Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Exodus 12:1-4

12 Yr Arglwydd hefyd a lefarodd wrth Moses ac Aaron yn nhir yr Aifft, gan ddywedyd, Y mis hwn fydd i chwi yn ddechreuad y misoedd: cyntaf fydd i chwi o fisoedd y flwyddyn.

Lleferwch wrth holl gynulleidfa Israel, gan ddywedyd, Ar y degfed dydd o’r mis hwn cymerant iddynt bob un oen, yn ôl teulu eu tadau, sef oen dros bob teulu. Ond os y teulu fydd ry fychan i’r oen, efe a’i gymydog nesaf i’w dŷ a’i cymer, wrth y rhifedi o ddynion; pob un yn ôl ei fwyta a gyfrifwch at yr oen.

Exodus 12:5-10

Bydded yr oen gennych yn berffaith‐gwbl, yn wryw, ac yn llwdn blwydd: o’r defaid, neu o’r geifr, y cymerwch ef. A bydded yng nghadw gennych hyd y pedwerydd dydd ar ddeg o’r mis hwn: a lladded holl dyrfa cynulleidfa Israel ef yn y cyfnos. A chymerant o’r gwaed, a rhoddant ar y ddau ystlysbost, ac ar gapan drws y tai y bwytânt ef ynddynt. A’r cig a fwytânt y nos honno, wedi ei rostio wrth dân, a bara croyw; gyda dail surion y bwytânt ef. Na fwytewch ohono yn amrwd, na chwaith wedi ei ferwi mewn dwfr, eithr wedi ei rostio wrth dân; ei ben gyda’i draed a’i ymysgaroedd. 10 Ac na weddillwch ddim ohono hyd y bore: a’r hyn fydd yng ngweddill ohono erbyn y bore, llosgwch yn tân.

Exodus 12:11-14

11 Ac fel hyn y bwytewch ef; wedi gwregysu eich lwynau, a’ch esgidiau am eich traed, a’ch ffyn yn eich dwylo: a bwytewch ef ar ffrwst; Pasg yr Arglwydd ydyw efe. 12 Oherwydd mi a dramwyaf trwy wlad yr Aifft y nos hon, ac a drawaf bob cyntaf‐anedig o fewn tir yr Aifft, yn ddyn ac yn anifail; a mi a wnaf farn yn erbyn holl dduwiau yr Aifft: myfi yw yr Arglwydd. 13 A’r gwaed fydd i chwi yn arwydd ar y tai lle byddoch chwi; a phan welwyf y gwaed, yna yr af heibio i chwi, ac ni bydd pla dinistriol arnoch chwi, pan drawyf dir yr Aifft. 14 A’r dydd hwn fydd yn goffadwriaeth i chwi; a chwi a’i cedwch ef yn ŵyl i’r Arglwydd trwy eich cenedlaethau: cedwch ef yn ŵyl trwy ddeddf dragwyddol.

Salmau 116:1-2

116 Da gennyf wrando o’r Arglwydd ar fy llef, a’m gweddïau. Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.

Salmau 116:12-19

12 Beth a dalaf i’r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi? 13 Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf. 14 Fy addunedau a dalaf i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef. 15 Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef. 16 O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau. 17 Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd. 18 Talaf fy addunedau i’r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl, 19 Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.

1 Corinthiaid 11:23-26

23 Canys myfi a dderbyniais gan yr Arglwydd yr hyn hefyd a draddodais i chwi; Bod i’r Arglwydd Iesu, y nos y bradychwyd ef, gymryd bara: 24 Ac wedi iddo ddiolch, efe a’i torrodd, ac a ddywedodd, Cymerwch, bwytewch; hwn yw fy nghorff, yr hwn a dorrir trosoch: gwnewch hyn er coffa amdanaf. 25 Yr un modd efe a gymerodd y cwpan, wedi swperu, gan ddywedyd, Y cwpan hwn yw’r testament newydd yn fy ngwaed: gwnewch hyn, cynifer gwaith bynnag yr yfoch, er coffa amdanaf. 26 Canys cynifer gwaith bynnag y bwytaoch y bara hwn, ac yr yfoch y cwpan hwn, y dangoswch farwolaeth yr Arglwydd oni ddelo.

