Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseciel 30-32

30 A Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf, gan ddywedyd, Proffwyda, fab dyn, a dywed, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Udwch, Och o’r diwrnod! Canys agos dydd, ie, agos dydd yr Arglwydd, dydd cymylog; amser y cenhedloedd fydd efe. A’r cleddyf a ddaw ar yr Aifft, a bydd gofid blin yn Ethiopia, pan syrthio yr archolledig yn yr Aifft, a chymryd ohonynt ei lliaws hi, a dinistrio ei seiliau. Ethiopia, a Libya, a Lydia, a’u gwerin oll, Chub hefyd, a meibion y tir sydd yn y cyfamod, a syrthiant gyda hwynt gan y cleddyf. Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Y rhai sydd yn cynnal yr Aifft a syrthiant hefyd, a balchder ei nerth hi a ddisgyn: syrthiant ynddi gan y cleddyf o dŵr Syene, medd yr Arglwydd Dduw. A hwy a wneir yn anghyfannedd ymhlith y gwledydd anghyfanheddol, a’i dinasoedd fydd yng nghanol y dinasoedd anrheithiedig. A chânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd, pan roddwyf dân yn yr Aifft, ac y torrer ei holl gynorthwywyr hi. Y dydd hwnnw cenhadau a ânt allan oddi wrthyf fi mewn llongau, i ddychrynu Ethiopia ddiofal, a bydd gofid blin arnynt fel yn nydd yr Aifft: canys wele ef yn dyfod. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Gwnaf hefyd i liaws yr Aifft ddarfod trwy law Nebuchodonosor brenin Babilon. 11 Efe a’i bobl gydag ef, y rhai trawsion o’r cenhedloedd, a ddygir i ddifetha y tir: a hwy a dynnant eu cleddyfau ar yr Aifft, ac a lanwant y wlad â chelanedd. 12 Gwnaf hefyd yr afonydd yn sychder, a gwerthaf y wlad i law y drygionus; ie, anrheithiaf y wlad a’i chyflawnder trwy law dieithriaid: myfi yr Arglwydd a’i dywedodd. 13 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Difethaf hefyd y delwau, a gwnaf i’r eilunod ddarfod o Noff; ac ni bydd tywysog mwyach o dir yr Aifft: ac ofn a roddaf yn nhir yr Aifft. 14 Pathros hefyd a anrheithiaf, a rhoddaf dân yn Soan, a gwnaf farnedigaethau yn No. 15 A thywalltaf fy llid ar Sin, cryfder yr Aifft; ac a dorraf ymaith liaws No. 16 A mi a roddaf dân yn yr Aifft; gan ofidio y gofidia Sin, a No a rwygir, a bydd ar Noff gyfyngderau beunydd. 17 Gwŷr ieuainc Afen a Phibeseth a syrthiant gan y cleddyf; ac i gaethiwed yr ânt hwy. 18 Ac ar Tehaffnehes y tywylla y diwrnod, pan dorrwyf yno ieuau yr Aifft: a balchder ei chryfder a dderfydd ynddi: cwmwl a’i cuddia hi, a’i merched a ânt i gaethiwed. 19 Felly y gwnaf farnedigaethau yn yr Aifft; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd.

20 Ac yn y mis cyntaf o’r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y seithfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 21 Ha fab dyn, torrais fraich Pharo brenin yr Aifft; ac wele, nis rhwymir i roddi meddyginiaethau wrtho, i osod rhwymyn i rwymo, i’w gryfhau i ddal y cleddyf. 22 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Wele fi yn erbyn Pharo brenin yr Aifft, a mi a dorraf ei freichiau ef, y cryf, a’r hwn oedd ddrylliedig; ac a wnaf i’r cleddyf syrthio o’i law ef. 23 A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd. 24 A mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, ac a roddaf fy nghleddyf yn ei law ef: ond mi a dorraf freichiau Pharo, ac efe a ochain o’i flaen ef ag ocheneidiau un archolledig. 25 Ond mi a gadarnhaf freichiau brenin Babilon, a breichiau Pharo a syrthiant; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd, wedi i mi roddi fy nghleddyf yn llaw brenin Babilon, ac iddo yntau ei estyn ef ar wlad yr Aifft. 26 A mi a wasgaraf yr Eifftiaid ymysg y cenhedloedd, ac a’u taenaf hwynt ar hyd y gwledydd; fel y gwypont mai myfi yw yr Arglwydd

31 Ac yn y trydydd mis o’r unfed flwyddyn ar ddeg, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Dywed, fab dyn, wrth Pharo brenin yr Aifft, ac wrth ei liaws, I bwy yr ydwyt debyg yn dy fawredd?

