Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Revised Common Lectionary (Complementary)

Daily Bible readings that follow the church liturgical year, with thematically matched Old and New Testament readings.
Duration: 1245 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Eseia 50:4-9

Yr Arglwydd Dduw a roddes i mi dafod y dysgedig, i fedru mewn pryd lefaru gair wrth y diffygiol: deffry fi bob bore, deffry i mi glust i glywed fel y dysgedig.

Yr Arglwydd Dduw a agorodd fy nghlust, a minnau ni wrthwynebais, ac ni chiliais yn fy ôl. Fy nghorff a roddais i’r curwyr, a’m cernau i’r rhai a dynnai y blew: ni chuddiais fy wyneb oddi wrth waradwydd a phoeredd.

Oherwydd yr Arglwydd Dduw a’m cymorth; am hynny ni’m cywilyddir: am hynny gosodais fy wyneb fel callestr, a gwn na’m cywilyddir. Agos yw yr hwn a’m cyfiawnha; pwy a ymryson â mi? safwn ynghyd: pwy yw fy ngwrthwynebwr? nesaed ataf. Wele, yr Arglwydd Dduw a’m cynorthwya; pwy yw yr hwn a’m bwrw yn euog? wele, hwynt oll a heneiddiant fel dilledyn; y gwyfyn a’u hysa hwynt.

Salmau 70

I’r Pencerdd, Salm Dafydd i goffa.

70 O Dduw, prysura i’m gwaredu; brysia, Arglwydd, i’m cymorth. Cywilyddier a gwarthrudder y rhai a geisiant fy enaid: troer yn eu hôl a gwaradwydder y rhai a ewyllysiant ddrwg i mi. Datroer yn lle gwobr am eu cywilydd, y rhai a ddywedant, Ha, ha. Llawenyched, a gorfoledded ynot ti y rhai oll a’th geisiant; a dyweded y rhai a garant dy iachawdwriaeth yn wastad, Mawryger Duw. Minnau ydwyf dlawd ac anghenus; O Dduw, brysia ataf: fy nghymorth a’m gwaredydd ydwyt ti, O Arglwydd; na hir drig.

Hebreaid 12:1-3

12 Oblegid hynny ninnau hefyd, gan fod cymaint cwmwl o dystion wedi ei osod o’n hamgylch, gan roi heibio bob pwys, a’r pechod sydd barod i’n hamgylchu, trwy amynedd rhedwn yr yrfa a osodwyd o’n blaen ni; Gan edrych ar Iesu, Pen‐tywysog a Pherffeithydd ein ffydd ni; yr hwn, yn lle’r llawenydd a osodwyd iddo, a ddioddefodd y groes, gan ddiystyru gwaradwydd, ac a eisteddodd ar ddeheulaw gorseddfainc Duw. Ystyriwch am hynny yr hwn a ddioddefodd gyfryw ddywedyd yn ei erbyn gan bechaduriaid; fel na flinoch, ac nad ymollyngoch yn eich eneidiau.

Ioan 13:21-32

21 Wedi i’r Iesu ddywedyd y pethau hyn, efe a gynhyrfwyd yn yr ysbryd, ac a dystiolaethodd, ac a ddywedodd, Yn wir, yn wir, y dywedaf wrthych, y bradycha un ohonoch fi. 22 Yna y disgyblion a edrychasant ar ei gilydd, gan amau am bwy yr oedd efe yn dywedyd. 23 Ac yr oedd un o’i ddisgyblion yn pwyso ar fynwes yr Iesu, yr hwn yr oedd yr Iesu yn ei garu. 24 Am hynny yr amneidiodd Simon Pedr ar hwnnw, i ofyn pwy oedd efe, am yr hwn yr oedd efe yn dywedyd. 25 Ac yntau’n pwyso ar ddwyfron yr Iesu, a ddywedodd wrtho, Arglwydd, pwy yw efe? 26 Yr Iesu a atebodd, Hwnnw yw efe, i’r hwn y rhoddaf fi damaid wedi i mi ei wlychu. Ac wedi iddo wlychu’r tamaid, efe a’i rhoddodd i Jwdas Iscariot, mab Simon. 27 Ac ar ôl y tamaid, yna yr aeth Satan i mewn iddo. Am hynny y dywedodd yr Iesu wrtho, Hyn yr wyt yn ei wneuthur, gwna ar frys. 28 Ac ni wyddai neb o’r rhai oedd yn eistedd i ba beth y dywedasai efe hyn wrtho. 29 Canys rhai oedd yn tybied, am fod Jwdas a’r god ganddo, fod yr Iesu yn dywedyd wrtho, Prŷn y pethau sydd arnom eu heisiau erbyn yr ŵyl; neu, ar roi ohono beth i’r tlodion. 30 Yntau gan hynny, wedi derbyn y tamaid, a aeth allan yn ebrwydd. Ac yr oedd hi’n nos.

31 Yna gwedi iddo fyned allan, yr Iesu a ddywedodd, Yn awr y gogoneddwyd Mab y dyn, a Duw a ogoneddwyd ynddo ef. 32 Os gogoneddwyd Duw ynddo ef, Duw hefyd a’i gogonedda ef ynddo ei hun, ac efe a’i gogonedda ef yn ebrwydd.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.