Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Galarnad 3-5

Myfi yw y gŵr a welodd flinder gan wialen ei ddigofaint ef. I dywyllwch, ac nid i oleuni, yr arweiniodd ac y tywysodd efe fi. Yn fy erbyn i yn ddiau y trodd efe, ac y mae efe yn troi ei law ar hyd y dydd. Efe a wnaeth fy nghnawd a’m croen yn hen; efe a ddrylliodd fy esgyrn. Efe a adeiladodd i’m herbyn, ac a’m hamgylchodd â bustl ac â blinder. Efe a’m gosododd mewn tywyll leoedd, fel y rhai sydd wedi marw er ys talm. Efe a gaeodd o’m hamgylch, fel nad elwyf allan: efe a wnaeth fy llyffethair i yn drom. Pan lefwyf, a phan floeddiwyf, efe a gae allan fy ngweddi. Efe a gaeodd fy ffyrdd â cherrig nadd; efe a wyrodd fy llwybrau. 10 Yr oedd efe i mi fel arth yn cynllwyn, neu lew mewn llochesau. 11 Efe a wyrodd fy ffyrdd, ac a’m drylliodd; yn anrheithiedig y gwnaeth fi. 12 Efe a anelodd ei fwa, ac a’m gosododd fel nod i saeth. 13 Efe a wnaeth i saethau ei gawell fyned i’m harennau. 14 Gwatwargerdd oeddwn i’m holl bobl, a’u cân ar hyd y dydd. 15 Efe a’m llanwodd â chwerwder; efe a’m meddwodd i â’r wermod. 16 Efe a dorrodd fy nannedd â cherrig, ac a’m trybaeddodd yn y llwch. 17 A phellheaist fy enaid oddi wrth heddwch; anghofiais ddaioni. 18 A mi a ddywedais, Darfu am fy nerth a’m gobaith oddi wrth yr Arglwydd. 19 Cofia fy mlinder a’m gofid, y wermod a’r bustl. 20 Fy enaid gan gofio a gofia, ac a ddarostyngwyd ynof fi. 21 Hyn yr ydwyf yn ei atgofio; am hynny y gobeithiaf.

22 Trugareddau yr Arglwydd yw na ddarfu amdanom ni: oherwydd ni phalla ei dosturiaethau ef. 23 Bob bore y deuant o newydd: mawr yw dy ffyddlondeb. 24 Yr Arglwydd yw fy rhan i, medd fy enaid; am hynny y gobeithiaf ynddo. 25 Daionus yw yr Arglwydd i’r rhai a ddisgwyliant wrtho, ac i’r enaid a’i ceisio. 26 Da yw gobeithio a disgwyl yn ddistaw am iachawdwriaeth yr Arglwydd. 27 Da yw i ŵr ddwyn yr iau yn ei ieuenctid. 28 Efe a eistedd ei hunan, ac a dau â sôn; am iddo ei dwyn hi arno. 29 Efe a ddyry ei enau yn y llwch, i edrych a oes obaith. 30 Efe a ddyry ei gern i’r hwn a’i trawo: efe a lenwir â gwaradwydd. 31 Oblegid nid yn dragywydd y gwrthyd yr Arglwydd: 32 Ond er iddo gystuddio, eto efe a dosturia, yn ôl amlder ei drugareddau. 33 Canys nid o’i fodd y blina efe, nac y cystuddia blant dynion. 34 I fathru holl garcharorion y ddaear dan ei draed, 35 I wyro barn gŵr o flaen wyneb y Goruchaf, 36 Nid yw yr Arglwydd yn gweled yn dda wneuthur cam â gŵr yn ei fater.