Wele, Assur oedd gedrwydden yn Libanus, yn deg ei cheinciau, a’i brig yn cysgodi, ac yn uchel ei huchder, a’i brigyn oedd rhwng y tewfrig. Dyfroedd a’i maethasai hi, y dyfnder a’i dyrchafasai, â’i hafonydd yn cerdded o amgylch ei phlanfa; bwriodd hefyd ei ffrydiau at holl goed y maes. Am hynny yr ymddyrchafodd ei huchder hi goruwch holl goed y maes, a’i cheinciau a amlhasant, a’i changhennau a ymestynasant, oherwydd dyfroedd lawer, pan fwriodd hi allan. Holl ehediaid y nefoedd a nythent yn ei cheinciau hi, a holl fwystfilod y maes a lydnent dan ei changhennau hi; ie, yr holl genhedloedd lluosog a eisteddent dan ei chysgod hi. Felly teg ydoedd hi yn ei mawredd, yn hyd ei brig; oherwydd ei gwraidd ydoedd wrth ddyfroedd lawer. Y cedrwydd yng ngardd Duw ni allent ei chuddio hi: y ffynidwydd nid oeddynt debyg i’w cheinciau hi, a’r ffawydd nid oeddynt fel ei changhennau hi; ac un pren yng ngardd yr Arglwydd nid ydoedd debyg iddi hi yn ei thegwch. Gwnaethwn hi yn deg gan liaws ei changhennau: a holl goed Eden, y rhai oedd yng ngardd Duw, a genfigenasant wrthi hi.

10 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Oherwydd ymddyrchafu ohonot mewn uchder, a rhoddi ohoni ei brig ymysg y tewfrig, ac ymddyrchafu ei chalon yn ei huchder; 11 Am hynny y rhoddais hi yn llaw cadarn y cenhedloedd: gan wneuthur y gwna efe iddi; am ei drygioni y bwriais hi allan. 12 A dieithriaid, rhai ofnadwy y cenhedloedd, a’i torasant hi ymaith, ac a’i gadawsant hi: ar y mynyddoedd ac yn yr holl ddyffrynnoedd y syrthiodd ei brig hi, a’i changhennau a dorrwyd yn holl afonydd y ddaear; a holl bobloedd y tir a ddisgynasant o’i chysgod hi, ac a’i gadawsant hi. 13 Holl ehediaid y nefoedd a drigant ar ei chyff hi, a holl fwystfilod y maes a fyddant ar ei changhennau hi; 14 Fel nad ymddyrchafo holl goed y dyfroedd yn eu huchder, ac na roddont eu brigyn rhwng y tewfrig, ac na safo yr holl goed dyfradwy yn eu huchder: canys rhoddwyd hwynt oll i farwolaeth yn y tir isaf yng nghanol meibion dynion, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 15 Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Yn y dydd y disgynnodd hi i’r bedd, gwneuthum alaru: toais y dyfnder amdani hi, ac ateliais ei hafonydd, fel yr ataliwyd dyfroedd lawer; gwneuthum i Libanus alaru amdani hi, ac yr ydoedd ar holl goed y maes lesmair amdani hi. 16 Gan sŵn ei chwymp hi y cynhyrfais y cenhedloedd, pan wneuthum iddi ddisgyn i uffern gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll; a holl goed Eden, y dewis a’r gorau yn Libanus, y dyfradwy oll, a ymgysurant yn y tir isaf. 17 Hwythau hefyd gyda hi a ddisgynnant i uffern at laddedigion y cleddyf, a’r rhai oedd fraich iddi hi, y rhai a drigasant dan ei chysgod hi yng nghanol y cenhedloedd.

18 I bwy felly ymysg coed Eden yr oeddit debyg mewn gogoniant a mawredd? eto ti a ddisgynnir gyda choed Eden i’r tir isaf; gorweddi yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf. Dyma Pharo a’i holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.

