Old/New Testament
24 Yr Arglwydd a ddangosodd i mi, ac wele ddau gawell o ffigys wedi eu gosod ar gyfer teml yr Arglwydd, wedi i Nebuchodonosor brenin Babilon gaethgludo Jechoneia mab Jehoiacim brenin Jwda, a thywysogion Jwda, gyda’r seiri a’r gofaint o Jerwsalem, a’u dwyn i Babilon. 2 Un cawell oedd o ffigys da iawn, fel ffigys yr aeddfediad cyntaf: a’r cawell arall oedd o ffigys drwg iawn, y rhai ni ellid eu bwyta rhag eu dryced. 3 Yna y dywedodd yr Arglwydd wrthyf, Beth a weli di, Jeremeia? A mi a ddywedais, Ffigys: y ffigys da, yn dda iawn; a’r rhai drwg, yn ddrwg iawn, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced.
4 Yna y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 5 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, Fel y ffigys da hyn, felly y cydnabyddaf fi gaethglud Jwda, y rhai a anfonais o’r lle hwn i wlad y Caldeaid er daioni. 6 Canys mi a osodaf fy ngolwg arnynt er daioni, ac a’u dygaf drachefn i’r wlad hon, ac a’u hadeiladaf hwynt, ac ni thynnaf i lawr; plannaf hefyd hwynt, ac nis diwreiddiaf. 7 Rhoddaf hefyd iddynt galon i’m hadnabod, mai yr Arglwydd ydwyf fi: a hwy a fyddant yn bobl i mi, a minnau a fyddaf yn Dduw iddynt hwy: canys hwy a droant ataf fi â’u holl galon.
8 Ac fel y ffigys drwg, y rhai ni ellir eu bwyta rhag eu dryced, (diau fel hyn y dywed yr Arglwydd,) felly y rhoddaf Sedeceia brenin Jwda, a’i benaethiaid, a gweddill Jerwsalem, y rhai a weddillwyd yn y wlad hon, a’r rhai sydd yn trigo yn nhir yr Aifft: 9 Ie, rhoddaf hwynt i’w symud i holl deyrnasoedd y ddaear, er drwg iddynt, i fod yn waradwydd ac yn ddihareb, yn watwargerdd ac yn felltith, ym mhob man lle y gyrrwyf hwynt. 10 A mi a anfonaf arnynt y cleddyf, newyn, a haint, nes eu darfod oddi ar y ddaear yr hon a roddais iddynt ac i’w tadau.
25 Y gair yr hwn a ddaeth at Jeremeia am holl bobl Jwda, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, hon oedd y flwyddyn gyntaf i Nebuchodonosor brenin Babilon; 2 Yr hwn a lefarodd y proffwyd Jeremeia wrth holl bobl Jwda, ac wrth holl breswylwyr Jerwsalem, gan ddywedyd, 3 Er y drydedd flwyddyn ar ddeg i Joseia mab Amon brenin Jwda, hyd y dydd hwn, honno yw y drydedd flwyddyn ar hugain, y daeth gair yr Arglwydd ataf, ac mi a ddywedais wrthych, gan foregodi a llefaru, ond ni wrandawsoch. 4 A’r Arglwydd a anfonodd atoch chwi ei holl weision y proffwydi, gan foregodi a’u hanfon; ond ni wrandawsoch, ac ni ogwyddasoch eich clust i glywed. 5 Hwy a ddywedent, Dychwelwch yr awr hon bob un oddi wrth ei ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eich gweithredoedd; a thrigwch yn y tir a roddodd yr Arglwydd i chwi ac i’ch tadau, byth ac yn dragywydd: 6 Ac nac ewch ar ôl duwiau dieithr, i’w gwasanaethu, ac i ymgrymu iddynt; ac na lidiwch fi â gweithredoedd eich dwylo, ac ni wnaf niwed i chwi. 7 Er hynny ni wrandawsoch arnaf, medd yr Arglwydd, fel y digiech fi â gweithredoedd eich dwylo, er drwg i chwi eich hunain.
