Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd ar Jonath‐Elem‐Rechocim, Michtam Dafydd, pan ddaliodd y Philistiaid ef yn Gath.
56 Trugarha wrthyf, O Dduw: canys dyn a’m llyncai: beunydd, gan ymladd, y’m gorthryma. 2 Beunydd y’m llyncai fy ngelynion: canys llawer sydd yn rhyfela i’m herbyn, O Dduw Goruchaf. 3 Y dydd yr ofnwyf, mi a ymddiriedaf ynot ti. 4 Yn Nuw y clodforaf ei air, yn Nuw y gobeithiaf; nid ofnaf beth a wnêl cnawd i mi. 5 Beunydd y camgymerant fy ngeiriau: eu holl feddyliau sydd i’m herbyn er drwg. 6 Hwy a ymgasglant, a lechant, ac a wyliant fy nghamre, pan ddisgwyliant am fy enaid. 7 A ddihangant hwy trwy anwiredd? disgyn y bobloedd hyn, O Dduw, yn dy lidiowgrwydd. 8 Ti a gyfrifaist fy symudiadau: dod fy nagrau yn dy gostrel: onid ydynt yn dy lyfr di? 9 Y dydd y llefwyf arnat, yna y dychwelir fy ngelynion yn eu gwrthol: hyn a wn; am fod Duw gyda mi. 10 Yn Nuw y moliannaf ei air: yn yr Arglwydd y moliannaf ei air. 11 Yn Nuw yr ymddiriedais: nid ofnaf beth a wnêl dyn i mi. 12 Arnaf fi, O Dduw, y mae dy addunedau: talaf i ti foliant. 13 Canys gwaredaist fy enaid rhag angau: oni waredi fy nhraed rhag syrthio, fel y rhodiwyf gerbron Duw yng ngoleuni y rhai byw?
11 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Jeremeia, beth a weli di? Minnau a ddywedais, Gwialen almon a welaf fi. 12 A dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Da y gwelaist; canys mi a brysuraf fy ngair i’w gyflawni. 13 A gair yr Arglwydd a ddaeth ataf yr ail waith, gan ddywedyd, Beth a weli di? A mi a ddywedais, Mi a welaf grochan berwedig, a’i wyneb tua’r gogledd. 14 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, O’r gogledd y tyr drwg allan ar holl drigolion y tir. 15 Canys wele, myfi a alwaf holl deuluoedd teyrnasoedd y gogledd, medd yr Arglwydd, a hwy a ddeuant, ac a osodant bob un ei orseddfainc wrth ddrws porth Jerwsalem, ac yn erbyn ei muriau oll o amgylch, ac yn erbyn holl ddinasoedd Jwda. 16 A mi a draethaf fy marnedigaethau yn eu herbyn, am holl anwiredd y rhai a’m gadawsant, ac a arogldarthasant i dduwiau eraill, ac a addolasant weithredoedd eu dwylo eu hunain.
17 Am hynny gwregysa dy lwynau, a chyfod, a dywed wrthynt yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymyn i ti: na arswyda eu hwynebau, rhag i mi dy ddistrywio di ger eu bron hwynt. 18 Canys wele, heddiw yr ydwyf yn dy roddi di yn ddinas gaerog, ac yn golofn haearn, ac yn fur pres, yn erbyn yr holl dir, yn erbyn brenhinoedd Jwda, yn erbyn ei thywysogion, yn erbyn ei hoffeiriaid, ac yn erbyn pobl y tir. 19 Ymladdant hefyd yn dy erbyn, ond ni’th orchfygant: canys myfi sydd gyda thi i’th ymwared, medd yr Arglwydd.
41 Ac wedi iddo ddyfod yn agos, pan welodd efe y ddinas, efe a wylodd drosti, 42 Gan ddywedyd, Pe gwybuasit tithau, ie, yn dy ddydd hwn, y pethau a berthynent i’th heddwch! eithr y maent yn awr yn guddiedig oddi wrth dy lygaid. 43 Canys daw’r dyddiau arnat, a’th elynion a fwriant glawdd o’th amgylch, ac a’th amgylchant, ac a’th warchaeant o bob parth, 44 Ac a’th wnânt yn gydwastad â’r llawr, a’th blant o’th fewn; ac ni adawant ynot faen ar faen; oherwydd nad adnabuost amser dy ymweliad.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.