Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 115

115 Nid i ni, O Arglwydd, nid i ni, ond i’th enw dy hun dod ogoniant, er mwyn dy drugaredd, ac er mwyn dy wirionedd. Paham y dywedai y cenhedloedd, Pa le yn awr y mae eu Duw hwynt? Ond ein Duw ni sydd yn y nefoedd: efe a wnaeth yr hyn a fynnodd oll. Eu delwau hwy ydynt o aur ac arian, gwaith dwylo dynion. Genau sydd iddynt, ond ni lefarant; llygaid sydd ganddynt, ond ni welant: Y mae clustiau iddynt, ond ni chlywant; ffroenau sydd ganddynt, ond ni aroglant: Dwylo sydd iddynt, ond ni theimlant; traed sydd iddynt, ond ni cherddant; ni leisiant chwaith â’u gwddf. Y rhai a’u gwnânt ydynt fel hwythau, a phob un a ymddiriedo ynddynt. O Israel, ymddiried di yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 10 Tŷ Aaron, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 11 Y rhai a ofnwch yr Arglwydd, ymddiriedwch yn yr Arglwydd: efe yw eu porth a’u tarian. 12 Yr Arglwydd a’n cofiodd ni: efe a’n bendithia: bendithia efe dŷ Israel; bendithia efe dŷ Aaron. 13 Bendithia efe y rhai a ofnant yr Arglwydd, fychain a mawrion. 14 Yr Arglwydd a’ch chwanega chwi fwyfwy, chwychwi a’ch plant hefyd. 15 Bendigedig ydych chwi gan yr Arglwydd, yr hwn a wnaeth nef a daear. 16 Y nefoedd, ie, y nefoedd ydynt eiddo yr Arglwydd: a’r ddaear a roddes efe i feibion dynion. 17 Y meirw ni foliannant yr Arglwydd, na’r neb sydd yn disgyn i ddistawrwydd. 18 Ond nyni a fendithiwn yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd. Molwch yr Arglwydd.

Barnwyr 5:1-11

Yna y canodd Debora a Barac mab Abinoam, y diwrnod hwnnw, gan ddywedyd, Am ddial dialeddau Israel, ac ymgymell o’r bobl, bendithiwch yr Arglwydd. Clywch, O frenhinoedd; gwrandewch, O dywysogion: myfi, myfi a ganaf i’r Arglwydd; canaf fawl i Arglwydd Dduw Israel. O Arglwydd, pan aethost allan o Seir, pan gerddaist o faes Edom, y ddaear a grynodd, a’r nefoedd a ddiferasant, a’r cymylau a ddefnynasant ddwfr. Y mynyddoedd a doddasant o flaen yr Arglwydd, sef y Sinai hwnnw, o flaen Arglwydd Dduw Israel. Yn nyddiau Samgar mab Anath, yn nyddiau Jael, y llwybrau a aeth yn anhygyrch, a’r fforddolion a gerddasant lwybrau ceimion. Y maestrefi a ddarfuant yn Israel: darfuant, nes i mi, Debora, gyfodi; nes i mi gyfodi yn fam yn Israel. Dewisasant dduwiau newyddion; yna rhyfel oedd yn y pyrth: a welwyd tarian na gwaywffon ymysg deugain mil yn Israel? Fy nghalon sydd tuag at ddeddfwyr Israel, y rhai fu ewyllysgar ymhlith y bobl. Bendithiwch yr Arglwydd. 10 Y rhai sydd yn marchogaeth ar asynnod gwynion, y rhai sydd yn eistedd mewn barn, ac yn rhodio ar hyd y ffordd, lleferwch. 11 Y rhai a waredwyd rhag trwst y saethyddion yn y lleoedd y tynnir dwfr; yno yr adroddant gyfiawnderau yr Arglwydd, cyfiawnderau tuag at y trefydd yn Israel: yna pobl yr Arglwydd a ânt i waered i’r pyrth.

1 Corinthiaid 14:26-40

26 Beth gan hynny, frodyr? pan ddeloch ynghyd, y mae gan bob un ohonoch salm, y mae ganddo athrawiaeth, y mae ganddo dafodiaith, y mae ganddo ddatguddiad, y mae ganddo gyfieithiad. Gwneler pob peth er adeiladaeth. 27 Os llefara neb â thafod dieithr, gwneler bob yn ddau, neu o’r mwyaf bob yn dri, a hynny ar gylch; a chyfieithed un. 28 Eithr oni bydd cyfieithydd, tawed yn yr eglwys; eithr llefared wrtho’i hun, ac wrth Dduw. 29 A llefared y proffwydi ddau neu dri, a barned y lleill. 30 Ac os datguddir dim i un arall a fo yn eistedd yno, tawed y cyntaf. 31 Canys chwi a ellwch oll broffwydo bob yn un, fel y dysgo pawb, ac y cysurer pawb. 32 Ac y mae ysbrydoedd y proffwydi yn ddarostyngedig i’r proffwydi. 33 Canys nid yw Duw awdur anghydfod, ond tangnefedd, fel yn holl eglwysi’r saint. 34 Tawed eich gwragedd yn yr eglwysi: canys ni chaniatawyd iddynt lefaru; ond bod yn ddarostyngedig, megis ag y mae’r gyfraith yn dywedyd. 35 Ac os mynnant ddysgu dim, ymofynnant â’u gwŷr gartref: oblegid anweddaidd yw i wragedd lefaru yn yr eglwys. 36 Ai oddi wrthych chwi yr aeth gair Duw allan? neu ai atoch chwi yn unig y daeth efe? 37 Os ydyw neb yn tybied ei fod yn broffwyd, neu yn ysbrydol, cydnabydded y pethau yr wyf yn eu hysgrifennu atoch, mai gorchmynion yr Arglwydd ydynt. 38 Eithr od yw neb heb wybod, bydded heb wybod. 39 Am hynny, frodyr, byddwch awyddus i broffwydo, ac na waherddwch lefaru â thafodau dieithr. 40 Gwneler pob peth yn weddaidd, ac mewn trefn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.