Old/New Testament
3 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, bwyta yr hyn a geffych, bwyta y llyfr hwn a dos, a llefara wrth dŷ Israel. 2 Yna mi a agorais fy safn, ac efe a wnaeth i mi fwyta’r llyfr hwnnw. 3 Dywedodd hefyd wrthyf, Bwyda dy fol, a llanw dy berfedd, fab dyn, â’r llyfr hwn yr ydwyf fi yn ei roddi atat. Yna y bwyteais; ac yr oedd efe yn fy safn fel mêl o felyster.
4 Ac efe a ddywedodd wrthyf, Mab dyn, cerdda, dos at dŷ Israel, a llefara â’m geiriau wrthynt. 5 Canys nid at bobl o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed y’th anfonir di, ond at dŷ Israel; 6 Nid at bobloedd lawer o iaith ddieithr ac o dafodiaith galed, y rhai ni ddeelli eu hymadroddion. Oni wrandawsai y rhai hynny arnat, pe y’th anfonaswn atynt? 7 Eto tŷ Israel ni fynnant wrando arnat ti; canys ni fynnant wrando arnaf fi: oblegid talgryfion a chaled galon ydynt hwy, holl dŷ Israel. 8 Wele, gwneuthum dy wyneb yn gryf yn erbyn eu hwynebau hwynt, a’th dâl yn gryf yn erbyn eu talcennau hwynt. 9 Gwneuthum dy dalcen fel adamant, yn galetach na’r gallestr: nac ofna hwynt, ac na ddychryna rhag eu hwynebau, er mai tŷ gwrthryfelgar ydynt. 10 Dywedodd hefyd wrthyf, Ha fab dyn, derbyn â’th galon, a chlyw â’th glustiau, fy holl eiriau a lefarwyf wrthyt. 11 Cerdda hefyd, a dos at y gaethglud, at feibion dy bobl, a llefara hefyd wrthynt, a dywed wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw; pa un bynnag a wnelont ai gwrando ai peidio. 12 Yna yr ysbryd a’m cymerodd, a chlywn sŵn cynnwrf mawr o’m hôl, yn dywedyd, Bendigedig fyddo gogoniant yr Arglwydd o’i le. 13 A sŵn adenydd y pethau byw oedd yn cyffwrdd â’i gilydd, a sŵn yr olwynion ar eu cyfer hwynt, a sŵn cynnwrf mawr. 14 A’r ysbryd a’m cyfododd, ac a’m cymerodd ymaith, a mi a euthum yn chwerw yn angerdd fy ysbryd; ond llaw yr Arglwydd oedd gref arnaf.
15 A mi a ddeuthum i Tel‐abib, at y gaethglud oedd yn aros wrth afon Chebar, a mi a eisteddais lle yr oeddynt hwythau yn eistedd, ie, eisteddais yno saith niwrnod yn syn yn eu plith hwynt. 16 Ac ymhen y saith niwrnod y daeth gair yr Arglwydd ataf, gan ddywedyd, 17 Mab dyn, mi a’th wneuthum di yn wyliedydd i dŷ Israel: am hynny gwrando y gair o’m genau, a rhybuddia hwynt oddi wrthyf fi. 18 Pan ddywedwyf wrth y drygionus, Gan farw y byddi farw; oni rybuddi ef, ac oni leferi i rybuddio y drygionus oddi wrth ei ddrycffordd, fel y byddo byw; y drygionus hwn a fydd farw yn ei anwiredd: ond ei waed ef a ofynnaf fi ar dy law di. 19 Ond os rhybuddi y drygionus, ac yntau heb droi oddi wrth ei ddrygioni, na’i ffordd ddrygionus, efe a fydd marw yn ei ddrygioni; ond ti a achubaist dy enaid. 20 Hefyd pan ddychwelo y cyfiawn oddi wrth ei gyfiawnder, a gwneuthur camwedd, a rhoddi ohonof dramgwydd o’i flaen ef, efe fydd farw: am na rybuddiaist ef, am ei bechod y bydd efe farw, a’i gyfiawnder yr hwn a wnaeth efe ni chofir; ond ei waed ef a ofynnaf ar dy law di. 21 Ond os tydi a rybuddi y cyfiawn, rhag pechu o’r cyfiawn, ac na phecho efe; gan fyw y bydd efe byw, am ei rybuddio: a thithau a achubaist dy enaid.