32 Ac yn y deuddegfed mis o’r ddeuddegfed flwyddyn, ar y dydd cyntaf o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, Ha fab dyn, cyfod alarnad am Pharo brenin yr Aifft, a dywed wrtho, Tebygaist i lew ieuanc y cenhedloedd, ac yr ydwyt ti fel morfil yn y moroedd: a daethost allan gyda’th afonydd; cythryblaist hefyd y dyfroedd â’th draed, a methraist eu hafonydd hwynt. Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Minnau a daenaf fy rhwyd arnat â chynulleidfa pobloedd lawer; a hwy a’th godant yn fy rhwyd i. Gadawaf di hefyd ar y tir, taflaf di ar wyneb y maes, a gwnaf i holl ehediaid y nefoedd drigo arnat ti; ie, ohonot ti y diwallaf fwystfilod yr holl ddaear. Rhoddaf hefyd dy gig ar y mynyddoedd, a llanwaf y dyffrynnoedd â’th uchder di. Mwydaf hefyd â’th waed y tir yr wyt yn nofio ynddo, hyd y mynyddoedd; a llenwir yr afonydd ohonot. Ie, cuddiaf y nefoedd wrth dy ddiffoddi, a thywyllaf eu sêr hwynt: yr haul a guddiaf â chwmwl, a’r lleuad ni wna i’w goleuni oleuo. Tywyllaf arnat holl lewyrch goleuadau y nefoedd, a rhoddaf dywyllwch ar dy dir, medd yr Arglwydd Dduw. A digiaf galon pobloedd lawer, pan ddygwyf dy ddinistr ymysg y cenhedloedd i diroedd nid adnabuost. 10 A gwnaf i bobloedd lawer ryfeddu wrthyt, a’u brenhinoedd a ofnant yn fawr o’th blegid, pan wnelwyf i’m cleddyf ddisgleirio o flaen eu hwynebau hwynt; a hwy ar bob munud a ddychrynant, bob un am ei einioes, yn nydd dy gwymp.

11 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; Cleddyf brenin Babilon a ddaw arnat ti. 12 A chleddyfau y rhai cedyrn y cwympaf dy liaws, byddant oll yn gedyrn y cenhedloedd; a hwy a anrheithiant falchder yr Aifft, a’i holl liaws hi a ddinistrir. 13 Difethaf hefyd ei holl anifeiliaid hi oddi wrth ddyfroedd lawer; ac ni sathr troed dyn hwynt mwy, ac ni fathra carnau anifeiliaid hwynt. 14 Yna y gwnaf yn ddyfnion eu dyfroedd hwynt, a gwnaf i’w hafonydd gerdded fel olew, medd yr Arglwydd Dduw. 15 Pan roddwyf dir yr Aifft yn anrhaith, ac anrheithio y wlad o’i llawnder, pan drawyf y rhai oll a breswyliant ynddi, yna y cânt wybod mai myfi yw yr Arglwydd. 16 Dyma y galar a alarant amdani hi: merched y cenhedloedd a alarant amdani hi; galarant amdani hi, sef am yr Aifft, ac am ei lliaws oll, medd yr Arglwydd Dduw.

