Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
25 Atat ti, O Arglwydd, y dyrchafaf fy enaid. 2 O fy Nuw, ynot ti yr ymddiriedais; na’m gwaradwydder; na orfoledded fy ngelynion arnaf. 3 Ie, na waradwydder neb sydd yn disgwyl wrthyt ti: gwaradwydder y rhai a droseddant heb achos. 4 Pâr i mi wybod dy ffyrdd, O Arglwydd: dysg i mi dy lwybrau. 5 Tywys fi yn dy wirionedd, a dysg fi: canys ti yw Duw fy iachawdwriaeth; wrthyt ti y disgwyliaf ar hyd y dydd. 6 Cofia, Arglwydd, dy dosturiaethau, a’th drugareddau: canys erioed y maent hwy. 7 Na chofia bechodau fy ieuenctid, na’m camweddau: yn ôl dy drugaredd meddwl di amdanaf, er mwyn dy ddaioni, Arglwydd. 8 Da ac uniawn yw yr Arglwydd: oherwydd hynny y dysg efe bechaduriaid yn y ffordd. 9 Y rhai llariaidd a hyffordda efe mewn barn: a’i ffordd a ddysg efe i’r rhai gostyngedig. 10 Holl lwybrau yr Arglwydd ydynt drugaredd a gwirionedd, i’r rhai a gadwant ei gyfamod a’i dystiolaethau ef.
19 A llefarodd yr Arglwydd wrth Moses, gan ddywedyd, 2 Llefara wrth holl gynulleidfa meibion Israel, a dywed wrthynt, Byddwch sanctaidd: canys sanctaidd ydwyf fi, yr Arglwydd eich Duw chwi.
3 Ofnwch bob un ei fam, a’i dad; a chedwch fy Sabothau: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi. 4 Na throwch at eilunod, ac na wnewch i chwi dduwiau tawdd: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
32 Cyfod gerbron penwynni, a pharcha wyneb henuriad; ac ofna dy Dduw: yr Arglwydd ydwyf fi.
33 A phan ymdeithio dieithrddyn ynghyd â thi yn eich gwlad, na flinwch ef. 34 Bydded y dieithr i chwi, yr hwn a ymdeithio yn eich plith, fel yr un a hanffo ohonoch, a châr ef fel ti dy hun; oherwydd dieithriaid fuoch yng ngwlad yr Aifft: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi.
35 Na wnewch gam ar farn, ar lathen, ar bwys, nac ar fesur. 36 Bydded i chwi gloriannau cyfiawn, gerrig cyfiawn, effa gyfiawn, a hin gyfiawn: yr Arglwydd eich Duw ydwyf fi, yr hwn a’ch dygais allan o dir yr Aifft. 37 Cedwch chwithau fy holl ddeddfau, a’m holl farnedigaethau, a gwnewch hwynt: yr Arglwydd ydwyf fi.
16 Canys felly y carodd Duw y byd fel y rhoddodd efe ei unig‐anedig Fab, fel na choller pwy bynnag a gredo ynddo ef, ond caffael ohono fywyd tragwyddol. 17 Oblegid ni ddanfonodd Duw ei Fab i’r byd i ddamnio’r byd, ond fel yr achubid y byd trwyddo ef.
18 Yr hwn sydd yn credu ynddo ef, ni ddemnir: eithr yr hwn nid yw yn credu, a ddamniwyd eisoes; oherwydd na chredodd yn enw unig‐anedig Fab Duw. 19 A hon yw’r ddamnedigaeth, ddyfod goleuni i’r byd, a charu o ddynion y tywyllwch yn fwy na’r goleuni; canys yr oedd eu gweithredoedd hwy yn ddrwg. 20 Oherwydd pob un a’r sydd yn gwneuthur drwg, sydd yn casáu’r goleuni, ac nid yw yn dyfod i’r goleuni, fel nad argyhoedder ei weithredoedd ef. 21 Ond yr hwn sydd yn gwneuthur gwirionedd, sydd yn dyfod i’r goleuni, fel yr eglurhaer ei weithredoedd ef, mai yn Nuw y gwnaed hwynt.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.