Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Old/New Testament

Each day includes a passage from both the Old Testament and New Testament.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 14-16

14 Canys yr Arglwydd a dosturia wrth Jacob, ac a ddethol Israel eto, ac a bair iddynt orffwys yn eu tir eu hunain: a’r dieithr a ymgysyllta â hwynt, a hwy a lynant wrth dŷ Jacob. Y bobl hefyd a’u cymer hwynt, ac a’u dygant i’w lle, a thŷ Israel a’u meddianna hwynt yn nhir yr Arglwydd, yn weision ac yn forynion: a hwy a gaethiwant y rhai a’u caethiwodd hwythau, ac a lywodraethant ar eu gorthrymwyr.

A bydd, yn y dydd y rhoddo yr Arglwydd lonyddwch i ti oddi wrth dy ofid, ac oddi wrth dy ofn, ac oddi wrth y caethiwed caled y gwasanaethaist ynddo, I ti gymryd y ddihareb hon yn erbyn brenin Babilon, a dywedyd, Pa wedd y peidiodd y gorthrymwr? ac y peidiodd y dref aur? Yr Arglwydd a ddrylliodd ffon yr anwiriaid, a theyrnwialen y llywiawdwyr. Yr hwn sydd yn taro y bobloedd mewn dicllonedd â phla gwastadol, yr hwn sydd yn llywodraethu y cenhedloedd mewn llidiowgrwydd, a erlidir heb neb yn lluddias. Gorffwysodd a llonyddodd yr holl ddaear; canasant o lawenydd. Y ffynidwydd hefyd a chedrwydd Libanus a lawenhasant yn dy erbyn, gan ddywedyd, Er pan orweddaist, nid esgynnodd cymynydd i’n herbyn. Uffern oddi tanodd a gynhyrfodd o’th achos, i gyfarfod â thi wrth dy ddyfodiad: hi a gyfododd y meirw i ti, sef holl dywysogion y ddaear; cyfododd holl frenhinoedd y cenhedloedd o’u gorseddfaoedd. 10 Y rhai hynny oll a lefarant, ac a ddywedant wrthyt, A wanhawyd tithau fel ninnau? a aethost ti yn gyffelyb i ni? 11 Disgynnwyd dy falchder i’r bedd, a thrwst dy nablau: tanat y taenir pryf, pryfed hefyd a’th doant. 12 Pa fodd y syrthiaist o’r nefoedd, Lusiffer, mab y wawr ddydd! pa fodd y’th dorrwyd di i lawr, yr hwn a wanheaist y cenhedloedd! 13 Canys ti a ddywedaist yn dy galon, Mi a ddringaf i’r nefoedd; oddi ar sêr Duw y dyrchafaf fy ngorseddfa; a mi a eisteddaf ym mynydd y gynulleidfa, yn ystlysau y gogledd; 14 Dringaf yn uwch na’r cymylau; tebyg fyddaf i’r Goruchaf. 15 Er hynny i uffern y’th ddisgynnir, i ystlysau y ffos. 16 Y rhai a’th welant a edrychant arnat yn graff, ac a’th ystyriant, gan ddywedyd, Ai dyma y gŵr a wnaeth i’r ddaear grynu, ac a gynhyrfodd deyrnasoedd? 17 A osododd y byd fel anialwch, ac a ddinistriodd ei ddinasoedd, heb ollwng ei garcharorion yn rhydd tuag adref? 18 Holl frenhinoedd y cenhedloedd, ie, hwy oll a orweddasant mewn gogoniant, bob un yn ei dŷ ei hun: 19 Eithr tydi a fwriwyd allan o’th fedd, fel cangen ffiaidd, neu wisg y lladdedigion, y rhai a drywanwyd â chleddyf; y rhai a ddisgynnent i gerrig y ffos, fel celain wedi ei mathru. 20 Ni byddi mewn un bedd â hwynt, oherwydd dy dir a ddifethaist, a’th bobl a leddaist: ni bydd had yr annuwiol enwog byth. 21 Darperwch laddfa i’w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd. 22 Minnau a gyfodaf yn eu herbyn hwynt, medd Arglwydd y lluoedd, ac a dorraf allan o Babilon enw a gweddill, a mab, ac ŵyr, medd yr Arglwydd: 23 Ac a’i gosodaf hi yn feddiant i aderyn y bwn, ac yn byllau dyfroedd; ysgubaf hi hefyd ag ysgubau distryw, medd Arglwydd y lluoedd.

