Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Luc 17:11-18:14

11 Bu hefyd, ac efe yn myned i Jerwsalem, fyned ohono ef trwy ganol Samaria a Galilea. 12 A phan oedd efe yn myned i mewn i ryw dref, cyfarfu ag ef ddeg o wŷr gwahangleifion, y rhai a safasant o hirbell: 13 A hwy a godasant eu llef, gan ddywedyd, Iesu Feistr, trugarha wrthym. 14 A phan welodd efe hwynt, efe a ddywedodd wrthynt, Ewch a dangoswch eich hunain i’r offeiriaid. A bu, fel yr oeddynt yn myned, fe a’u glanhawyd hwynt. 15 Ac un ohonynt, pan welodd ddarfod ei iacháu, a ddychwelodd, gan foliannu Duw â llef uchel. 16 Ac efe a syrthiodd ar ei wyneb wrth ei draed ef, gan ddiolch iddo. A Samariad oedd efe. 17 A’r Iesu gan ateb a ddywedodd, Oni lanhawyd y deg? ond pa le y mae y naw? 18 Ni chaed a ddychwelasant i roi gogoniant i Dduw, ond yr estron hwn. 19 Ac efe a ddywedodd wrtho, Cyfod, a dos ymaith: dy ffydd a’th iachaodd.

20 A phan ofynnodd y Phariseaid iddo, pa bryd y deuai teyrnas Dduw, efe a atebodd iddynt, ac a ddywedodd, Ni ddaw teyrnas Dduw wrth ddisgwyl. 21 Ac ni ddywedant, Wele yma; neu, Wele acw: canys wele, teyrnas Dduw, o’ch mewn chwi y mae. 22 Ac efe a ddywedodd wrth y disgyblion, Y dyddiau a ddaw pan chwenychoch weled un o ddyddiau Mab y dyn, ac nis gwelwch. 23 A hwy a ddywedant wrthych, Wele yma; neu, Wele acw: nac ewch, ac na chanlynwch hwynt. 24 Canys megis y mae’r fellten a felltenna o’r naill ran dan y nef, yn disgleirio hyd y rhan arall dan y nef; felly y bydd Mab y dyn hefyd yn ei ddydd ef. 25 Eithr yn gyntaf rhaid iddo ddioddef llawer, a’i wrthod gan y genhedlaeth hon. 26 Ac megis y bu yn nyddiau Noe, felly y bydd hefyd yn nyddiau Mab y dyn. 27 Yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn gwreica, yn gwra hyd y dydd yr aeth Noe i mewn i’r arch; a daeth y dilyw, ac a’u difethodd hwynt oll. 28 Yr un modd hefyd ag y bu yn nyddiau Lot: yr oeddynt yn bwyta, yn yfed, yn prynu, yn gwerthu, yn plannu, yn adeiladu; 29 Eithr y dydd yr aeth Lot allan o Sodom, y glawiodd tân a brwmstan o’r nef, ac a’u difethodd hwynt oll: 30 Fel hyn y bydd yn y dydd y datguddir Mab y dyn. 31 Yn y dydd hwnnw y neb a fyddo ar ben y tŷ, a’i ddodrefn o fewn y tŷ, na ddisgynned i’w cymryd hwynt; a’r hwn a fyddo yn y maes, yr un ffunud na ddychweled yn ei ôl. 32 Cofiwch wraig Lot. 33 Pwy bynnag a geisio gadw ei einioes, a’i cyll; a phwy bynnag a’i cyll, a’i bywha hi. 34 Yr wyf yn dywedyd i chwi, Y nos honno y bydd dau yn yr un gwely; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 35 Dwy a fydd yn malu yn yr un lle; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 36 Dau a fyddant yn y maes; y naill a gymerir, a’r llall a adewir. 37 A hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Pa le, Arglwydd? Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa le bynnag y byddo y corff, yno yr ymgasgl yr eryrod.

18 Ac efe a ddywedodd hefyd ddameg wrthynt, fod yn rhaid gweddïo yn wastad, ac heb ddiffygio; Gan ddywedyd, Yr oedd rhyw farnwr mewn rhyw ddinas, yr hwn nid ofnai Dduw, ac ni pharchai ddyn. Yr oedd hefyd yn y ddinas honno wraig weddw; a hi a ddaeth ato ef, gan ddywedyd, Dial fi ar fy ngwrthwynebwr. Ac efe nis gwnâi dros amser: eithr wedi hynny efe a ddywedodd ynddo ei hun, Er nad ofnaf Dduw, ac na pharchaf ddyn; Eto am fod y weddw hon yn peri i mi flinder, mi a’i dialaf hi; rhag iddi yn y diwedd ddyfod a’m syfrdanu i. A’r Arglwydd a ddywedodd, Gwrandewch beth a ddywed y barnwr anghyfiawn. Ac oni ddial Duw ei etholedigion, sydd yn llefain arno ddydd a nos, er ei fod yn hir oedi drostynt? Yr wyf yn dywedyd i chwi, y dial efe hwynt ar frys. Eithr Mab y dyn, pan ddêl, a gaiff efe ffydd ar y ddaear?

Ac efe a ddywedodd y ddameg hon hefyd wrth y rhai oedd yn hyderu arnynt eu hunain eu bod yn gyfiawn, ac yn diystyru eraill: 10 Dau ŵr a aeth i fyny i’r deml i weddïo; un yn Pharisead, a’r llall yn bublican. 11 Y Pharisead o’i sefyll a weddïodd rhyngddo ac ef ei hun fel hyn; O Dduw, yr wyf yn diolch i ti nad wyf fi fel y mae dynion eraill, yn drawsion, yn anghyfiawn, yn odinebwyr; neu, fel y publican hwn chwaith. 12 Yr wyf yn ymprydio ddwywaith yn yr wythnos; yr wyf yn degymu cymaint oll ag a feddaf. 13 A’r publican, gan sefyll o hirbell, ni fynnai gymaint â chodi ei olygon tua’r nef; eithr efe a gurodd ei ddwyfron, gan ddywedyd, O Dduw, bydd drugarog wrthyf bechadur. 14 Dywedaf i chwi, Aeth hwn i waered i’w dŷ wedi ei gyfiawnhau yn fwy na’r llall: canys pob un a’r y sydd yn ei ddyrchafu ei hun, a ostyngir; a phob un a’r y sydd yn ei ostwng ei hun, a ddyrchefir.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.