22 Ac yno y bu llaw yr Arglwydd arnaf, ac efe a ddywedodd wrthyf, Cyfod, dos i’r gwastadedd, ac yno y llefaraf wrthyt. 23 Yna y cyfodais, ac yr euthum i’r gwastadedd: ac wele ogoniant yr Arglwydd yn sefyll yno, fel y gogoniant a welswn wrth afon Chebar: a mi a syrthiais ar fy wyneb. 24 Yna yr aeth yr ysbryd ynof, ac a’m gosododd ar fy nhraed, ac a ymddiddanodd â mi, ac a ddywedodd wrthyf, Dos, a chae arnat o fewn dy dŷ. 25 Tithau fab dyn, wele, hwy a roddant rwymau arnat, ac a’th rwymant â hwynt, ac na ddos allan yn eu plith. 26 A mi a wnaf i’th dafod lynu wrth daflod dy enau, a thi a wneir yn fud, ac ni byddi iddynt yn geryddwr: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt. 27 Ond pan lefarwyf wrthyt, yr agoraf dy safn, a dywedi wrthynt, Fel hyn y dywed yr Arglwydd Dduw: Yr hwn a wrandawo, gwrandawed; a’r hwn a beidio, peidied: canys tŷ gwrthryfelgar ydynt.
4 Tithau fab dyn, cymer i ti briddlech, a dod hi o’th flaen, a llunia arni ddinas Jerwsalem: 2 A gwarchae yn ei herbyn hi, ac adeilada wrthi warchglawdd, a bwrw o’i hamgylch hi wrthglawdd; dod hefyd wersylloedd wrthi, a gosod offer rhyfel yn ei herbyn o amgylch. 3 Cymer i ti hefyd badell haearn, a dod hi yn fur haearn rhyngot a’r ddinas; a chyfeiria dy wyneb ati, a bydd mewn gwarchaeedigaeth, a gwarchae di arni. Arwydd fydd hyn i dŷ Israel. 4 Gorwedd hefyd ar dy ystlys aswy, a gosod anwiredd tŷ Israel arni; wrth rifedi y dyddiau y gorweddych arni, y dygi eu hanwiredd hwynt. 5 Canys rhoddais arnat ti flynyddoedd eu hanwiredd hwynt, wrth rifedi y dyddiau, tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain: felly y dygi anwiredd tŷ Israel. 6 A phan orffennych y rhai hynny, gorwedd eilwaith ar dy ystlys ddeau, a thi a ddygi anwiredd tŷ Jwda ddeugain niwrnod: pob diwrnod am flwyddyn a roddais i ti. 7 A chyfeiria dy wyneb at warchaeedigaeth Jerwsalem, a’th fraich yn noeth; a thi a broffwydi yn ei herbyn hi. 8 Wele hefyd rhoddais rwymau arnat, fel na throech o ystlys i ystlys, nes gorffen ohonot ddyddiau dy warchaeedigaeth.
9 Cymer i ti hefyd wenith, a haidd, a ffa, a ffacbys, a milet, a chorbys, a dod hwynt mewn un llestr, a gwna hwynt i ti yn fara, dros rifedi y dyddiau y gorweddych ar dy ystlys: tri chan niwrnod a deg a phedwar ugain y bwytei ef. 10 A’th fwyd a fwytei a fydd wrth bwys, ugain sicl yn y dydd: o amser i amser y bwytei ef. 11 Y dwfr hefyd a yfi wrth fesur; chweched ran hin a yfi, o amser i amser. 12 Ac fel teisen haidd y bwytei ef; ti a’i cresi hi hefyd wrth dail tom dyn, yn eu gŵydd hwynt. 13 A dywedodd yr Arglwydd, Felly y bwyty meibion Israel eu bara halogedig ymysg y cenhedloedd y rhai y gyrraf hwynt atynt. 14 Yna y dywedais, O Arglwydd Dduw, wele, ni halogwyd fy enaid, ac ni fwyteais furgyn neu ysglyfaeth o’m hieuenctid hyd yr awr hon; ac ni ddaeth i’m safn gig ffiaidd. 15 Yntau a ddywedodd wrthyf, Wele, mi a roddais i ti fiswail gwartheg yn lle tom dyn, ac â hwynt y gwnei dy fara. 16 Dywedodd hefyd wrthyf, Mab dyn, wele fi yn torri ffon bara yn Jerwsalem, fel y bwytaont fara dan bwys, ac mewn gofal; ac yr yfont ddwfr dan fesur, ac mewn syndod. 17 Fel y byddo arnynt eisiau bara a dwfr, ac y synnont un gydag arall, ac y darfyddont yn eu hanwiredd.