37 Pwy a ddywed y bydd dim, heb i’r Arglwydd ei orchymyn? 38 Oni ddaw o enau y Goruchaf ddrwg a da? 39 Paham y grwgnach dyn byw, gŵr am gosbedigaeth ei bechod? 40 Ceisiwn a chwiliwn ein ffyrdd, a dychwelwn at yr Arglwydd. 41 Dyrchafwn ein calonnau a’n dwylo at Dduw yn y nefoedd. 42 Nyni a wnaethom gamwedd, ac a fuom anufudd; tithau nid arbedaist. 43 Gorchuddiaist ni â soriant, ac erlidiaist ni: lleddaist, nid arbedaist. 44 Ti a’th guddiaist dy hun â chwmwl, fel na ddeuai ein gweddi trwodd. 45 Ti a’n gwnaethost yn sorod ac yn ysgubion yng nghanol y bobl. 46 Ein holl elynion a ledasant eu safnau yn ein herbyn. 47 Dychryn a magl a ddaeth arnom, anrhaith a dinistr. 48 Fy llygad a ddiferodd ffrydiau o ddwfr, oherwydd dinistr merch fy mhobl. 49 Fy llygad a ddiferodd, ac ni pheidiodd, am nad oes gorffwystra; 50 Hyd oni edrycho, ac oni ystyrio yr Arglwydd o’r nefoedd. 51 Y mae fy llygad yn blino fy enaid, oherwydd holl ferched fy ninas. 52 Fy ngelynion gan hela a’m heliasant yn ddiachos, fel aderyn. 53 Torasant ymaith fy einioes yn y pwll, a bwriasant gerrig arnaf. 54 Y dyfroedd a lifasant dros fy mhen: dywedais, Torrwyd fi ymaith.

55 Gelwais ar dy enw di, O Arglwydd, o’r pwll isaf. 56 Ti a glywaist fy llef: na chudd dy glust rhag fy uchenaid a’m gwaedd. 57 Ti a ddaethost yn nes y dydd y gelwais arnat: dywedaist, Nac ofna. 58 Ti, O Arglwydd, a ddadleuaist gyda’m henaid: gwaredaist fy einioes. 59 Ti, O Arglwydd, a welaist fy ngham: barn di fy marn i. 60 Ti a welaist eu holl ddial hwynt, a’u holl amcanion i’m herbyn i. 61 Clywaist eu gwaradwydd, O Arglwydd, a’u holl fwriadau i’m herbyn; 62 Gwefusau y rhai a godant i’m herbyn, a’u myfyrdod i’m herbyn ar hyd y dydd. 63 Edrych ar eu heisteddiad a’u cyfodiad; myfi yw eu cân hwynt.

64 Tâl y pwyth iddynt, O Arglwydd, yn ôl gweithred eu dwylo. 65 Dod iddynt ofid calon, dy felltith iddynt. 66 Erlid hwynt â digofaint, a difetha hwy oddi tan nefoedd yr Arglwydd.

Pa fodd y tywyllodd yr aur! y newidiodd yr aur coeth da! taflwyd cerrig y cysegr ym mhen pob heol. Gwerthfawr feibion Seion, a chystal ag aur pur, pa fodd y cyfrifwyd hwynt fel ystenau pridd, gwaith dwylo’r crochenydd! Y dreigiau a dynnant allan eu bronnau, a roddant sugn i’w cenawon: merch fy mhobl a aeth yn greulon, fel yr estrysiaid yn yr anialwch. Tafod y plentyn sugno sydd yn glynu wrth daflod ei enau gan syched: y plant a ofynnant fara, ond nid oedd a dorrai iddynt. Y rhai a ymborthent yn foethus, a ddifethwyd yn yr heolydd: y rhai a feithrinwyd mewn ysgarlad, a gofleidiant y tomennydd. Canys mwy yw anwiredd merch fy mhobl na phechod Sodom, yr hon a ddinistriwyd megis yn ddisymwth, ni safodd llaw arni. Purach oedd ei Nasareaid hi na’r eira, gwynnach oeddynt na’r llaeth, gwridocach oeddynt o gorff na’r cwrel, a’u trwsiad oedd o saffir. Duach yw yr olwg arnynt na’r glöyn; nid adwaenir hwynt yn yr heolydd: eu croen a lŷn wrth eu hesgyrn; gwywodd, aeth yn debyg i bren. Gwell yw y rhai a laddwyd â chleddyf, na’r rhai a laddwyd â newyn; oblegid y rhai hyn a ddihoenant, wedi eu trywanu o eisiau cnwd y maes. 10 Dwylo gwragedd tosturiol a ferwasant eu plant eu hun: eu hymborth oeddynt yn ninistr merch fy mhobl. 11 Yr Arglwydd a gyflawnodd ei ddicter, a dywalltodd lidiowgrwydd ei soriant, ac a gyneuodd dân yn Seion, yr hwn a ddifaodd ei seiliau hi. 12 Ni choeliasai brenhinoedd y ddaear, na holl drigolion y byd, y deuai y gwrthwynebwr a’r gelyn i mewn i byrth Jerwsalem.

