Chronological
14 A phan ddaeth yr Iesu i dŷ Pedr, efe a welodd ei chwegr ef yn gorwedd, ac yn glaf o’r cryd. 15 Ac efe a gyffyrddodd â’i llaw hi; a’r cryd a’i gadawodd hi: a hi a gododd, ac a wasanaethodd arnynt.
16 Ac wedi ei hwyrhau hi, hwy a ddygasant ato lawer o rai cythreulig: ac efe a fwriodd allan yr ysbrydion â’i air, ac a iachaodd yr holl gleifion; 17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, Efe a gymerodd ein gwendid ni, ac a ddug ein clefydau.
18 A’r Iesu, pan welodd dorfeydd lawer o’i amgylch, a orchmynnodd fyned drosodd i’r lan arall. 19 A rhyw ysgrifennydd a ddaeth, ac a ddywedodd wrtho, Athro, mi a’th ganlynaf i ba le bynnag yr elych. 20 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Y mae ffeuau gan y llwynogod, a chan ehediaid y nefoedd nythod; ond gan Fab y dyn nid oes le i roddi ei ben i lawr. 21 Ac un arall o’i ddisgyblion a ddywedodd wrtho, Arglwydd, gad imi yn gyntaf fyned a chladdu fy nhad. 22 A’r Iesu a ddywedodd wrtho, Canlyn fi; a gad i’r meirw gladdu eu meirw.
23 Ac wedi iddo fyned i’r llong, ei ddisgyblion a’i canlynasant ef. 24 Ac wele, bu cynnwrf mawr yn y môr, hyd oni chuddiwyd y llong gan y tonnau: eithr efe oedd yn cysgu. 25 A’i ddisgyblion a ddaethant ato, ac a’i deffroasant, gan ddywedyd, Arglwydd, cadw ni: darfu amdanom. 26 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham yr ydych yn ofnus, O chwi o ychydig ffydd? Yna y cododd efe, ac y ceryddodd y gwyntoedd a’r môr; a bu dawelwch mawr. 27 A’r dynion a ryfeddasant, gan ddywedyd, Pa ryw un yw hwn, gan fod y gwyntoedd hefyd a’r môr yn ufuddhau iddo!
28 Ac wedi ei ddyfod ef i’r lan arall, i wlad y Gergesiaid, dau ddieflig a gyfarfuant ag ef, y rhai a ddeuent o’r beddau, yn dra ffyrnig, fel na allai neb fyned y ffordd honno. 29 Ac wele, hwy a lefasant, gan ddywedyd, Iesu, Fab Duw, beth sydd i ni a wnelom â thi? a ddaethost ti yma i’n poeni ni cyn yr amser? 30 Ac yr oedd ymhell oddi wrthynt genfaint o foch lawer, yn pori. 31 A’r cythreuliaid a ddeisyfasant arno, gan ddywedyd, Os bwri ni allan, caniatâ i ni fyned ymaith i’r genfaint foch. 32 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Ewch. A hwy wedi myned allan, a aethant i’r genfaint foch: ac wele, yr holl genfaint foch a ruthrodd dros y dibyn i’r môr, ac a fuant feirw yn y dyfroedd. 33 A’r meichiaid a ffoesant: ac wedi eu dyfod hwy i’r ddinas, hwy a fynegasant bob peth; a pha beth a ddarfuasai i’r rhai dieflig. 34 Ac wele, yr holl ddinas a ddaeth allan i gyfarfod â’r Iesu: a phan ei gwelsant, atolygasant iddo ymadael o’u cyffiniau hwynt.