20 Trwy ffydd y bendithiodd Isaac Jacob ac Esau am bethau a fyddent. 21 Trwy ffydd, Jacob, wrth farw, a fendithiodd bob un o feibion Joseff; ac a addolodd â’i bwys ar ben ei ffon. 22 Trwy ffydd, Joseff, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn. 23 Trwy ffydd, Moses, pan anwyd, a guddiwyd dri mis gan ei rieni, o achos eu bod yn ei weled yn fachgen tlws: ac nid ofnasant orchymyn y brenin. 24 Trwy ffydd, Moses, wedi myned yn fawr, a wrthododd ei alw yn fab merch Pharo; 25 Gan ddewis yn hytrach oddef adfyd gyda phobl Dduw, na chael mwyniant pechod dros amser; 26 Gan farnu yn fwy golud ddirmyg Crist na thrysorau’r Aifft: canys edrych yr oedd efe ar daledigaeth y gobrwy. 27 Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig. 28 Trwy ffydd y gwnaeth efe y pasg, a gollyngiad y gwaed, rhag i’r hwn ydoedd yn dinistrio’r rhai cyntaf‐anedig gyffwrdd â hwynt. 29 Trwy ffydd yr aethant trwy’r môr coch, megis ar hyd tir sych: yr hyn pan brofodd yr Eifftiaid, boddi a wnaethant. 30 Trwy ffydd y syrthiodd caerau Jericho, wedi eu hamgylchu dros saith niwrnod. 31 Trwy ffydd ni ddifethwyd Rahab y butain gyda’r rhai ni chredent, pan dderbyniodd hi’r ysbïwyr yn heddychol. 32 A pheth mwy a ddywedaf? canys yr amser a ballai i mi i fynegi am Gedeon, am Barac, ac am Samson, ac am Jefftha, am Dafydd hefyd, a Samuel, a’r proffwydi; 33 Y rhai trwy ffydd a oresgynasant deyrnasoedd, a wnaethant gyfiawnder, a gawsant addewidion, a gaeasant safnau llewod, 34 A ddiffoddasant angerdd y tân, a ddianghasant rhag min y cleddyf, a nerthwyd o wendid, a wnaethpwyd yn gryfion mewn rhyfel, a yrasant fyddinoedd yr estroniaid i gilio. 35 Gwragedd a dderbyniodd eu meirw trwy atgyfodiad: ac eraill a ddirdynnwyd, heb dderbyn ymwared; fel y gallent hwy gael atgyfodiad gwell. 36 Ac eraill a gawsant brofedigaeth trwy watwar a fflangellau, ie, trwy rwymau hefyd a charchar: 37 Hwynt‐hwy a labyddiwyd, a dorrwyd â llif, a demtiwyd, a laddwyd yn feirw â’r cleddyf; a grwydrasant mewn crwyn defaid, a chrwyn geifr; yn ddiddim, yn gystuddiol, yn ddrwg eu cyflwr; 38 (Y rhai nid oedd y byd yn deilwng ohonynt,) yn crwydro mewn anialwch, a mynyddoedd, a thyllau ac ogofeydd y ddaear. 39 A’r rhai hyn oll, wedi cael tystiolaeth trwy ffydd, ni dderbyniasant yr addewid: 40 Gan fod Duw yn rhagweled rhyw beth gwell amdanom ni, fel na pherffeithid hwynt hebom ninnau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.