Chronological
9 Ac wrth fyned heibio, efe a ganfu ddyn dall o’i enedigaeth. 2 A’i ddisgyblion a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Rabbi, pwy a bechodd, ai hwn, ai ei rieni, fel y genid ef yn ddall? 3 Yr Iesu a atebodd, Nid hwn a bechodd, na’i rieni chwaith: eithr fel yr amlygid gweithredoedd Duw ynddo ef. 4 Rhaid i mi weithio gwaith yr hwn a’m hanfonodd, tra ydyw hi yn ddydd: y mae’r nos yn dyfod, pan na ddichon neb weithio. 5 Tra ydwyf yn y byd, goleuni’r byd ydwyf. 6 Wedi iddo ef ddywedyd hyn, efe a boerodd ar lawr, ac a wnaeth glai o’r poeryn, ac a irodd y clai ar lygaid y dall; 7 Ac a ddywedodd wrtho, Dos, ac ymolch yn llyn Siloam, (yr hwn a gyfieithir, Anfonedig). Am hynny efe a aeth ymaith, ac a ymolchodd, ac a ddaeth yn gweled.
8 Y cymdogion gan hynny, a’r rhai a’i gwelsent ef o’r blaen, mai dall oedd efe, a ddywedasant, Onid hwn yw’r un oedd yn eistedd ac yn cardota? 9 Rhai a ddywedasant, Hwn yw efe: ac eraill, Y mae efe yn debyg iddo. Yntau a ddywedodd, Myfi yw efe. 10 Am hynny y dywedasant wrtho, Pa fodd yr agorwyd dy lygaid di? 11 Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Dyn a elwir Iesu, a wnaeth glai, ac a irodd fy llygaid i; ac a ddywedodd wrthyf, Dos i lyn Siloam, ac ymolch. Ac wedi i mi fyned ac ymolchi, mi a gefais fy ngolwg. 12 Yna y dywedasant wrtho, Pa le y mae efe? Yntau a ddywedodd, Ni wn i.
13 Hwythau a’i dygasant ef at y Phariseaid, yr hwn gynt a fuasai yn ddall. 14 A’r Saboth oedd hi pan wnaeth yr Iesu y clai, a phan agorodd efe ei lygaid ef. 15 Am hynny y Phariseaid hefyd a ofynasant iddo drachefn, pa fodd y cawsai efe ei olwg. Yntau a ddywedodd wrthynt, Clai a osododd efe ar fy llygaid i, a mi a ymolchais, ac yr ydwyf yn gweled. 16 Yna rhai o’r Phariseaid a ddywedasant, Nid yw’r dyn hwn o Dduw, gan nad yw efe yn cadw’r Saboth. Eraill a ddywedasant, Pa fodd y gall dyn pechadurus wneuthur y cyfryw arwyddion? Ac yr oedd ymrafael yn eu plith. 17 Hwy a ddywedasant drachefn wrth y dall, Beth yr wyt ti yn ei ddywedyd amdano ef, am agoryd ohono dy lygaid di? Yntau a ddywedodd, Mai proffwyd yw efe. 18 Am hynny ni chredai’r Iddewon amdano ef, mai dall fuasai, a chael ohono ef ei olwg, nes galw ohonynt ei rieni ef, yr hwn a gawsai ei olwg. 19 A hwy a ofynasant iddynt, gan ddywedyd, Ai hwn yw eich mab chwi, yr hwn yr ydych chwi yn dywedyd ei eni yn ddall? pa fodd gan hynny y mae efe yn gweled yn awr? 20 Ei rieni ef a atebasant iddynt hwy, ac a ddywedasant, Nyni a wyddom mai hwn yw ein mab ni, ac mai yn ddall y ganwyd ef: 21 Ond pa fodd y mae efe yn gweled yr awron, nis gwyddom ni; neu pwy a agorodd ei lygaid ef, nis gwyddom ni: y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef: efe a ddywed amdano’i hun. 22 Hyn a ddywedodd ei rieni ef, am eu bod yn ofni’r Iddewon: oblegid yr Iddewon a gydordeiniasent eisoes, os cyfaddefai neb ef yn Grist, y bwrid ef allan o’r synagog. 23 Am hynny y dywedodd ei rieni ef, Y mae efe mewn oedran; gofynnwch iddo ef. 24 Am hynny hwy a alwasant eilwaith y dyn a fuasai yn ddall, ac a ddywedasant wrtho, Dyro’r gogoniant i Dduw: nyni a wyddom mai pechadur yw’r dyn hwn. 25 Yna yntau a atebodd ac a ddywedodd, Ai pechadur yw, nis gwn i: un peth a wn i, lle yr oeddwn i yn ddall, yr wyf fi yn awr yn gweled. 26 Hwythau a ddywedasant wrtho drachefn, Beth a wnaeth efe i ti? pa fodd yr agorodd efe dy lygaid di? 27 Yntau a atebodd iddynt, Mi a ddywedais i chwi eisoes, ac ni wrandawsoch:paham yr ydych yn ewyllysio clywed drachefn? a ydych chwithau yn ewyllysio bod yn ddisgyblion iddo ef? 28 Hwythau a’i difenwasant ef, ac a ddywedasant, Tydi sydd ddisgybl iddo ef; eithr disgyblion Moses ydym ni. 29 Nyni a wyddom lefaru o Dduw wrth Moses: eithr hwn, nis gwyddom ni o ba le y mae efe. 30 Y dyn a atebodd ac a ddywedodd wrthynt, Yn hyn yn ddiau y mae yn rhyfedd, na wyddoch chwi o ba le y mae efe, ac efe a agorodd fy llygaid i. 31 Ac ni a wyddom nad yw Duw yn gwrando pechaduriaid: ond os yw neb yn addolwr Duw, ac yn gwneuthur ei ewyllys ef, hwnnw y mae yn ei wrando. 32 Ni chlybuwyd erioed agoryd o neb lygaid un a anesid yn ddall. 33 Oni bai fod hwn o Dduw, ni allai efe wneuthur dim. 34 Hwy a atebasant ac a ddywedasant wrtho, Mewn pechodau y ganwyd ti oll; ac a wyt ti yn ein dysgu ni? A hwy a’i bwriasant ef allan. 35 Clybu yr Iesu ddarfod iddynt ei fwrw ef allan: a phan ei cafodd, efe a ddywedodd wrtho, A wyt ti yn credu ym Mab Duw? 36 Yntau a atebodd ac a ddywedodd, Pwy yw efe, O Arglwydd, fel y credwyf ynddo? 37 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Ti a’i gwelaist ef; a’r hwn sydd yn ymddiddan â thi, hwnnw ydyw efe. 38 Yntau a ddywedodd, Yr wyf fi yn credu, O Arglwydd. Ac efe a’i haddolodd ef.
