Old/New Testament
46 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd, yn erbyn y Cenhedloedd, 2 Yn erbyn yr Aifft, yn erbyn llu Pharo‐necho brenin yr Aifft, yr hwn oedd wrth afon Ewffrates yn Carchemis, yr hwn a ddarfu i Nebuchodonosor brenin Babilon ei daro, yn y bedwaredd flwyddyn i Jehoiacim mab Joseia brenin Jwda. 3 Teclwch y darian a’r astalch, a nesewch i ryfel. 4 Cenglwch y meirch, ac ewch arnynt, farchogion; sefwch yn eich helmau, gloywch y gwaywffyn, gwisgwch y llurigau. 5 Paham y gwelais hwynt yn ddychrynedig, wedi cilio yn eu hôl, a’u cedyrn wedi eu curo i lawr, a ffoi ar ffrwst, ac heb edrych yn eu hôl? dychryn sydd o amgylch, medd yr Arglwydd. 6 Na chaed y buan ffoi, na’r cadarn ddianc; tua’r gogledd, gerllaw afon Ewffrates, y tripiant, ac y syrthiant. 7 Pwy yw hwn sydd yn ymgodi fel afon, a’i ddyfroedd yn dygyfor fel yr afonydd? 8 Yr Aifft sydd fel afon yn ymgodi, a’i dyfroedd sydd yn dygyfor fel yr afonydd: a hi a ddywed, Mi a af i fyny, ac a orchuddiaf y ddaear; myfi a ddifethaf y ddinas, a’r rhai sydd yn trigo ynddi. 9 O feirch, deuwch i fyny; a chwithau gerbydau, ymgynddeiriogwch; a deuwch allan y cedyrn; yr Ethiopiaid, a’r Libiaid, y rhai sydd yn dwyn tarian; a’r Lydiaid, y rhai sydd yn teimlo ac yn anelu bwa. 10 Canys dydd Arglwydd Dduw y lluoedd yw hwn, dydd dial, fel yr ymddialo efe ar ei elynion: a’r cleddyf a ysa, ac a ddigonir, ac a feddwir â’u gwaed hwynt: canys aberth sydd i Arglwydd Dduw y lluoedd yn nhir y gogledd wrth afon Ewffrates. 11 O forwyn, merch yr Aifft, dos i fyny i Gilead, a chymer driagl: yn ofer yr arferi lawer o feddyginiaethau; canys ni bydd iachâd i ti. 12 Y cenhedloedd a glywsant dy waradwydd, a’th waedd a lanwodd y wlad; canys cadarn wrth gadarn a dramgwyddodd, a hwy ill dau a gydsyrthiasant.
13 Y gair yr hwn a lefarodd yr Arglwydd wrth Jeremeia y proffwyd, y deuai Nebuchodonosor brenin Babilon, ac y trawai wlad yr Aifft. 14 Mynegwch yn yr Aifft, cyhoeddwch ym Migdol, hysbyswch yn Noff, ac yn Tapanhes: dywedwch, Saf, a bydd barod; oblegid y cleddyf a ysa dy amgylchoedd. 15 Paham y syrthiodd dy rai cryfion? ni safasant, am i’r Arglwydd eu gwthio hwynt. 16 Efe a wnaeth i lawer syrthio, ie, pawb a syrthiodd ar ei gilydd; a hwy a ddywedasant, Cyfodwch, a dychwelwn at ein pobl, i wlad ein genedigaeth, rhag cleddyf y gorthrymwr. 17 Yno y gwaeddasant, Pharo brenin yr Aifft nid yw ond trwst; aeth dros yr amser nodedig. 18 Fel mai byw fi, medd y Brenin, enw yr hwn yw Arglwydd y lluoedd, cyn sicred â bod Tabor yn y mynyddoedd, a Charmel yn y môr, efe a ddaw. 19 O ferch drigiannol yr Aifft, gwna i ti offer caethglud; canys Noff a fydd anghyfannedd, ac a ddifethir heb breswylydd. 20 Yr Aifft sydd anner brydferth, y mae dinistr yn dyfod: o’r gogledd y mae yn dyfod. 21 Ei gwŷr cyflog hefyd sydd o’i mewn hi fel lloi pasgedig: canys hwythau hefyd a droesant eu hwynebau, ac a gydffoesant; ac ni safasant, oherwydd dydd eu gofid, ac amser eu gofwy a ddaethai arnynt. 22 Ei llais hi a â allan fel sarff: canys â llu yr ânt hwy, ac â bwyeill y deuant yn ei herbyn hi, fel cymynwyr coed. 23 Hwy a gymynant i lawr ei choed hi, medd yr Arglwydd, er na ellir ei chwilio: canys amlach fyddant na’r ceiliogod rhedyn, ac heb rifedi arnynt. 24 Merch yr Aifft a gywilyddir; hi a roddir yn llaw pobl y gogledd. 25 Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, sydd yn dywedyd, Wele, myfi a ymwelaf â lliaws No, ac â Pharo, ac â’r Aifft, ac â’i duwiau hi, ac â’i brenhinoedd, sef â Pharo, ac â’r rhai sydd yn ymddiried ynddo; 26 A mi a’u rhoddaf hwynt yn llaw y rhai sydd yn ceisio eu heinioes, ac yn llaw Nebuchodonosor brenin Babilon, ac yn llaw ei weision ef; ac wedi hynny hi a gyfanheddir megis y dyddiau gynt, medd yr Arglwydd.
