Revised Common Lectionary (Complementary)
116 Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef, a’m gweddïau. 2 Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef. 3 Gofidion angau a’m cylchynasant, a gofidiau uffern a’m daliasant: ing a blinder a gefais. 4 Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd; Atolwg, Arglwydd, gwared fy enaid.
12 Beth a dalaf i’r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi? 13 Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. 14 Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef. 15 Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef. 16 O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau. 17 Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd. 18 Talaf fy addunedau i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl, 19 Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.
26 Ydydd hwnnw y cenir y gân hon yn nhir Jwda: Dinas gadarn sydd i ni; Duw a esyd iachawdwriaeth yn gaerau ac yn rhagfur. 2 Agorwch y pyrth, fel y dêl y genedl gyfiawn i mewn, yr hon a geidw wirionedd. 3 Ti a gedwi mewn tangnefedd heddychol yr hwn sydd â’i feddylfryd arnat ti; am ei fod yn ymddiried ynot. 4 Ymddiriedwch yn yr Arglwydd byth; oherwydd yn yr Arglwydd Dduw y mae cadernid tragwyddol.
13 Oherwydd paham, gan wregysu lwynau eich meddwl, a bod yn sobr, gobeithiwch yn berffaith am y gras a ddygir i chwi yn natguddiad Iesu Grist; 14 Fel plant ufudd-dod, heb gydymagweddu â’r trachwantau o’r blaen yn eich anwybodaeth: 15 Eithr megis y mae’r neb a’ch galwodd chwi yn sanctaidd, byddwch chwithau hefyd sanctaidd ym mhob ymarweddiad. 16 Oblegid y mae yn ysgrifenedig, Byddwch sanctaidd; canys sanctaidd ydwyf fi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.