Old/New Testament
32 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia oddi wrth yr Arglwydd yn y ddegfed flwyddyn i Sedeceia brenin Jwda, honno oedd y ddeunawfed flwyddyn i Nebuchodonosor. 2 Canys y pryd hwnnw yr oedd llu brenin Babilon yn gwarchae ar Jerwsalem: a Jeremeia y proffwyd ydoedd wedi cau arno yng nghyntedd y carchar, yr hwn oedd yn nhŷ brenin Jwda. 3 Canys Sedeceia brenin Jwda a gaeasai arno ef, gan ddywedyd, Paham y proffwydi, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, mi a roddaf y ddinas hon yn llaw brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi; 4 Ac ni ddianc Sedeceia brenin Jwda o law y Caldeaid, ond efe a roddir yn ddiau yn llaw brenin Babilon, ac efe a ymddiddan ag ef enau yng ngenau, a’i lygaid ef a edrychant yn ei lygaid yntau; 5 Ac efe a arwain Sedeceia i Babilon, ac yno y bydd efe hyd oni ymwelwyf fi ag ef, medd yr Arglwydd: er i chwi ymladd â’r Caldeaid, ni lwyddwch.
6 A Jeremeia a lefarodd, Gair yr Arglwydd a ddaeth ataf fi, gan ddywedyd, 7 Wele Hanameel mab Salum dy ewythr yn dyfod atat, gan ddywedyd, Prŷn i ti fy maes, yr hwn sydd yn Anathoth: oblegid i ti y mae cyfiawnder y pryniad i’w brynu ef. 8 Felly Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad a ddaeth ataf fi i gyntedd y carchardy, yn ôl gair yr Arglwydd, ac a ddywedodd wrthyf, Prŷn, atolwg, fy maes sydd yn Anathoth yn nhir Benjamin: canys i ti y mae cyfiawnder yr etifeddiaeth, ac i ti y perthyn ei ollwng; prŷn ef i ti. Yna y gwybûm mai gair yr Arglwydd oedd hwn. 9 A mi a brynais y maes oedd yn Anathoth gan Hanameel mab fy ewythr frawd fy nhad, ac a bwysais iddo yr arian, saith sicl a deg darn o arian. 10 A mi a ysgrifennais hyn mewn llyfr, ac a’i seliais; cymerais hefyd dystion, a phwysais yr arian mewn cloriannau. 11 Yna mi a gymerais lyfr y pryniad, sef yr hwn oedd wedi ei selio wrth gyfraith a defod, a’r hwn oedd yn agored. 12 A mi a roddais lyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, mab Maaseia, yng ngŵydd Hanameel mab fy ewythr, ac yng ngŵydd y tystion a ysgrifenasent lyfr y prynedigaeth, yng ngŵydd yr holl Iddewon oedd yn eistedd yng nghyntedd y carchardy.
13 A mi a orchmynnais i Baruch yn eu gŵydd hwynt, gan ddywedyd, 14 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Cymer y llyfrau hyn, sef y llyfr hwn o’r pryniad yr hwn sydd seliedig, a’r llyfr agored hwn, a dod hwynt mewn llestr pridd, fel y parhaont ddyddiau lawer. 15 Oherwydd fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Tai, a meysydd, a gwinllannoedd, a feddiennir eto yn y wlad hon.