24 Tyngodd Arglwydd y lluoedd, gan ddywedyd, Diau megis yr amcenais, felly y bydd; ac fel y bwriedais, hynny a saif; 25 Am ddryllio Assur yn fy nhir: canys mathraf ef ar fy mynyddoedd; yna y cilia ei iau ef oddi arnynt, ac y symudir ei faich ef oddi ar eu hysgwyddau hwynt. 26 Dyma y cyngor a gymerwyd am yr holl ddaear: a dyma y llaw a estynnwyd ar yr holl genhedloedd. 27 Oherwydd Arglwydd y lluoedd a’i bwriadodd, a phwy a’i diddyma? ei law ef hefyd a estynnwyd, a phwy a’i try yn ôl? 28 Yn y flwyddyn y bu farw y brenin Ahas, y bu y baich hwn.

29 Palesteina, na lawenycha di oll, er torri gwialen dy drawydd: oherwydd o wreiddyn y sarff y daw gwiber allan, a’i ffrwyth hi fydd sarff danllyd hedegog. 30 A chynblant y tlodion a ymborthant, a’r rhai anghenus a orweddant mewn diogelwch: a mi a laddaf dy wreiddyn â newyn, yntau a ladd y weddill. 31 Uda, borth; gwaedda, ddinas; Palesteina, ti oll a doddwyd: canys mwg sydd yn dyfod o’r gogledd, ac ni bydd unig yn ei amseroedd nodedig ef. 32 A pha beth a atebir i genhadau y genedl? Seilio o’r Arglwydd Seion, ac y gobeithia trueiniaid ei bobl ef ynddi.

15 Baich Moab. Oherwydd y nos y dinistriwyd Ar Moab, ac y distawyd hi; oherwydd y nos y dinistriwyd Cir Moab, ac y distawyd hi. Aeth i fyny i Baith, ac i Dibon, i’r uchelfeydd, i wylo: am Nebo, ac am Medeba, yr uda Moab; bydd moelni ar eu holl bennau, a phob barf wedi ei heillio. Yn eu heolydd yr ymwregysant â sachliain: ar bennau eu tai, ac yn eu heolydd, yr uda pob un, gan wylo yn hidl. Gwaedda Hesbon hefyd, ac Eleale: hyd Jahas y clywir eu llefain hwynt: am hynny arfogion Moab a floeddiant, pob un a flina ar ei einioes. Fy nghalon a waedda am Moab, ei ffoaduriaid hi a ânt hyd Soar, fel anner deirblwydd; mewn wylofain y dringant hyd allt Luhith: canys codant waedd dinistr ar hyd ffordd Horonaim. Oherwydd dyfroedd Nimrim a fyddant yn anrhaith: canys gwywodd y llysiau, darfu y gwellt; nid oes gwyrddlesni. Am hynny yr helaethrwydd a gawsant, a’r hyn a roesant i gadw, a ddygant i afon yr helyg. Canys y gweiddi a amgylchynodd derfyn Moab, eu hudfa hyd Eglaim, a’u hochain hyd Beer‐elim. Canys dyfroedd Dimon a lenwir o waed; canys gosodaf ychwaneg ar Dimon, llewod ar yr hwn a ddihango ym Moab, ac ar weddill y wlad.

16 Anfonwch oen i lywodraethwr y tir, o Sela i’r anialwch, i fynydd merch Seion. Bydd fel aderyn yn gwibio wedi ei fwrw allan o’r nyth; felly y bydd merched Moab wrth rydau Arnon. Ymgynghora, gwna farn, gwna dy gysgod fel nos yng nghanol hanner dydd; cuddia y rhai gwasgaredig, na ddatguddia y crwydrad. Triged fy ngwasgaredigion gyda thi; Moab, bydd di loches iddynt rhag y dinistrydd; canys diweddwyd y gorthrymydd, yr anrheithiwr a beidiodd, y mathrwyr a ddarfuant o’r tir. A gorseddfainc a ddarperir mewn trugaredd; ac arni yr eistedd efe mewn gwirionedd, o fewn pabell Dafydd, yn barnu ac yn ceisio barn, ac yn prysuro cyfiawnder.

