Revised Common Lectionary (Complementary)
Michtam Dafydd.
16 Cadw fi, O Dduw: canys ynot yr ymddiriedaf. 2 Fy enaid, dywedaist wrth yr Arglwydd, Fy Arglwydd ydwyt ti: fy na nid yw ddim i ti: 3 Ond i’r saint sydd ar y ddaear, a’r rhai rhagorol, yn y rhai y mae fy holl hyfrydwch. 4 Gofidiau a amlhânt i’r rhai a frysiant ar ôl duw dieithr: eu diod‐offrwm o waed nid offrymaf fi, ac ni chymeraf eu henwau yn fy ngwefusau. 5 Yr Arglwydd yw rhan fy etifeddiaeth i a’m ffiol: ti a gynheli fy nghoelbren. 6 Y llinynnau a syrthiodd i mi mewn lleoedd hyfryd: ie, y mae i mi etifeddiaeth deg. 7 Bendithiaf yr Arglwydd, yr hwn a’m cynghorodd: fy arennau hefyd a’m dysgant y nos. 8 Gosodais yr Arglwydd bob amser ger fy mron: am ei fod ar fy neheulaw, ni’m hysgogir. 9 Oherwydd hynny llawenychodd fy nghalon, ac ymhyfrydodd fy ngogoniant: fy nghnawd hefyd a orffwys mewn gobaith. 10 Canys ni adewi fy enaid yn uffern; ac ni oddefi i’th Sanct weled llygredigaeth. 11 Dangosi i mi lwybr bywyd: digonolrwydd llawenydd sydd ger dy fron, ar dy ddeheulaw y mae digrifwch yn dragywydd.
9 Beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, y decaf o’r gwragedd? beth yw dy anwylyd rhagor anwylyd arall, pan orchmynni i ni felly? 10 Fy anwylyd sydd wyn a gwridog, yn rhagori ar ddengmil. 11 Ei ben fel aur coeth, ei wallt yn grych, yn ddu fel y frân. 12 Ei lygaid fel llygaid colomennod wrth afonydd dyfroedd, wedi eu golchi â llaeth, wedi eu gosod yn gymwys. 13 Ei ruddiau fel gwely perlysiau, fel blodau peraidd: ei wefusau fel lili yn diferu myrr diferol. 14 Ei ddwylo sydd fel modrwyau aur, wedi eu llenwi o beryl: ei fol fel disglair ifori wedi ei wisgo â saffir. 15 Ei goesau fel colofnau marmor wedi eu gosod ar wadnau o aur coeth: ei wynepryd fel Libanus, mor ddewisol â chedrwydd. 16 Melys odiaeth yw ei enau; ie, y mae efe oll yn hawddgar. Dyma fy anwylyd, dyma fy nghyfaill, O ferched Jerwsalem.
6 I ba le yr aeth dy anwylyd, y decaf o’r gwragedd? i ba le y trodd dy anwylyd? fel y ceisiom ef gyda thi. 2 Fy anwylyd a aeth i waered i’w ardd, i welyau y perlysiau, i ymborth yn y gerddi, ac i gasglu lili. 3 Myfi wyf eiddo fy anwylyd, a’m hanwylyd yn eiddof finnau, yr hwn sydd yn bugeilio ymysg y lili.
15 Hefyd yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, yr efengyl a bregethais i chwi, yr hon hefyd a dderbyniasoch, ac yn yr hon yr ydych yn sefyll; 2 Trwy yr hon y’ch cedwir hefyd, os ydych yn dal yn eich cof â pha ymadrodd yr efengylais i chwi, oddieithr darfod i chwi gredu yn ofer. 3 Canys mi a draddodais i chwi ar y cyntaf yr hyn hefyd a dderbyniais, farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ôl yr ysgrythurau; 4 A’i gladdu, a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ôl yr ysgrythurau; 5 A’i weled ef gan Ceffas, yna gan y deuddeg. 6 Wedi hynny y gwelwyd ef gan fwy na phum cant brodyr ar unwaith: o’r rhai y mae’r rhan fwyaf yn aros hyd yr awron; eithr rhai a hunasant. 7 Wedi hynny y gwelwyd ef gan Iago; yna gan yr holl apostolion. 8 Ac yn ddiwethaf oll y gwelwyd ef gennyf finnau hefyd, megis gan un annhymig. 9 Canys myfi yw’r lleiaf o’r apostolion, yr hwn nid wyf addas i’m galw yn apostol, am i mi erlid eglwys Dduw. 10 Eithr trwy ras Duw yr ydwyf yr hyn ydwyf: a’i ras ef, yr hwn a roddwyd i mi, ni bu yn ofer; ond mi a lafuriais yn helaethach na hwynt oll: ac nid myfi chwaith, ond gras Duw, yr hwn oedd gyda mi. 11 Am hynny, pa un bynnag ai myfi ai hwynt‐hwy, felly yr ydym yn pregethu, ac felly y credasoch chwi.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.