4 Ac efe a ddechreuodd drachefn athrawiaethu yn ymyl y môr: a thyrfa fawr a ymgasglodd ato, hyd oni bu iddo fyned i’r llong, ac eistedd ar y môr; a’r holl dyrfa oedd wrth y môr, ar y tir. 2 Ac efe a ddysgodd iddynt lawer ar ddamhegion, ac a ddywedodd wrthynt yn ei ddysgeidiaeth ef, 3 Gwrandewch: Wele, heuwr a aeth allan i hau: 4 A darfu, wrth hau, i beth syrthio ar fin y ffordd, ac ehediaid yr awyr a ddaethant ac a’i difasant. 5 A pheth a syrthiodd ar greigle, lle ni chafodd fawr ddaear; ac yn y fan yr eginodd, am nad oedd iddo ddyfnder daear. 6 A phan gododd yr haul, y poethwyd ef; ac am nad oedd gwreiddyn iddo, efe a wywodd. 7 A pheth a syrthiodd ymhlith drain; a’r drain a dyfasant, ac a’i tagasant ef, ac ni ddug ffrwyth. 8 A pheth arall a syrthiodd mewn tir da, ac a roddes ffrwyth tyfadwy a chynhyrchiol, ac a ddug un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant. 9 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y neb sydd ganddo glustiau i wrando, gwrandawed. 10 A phan oedd efe wrtho’i hun, y rhai oedd yn ei gylch ef gyda’r deuddeg a ofynasant iddo am y ddameg. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, I chwi y rhodded gwybod dirgelwch teyrnas Dduw: eithr i’r rhai sydd allan, ar ddamhegion y gwneir pob peth: 12 Fel yn gweled y gwelant, ac na chanfyddant; ac yn clywed y clywant, ac ni ddeallant; rhag iddynt ddychwelyd, a maddau iddynt eu pechodau. 13 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni wyddoch chwi’r ddameg hon? a pha fodd y gwybyddwch yr holl ddamhegion?
14 Yr heuwr sydd yn hau’r gair. 15 A’r rhai hyn yw’r rhai ar fin y ffordd, lle yr heuir y gair; ac wedi iddynt ei glywed, y mae Satan yn dyfod yn ebrwydd, ac yn dwyn ymaith y gair a heuwyd yn eu calonnau hwynt. 16 A’r rhai hyn yr un ffunud yw’r rhai a heuir ar y creigle; y rhai, wedi clywed y gair, sydd yn ebrwydd yn ei dderbyn ef yn llawen; 17 Ac nid oes ganddynt wreiddyn ynddynt eu hunain, eithr dros amser y maent: yna, pan ddêl blinder neu erlid o achos y gair, yn y man y rhwystrir hwynt. 18 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd ymysg y drain; y rhai a wrandawant y gair, 19 Ac y mae gofalon y byd hwn, a hudoliaeth golud, a chwantau am bethau eraill, yn dyfod i mewn, ac yn tagu’r gair, a myned y mae yn ddiffrwyth. 20 A’r rhai hyn yw’r rhai a heuwyd mewn tir da; y rhai sydd yn gwrando y gair, ac yn ei dderbyn, ac yn dwyn ffrwyth, un ddeg ar hugain, ac un dri ugain, ac un gant.
21 Ac efe a ddywedodd wrthynt, A ddaw cannwyll i’w dodi dan lestr, neu dan wely? ac nid i’w gosod ar ganhwyllbren? 22 Canys nid oes dim cuddiedig, a’r nis amlygir; ac ni bu ddim dirgel, ond fel y delai i eglurdeb. 23 Od oes gan neb glustiau i wrando, gwrandawed. 24 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Edrychwch beth a wrandawoch. A pha fesur y mesuroch, y mesurir i chwithau; a chwanegir i chwi, y rhai a wrandewch. 25 Canys yr hwn y mae ganddo, y rhoddir iddo: a’r hwn nid oes ganddo, ie, yr hyn sydd ganddo a ddygir oddi arno.
26 Ac efe a ddywedodd, Felly y mae teyrnas Dduw, fel pe bwriai ddyn had i’r ddaear; 27 A chysgu, a chodi nos a dydd, a’r had yn egino ac yn tyfu, y modd nis gŵyr efe. 28 Canys y ddaear a ddwg ffrwyth ohoni ei hun; yn gyntaf yr eginyn, ar ôl hynny y dywysen, yna yr ŷd yn llawn yn y dywysen. 29 A phan ymddangoso’r ffrwyth, yn ebrwydd y rhydd efe y cryman ynddo, am ddyfod y cynhaeaf.
30 Ac efe a ddywedodd, I ba beth y cyffelybem deyrnas Dduw? neu ar ba ddameg y gwnaem gyffelybrwydd ohoni? 31 Megis gronyn o had mwstard ydyw, yr hwn pan heuer yn y ddaear, sydd leiaf o’r holl hadau sydd ar y ddaear; 32 Eithr wedi yr heuer, y mae yn tyfu, ac yn myned yn fwy na’r holl lysiau, ac efe a ddwg ganghennau mawrion; fel y gallo ehediaid yr awyr nythu dan ei gysgod ef. 33 Ac â chyfryw ddamhegion lawer y traethodd efe iddynt y gair, hyd y gallent ei wrando: 34 Ond heb ddameg ni lefarodd wrthynt: ac o’r neilltu i’w ddisgyblion efe a eglurodd bob peth.