16 Ac wedi i mi roddi llyfr y pryniad at Baruch mab Nereia, myfi a weddïais ar yr Arglwydd, gan ddywedyd, 17 O Arglwydd Dduw, wele, ti a wnaethost y nefoedd a’r ddaear, â’th fawr allu ac â’th fraich estynedig; nid oes dim rhy anodd i ti. 18 Yr wyt yn gwneuthur trugaredd i filoedd, ac yn talu anwireddau y tadau i fynwes eu meibion ar eu hôl hwynt: y Duw mawr, cadarn, Arglwydd y lluoedd yw ei enw; 19 Mawr mewn cyngor, a galluog ar weithred; canys y mae dy lygaid yn agored ar holl ffyrdd meibion dynion, i roddi i bob un yn ôl ei ffyrdd, ac yn ôl ffrwyth ei weithredoedd; 20 Yr hwn a osodaist arwyddion a rhyfeddodau yng ngwlad yr Aifft hyd y dydd hwn, ac yn Israel, ac ymysg dynion eraill; ac a wnaethost i ti enw, megis heddiw; 21 Ac a ddygaist dy bobl Israel allan o dir yr Aifft, ag arwyddion, ac â rhyfeddodau, ac â llaw gref, ac â braich estynedig, ac ag ofn mawr; 22 Ac a roddaist iddynt y wlad yma, yr hon a dyngaist wrth eu tadau y rhoddit iddynt, sef gwlad yn llifeirio o laeth a mêl. 23 A hwy a ddaethant i mewn, ac a’i meddianasant hi; ond ni wrandawsant ar dy lais, ac ni rodiasant yn dy gyfraith: ni wnaethant ddim o’r hyn oll a orchmynnaist iddynt ei wneuthur: am hynny y peraist i’r holl niwed hyn ddigwydd iddynt. 24 Wele, peiriannau ergydion a ddaeth ar y ddinas i’w goresgyn hi; a’r ddinas a roddir i law y Caldeaid, y rhai sydd yn ymladd yn ei herbyn, oherwydd y cleddyf, a’r newyn, a’r haint: a’r hyn a ddywedaist ti, a gwblhawyd; ac wele, ti a’i gweli. 25 A thi a ddywedaist wrthyf, O Arglwydd Dduw, Prŷn i ti y maes ag arian, a chymer dystion: gan fod y ddinas wedi ei rhoddi i law y Caldeaid.
26 Yna y daeth gair yr Arglwydd at Jeremeia, gan ddywedyd, 27 Wele, myfi yw yr Arglwydd, Duw pob cnawd: a oes dim rhy anodd i mi? 28 Am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele fi yn rhoddi y ddinas hon yn llaw y Caldeaid, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac efe a’i hennill hi. 29 A’r Caldeaid, y rhai a ryfelant yn erbyn y ddinas hon, a ddeuant ac a ffaglant y ddinas hon â thân, ac a’i llosgant hi, a’r tai y rhai yr arogldarthasant ar eu pennau i Baal, ac y tywalltasant ddiod‐offrwm i dduwiau dieithr, i’m digio i. 30 Oblegid meibion Israel, a meibion Jwda, oeddynt yn gwneuthur yn unig yr hyn oedd ddrwg yn fy ngolwg i o’u mebyd: oherwydd meibion Israel oeddynt yn unig yn fy niclloni i â gweithredoedd eu dwylo, medd yr Arglwydd. 31 Canys i’m digofaint, ac i’m llid, y bu y ddinas hon i mi, er y dydd yr adeiladasant hi hyd y dydd hwn, i beri ei symud oddi gerbron fy wyneb: 32 Am holl ddrygioni meibion Israel a meibion Jwda, y rhai a wnaethant i’m digio i, hwynt‐hwy, eu brenhinoedd, eu tywysogion, eu hoffeiriaid, a’u proffwydi, a gwŷr Jwda, a phreswylwyr Jerwsalem. 33 Er i mi eu dysgu, gan foregodi i roddi addysg iddynt, eto ni wrandawsant i gymryd athrawiaeth; eithr troesant ataf fi eu gwarrau, ac nid eu hwynebau: 34 Eithr gosodasant eu ffieidd‐dra yn y tŷ y gelwir fy enw arno, i’w halogi ef. 35 A hwy a adeiladasant uchelfeydd Baal, y rhai sydd yn nyffryn mab Hinnom, i wneuthur i’w meibion a’u merched fyned trwy y tân i Moloch; yr hyn ni orchmynnais iddynt, ac ni feddyliodd fy nghalon iddynt wneuthur y ffieidd‐dra hyn, i beri i Jwda bechu.