39 A’r Iesu a ddywedodd, I farn y deuthum i’r byd hwn; fel y gwelai’r rhai nid ydynt yn gweled, ac yr elai’r rhai sydd yn gweled yn ddeillion. 40 A rhai o’r Phariseaid a oedd gydag ef, a glywsant y pethau hyn, ac a ddywedasant wrtho, Ydym ninnau hefyd yn ddeillion? 41 Yr Iesu a ddywedodd wrthynt, Pe deillion fyddech, ni byddai arnoch bechod: eithr yn awr meddwch chwi, Yr ydym ni yn gweled; am hynny y mae eich pechod yn aros.
10 Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Yr hwn nid yw yn myned i mewn drwy’r drws i gorlan y defaid, eithr sydd yn dringo ffordd arall, lleidr ac ysbeiliwr yw. 2 Ond yr hwn sydd yn myned i mewn drwy’r drws, bugail y defaid ydyw. 3 I hwn y mae’r drysor yn agoryd, ac y mae’r defaid yn gwrando ar ei lais ef: ac y mae efe yn galw ei ddefaid ei hun erbyn eu henw, ac yn eu harwain hwy allan. 4 Ac wedi iddo yrru allan ei ddefaid ei hun, y mae efe yn myned o’u blaen hwy: a’r defaid sydd yn ei ganlyn ef, oblegid y maent yn adnabod ei lais ef. 5 Ond y dieithr nis canlynant, eithr ffoant oddi wrtho: oblegid nad adwaenant lais dieithriaid. 6 Y ddameg hon a ddywedodd yr Iesu wrthynt: ond hwy ni wybuant pa bethau ydoedd y rhai yr oedd efe yn eu llefaru wrthynt. 7 Am hynny yr Iesu a ddywedodd wrthynt drachefn, Yn wir, yn wir, meddaf i chwi, Myfi yw drws y defaid. 8 Cynifer oll ag a ddaethant o’m blaen i, lladron ac ysbeilwyr ŷnt: eithr ni wrandawodd y defaid arnynt. 9 Myfi yw’r drws: os â neb i mewn trwof fi, efe a fydd cadwedig; ac efe a â i mewn ac allan, ac a gaiff borfa. 10 Nid yw lleidr yn dyfod ond i ladrata, ac i ladd, ac i ddistrywio: myfi a ddeuthum fel y caent fywyd, ac y caent ef yn helaethach. 11 Myfi yw’r bugail da. Y bugail da sydd yn rhoddi ei einioes dros y defaid. 12 Eithr y gwas cyflog, a’r hwn nid yw fugail, yr hwn nid eiddo y defaid, sydd yn gweled y blaidd yn dyfod, ac yn gadael y defaid, ac yn ffoi: a’r blaidd sydd yn eu hysglyfio hwy, ac yn tarfu’r defaid. 13 Y mae’r gwas cyflog yn ffoi, oblegid mai gwas cyflog yw, ac nid oes ofal arno am y defaid. 14 Myfi yw’r bugail da; ac a adwaen yr eiddof fi, ac a’m hadwaenir gan yr eiddof fi. 15 Fel yr edwyn y Tad fyfi, felly yr adwaen innau’r Tad: ac yr ydwyf yn rhoddi fy einioes dros y defaid. 16 A defaid eraill sydd gennyf, y rhai nid ŷnt o’r gorlan hon: y rhai hynny hefyd sydd raid i mi eu cyrchu, a’m llais i a wrandawant; a bydd un gorlan, ac un bugail. 17 Am hyn y mae’r Tad yn fy ngharu i, am fy mod i yn dodi fy einioes, fel y cymerwyf hi drachefn. 18 Nid oes neb yn ei dwyn oddi arnaf fi: ond myfi sydd yn ei dodi hi i lawr ohonof fy hun. Y mae gennyf feddiant i’w dodi hi i lawr, ac y mae gennyf feddiant i’w chymryd hi drachefn. Y gorchymyn hwn a dderbyniais i gan fy Nhad.
19 Yna y bu drachefn ymrafael ymysg yr Iddewon, am yr ymadroddion hyn. 20 A llawer ohonynt a ddywedasant, Y mae cythraul ganddo, ac y mae efe yn ynfydu: paham y gwrandewch chwi arno ef? 21 Eraill a ddywedasant, Nid yw’r rhai hyn eiriau un â chythraul ynddo. A all cythraul agoryd llygaid y deillion?
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.