Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 120

Caniad y graddau.

120 Ar yr Arglwydd y gwaeddais yn fy nghyfyngder, ac efe a’m gwrandawodd i. Arglwydd, gwared fy enaid oddi wrth wefusau celwyddog, ac oddi wrth dafod twyllodrus. Beth a roddir i ti? neu pa beth a wneir i ti, dydi dafod twyllodrus? Llymion saethau cawr, ynghyd â marwor meryw. Gwae fi, fy mod yn preswylio ym Mesech, yn cyfanheddu ym mhebyll Cedar. Hir y trigodd fy enaid gyda’r hwn oedd yn casáu tangnefedd. Heddychol ydwyf fi: ond pan lefarwyf, y maent yn barod i ryfel.

Esra 1

Yn y flwyddyn gyntaf i Cyrus brenin Persia, i gyflawni gair yr Arglwydd o enau Jeremeia, y cyffrôdd yr Arglwydd ysbryd Cyrus brenin Persia, fel y cyhoeddodd efe trwy ei holl deyrnas, a hynny hefyd mewn ysgrifen, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Cyrus brenin Persia, Arglwydd Dduw y nefoedd a roddes i mi holl deyrnasoedd y ddaear, ac efe a orchmynnodd i mi adeiladu iddo ef dŷ yn Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda. Pwy sydd ohonoch o’i holl bobl ef? bydded ei Dduw gydag ef, ac eled i fyny i Jerwsalem, yr hon sydd yn Jwda, ac adeiladed dŷ Arglwydd Dduw Israel, (dyna y Duw,) yr hwn sydd yn Jerwsalem. A phwy bynnag a adawyd mewn un man lle y mae efe yn ymdeithio, cynorthwyed gwŷr ei wlad ef ag arian, ac ag aur, ac â golud, ac ag anifeiliaid, gydag ewyllysgar offrwm tŷ Dduw, yr hwn sydd yn Jerwsalem.

Yna y cododd pennau‐cenedl Jwda a Benjamin, a’r offeiriaid a’r Lefiaid, a phob un y cyffrôdd Duw ei ysbryd, i fyned i fyny i adeiladu tŷ yr Arglwydd yr hwn oedd yn Jerwsalem. A’r rhai oll o’u hamgylch a’u cynorthwyasant hwy â llestri arian, ac aur, a golud, ac ag anifeiliaid, ac â phethau gwerthfawr, heblaw yr hyn oll a offrymwyd yn ewyllysgar.

A’r brenin Cyrus a ddug allan lestri tŷ yr Arglwydd, y rhai a ddygasai Nebuchodonosor allan o Jerwsalem, ac a roddasai efe yn nhŷ ei dduwiau ei hun: Y rhai hynny a ddug Cyrus brenin Persia allan trwy law Mithredath y trysorydd, ac a’u rhifodd hwynt at Sesbassar pennaeth Jwda. A dyma eu rhifedi hwynt; Deg ar hugain o gawgiau aur, mil o gawgiau arian, naw ar hugain o gyllyll, 10 Deg ar hugain o orflychau aur, deg a phedwar cant o ail fath o orflychau arian, a mil o lestri eraill. 11 Yr holl lestri, yn aur ac yn arian, oedd bum mil a phedwar cant. Y rhai hyn oll a ddug Sesbassar i fyny gyda’r gaethglud a ddygwyd i fyny o Babilon i Jerwsalem.

2 Corinthiaid 1:12-19

12 Canys ein gorfoledd ni yw hyn, sef tystiolaeth ein cydwybod, mai mewn symlrwydd, a phurdeb duwiol, nid mewn doethineb cnawdol, ond trwy ras Duw, yr ymddygasom yn y byd, ond yn hytrach tuag atoch chwi. 13 Canys nid ydym yn ysgrifennu amgen bethau atoch nag yr ydych yn eu darllen, neu yn eu cydnabod, ac yr wyf yn gobeithio a gydnabyddwch hyd y diwedd hefyd; 14 Megis y cydnabuoch ni o ran, mai nyni yw eich gorfoledd chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd yn nydd yr Arglwydd Iesu. 15 Ac yn yr hyder hwn yr oeddwn yn ewyllysio dyfod atoch o’r blaen, fel y caffech ail ras; 16 A myned heb eich llaw chwi i Facedonia, a dyfod drachefn o Facedonia atoch, a chael fy hebrwng gennych i Jwdea. 17 Gan hynny, pan oeddwn yn bwriadu hyn, a arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ôl y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi, ie, ie, a nage, nage? 18 Eithr ffyddlon yw Duw, a’n hymadrodd ni wrthych chwi ni bu ie, a nage. 19 Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn a bregethwyd yn eich plith gennym ni, sef gennyf fi, a Silfanus, a Thimotheus, nid ydoedd ie, a nage, eithr ynddo ef ie ydoedd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.