Ioan 13:1-17

13 Achyn gŵyl y pasg, yr Iesu yn gwybod ddyfod ei awr ef i ymadael â’r byd hwn at y Tad, efe yn caru yr eiddo y rhai oedd yn y byd, a’u carodd hwynt hyd y diwedd. Ac wedi darfod swper, wedi i ddiafol eisoes roi yng nghalon Jwdas Iscariot, mab Simon, ei fradychu ef; Yr Iesu yn gwybod roddi o’r Tad bob peth oll yn ei ddwylo ef, a’i fod wedi dyfod oddi wrth Dduw, ac yn myned at Dduw; Efe a gyfododd oddi ar swper, ac a roes heibio ei gochlwisg, ac a gymerodd dywel, ac a ymwregysodd. Wedi hynny efe a dywalltodd ddwfr i’r cawg, ac a ddechreuodd olchi traed y disgyblion, a’u sychu â’r tywel, â’r hwn yr oedd efe wedi ei wregysu. Yna y daeth efe at Simon Pedr: ac efe a ddywedodd wrtho, Arglwydd, a wyt ti’n golchi fy nhraed i? Yr Iesu a atebodd ac a ddywedodd wrtho, Y peth yr wyf fi yn ei wneuthur, ni wyddost ti yr awron: eithr ti a gei wybod ar ôl hyn. Pedr a ddywedodd wrtho, Ni chei di olchi fy nhraed i byth. Yr Iesu a atebodd iddo, Oni olchaf di, nid oes i ti gyfran gyda myfi. Simon Pedr a ddywedodd wrtho, Arglwydd, nid fy nhraed yn unig, eithr fy nwylo a’m pen hefyd. 10 Yr Iesu a ddywedodd wrtho, Yr hwn a olchwyd, nid rhaid iddo ond golchi ei draed, eithr y mae yn lân oll: ac yr ydych chwi yn lân, eithr nid pawb oll. 11 Canys efe a wyddai pwy a’i bradychai ef: am hynny y dywedodd, Nid ydych chwi yn lân bawb oll. 12 Felly wedi iddo olchi eu traed hwy, a chymryd ei gochlwisg, efe a eisteddodd drachefn, ac a ddywedodd wrthynt, A wyddoch chwi pa beth a wneuthum i chwi? 13 Yr ydych chwi yn fy ngalw i, Yr Athro, a’r Arglwydd: a da y dywedwch; canys felly yr ydwyf. 14 Am hynny os myfi, yn Arglwydd ac yn Athro, a olchais eich traed chwi; chwithau a ddylech olchi traed eich gilydd; 15 Canys rhoddais esampl i chwi, fel y gwnelech chwithau megis y gwneuthum i chwi. 16 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Nid yw’r gwas yn fwy na’i arglwydd; na’r hwn a ddanfonwyd yn fwy na’r hwn a’i danfonodd. 17 Os gwyddoch y pethau hyn, gwyn eich byd os gwnewch hwynt.

Ioan 13:31-35

31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. 32 Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd. 33 O blant bychain, eto yr wyf ennyd fechan gyda chwi. Chwi a’m ceisiwch: ac, megis y dywedais wrth yr Iddewon, Lle yr wyf fi yn myned, ni ellwch chwi ddyfod; yr ydwyf yn dywedyd wrthych chwithau hefyd yr awron. 34 Gorchymyn newydd yr wyf yn ei roddi i chwi, Ar garu ohonoch eich gilydd; fel y cerais i chwi, ar garu ohonoch chwithau bawb eich gilydd. 35 Wrth hyn y gwybydd pawb mai disgyblion i mi ydych, os bydd gennych gariad i’ch gilydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.