Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
138 Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti. 2 Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll. 3 Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid. 4 Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau. 5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd. 6 Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell. 7 Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai. 8 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
7 Felly meibion Israel a wnaethant ddrygioni yng ngolwg yr Arglwydd, ac a anghofiasant yr Arglwydd eu Duw, ac a wasanaethasant Baalim, a’r llwyni.
8 Am hynny dicllonedd yr Arglwydd a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u gwerthodd hwynt i law Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia: a meibion Israel a wasanaethasant Cusan‐risathaim wyth mlynedd. 9 A meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd: a’r Arglwydd a gododd achubwr i feibion Israel, yr hwn a’u hachubodd hwynt; sef Othniel mab Cenas, brawd Caleb, ieuangach nag ef. 10 Ac ysbryd yr Arglwydd a ddaeth arno ef, ac efe a farnodd Israel, ac a aeth allan i ryfel: a’r Arglwydd a roddodd yn ei law ef Cusan‐risathaim, brenin Mesopotamia; a’i law ef oedd drech na Cusan‐risathaim. 11 A’r wlad a gafodd lonydd ddeugain mlynedd. A bu farw Othniel mab Cenas.
42 Ac wedi ei myned hi yn ddydd, efe a aeth allan, ac a gychwynnodd i le diffaith: a’r bobloedd a’i ceisiasant ef; a hwy a ddaethant hyd ato, ac a’i hataliasant ef rhag myned ymaith oddi wrthynt. 43 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Yn wir y mae yn rhaid i mi bregethu teyrnas Dduw i ddinasoedd eraill hefyd: canys i hyn y’m danfonwyd. 44 Ac yr oedd efe yn pregethu yn synagogau Galilea.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.