36 Ac yn awr am hynny fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am y ddinas hon, am yr hon y dywedwch chwi, Rhoddir hi i law brenin Babilon, trwy y cleddyf, a thrwy newyn, a thrwy haint; 37 Wele, myfi a’u cynullaf hwynt o’r holl diroedd, y rhai yn fy nig a’m llid a’m soriant mawr y gyrrais hwynt iddynt; ac a’u dygaf yn eu hôl i’r lle hwn, ac a wnaf iddynt breswylio yn ddiogel. 38 A hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwythau. 39 A mi a roddaf iddynt un galon ac un ffordd, i’m hofni byth, er lles iddynt ac i’w meibion ar eu hôl. 40 A mi a wnaf â hwynt gyfamod tragwyddol, na throaf oddi wrthynt, heb wneuthur lles iddynt; a mi a osodaf fy ofn yn eu calonnau, fel na chiliont oddi wrthyf. 41 Ie, mi a lawenychaf ynddynt, gan wneuthur lles iddynt, a mi a’u plannaf hwynt yn y tir hwn yn sicr, â’m holl galon, ac â’m holl enaid. 42 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd; Megis y dygais i ar y bobl hyn yr holl fawr ddrwg hyn, felly y dygaf fi arnynt yr holl ddaioni a addewais iddynt. 43 A meysydd a feddiennir yn y wlad yma, am yr hon yr ydych chwi yn dywedyd, Anghyfannedd yw hi, heb ddyn nac anifail; yn llaw y Caldeaid y rhoddwyd hi. 44 Meysydd a brynant am arian, ac a ysgrifennant mewn llyfrau, ac a’u seliant, ac a gymerant dystion yn nhir Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, ac yn ninasoedd y mynyddoedd, ac yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, medd yr Arglwydd.
33 Gair yr Arglwydd hefyd a ddaeth at Jeremeia yr ail waith, ac efe eto yn garcharor yng nghyntedd y carchardy, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd yr hwn a’i gwnaeth, yr Arglwydd yr hwn a’i lluniodd i’w sicrhau, yr Arglwydd yw ei enw: 3 Galw arnaf, a mi a’th atebaf, ac a ddangosaf i ti bethau mawrion, a chedyrn, y rhai nis gwyddost. 4 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, am dai y ddinas hon, ac am dai brenhinoedd Jwda, y rhai a ddinistriwyd â pheiriannau rhyfel, ac â chleddyf; 5 Y maent yn dyfod i ymladd â’r Caldeaid, ond i’w llenwi â chelanedd dynion, y rhai a leddais yn fy llid a’m digofaint, ac am i mi guddio fy wyneb oddi wrth y ddinas hon am eu holl ddrygioni hwynt. 6 Wele, myfi a ddygaf iddi hi iechyd a meddyginiaeth, a mi a’u meddyginiaethaf hwynt, ac a ddatguddiaf iddynt amlder o heddwch a gwirionedd. 7 A mi a ddychwelaf gaethiwed Jwda, a chaethiwed Israel, a mi a’u hadeiladaf hwynt megis yn y dechreuad. 8 A mi a’u puraf hwynt oddi wrth eu holl anwiredd a bechasant i’m herbyn; a mi a faddeuaf iddynt eu holl bechodau trwy y rhai y pechasant i’m herbyn, a thrwy y rhai y troseddasant yn fy erbyn.
9 A hyn fydd i mi yn enw llawenydd, yn glod ac yn ogoniant, o flaen holl genhedloedd y ddaear, y rhai a glywant yr holl ddaioni yr ydwyf fi yn ei wneuthur iddynt: a hwythau a ofnant ac a grynant am yr holl ddaioni a’r holl lwyddiant yr ydwyf fi yn eu gwneuthur i’r ddinas hon. 10 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Clywir eto yn y lle hwn, (am yr hwn y dywedwch, Anialwch yw efe, heb ddyn ac heb anifail, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem, y rhai a wnaed yn anghyfannedd, heb ddyn, ac heb breswylwr, ac heb anifail,) 11 Llef gorfoledd a llef llawenydd, llef y priodfab a llef y briodferch, llef rhai yn dywedyd, Molwch Arglwydd y lluoedd; oherwydd daionus yw yr Arglwydd, oblegid ei drugaredd a bery yn dragywydd; llef rhai yn dwyn offrwm moliant i dŷ yr Arglwydd: canys mi a ddychwelaf gaethiwed y wlad, megis yn y dechreuad, medd yr Arglwydd. 12 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Bydd eto yn y lle yma, yr hwn sydd anghyfanheddol heb ddyn ac heb anifail, ac yn ei holl ddinasoedd, drigfa bugeiliaid yn corlannu y praidd. 13 Yn ninasoedd y mynydd, yn ninasoedd y gwastad, ac yn ninasoedd y deau, ac yng ngwlad Benjamin, ac yn amgylchoedd Jerwsalem, ac yn ninasoedd Jwda, yr â defaid eto, dan law yr hwn sydd yn eu rhifo, medd yr Arglwydd. 14 Wele y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, fel y cyflawnwyf y peth daionus a addewais i dŷ Israel, ac i dŷ Jwda.