13 Am bechodau ei phroffwydi, ac anwiredd ei hoffeiriaid, y rhai a ollyngasant waed y rhai cyfiawn o’i mewn hi; 14 Gwibiasant fel deillion yn yr heolydd, ac ymddifwynasant gan waed, fel na ellid cyffwrdd â’u dillad hwynt. 15 Gwaeddasant arnynt, Ciliwch; aflan yw; ciliwch, ciliwch, na chyffyrddwch; pan ffoesant, ac yr aethant ymaith. Dywedent ymysg y cenhedloedd, Ni thrigant hwy yma mwyach. 16 Soriant yr Arglwydd a’u gwasgarodd hwynt; nid edrych efe arnynt mwy: ni pharchent hwy yr offeiriaid, ni thosturient wrth yr hynafgwyr. 17 Ninnau hefyd, ein llygaid a ballasant am ein cynhorthwy ofer: gan ddisgwyl disgwyl yr oeddem ni wrth genhedlaeth ni allai ein hachub. 18 Hwy a olrheiniant ein cerddediad, fel na allwn fyned ar hyd ein heolydd: y mae ein diwedd ni yn agos, ein dyddiau ni a gyflawnwyd; canys daeth ein diwedd ni. 19 Buanach yw ein herlidwyr nag eryrod yr awyr; y maent yn ein herlid ni ar y mynyddoedd, yn ein cynllwyn yn yr anialwch. 20 Anadl ein ffroenau, eneiniog yr Arglwydd, a ddaliwyd yn eu rhwydau hwynt, am yr hwn y dywedasem, Dan ei gysgod ef y byddwn ni byw ymysg y cenhedloedd.

21 Bydd lawen a hyfryd, merch Edom, yr hon wyt yn trigo yn nhir Us: daw y cwpan atat tithau hefyd; ti a feddwi, ac a ymnoethi.

22 Gorffennwyd dy gosbedigaeth di, merch Seion; ni chaethgluda efe di mwy: efe a ymwêl â’th anwiredd di, merch Edom; efe a ddatguddia dy bechodau.

Cofia, O Arglwydd, beth a ddaeth i ni: edrych a gwêl ein gwaradwydd. Ein hetifeddiaeth ni a drowyd i estroniaid, a’n tai i ddieithriaid. Amddifaid ydym heb dadau; ein mamau sydd megis gweddwon. Yr ydym yn yfed ein dwfr am arian; ein coed sydd yn dyfod am werth. Ein gwarrau sydd dan erlid; llafurio yr ydym, nid oes gorffwystra i ni. Rhoesom ein llaw i’r Eifftiaid, i’r Asyriaid, i gael digon o fara. Ein tadau a bechasant, ac nid ydynt: ninnau sydd yn dwyn eu cosb hwynt. Gweision sydd yn llywodraethu arnom ni, heb fod a’n gwaredo o’u llaw hwynt. Mewn enbydrwydd am ein heinioes y dygasom ein bara i mewn, oherwydd cleddyf yr anialwch. 10 Ein croen a dduodd fel ffwrn, gan y newyn tost. 11 Hwy a dreisiasant y gwragedd yn Seion, a’r morynion yn ninasoedd Jwda. 12 Crogasant dywysogion â’u dwylo; ni pherchid wynebau yr hynafgwyr. 13 Hwy a gymerasant y gwŷr ieuainc i falu; a’r plant a syrthiasant dan y coed. 14 Yr hynafgwyr a beidiasant â’r porth; y gwŷr ieuainc â’u cerdd. 15 Darfu llawenydd ein calon: ein dawns a drodd yn alar. 16 Syrthiodd y goron oddi am ein pen: gwae ni yn awr bechu ohonom! 17 Am hyn y mae ein calon yn ofidus; am hyn y tywyllodd ein llygaid. 18 Oherwydd mynydd Seion, yr hwn a anrheithiwyd, y mae y llwynogod yn rhodio ynddo. 19 Ti, Arglwydd, a barhei byth; dy orseddfainc yn oes oesoedd. 20 Paham yr anghofi ni byth, ac y gadewi ni dros hir ddyddiau? 21 Dychwel ni, O Arglwydd, atat ti, a ni a ddychwelir: adnewydda ein dyddiau megis cynt. 22 Eithr ti a’n llwyr wrthodaist ni: ti a ddigiaist wrthym ni yn ddirfawr.

