Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
138 Clodforaf di â’m holl galon: yng ngŵydd y duwiau y canaf i ti. 2 Ymgrymaf tua’th deml sanctaidd, a chlodforaf dy enw, am dy drugaredd a’th wirionedd: oblegid ti a fawrheaist dy air uwchlaw dy enw oll. 3 Y dydd y llefais, y’m gwrandewaist; ac a’m cadarnheaist â nerth yn fy enaid. 4 Holl frenhinoedd y ddaear a’th glodforant, O Arglwydd, pan glywant eiriau dy enau. 5 Canant hefyd am ffyrdd yr Arglwydd: canys mawr yw gogoniant yr Arglwydd. 6 Er bod yr Arglwydd yn uchel, eto efe a edrych ar yr isel: ond y balch a edwyn efe o hirbell. 7 Pe rhodiwn yng nghanol cyfyngder, ti a’m bywheit: estynnit dy law yn erbyn digofaint fy ngelynion, a’th ddeheulaw a’m hachubai. 8 Yr Arglwydd a gyflawna â mi: dy drugaredd, Arglwydd, sydd yn dragywydd: nac esgeulusa waith dy ddwylo.
7 Yn y mis cyntaf, hwnnw yw mis Nisan, yn y ddeuddegfed flwyddyn i’r brenin Ahasferus, efe a barodd fwrw Pwr, (hwnnw yw, y coelbren,) gerbron Haman, o ddydd i ddydd, ac o fis i fis, hyd y deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar.
8 A Haman a ddywedodd wrth y brenin Ahasferus, Y mae rhyw bobl wasgaredig a gwahanedig ymhlith y bobloedd, trwy holl daleithiau dy frenhiniaeth; a’u cyfreithiau hwynt sydd yn amrafaelio oddi wrth yr holl bobl, ac nid ydynt yn gwneuthur cyfreithiau y brenin; am hynny nid buddiol i’r brenin eu dioddef hwynt. 9 O bydd bodlon gan y brenin, ysgrifenner am eu difetha hwynt: a deng mil o dalentau arian a dalaf ar ddwylo’r rhai a wnânt y weithred hon, i’w dwyn i drysorau y brenin. 10 A thynnodd y brenin ei fodrwy oddi am ei law, ac a’i rhoddes i Haman mab Hammedatha yr Agagiad, gwrthwynebwr yr Iddewon. 11 A’r brenin a ddywedodd wrth Haman, Rhodder yr arian i ti, a’r bobl, i wneuthur â hwynt fel y byddo da yn dy olwg. 12 Yna y galwyd ysgrifenyddion y brenin, yn y mis cyntaf, ar y trydydd dydd ar ddeg o’r mis hwnnw, ac yr ysgrifennwyd, yn ôl yr hyn oll a orchmynasai Haman, at bendefigion y brenin, ac at y dugiaid oedd ar bob talaith, ac at dywysogion pob pobl i bob talaith yn ôl ei ysgrifen, ac at bob pobl yn ôl eu tafodiaith; yn enw y brenin Ahasferus yr ysgrifenasid, ac â modrwy y brenin y seliasid hyn. 13 A’r llythyrau a anfonwyd gyda’r rhedegwyr i holl daleithiau y brenin; i ddinistrio, i ladd, ac i ddifetha yr holl Iddewon, yn ieuainc ac yn hen, yn blant ac yn wragedd, mewn un dydd, sef ar y trydydd dydd ar ddeg o’r deuddegfed mis, hwnnw yw mis Adar, ac i ysglyfaethu eu hysbail hwynt. 14 Testun yr ysgrifen, i roi gorchymyn ym mhob talaith, a gyhoeddwyd i’r holl bobloedd, i fod yn barod erbyn y diwrnod hwnnw. 15 Y rhedegwyr a aethant, wedi eu cymell trwy air y brenin, a’r gorchymyn a roddasid yn Susan y brenhinllys. Y brenin hefyd a Haman a eisteddasant i yfed, a dinasyddion Susan oedd yn athrist.
22 Ha wŷr Israel, clywch y geiriau hyn; Iesu o Nasareth, gŵr profedig gan Dduw yn eich plith chwi, trwy nerthoedd a rhyfeddodau ac arwyddion, y rhai a wnaeth Duw trwyddo ef yn eich canol chwi, megis ag y gwyddoch chwithau: 23 Hwn, wedi ei roddi trwy derfynedig gyngor a rhagwybodaeth Duw, a gymerasoch chwi, a thrwy ddwylo anwir a groeshoeliasoch, ac a laddasoch: 24 Yr hwn a gyfododd Duw, gan ryddhau gofidiau angau: canys nid oedd bosibl ei atal ef ganddo. 25 Canys Dafydd sydd yn dywedyd amdano, Rhagwelais yr Arglwydd ger fy mron yn wastad; canys ar fy neheulaw y mae, fel na’m hysgoger. 26 Am hynny y llawenychodd fy nghalon, ac y gorfoleddodd fy nhafod; ie, a’m cnawd hefyd a orffwys mewn gobaith: 27 Am na adewi fy enaid yn uffern, ac na oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 28 Gwnaethost yn hysbys i mi ffyrdd y bywyd: ti a’m cyflawni o lawenydd â’th wynepryd. 29 Ha wŷr frodyr, y mae’n rhydd i mi ddywedyd yn hy wrthych am y patriarch Dafydd, ei farw ef a’i gladdu, ac y mae ei feddrod ef gyda ni hyd y dydd hwn. 30 Am hynny, ac efe yn broffwyd, yn gwybod dyngu o Dduw iddo trwy lw, Mai o ffrwyth ei lwynau ef o ran y cnawd, y cyfodai efe Grist i eistedd ar ei orseddfa ef: 31 Ac efe yn rhagweled, a lefarodd am atgyfodiad Crist, na adawyd ei enaid ef yn uffern, ac na welodd ei gnawd ef lygredigaeth. 32 Yr Iesu hwn a gyfododd Duw i fyny; o’r hyn yr ydym ni oll yn dystion. 33 Am hynny, wedi ei ddyrchafu ef trwy ddeheulaw Duw, ac iddo dderbyn gan y Tad yr addewid o’r Ysbryd Glân, efe a dywalltodd y peth yma yr ydych chwi yr awron yn ei weled ac yn ei glywed. 34 Oblegid ni ddyrchafodd Dafydd i’r nefoedd: ond y mae efe yn dywedyd ei hun, Yr Arglwydd a ddywedodd wrth fy Arglwydd, Eistedd ar fy neheulaw, 35 Hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i’th draed. 36 Am hynny gwybydded holl dŷ Israel yn ddiogel, ddarfod i Dduw wneuthur yn Arglwydd ac yn Grist, yr Iesu hwn a groeshoeliasoch chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.