Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Genesis 45:3-11

A Joseff a ddywedodd wrth ei frodyr, Myfi yw Joseff: ai byw fy nhad eto? A’i frodyr ni fedrent ateb iddo; oblegid brawychasent ger ei fron ef. Joseff hefyd a ddywedodd wrth ei frodyr, Dyneswch, atolwg, ataf fi. Hwythau a ddynesasant. Yntau a ddywedodd, Myfi yw Joseff eich brawd chwi, yr hwn a werthasoch i’r Aifft. Weithian gan hynny na thristewch, ac na ddigiwch wrthych eich hunain, am werthu ohonoch fyfi yma; oblegid i achub einioes yr hebryngodd Duw fyfi o’ch blaen chwi. Oblegid dyma ddwy flynedd o’r newyn o fewn y wlad; ac fe a fydd eto bum mlynedd, y rhai a fydd heb nac âr na medi. A Duw a’m hebryngodd i o’ch blaen chwi, i gadw i chwi hiliogaeth yn y wlad, ac i beri bywyd i chwi, trwy fawr ymwared. Ac yr awr hon nid chwi a’m hebryngodd i yma, ond Duw: ac efe a’m gwnaeth i yn dad i Pharo, ac yn arglwydd ar ei holl dŷ ef, ac yn llywydd ar holl wlad yr Aifft. Brysiwch, ac ewch i fyny at fy nhad, a dywedwch wrtho, Fel hyn y dywed dy fab Joseff: Duw a’m gosododd i yn arglwydd ar yr holl Aifft: tyred i waered ataf; nac oeda: 10 A chei drigo yng ngwlad Gosen, a bod yn agos ataf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt: 11 Ac yno y’th borthaf; (oblegid pum mlynedd o’r newyn a fydd eto;) rhag dy fyned mewn tlodi, ti, a’th deulu, a’r hyn oll sydd gennyt.

Genesis 45:15

15 Ac efe a gusanodd ei holl frodyr, ac a wylodd arnynt: ac ar ôl hynny ei frodyr a ymddiddanasant ag ef.

Salmau 37:1-11

Salm Dafydd.

37 Nac ymddigia oherwydd y rhai drygionus, ac na chenfigenna wrth y rhai a wnânt anwiredd. Canys yn ebrwydd y torrir hwynt i’r llawr fel glaswellt, ac y gwywant fel gwyrddlysiau. Gobeithia yn yr Arglwydd, a gwna dda; felly y trigi yn y tir, a thi a borthir yn ddiau. Ymddigrifa hefyd yn yr Arglwydd; ac efe a ddyry i ti ddymuniadau dy galon. Treigla dy ffordd ar yr Arglwydd, ac ymddiried ynddo; ac efe a’i dwg i ben. Efe a ddwg allan dy gyfiawnder fel y goleuni, a’th farn fel hanner dydd. Distawa yn yr Arglwydd, a disgwyl wrtho: nac ymddigia oherwydd yr hwn a lwyddo ganddo ei ffordd, wrth y gŵr sydd yn gwneuthur ei ddrwg amcanion. Paid â digofaint, a gad ymaith gynddaredd: nac ymddigia er dim i wneuthur drwg. Canys torrir ymaith y drwg ddynion: ond y rhai a ddisgwyliant wrth yr Arglwydd, hwynt‐hwy a etifeddant y tir. 10 Canys eto ychydigyn, ac ni welir yr annuwiol: a thi a edrychi am ei le ef, ac ni bydd dim ohono. 11 Eithr y rhai gostyngedig a etifeddant y ddaear; ac a ymhyfrydant gan liaws tangnefedd.

Salmau 37:39-40

39 A iachawdwriaeth y cyfiawn sydd oddi wrth yr Arglwydd: efe yw eu nerth yn amser trallod. 40 A’r Arglwydd a’u cymorth hwynt, ac a’u gwared: efe a’u gwared hwynt rhag yr annuwiolion, ac a’u ceidw hwynt, am iddynt ymddiried ynddo.

1 Corinthiaid 15:35-38

35 Eithr fe a ddywed rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac â pha ryw gorff y deuant? 36 O ynfyd, y peth yr wyt ti yn ei hau, ni fywheir oni bydd efe marw. 37 A’r peth yr wyt yn ei hau, nid y corff a fydd yr ydwyt yn ei hau, ond gronyn noeth, ysgatfydd o wenith, neu o ryw rawn arall. 38 Eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff fel y mynnodd efe, ac i bob hedyn ei gorff ei hun.

1 Corinthiaid 15:42-50

42 Felly hefyd y mae atgyfodiad y meirw. Efe a heuir mewn llygredigaeth, ac a gyfodir mewn anllygredigaeth: 43 Efe a heuir mewn amarch, ac a gyfodir mewn gogoniant: efe a heuir mewn gwendid, ac a gyfodir mewn nerth: efe a heuir yn gorff anianol, ac a gyfodir yn gorff ysbrydol. 44 Y mae corff anianol, ac y mae corff ysbrydol. 45 Felly hefyd y mae yn ysgrifenedig, Y dyn cyntaf Adda a wnaed yn enaid byw, a’r Adda diwethaf yn ysbryd yn bywhau. 46 Eithr nid cyntaf yr ysbrydol, ond yr anianol; ac wedi hynny yr ysbrydol. 47 Y dyn cyntaf o’r ddaear, yn daearol; yr ail dyn, yr Arglwydd o’r nef. 48 Fel y mae y daearol, felly y mae y rhai daearol hefyd; ac fel y mae y nefol, felly y mae y rhai nefol hefyd. 49 Ac megis y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol. 50 Eithr hyn meddaf, O frodyr, na ddichon cig a gwaed etifeddu teyrnas Dduw; ac nad yw llygredigaeth yn etifeddu anllygredigaeth.

Luc 6:27-38

27 Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt: 28 Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant. 29 Ac i’r hwn a’th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd. 30 A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl. 31 Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud. 32 Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru’r rhai a’u câr hwythau. 33 Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth. 34 Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb. 35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf: canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg. 36 Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog. 37 Ac na fernwch, ac ni’ch bernir: na chondemniwch, ac ni’ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau: 38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.