Hebreaid 10:19-39

19 Am hynny, frodyr, gan fod i ni ryddid i fyned i mewn i’r cysegr trwy waed Iesu, 20 Ar hyd ffordd newydd a bywiol, yr hon a gysegrodd efe i ni, trwy’r llen, sef ei gnawd ef; 21 A bod i ni Offeiriad mawr ar dŷ Dduw: 22 Nesawn â chalon gywir, mewn llawn hyder ffydd, wedi glanhau ein calonnau oddi wrth gydwybod ddrwg, a golchi ein corff â dwfr glân. 23 Daliwn gyffes ein gobaith yn ddi‐sigl; (canys ffyddlon yw’r hwn a addawodd;) 24 A chydystyriwn bawb ein gilydd, i ymannog i gariad a gweithredoedd da: 25 Heb esgeuluso ein cydgynulliad ein hunain, megis y mae arfer rhai; ond annog bawb ein gilydd: a hynny yn fwy, o gymaint â’ch bod yn gweled y dydd yn nesáu. 26 Canys os o’n gwirfodd y pechwn, ar ôl derbyn gwybodaeth y gwirionedd, nid oes aberth dros bechodau wedi ei adael mwyach; 27 Eithr rhyw ddisgwyl ofnadwy am farnedigaeth, ac angerdd tân, yr hwn a ddifa’r gwrthwynebwyr. 28 Yr un a ddirmygai gyfraith Moses, a fyddai farw heb drugaredd, dan ddau neu dri o dystion: 29 Pa faint mwy cosbedigaeth, dybygwch chwi, y bernir haeddu o’r hwn a fathrodd Fab Duw, ac a farnodd yn aflan waed y cyfamod, trwy’r hwn y sancteiddiwyd ef, ac a ddifenwodd Ysbryd y gras? 30 Canys nyni a adwaenom y neb a ddywedodd, Myfi biau dial, myfi a dalaf, medd yr Arglwydd. A thrachefn, Yr Arglwydd a farna ei bobl. 31 Peth ofnadwy yw syrthio yn nwylo’r Duw byw. 32 Ond gelwch i’ch cof y dyddiau o’r blaen, yn y rhai, wedi eich goleuo, y dioddefasoch ymdrech mawr o helbulon: 33 Wedi eich gwneuthur weithiau yn wawd, trwy waradwyddiadau a chystuddiau; ac weithiau yn bod yn gyfranogion â’r rhai a drinid felly. 34 Canys chwi a gyd‐ddioddefasoch â’m rhwymau i hefyd, ac a gymerasoch eich ysbeilio am y pethau oedd gennych yn llawen; gan wybod fod gennych i chwi eich hunain olud gwell yn y nefoedd, ac un parhaus. 35 Am hynny na fwriwch ymaith eich hyder, yr hwn sydd iddo fawr wobr. 36 Canys rhaid i chwi wrth amynedd; fel, wedi i chwi wneuthur ewyllys Duw, y derbynioch yr addewid. 37 Oblegid ychydig bachigyn eto, a’r hwn sydd yn dyfod a ddaw, ac nid oeda. 38 A’r cyfiawn a fydd byw trwy ffydd: eithr o thyn neb yn ôl, nid yw fy enaid yn ymfodloni ynddo. 39 Eithr nid ydym ni o’r rhai sydd yn tynnu yn ôl i golledigaeth; namyn o ffydd, i gadwedigaeth yr enaid.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.