8 Am hynny fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Oherwydd na wrandawsoch ar fy ngeiriau, 9 Wele, mi a anfonaf ac a gymeraf holl deuluoedd y gogledd, medd yr Arglwydd, a Nebuchodonosor brenin Babilon, fy ngwas, a mi a’u dygaf hwynt yn erbyn y wlad hon, ac yn erbyn ei phreswylwyr, ac yn erbyn yr holl genhedloedd hyn oddi amgylch; difrodaf hwynt hefyd, a gosodaf hwynt yn syndod, ac yn chwibaniad, ac yn anrhaith tragwyddol. 10 Paraf hefyd i lais hyfrydwch, ac i lais llawenydd, i lais y priodfab, ac i lais y briodferch, i sŵn y meini melinau, ac i lewyrch y canhwyllau, ballu ganddynt. 11 A’r holl dir hwn fydd yn ddiffeithwch, ac yn syndod: a’r cenhedloedd hyn a wasanaethant frenin Babilon ddeng mlynedd a thrigain. 12 A phan gyflawner deng mlynedd a thrigain, myfi a ymwelaf â brenin Babilon, ac â’r genedl honno, medd yr Arglwydd, am eu hanwiredd, ac â gwlad y Caldeaid; a mi a’i gwnaf hi yn anghyfannedd tragwyddol. 13 Dygaf hefyd ar y wlad honno fy holl eiriau, y rhai a leferais i yn ei herbyn, sef cwbl ag sydd ysgrifenedig yn y llyfr hwn; yr hyn a broffwydodd Jeremeia yn erbyn yr holl genhedloedd. 14 Canys cenhedloedd lawer a brenhinoedd mawrion a fynnant wasanaeth ganddynt hwythau: a mi a dalaf iddynt yn ôl eu gweithredoedd, ac yn ôl gwaith eu dwylo eu hun.
15 Canys fel hyn y dywed yr Arglwydd, Duw Israel, wrthyf fi; Cymer ffiol win y digofaint yma o’m llaw, a dod hi i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr wyf yn dy anfon atynt. 16 A hwy a yfant, ac a frawychant, ac a wallgofant, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonaf yn eu plith. 17 Yna mi a gymerais y ffiol o law yr Arglwydd, ac a’i rhoddais i’w hyfed i’r holl genhedloedd y rhai yr anfonasai yr Arglwydd fi atynt: 18 I Jerwsalem, ac i ddinasoedd Jwda, ac i’w brenhinoedd, ac i’w thywysogion: i’w gwneuthur hwynt yn ddiffeithwch, yn syndod, yn chwibaniad, ac yn felltith, fel y mae heddiw; 19 I Pharo brenin yr Aifft, ac i’w weision, ac i’w dywysogion, ac i’w holl bobl; 20 Ac i’r holl bobl gymysg, ac i holl frenhinoedd gwlad Us, a holl frenhinoedd gwlad y Philistiaid, ac i Ascalon, ac Assa, ac Ecron, a gweddill Asdod; 21 I Edom, a Moab, a meibion Ammon; 22 I holl frenhinoedd Tyrus hefyd, ac i holl frenhinoedd Sidon, ac i frenhinoedd yr ynysoedd y rhai sydd dros y môr; 23 I Dedan, a Thema, a Bus; ac i bawb o’r cyrrau eithaf; 24 Ac i holl frenhinoedd Arabia, ac i holl frenhinoedd y bobl gymysg, y rhai sydd yn trigo yn yr anialwch; 25 Ac i holl frenhinoedd Simri, ac i holl frenhinoedd Elam, ac i holl frenhinoedd y Mediaid; 26 Ac i holl frenhinoedd y gogledd, agos a phell, bob un gyda’i gilydd; ac i holl deyrnasoedd y byd, y rhai sydd ar wyneb y ddaear: a brenin Sesach a yf ar eu hôl hwynt. 27 A thi a ddywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Duw Israel; Yfwch a meddwch, a chwydwch, a syrthiwch, ac na chyfodwch, oherwydd y cleddyf yr hwn a anfonwyf i’ch plith. 28 Ac os gwrthodant dderbyn y ffiol o’th law di i yfed, yna y dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd, Diau yr yfwch: 29 Canys wele fi yn dechrau drygu y ddinas y gelwir fy enw arni, ac a ddihengwch chwi yn ddigerydd? Na ddihengwch; canys yr ydwyf fi yn galw am gleddyf ar holl drigolion y ddaear, medd Arglwydd y lluoedd. 30 Am hynny proffwyda yn eu herbyn yr holl eiriau hyn, a dywed wrthynt, Yr Arglwydd oddi uchod a rua, ac a rydd ei lef o drigle ei sancteiddrwydd; gan ruo y rhua efe ar ei drigle; bloedd, fel rhai yn sathru grawnwin, a rydd efe yn erbyn holl breswylwyr y ddaear. 31 Daw twrf hyd eithafoedd y ddaear; canys y mae cwyn rhwng yr Arglwydd a’r cenhedloedd: efe a ymddadlau â phob cnawd, y drygionus a ddyry efe i’r cleddyf, medd yr Arglwydd. 32 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Wele ddrwg yn myned allan o genedl at genedl, a chorwynt mawr yn cyfodi o ystlysau y ddaear. 33 A lladdedigion yr Arglwydd a fyddant y dwthwn hwnnw o’r naill gwr i’r ddaear hyd y cwr arall i’r ddaear: ni alerir drostynt, ac nis cesglir, ac nis cleddir hwynt; fel tomen y byddant ar wyneb y ddaear.
