwpan. 29 Canys yr hwn sydd yn bwyta ac yn yfed yn annheilwng, sydd yn bwyta ac yn yfed barnedigaeth iddo ei hun, am nad yw yn iawn farnu corff yr Arglwydd. 30 Oblegid hyn y mae llawer yn weiniaid ac yn llesg yn eich mysg, a llawer yn huno. 31 Canys pe iawn farnem ni ein hunain, ni’n bernid. 32 Eithr pan y’n bernir, y’n ceryddir gan yr Arglwydd, fel na’n damnier gyda’r byd. 33 Am hynny, fy mrodyr, pan ddeloch ynghyd i fwyta, arhoswch eich gilydd.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.