Clywsom am falchder Moab, (balch iawn yw,) am ei falchder, a’i draha, a’i ddicllonedd: ond nid felly y bydd ei gelwyddau. Am hynny yr uda Moab am Moab, pob un a uda: am sylfeini Cir‐hareseth y griddfenwch; yn ddiau hwy a drawyd. Canys gwinwydd Hesbon a wanhasant; ac am winwydden Sibma, arglwyddi y cenhedloedd a ysgydwasant ei phêr winwydd hi; hyd Jaser y cyraeddasant; crwydrasant ar hyd yr anialwch; ei changhennau a ymestynasant, ac a aethant dros y môr.

Am hynny y galaraf ag wylofain Jaser, gwinwydden Sibma; dyfrhaf di, Hesbon, ac Eleale, â’m dagrau: canys ar dy ffrwythydd haf, ac ar dy gynhaeaf, y syrthiodd bloedd. 10 Y llawenydd hefyd a’r gorfoledd a ddarfu o’r dolydd: ni chenir ac ni floeddir yn y gwinllannoedd; ni sathr sathrydd win yn y gwryfoedd; gwneuthum i’w bloedd gynhaeaf beidio. 11 Am hynny y rhua fy ymysgaroedd am Moab fel telyn, a’m perfedd am Cir‐hares.

12 A phan weler blino o Moab ar yr uchelfan, yna y daw efe i’w gysegr i weddïo; ond ni thycia iddo. 13 Dyma y gair a lefarodd yr Arglwydd am Moab, er yr amser hwnnw. 14 Ond yn awr y llefarodd yr Arglwydd, gan ddywedyd, O fewn tair blynedd, fel blynyddoedd gwas cyflog, y dirmygir gogoniant Moab, a’r holl dyrfa fawr; a’r gweddill fydd ychydig bach a di‐rym.

Effesiaid 5:1-16

Byddwch gan hynny ddilynwyr Duw, fel plant annwyl; A rhodiwch mewn cariad, megis y carodd Crist ninnau, ac a’i rhoddodd ei hun drosom ni, yn offrwm ac yn aberth i Dduw o arogl peraidd. Eithr godineb, a phob aflendid, neu gybydd‐dra, nac enwer chwaith yn eich plith, megis y gweddai i saint; Na serthedd, nac ymadrodd ffôl, na choeg ddigrifwch, pethau nid ydynt weddus: eithr yn hytrach rhoddi diolch. Canys yr ydych chwi yn gwybod hyn, am bob puteiniwr, neu aflan, neu gybydd, yr hwn sydd ddelw‐addolwr, nad oes iddynt etifeddiaeth yn nheyrnas Crist a Duw. Na thwylled neb chwi â geiriau ofer: canys oblegid y pethau hyn y mae digofaint Duw yn dyfod ar blant yr anufudd‐dod. Na fyddwch gan hynny gyfranogion â hwynt. Canys yr oeddech chwi gynt yn dywyllwch, ond yr awron goleuni ydych yn yr Arglwydd: rhodiwch fel plant y goleuni; (Canys ffrwyth yr Ysbryd sydd ym mhob daioni, a chyfiawnder, a gwirionedd;) 10 Gan brofi beth sydd gymeradwy gan yr Arglwydd. 11 Ac na fydded i chwi gydgyfeillach â gweithredoedd anffrwythlon y tywyllwch, eithr yn hytrach argyhoeddwch hwynt. 12 Canys brwnt yw adrodd y pethau a wneir ganddynt hwy yn ddirgel. 13 Eithr pob peth, wedi yr argyhoedder, a eglurir gan y goleuni: canys beth bynnag sydd yn egluro, goleuni yw. 14 Oherwydd paham y mae efe yn dywedyd, Deffro di yr hwn wyt yn cysgu, a chyfod oddi wrth y meirw; a Christ a oleua i ti. 15 Gwelwch gan hynny pa fodd y rhodioch yn ddiesgeulus, nid fel annoethion, ond fel doethion; 16 Gan brynu’r amser, oblegid y dyddiau sydd ddrwg.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.