34 Udwch, fugeiliaid, a gwaeddwch; ac ymdreiglwch mewn lludw, chwi flaenoriaid y praidd: canys cyflawnwyd dyddiau eich lladdedigaeth a’ch gwasgarfa; a chwi a syrthiwch fel llestr dymunol. 35 Metha gan y bugeiliaid ffoi, a chan flaenoriaid y praidd ddianc. 36 Clywir llef gwaedd y bugeiliaid, ac udfa blaenoriaid y praidd: canys yr Arglwydd a anrheithiodd eu porfa hwynt. 37 A’r anheddau heddychlon a ddryllir, gan lid digofaint yr Arglwydd. 38 Efe a wrthododd ei loches, fel cenau llew: canys y mae eu tir yn anghyfannedd, gan lid y gorthrymwr, a chan lid ei ddigofaint ef.
26 Yn nechrau teyrnasiad Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda, y daeth y gair hwn oddi wrth yr Arglwydd, gan ddywedyd, 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd, Saf yng nghyntedd tŷ yr Arglwydd, a llefara wrth holl ddinasoedd Jwda, y rhai a ddêl i addoli i dŷ yr Arglwydd, yr holl eiriau a orchmynnwyf i ti eu llefaru wrthynt; na atal air: 3 I edrych a wrandawant, ac a ddychwelant bob un o’i ffordd ddrwg; fel yr edifarhawyf finnau am y drwg a amcenais ei wneuthur iddynt, am ddrygioni eu gweithredoedd. 4 A dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Oni wrandewch arnaf i rodio yn fy nghyfraith, yr hon a roddais ger eich bron, 5 I wrando ar eiriau fy ngweision y proffwydi, y rhai a anfonais atoch, gan godi yn fore, ac anfon, ond ni wrandawsoch chwi; 6 Yna y gwnaf y tŷ hwn fel Seilo, a’r ddinas hon a wnaf yn felltith i holl genhedloedd y ddaear. 7 Yr offeiriaid hefyd, a’r proffwydi, a’r holl bobl a glywsant Jeremeia yn llefaru y geiriau hyn yn nhŷ yr Arglwydd.
8 A phan ddarfu i Jeremeia lefaru yr hyn oll a orchmynasai yr Arglwydd ei ddywedyd wrth yr holl bobl; yna yr offeiriaid, a’r proffwydi, a’r holl bobl a’i daliasant ef, gan ddywedyd, Ti a fyddi farw yn ddiau. 9 Paham y proffwydaist yn enw yr Arglwydd, gan ddywedyd, Fel Seilo y bydd y tŷ hwn, a’r ddinas hon a wneir yn anghyfannedd heb breswyliwr? Felly ymgasglodd yr holl bobl yn erbyn Jeremeia yn nhŷ yr Arglwydd.
10 Pan glybu tywysogion Jwda y geiriau hyn, yna hwy a ddaethant i fyny o dŷ y brenin i dŷ yr Arglwydd, ac a eisteddasant ar ddrws porth newydd tŷ yr Arglwydd. 11 Yna yr offeiriaid a’r proffwydi a lefarasant wrth y tywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Barn marwolaeth sydd ddyledus i’r gŵr hwn: canys efe a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, megis y clywsoch â’ch clustiau.
12 Yna y llefarodd Jeremeia wrth yr holl dywysogion, ac wrth yr holl bobl, gan ddywedyd, Yr Arglwydd a’m hanfonodd i broffwydo yn erbyn y tŷ hwn, ac yn erbyn y ddinas hon, yr holl eiriau a glywsoch. 13 Gan hynny gwellhewch yn awr eich ffyrdd a’ch gweithredoedd, a gwrandewch ar lais yr Arglwydd eich Duw; ac fe a edifarha yr Arglwydd am y drwg a lefarodd efe i’ch erbyn. 14 Ac amdanaf fi, wele fi yn eich dwylo; gwnewch i mi fel y gweloch yn dda ac yn uniawn. 15 Ond gwybyddwch yn sicr, os chwi a’m lladd, eich bod yn dwyn gwaed gwirion arnoch eich hunain, ac ar y ddinas hon, ac ar ei thrigolion: canys mewn gwirionedd yr Arglwydd a’m hanfonodd atoch i lefaru, lle y clywech, yr holl eiriau hyn.