15 Yn y dyddiau hynny, ac yn yr amser hwnnw, y paraf i Flaguryn cyfiawnder flaguro i Dafydd; ac efe a wna farn a chyfiawnder yn y tir. 16 Yn y dyddiau hynny Jwda a waredir, a Jerwsalem a breswylia yn ddiogel; a hwn yw yr enw y gelwir ef, Yr Arglwydd ein cyfiawnder.
17 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Ni phalla i Dafydd ŵr yn eistedd ar frenhinfainc tŷ Israel. 18 Ac ni phalla i’r offeiriaid y Lefiaid ŵr ger fy mron i, i offrymu poethoffrwm, ac i offrymu bwyd‐offrwm, ac i wneuthur aberth, yn dragywydd.
19 A gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 20 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os gellwch ddiddymu fy nghyfamod â’r dydd, a’m cyfamod â’r nos, ac na byddo dydd a nos yn eu hamser; 21 Yna y diddymir fy nghyfamod â Dafydd fy ngwas, na byddo iddo fab yn teyrnasu ar ei deyrngadair ef, ac â’r Lefiaid yr offeiriaid fy ngweinidogion. 22 Megis na ellir cyfrif llu y nefoedd, ac na ellir mesur tywod y môr; felly myfi a amlhaf had Dafydd fy ngwas, a’r Lefiaid y rhai sydd yn gweini i mi. 23 Hefyd, gair yr Arglwydd a ddaeth at Jeremeia, gan ddywedyd, 24 Oni weli di pa beth y mae y bobl hyn yn ei lefaru, gan ddywedyd, Y ddau deulu a ddewisodd yr Arglwydd, efe a’u gwrthododd hwynt? felly y dirmygasant fy mhobl, fel nad ydynt mwyach yn genedl yn eu golwg hwynt. 25 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Os fy nghyfamod â’r dydd ac â’r nos ni saif, ac oni osodais i ddefodau y nefoedd a’r ddaear: 26 Yna had Jacob a Dafydd fy ngwas a wrthodaf fi, fel na chymerwyf o’i had ef lywodraethwyr ar had Abraham, Isaac, a Jacob: canys mi a ddychwelaf eu caethiwed hwynt, ac a drugarhaf wrthynt.
1 Duw, wedi iddo lefaru lawer gwaith a llawer modd gynt wrth y tadau trwy’r proffwydi, yn y dyddiau diwethaf hyn a lefarodd wrthym ni yn ei Fab; 2 Yr hwn a wnaeth efe yn etifedd pob peth, trwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd: 3 Yr hwn, ac efe yn ddisgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir lun ei berson ef, ac yn cynnal pob peth trwy air ei nerth, wedi puro ein pechodau ni trwyddo ef ei hun, a eisteddodd ar ddeheulaw y Mawredd yn y goruwch leoedd; 4 Wedi ei wneuthur o hynny yn well na’r angylion, o gymaint ag yr etifeddodd efe enw mwy rhagorol na hwynt‐hwy. 5 Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, Fy mab ydwyt ti; myfi heddiw a’th genhedlais di? A thrachefn, Myfi a fyddaf iddo ef yn Dad, ac efe a fydd i mi yn Fab? 6 A thrachefn, pan yw yn dwyn y Cyntaf‐anedig i’r byd, y mae yn dywedyd, Ac addoled holl angylion Duw ef. 7 Ac am yr angylion y mae yn dywedyd, Yr hwn sydd yn gwneuthur ei angylion yn ysbrydion, a’i weinidogion yn fflam dân. 8 Ond wrth y Mab, Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd: teyrnwialen uniondeb yw teyrnwialen dy deyrnas di. 9 Ti a geraist gyfiawnder, ac a gaseaist anwiredd: am hynny y’th eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, ag olew gorfoledd tu hwnt i’th gyfeillion. 10 Ac, Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, a sylfaenaist y ddaear; a gwaith dy ddwylo di yw y nefoedd: 11 Hwynt‐hwy a ddarfyddant; ond tydi sydd yn parhau; a hwynt‐hwy oll fel dilledyn a heneiddiant; 12 Ac megis gwisg y plygi di hwynt, a hwy a newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant. 13 Ond wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, Eistedd ar fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed? 14 Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu er mwyn y rhai a gânt etifeddu iachawdwriaeth?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.