Revised Common Lectionary (Complementary)
Salm Dafydd.
15 Arglwydd, pwy a drig yn dy babell? pwy a breswylia ym mynydd dy sancteiddrwydd? 2 Yr hwn a rodia yn berffaith, ac a wnêl gyfiawnder, ac a ddywed wir yn ei galon: 3 Heb absennu â’i dafod, heb wneuthur drwg i’w gymydog, ac heb dderbyn enllib yn erbyn ei gymydog. 4 Yr hwn y mae y drygionus yn ddirmygus yn ei olwg; ond a anrhydedda y rhai a ofnant yr Arglwydd: yr hwn a dwng i’w niwed ei hun, ac ni newidia. 5 Yr hwn ni roddes ei arian ar usuriaeth, ac ni chymer wobr yn erbyn y gwirion. A wnelo hyn, nid ysgogir yn dragywydd.
13 Ac Abram a aeth i fyny o’r Aifft, efe a’i wraig, a’r hyn oll oedd eiddo, a Lot gydag ef, i’r deau. 2 Ac Abram oedd gyfoethog iawn o anifeiliaid, ac o arian, ac aur. 3 Ac efe a aeth ar ei deithiau, o’r deau hyd Bethel, hyd y lle y buasai ei babell ef ynddo yn y dechreuad, rhwng Bethel a Hai; 4 I le yr allor a wnaethai efe yno o’r cyntaf: ac yno y galwodd Abram ar enw yr Arglwydd.
5 Ac i Lot hefyd, yr hwn a aethai gydag Abram, yr oedd defaid, a gwartheg, a phebyll. 6 A’r wlad nid oedd abl i’w cynnal hwynt i drigo ynghyd; am fod eu cyfoeth hwynt yn helaeth, fel na allent drigo ynghyd. 7 Cynnen hefyd oedd rhwng bugeiliaid anifeiliaid Abram a bugeiliaid anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Pheresiaid oedd yna yn trigo yn y wlad. 8 Ac Abram a ddywedodd wrth Lot, Na fydded cynnen, atolwg, rhyngof fi a thi, na rhwng fy mugeiliaid i a’th fugeiliaid di; oherwydd brodyr ydym ni. 9 Onid yw yr holl dir o’th flaen di? Ymneilltua, atolwg, oddi wrthyf: os ar y llaw aswy y troi di, minnau a droaf ar y ddeau; ac os ar y llaw ddeau, minnau a droaf ar yr aswy. 10 A Lot a gyfododd ei olwg, ac a welodd holl wastadedd yr Iorddonen, mai dyfradwy ydoedd oll, cyn i’r Arglwydd ddifetha Sodom a Gomorra, fel gardd yr Arglwydd, fel tir yr Aifft, ffordd yr elych i Soar. 11 A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tua’r dwyrain: felly yr ymneilltuasant bob un oddi wrth ei gilydd. 12 Abram a drigodd yn nhir Canaan a Lot a drigodd yn ninasoedd y gwastadedd, ac a luestodd hyd Sodom. 13 A dynion Sodom oedd ddrygionus, ac yn pechu yn erbyn yr Arglwydd yn ddirfawr.
14 A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Abram, wedi ymneilltuo o Lot oddi wrtho ef, Cyfod dy lygaid, ac edrych o’r lle yr wyt ynddo, tua’r gogledd, a’r deau, a’r dwyrain, a’r gorllewin. 15 Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth. 16 Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gŵr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau. 17 Cyfod, rhodia trwy’r wlad, ar ei hyd, ac ar ei lled; canys i ti y rhoddaf hi. 18 Ac Abram a symudodd ei luest, ac a ddaeth, ac a drigodd yng ngwastadedd Mamre, yr hwn sydd yn Hebron, ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd.
14 Oherwydd hyn yr wyf yn plygu fy ngliniau at Dad ein Harglwydd Iesu Grist, 15 O’r hwn yr enwir yr holl deulu yn y nefoedd ac ar y ddaear, 16 Ar roddi ohono ef i chwi, yn ôl cyfoeth ei ogoniant, fod wedi ymgadarnhau mewn nerth, trwy ei Ysbryd ef, yn y dyn oddi mewn; 17 Ar fod Crist yn trigo trwy ffydd yn eich calonnau chwi; 18 Fel y galloch, wedi eich gwreiddio a’ch seilio mewn cariad, amgyffred gyda’r holl saint, beth yw’r lled, a’r hyd, a’r dyfnder, a’r uchder; 19 A gwybod cariad Crist, yr hwn sydd uwchlaw gwybodaeth, fel y’ch cyflawner â holl gyflawnder Duw. 20 Ond i’r hwn a ddichon wneuthur yn dra rhagorol, y tu hwnt i bob peth yr ydym ni yn eu dymuno, neu yn eu meddwl, yn ôl y nerth sydd yn gweithredu ynom ni, 21 Iddo ef y byddo’r gogoniant yn yr eglwys trwy Grist Iesu, dros yr holl genedlaethau, hyd yn oes oesoedd. Amen.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.