Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Salmau 138

Salm Dafydd.

138 Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti. Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll. Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid. Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau. Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd. Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell. Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai. Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.

Numeri 20:22-29

22 A meibion Israel, sef yr holl gynulleidfa, a deithiasant o Cades, ac a ddaethant i fynydd Hor. 23 A’r Arglwydd a lefarodd wrth Moses ac Aaron ym mynydd Hor, wrth derfyn tir Edom, gan ddywedyd, 24 Aaron a gesglir at ei bobl: ac ni ddaw i’r tir a roddais i feibion Israel; am i chwi anufuddhau i’m gair, wrth ddwfr Meriba. 25 Cymer Aaron ac Eleasar ei fab, a dwg hwynt i fyny i fynydd Hor; 26 A diosg ei wisgoedd oddi am Aaron, a gwisg hwynt am Eleasar ei fab ef: canys Aaron a gesglir at ei bobl, ac a fydd farw yno. 27 A gwnaeth Moses megis y gorchmynnodd yr Arglwydd: a hwy a aethant i fyny i fynydd Hor, yng ngŵydd yr holl gynulleidfa. 28 A diosgodd Moses oddi am Aaron ei wisgoedd, ac a’u gwisgodd hwynt am Eleasar ei fab ef: a bu farw Aaron yno ym mhen y mynydd. A disgynnodd Moses ac Eleasar o’r mynydd. 29 A’r holl gynulleidfa a welsant farw Aaron; a holl dŷ Israel a wylasant am Aaron ddeng niwrnod ar hugain.

Actau 9:19-25

19 Ac wedi iddo gymryd bwyd, efe a gryfhaodd. A bu Saul gyda’r disgyblion oedd yn Namascus dalm o ddyddiau. 20 Ac yn ebrwydd yn y synagogau efe a bregethodd Grist, mai efe yw Mab Duw. 21 A phawb a’r a’i clybu ef, a synasant, ac a ddywedasant, Onid hwn yw yr un oedd yn difetha yn Jerwsalem y rhai a alwent ar yr enw hwn, ac a ddaeth yma er mwyn hyn, fel y dygai hwynt yn rhwym at yr archoffeiriaid? 22 Eithr Saul a gynyddodd fwyfwy o nerth, ac a orchfygodd yr Iddewon oedd yn preswylio yn Namascus, gan gadarnhau mai hwn yw y Crist.

23 Ac wedi cyflawni llawer o ddyddiau, cydymgynghorodd yr Iddewon i’w ladd ef. 24 Eithr eu cydfwriad hwy a wybuwyd gan Saul: a hwy a ddisgwyliasant y pyrth ddydd a nos, i’w ladd ef. 25 Yna y disgyblion a’i cymerasant ef o hyd nos, ac a’i gollyngasant i waered dros y mur mewn basged.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.