27 Ond nac ofna di, O fy ngwas Jacob; a thithau Israel, na ddychryna; canys wele, myfi a’th gadwaf di o bell, a’th had o wlad eu caethiwed; a Jacob a ddychwel, ac a orffwys, ac a fydd esmwyth arno, ac heb neb a’i dychryno. 28 O fy ngwas Jacob, nac ofna, medd yr Arglwydd; canys yr ydwyf fi gyda thi; canys mi a wnaf ddiben ar yr holl genhedloedd y rhai y’th fwriais atynt; ond ni wnaf fi ddiben arnat ti; eithr mi a’th gosbaf di mewn barn, ac ni’th dorraf ymaith yn llwyr.
47 Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Jeremeia y proffwyd yn erbyn y Philistiaid, cyn i Pharo daro Gasa. 2 Fel hyn y dywed yr Arglwydd; Wele, dyfroedd a gyfodant o’r gogledd, ac a fyddant fel afon lifeiriol, a hwy a lifant dros y wlad, a’r hyn sydd ynddi; y ddinas, a’r rhai sydd yn aros ynddi; yna y dynion a waeddant, a holl breswylwyr y wlad a udant. 3 Rhag sŵn twrf carnau ei feirch cryfion, rhag trwst ei gerbydau, a thrwst ei olwynion ef, y tadau nid edrychant yn ôl ar eu plant, gan wendid dwylo: 4 O achos y dydd sydd yn dyfod i ddistrywio yr holl Philistiaid, ac i ddinistrio o Tyrus a Sidon bob cynorthwywr ag y sydd yng ngweddill: oblegid yr Arglwydd a ddinistria y Philistiaid, gweddill ynys Cafftor. 5 Moelni a ddaeth ar Gasa, torrwyd ymaith Ascalon, gyda’r rhan arall o’u dyffrynnoedd hwynt: pa hyd yr ymrwygi di? 6 O cleddyf yr Arglwydd, pa hyd ni lonyddi? dychwel i’th wain, gorffwys a bydd ddistaw. 7 Pa fodd y llonydda efe, gan i’r Arglwydd ei orchymyn ef yn erbyn Ascalon, ac yn erbyn glan y môr? yno y gosododd ef.
6 Am hynny, gan roddi heibio yr ymadrodd sydd yn dechrau rhai yng Nghrist, awn rhagom at berffeithrwydd; heb osod i lawr drachefn sail i edifeirwch oddi wrth weithredoedd meirwon, ac i ffydd tuag at Dduw, 2 I athrawiaeth bedyddiadau, ac arddodiad dwylo, ac atgyfodiad y meirw, a’r farn dragwyddol. 3 A hyn a wnawn, os caniatâ Duw. 4 Canys amhosibl yw i’r rhai a oleuwyd unwaith, ac a brofasant y rhodd nefol, ac a wnaethpwyd yn gyfranogion o’r Ysbryd Glân, 5 Ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd a ddaw, 6 Ac a syrthiant ymaith, ymadnewyddu drachefn i edifeirwch; gan eu bod yn ailgroeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, ac yn ei osod yn watwar. 7 Canys y ddaear, yr hon sydd yn yfed y glaw sydd yn mynych ddyfod arni, ac yn dwyn llysiau cymwys i’r rhai y llafurir hi ganddynt, sydd yn derbyn bendith gan Dduw: 8 Eithr yr hon sydd yn dwyn drain a mieri, sydd anghymeradwy, ac agos i felltith; diwedd yr hon yw, ei llosgi. 9 Eithr yr ydym ni yn coelio amdanoch chwi, anwylyd, bethau gwell, a phethau ynglŷn wrth iachawdwriaeth, er ein bod yn dywedyd fel hyn. 10 Canys nid yw Duw yn anghyfiawn, fel yr anghofio eich gwaith, a’r llafurus gariad, yr hwn a ddangosasoch tuag at ei enw ef, y rhai a weiniasoch i’r saint, ac ydych yn gweini. 11 Ac yr ydym yn chwennych fod i bob un ohonoch ddangos yr un diwydrwydd, er mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd: 12 Fel na byddoch fusgrell, eithr yn ddilynwyr i’r rhai trwy ffydd ac amynedd sydd yn etifeddu’r addewidion. 13 Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, a dyngodd iddo ei hun, 14 Gan ddywedyd, Yn ddiau gan fendithio y’th fendithiaf, a chan amlhau y’th amlhaf. 15 Ac felly, wedi iddo hirymaros, efe a gafodd yr addewid. 16 Canys dynion yn wir sydd yn tyngu i un a fo mwy: a llw er sicrwydd sydd derfyn iddynt ar bob ymryson. 17 Yn yr hyn Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gyngor, a gyfryngodd trwy lw: 18 Fel trwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai a ffoesom i gymryd gafael yn y gobaith a osodwyd o’n blaen; 19 Yr hwn sydd gennym ni megis angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i mewn hyd at yr hyn sydd o’r tu fewn i’r llen; 20 I’r man yr aeth y rhagflaenor drosom ni, sef Iesu, yr hwn a wnaethpwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol yn ôl urdd Melchisedec.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.