16 Yna y tywysogion, a’r holl bobl, a ddywedasant wrth yr offeiriaid a’r proffwydi, Ni haeddai y gŵr hwn farn marwolaeth: canys yn enw yr Arglwydd ein Duw y llefarodd efe wrthym. 17 Yna rhai o henuriaid y wlad a godasant, ac a lefarasant wrth holl gynulleidfa y bobl, gan ddywedyd, 18 Micha y Morasthiad oedd yn proffwydo yn nyddiau Heseceia brenin Jwda, ac efe a lefarodd wrth holl bobl Jwda, gan ddywedyd, Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Seion a erddir fel maes, a Jerwsalem a fydd yn garneddau, a mynydd y tŷ yn uchelfeydd i goed. 19 A roddodd Heseceia brenin Jwda, a holl Jwda, ef i farwolaeth? oni ofnodd efe yr Arglwydd, ac oni weddïodd efe gerbron yr Arglwydd, fel yr edifarhaodd yr Arglwydd am y drwg a draethasai efe yn eu herbyn? Fel hyn y gwnaem ddrwg mawr yn erbyn ein heneidiau. 20 Ac yr oedd hefyd ŵr yn proffwydo yn enw yr Arglwydd, Ureia mab Semaia, o Ciriath‐jearim, yr hwn a broffwydodd yn erbyn y ddinas hon, ac yn erbyn y wlad hon, yn ôl holl eiriau Jeremeia. 21 A phan glywodd y brenin Jehoiacim, a’i holl gedyrn, a’r holl dywysogion, ei eiriau ef, y brenin a geisiodd ei ladd ef: ond pan glywodd Ureia, efe a ofnodd, ac a ffodd, ac a aeth i’r Aifft. 22 A’r brenin Jehoiacim a anfonodd wŷr i’r Aifft, sef Elnathan mab Achbor, a gwŷr gydag ef i’r Aifft: 23 A hwy a gyrchasant Ureia allan o’r Aifft, ac a’i dygasant ef at y brenin Jehoiacim, yr hwn a’i lladdodd ef â’r cleddyf, ac a fwriodd ei gelain ef i feddau y cyffredin. 24 Eithr llaw Ahicam mab Saffan oedd gyda Jeremeia, fel na roddwyd ef i law y bobl i’w ladd.
2 Eithr llefara di’r pethau a weddo i athrawiaeth iachus: 2 Bod o’r hynafgwyr yn sobr, yn onest, yn gymesur, yn iach yn y ffydd, yng nghariad, mewn amynedd: 3 Bod o’r hynafwragedd yr un ffunud mewn ymddygiad fel y gweddai i sancteiddrwydd; nid yn enllibaidd, nid wedi ymroi i win lawer, yn rhoi athrawiaeth o ddaioni: 4 Fel y gallont wneuthur y gwragedd ieuainc yn bwyllog, i garu eu gwŷr, i garu eu plant, 5 Yn sobr, yn bur, yn gwarchod gartref, yn dda, yn ddarostyngedig i’w gwŷr priod, fel na chabler gair Duw. 6 Y gwŷr ieuainc yr un ffunud cynghora i fod yn sobr: 7 Gan dy ddangos dy hun ym mhob peth yn siampl i weithredoedd da: a dangos, mewn athrawiaeth, anllygredigaeth, gweddeidd‐dra, purdeb, 8 Ymadrodd iachus yr hwn ni aller beio arno; fel y byddo i’r hwn sydd yn y gwrthwyneb gywilyddio, heb ganddo ddim drwg i’w ddywedyd amdanoch chwi. 9 Cynghora weision i fod yn ddarostyngedig i’w meistriaid eu hun, ac i ryngu bodd iddynt ym mhob peth; nid yn gwrthddywedyd; 10 Nid yn darnguddio, ond yn dangos pob ffyddlondeb da; fel yr harddont athrawiaeth Duw ein Hiachawdwr ym mhob peth. 11 Canys ymddangosodd gras Duw, yr hwn sydd yn dwyn iachawdwriaeth i bob dyn; 12 Gan ein dysgu ni i wadu annuwioldeb a chwantau bydol, a byw yn sobr, ac yn gyfiawn, ac yn dduwiol, yn y byd sydd yr awron; 13 Gan ddisgwyl am y gobaith gwynfydedig, ac ymddangosiad gogoniant y Duw mawr, a’n Hiachawdwr Iesu Grist; 14 Yr hwn a’i rhoddes ei hun drosom, i’n prynu ni oddi wrth bob anwiredd, ac i’n puro ni iddo ei hun yn bobl briodol, awyddus i weithredoedd da. 15 Y pethau hyn llefara a chynghora, ac argyhoedda gyda phob awdurdod. Na ddiystyred neb di.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.