17 Ac yn y ddeuddegfed flwyddyn, ar y pymthegfed dydd o’r mis, y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 18 Cwyna, fab dyn, am liaws yr Aifft, a disgyn hi, hi a merched y cenhedloedd enwog, i’r tir isaf, gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 19 Tecach na phwy oeddit? disgyn a gorwedd gyda’r rhai dienwaededig. 20 Syrthiant yng nghanol y rhai a laddwyd â’r cleddyf: i’r cleddyf y rhoddwyd hi; llusgwch hi a’i lliaws oll. 21 Llefared cryfion y cedyrn wrthi hi o ganol uffern gyda’i chynorthwywyr: disgynasant, gorweddant yn ddienwaededig, wedi eu lladd â’r cleddyf. 22 Yno y mae Assur a’i holl gynulleidfa, a’i feddau o amgylch; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf. 23 Yr hon y rhoddwyd eu beddau yn ystlysau y pwll, a’i chynulleidfa ydoedd o amgylch ei bedd; wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a barasant arswyd yn nhir y rhai byw. 24 Yno y mae Elam a’i holl liaws o amgylch ei bedd, wedi eu lladd oll, a syrthio trwy y cleddyf, y rhai a ddisgynasant yn ddienwaededig i’r tir isaf, y rhai a barasant eu harswyd yn nhir y rhai byw; eto hwy a ddygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 25 Yng nghanol y rhai lladdedig y gosodasant iddi wely ynghyd â’i holl liaws; a’i beddau o’i amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, a laddwyd â’r cleddyf: er peri eu harswyd yn nhir y rhai byw, eto dygasant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll: yng nghanol y lladdedigion y rhoddwyd ef. 26 Yno y mae Mesech, Tubal, a’i holl liaws; a’i beddau o amgylch: y rhai hynny oll yn ddienwaededig, wedi eu lladd â’r cleddyf, er peri ohonynt eu harswyd yn nhir y rhai byw. 27 Ac ni orweddant gyda’r cedyrn a syrthiasant o’r rhai dienwaededig, y rhai a ddisgynasant i uffern â’u harfau rhyfel: a rhoddasant eu cleddyfau dan eu pennau; eithr eu hanwireddau fydd ar eu hesgyrn hwy, er eu bod yn arswyd i’r cedyrn yn nhir y rhai byw. 28 A thithau a ddryllir ymysg y rhai dienwaededig, ac a orweddi gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf. 29 Yno y mae Edom, a’i brenhinoedd, a’i holl dywysogion, y rhai a roddwyd â’u cadernid gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf: hwy a orweddant gyda’r rhai dienwaededig, a chyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 30 Yno y mae holl dywysogion y gogledd, a’r holl Sidoniaid, y rhai a ddisgynnant gyda’r lladdedigion; gyda’u harswyd y cywilyddiant am eu cadernid; gorweddant hefyd yn ddienwaededig gyda’r rhai a laddwyd â’r cleddyf, ac a ddygant eu gwaradwydd gyda’r rhai a ddisgynnant i’r pwll. 31 Pharo a’u gwêl hwynt, ac a ymgysura yn ei holl liaws, Pharo a’i holl lu wedi eu lladd â’r cleddyf, medd yr Arglwydd Dduw. 32 Canys rhoddais fy ofn yn nhir y rhai byw; a gwneir iddo orwedd yng nghanol y rhai dienwaededig, gyda lladdedigion y cleddyf, sef i Pharo ac i’w holl liaws, medd yr Arglwydd Dduw.

1 Pedr 4

Am hynny gan ddioddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl: oblegid yr hwn a ddioddefodd yn y cnawd, a beidiodd â phechod; Fel na byddo mwyach fyw i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw, dros yr amser sydd yn ôl yn y cnawd. Canys digon i ni yr amser a aeth heibio o’r einioes i weithredu ewyllys y Cenhedloedd, gan rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilun-addoliad: Yn yr hyn y maent yn ddieithr yn eich cablu chwi, am nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i’r unrhyw ormod rhysedd: Y rhai a roddant gyfrif i’r hwn sydd barod i farnu’r byw a’r meirw. Canys er mwyn hynny yr efengylwyd i’r meirw hefyd; fel y bernid hwy yn ôl dynion yn y cnawd, ac y byddent fyw yn ôl Duw yn yr ysbryd. Eithr diwedd pob peth a nesaodd: am hynny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddïau. Eithr o flaen pob peth, bydded gennych gariad helaeth tuag at eich gilydd: canys cariad a guddia liaws o bechodau. Byddwch letygar y naill i’r llall, heb rwgnach. 10 Pob un, megis y derbyniodd rodd, cyfrennwch â’ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw ras Duw. 11 Os llefaru a wna neb, llefared megis geiriau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megis o’r gallu y mae Duw yn ei roddi: fel ym mhob peth y gogonedder Duw trwy Iesu Grist; i’r hwn y byddo’r gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. 12 Anwylyd, na fydded ddieithr gennych am y profiad tanllyd sydd ynoch, yr hwn a wneir er profedigaeth i chwi, fel pe bai beth dieithr yn digwydd i chwi: 13 Eithr llawenhewch, yn gymaint â’ch bod yn gyfranogion o ddioddefiadau Crist; fel, pan ddatguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. 14 Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorffwys arnoch: ar eu rhan hwynt yn wir efe a geblir, ond ar eich rhan chwi efe a ogoneddir. 15 Eithr na ddioddefed neb ohonoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrwgweithredwr, neu fel un yn ymyrraeth â materion rhai eraill: 16 Eithr os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo; ond gogonedded Dduw yn hyn o ran. 17 Canys daeth yr amser i ddechrau o’r farn o dŷ Dduw: ac os dechrau hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn credu i efengyl Duw? 18 Ac os braidd y mae’r cyfiawn yn gadwedig, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur? 19 Am hynny y rhai hefyd sydd yn dioddef yn ôl ewyllys Duw, gorchmynnant eu heneidiau iddo ef, megis i Greawdwr ffyddlon, gan wneuthur yn dda.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.