Revised Common Lectionary (Complementary)
I’r Pencerdd, Salm Dafydd.
140 Gwared fi, O Arglwydd, oddi wrth y dyn drwg: cadw fi rhag y gŵr traws: 2 Y rhai sydd yn bwriadu drygioni yn eu calon: ymgasglant beunydd i ryfel. 3 Golymasant eu tafodau fel sarff: gwenwyn asb sydd dan eu gwefusau. Sela. 4 Cadw fi, O Arglwydd, rhag dwylo’r annuwiol; cadw fi rhag y gŵr traws: y rhai a fwriadasant fachellu fy nhraed. 5 Y beilchion a guddiasant faglau i mi, ac a estynasant rwyd wrth dannau ar ymyl y llwybrau: gosodasant hoenynnau ar fy medr. Sela. 6 Dywedais wrth yr Arglwydd, Fy Nuw ydwyt ti: clyw, O Arglwydd, lef fy ngweddïau. 7 Arglwydd Dduw, nerth fy iachawdwriaeth, gorchuddiaist fy mhen yn nydd brwydr. 8 Na chaniatâ, Arglwydd, ddymuniad yr annuwiol: na lwydda ei ddrwg feddwl; rhag eu balchïo hwynt. Sela. 9 Y pennaf o’r rhai a’m hamgylchyno, blinder eu gwefusau a’u gorchuddio. 10 Syrthied marwor arnynt: a bwrier hwynt yn tân; ac mewn ceuffosydd, fel na chyfodant. 11 Na sicrhaer dyn siaradus ar y ddaear: drwg a hela y gŵr traws i’w ddistryw. 12 Gwn y dadlau yr Arglwydd ddadl y truan, ac y barna efe y tlodion. 13 Y cyfiawn yn ddiau a glodforant dy enw di: y rhai uniawn a drigant ger dy fron di.
16 Fel hyn y dywed Arglwydd y lluoedd; Na wrandewch ar eiriau y proffwydi sydd yn proffwydo i chwi: y maent yn eich gwneuthur yn ofer: gweledigaeth eu calon eu hunain a lefarant, ac nid o enau yr Arglwydd. 17 Gan ddywedyd y dywedant wrth fy nirmygwyr, Yr Arglwydd a ddywedodd, Bydd i chwi heddwch; ac wrth bob un sydd yn rhodio wrth amcan ei galon ei hun y dywedant, Ni ddaw arnoch niwed. 18 Canys pwy a safodd yng nghyfrinach yr Arglwydd, ac a welodd ac a glywodd ei air ef? pwy hefyd a ddaliodd ar ei air ef, ac a’i gwrandawodd? 19 Wele, corwynt yr Arglwydd a aeth allan mewn llidiowgrwydd, sef corwynt angerddol a syrth ar ben y drygionus. 20 Digofaint yr Arglwydd ni ddychwel, nes iddo wneuthur, a nes iddo gwblhau meddwl ei galon: yn y dyddiau diwethaf y deellwch hynny yn eglur. 21 Ni hebryngais i y proffwydi hyn, eto hwy a redasant; ni leferais wrthynt, er hynny hwy a broffwydasant. 22 A phe safasent yn fy nghyngor, a phe traethasent fy ngeiriau i’m pobl; yna y gwnaethent iddynt ddychwelyd o’u ffordd ddrwg, ac oddi wrth ddrygioni eu gweithredoedd.
16 Wele, yr ydwyf fi yn eich danfon fel defaid yng nghanol bleiddiaid; byddwch chwithau gall fel y seirff, a diniwed fel y colomennod. 17 Eithr ymogelwch rhag dynion; canys hwy a’ch rhoddant chwi i fyny i’r cynghorau, ac a’ch ffrewyllant chwi yn eu synagogau. 18 A chwi a ddygir at lywiawdwyr a brenhinoedd o’m hachos i, er tystiolaeth iddynt hwy ac i’r Cenhedloedd. 19 Eithr pan y’ch rhoddant chwi i fyny, na ofelwch pa fodd neu pa beth a lefaroch: canys rhoddir i chwi yn yr awr honno pa beth a lefaroch. 20 Canys nid chwychwi yw’r rhai sydd yn llefaru, ond Ysbryd eich Tad yr hwn sydd yn llefaru ynoch. 21 A brawd a rydd frawd i fyny i farwolaeth, a thad ei blentyn: a phlant a godant i fyny yn erbyn eu rhieni, ac a barant eu marwolaeth hwynt. 22 A chas fyddwch gan bawb er mwyn fy enw i: ond yr hwn a barhao hyd y diwedd, efe fydd cadwedig. 23 A phan y’ch erlidiant yn y ddinas hon, ffowch i un arall: canys yn wir y dywedaf wrthych, Na orffennwch ddinasoedd Israel, nes dyfod Mab y dyn. 24 Nid yw’r disgybl yn uwch na’i athro, na’r gwas yn uwch na’i arglwydd. 25 Digon i’r disgybl fod fel ei athro, a’r gwas fel ei arglwydd. Os galwasant berchen y tŷ yn Beelsebub, pa faint mwy ei dylwyth ef?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.