35 Ac efe a ddywedodd wrthynt y dwthwn hwnnw, wedi ei hwyrhau hi, Awn trosodd i’r tu draw. 36 Ac wedi iddynt ollwng ymaith y dyrfa, hwy a’i cymerasant ef fel yr oedd yn y llong: ac yr oedd hefyd longau eraill gydag ef. 37 Ac fe a gyfododd tymestl fawr o wynt, a’r tonnau a daflasant i’r llong, hyd onid oedd hi yn llawn weithian. 38 Ac yr oedd efe yn y pen ôl i’r llong, yn cysgu ar obennydd: a hwy a’i deffroesant ef, ac a ddywedasant wrtho, Athro, ai difater gennyt ein colli ni? 39 Ac efe a gododd i fyny, ac a geryddodd y gwynt, ac a ddywedodd wrth y môr, Gostega, distawa. A’r gwynt a ostegodd, a bu tawelwch mawr. 40 Ac efe a ddywedodd wrthynt. Paham yr ydych mor ofnog? pa fodd nad oes gennych ffydd? 41 Eithr hwy a ofnasant yn ddirfawr, ac a ddywedasant wrth ei gilydd, Pwy yw hwn, gan fod y gwynt a’r môr yn ufuddhau iddo?
5 A hwy a ddaethant i’r tu hwnt i’r môr, i wlad y Gadareniaid. 2 Ac ar ei ddyfodiad ef allan o’r llong, yn y man cyfarfu ag ef o blith y beddau, ddyn ag ysbryd aflan ynddo, 3 Yr hwn oedd â’i drigfan ymhlith y beddau; ac ni allai neb, ie, â chadwynau, ei rwymo ef: 4 Oherwydd ei rwymo ef yn fynych â llyffetheiriau, ac â chadwynau, a darnio ohono’r cadwynau, a dryllio’r llyffetheiriau: ac ni allai neb ei ddofi ef. 5 Ac yn wastad nos a dydd yr oedd efe yn llefain yn y mynyddoedd, ac ymhlith y beddau, ac yn ei dorri ei hun â cherrig. 6 Ond pan ganfu efe yr Iesu o hirbell, efe a redodd, ac a’i haddolodd ef; 7 A chan weiddi â llef uchel, efe a ddywedodd, Beth sydd i mi a wnelwyf â thi, Iesu Mab y Duw goruchaf? yr ydwyf yn dy dynghedu trwy Dduw, na phoenech fi. 8 (Canys dywedasai wrtho, Ysbryd aflan, dos allan o’r dyn.) 9 Ac efe a ofynnodd iddo, Beth yw dy enw? Yntau a atebodd, gan ddywedyd, Lleng yw fy enw; am fod llawer ohonom. 10 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, na yrrai efe hwynt allan o’r wlad. 11 Ond yr oedd yno ar y mynyddoedd genfaint fawr o foch yn pori. 12 A’r holl gythreuliaid a atolygasant iddo, gan ddywedyd, Danfon ni i’r moch, fel y gallom fyned i mewn iddynt. 13 Ac yn y man y caniataodd yr Iesu iddynt. A’r ysbrydion aflan, wedi myned allan, a aethant i mewn i’r moch: a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i’r môr (ac ynghylch dwy fil oeddynt) ac a’u boddwyd yn y môr. 14 A’r rhai a borthent y moch a ffoesant, ac a fynegasant y peth yn y ddinas, ac yn y wlad: a hwy a aethant allan i weled beth oedd hyn a wnaethid. 15 A hwy a ddaethant at yr Iesu, ac a welsant y cythreulig, yr hwn y buasai’r lleng ynddo, yn eistedd, ac yn ei ddillad, ac yn ei iawn bwyll; ac a ofnasant. 16 A’r rhai a welsant a fynegasant iddynt, pa fodd y buasai i’r cythreulig, ac am y moch. 17 A dechreuasant ddymuno arno ef fyned ymaith o’u goror hwynt. 18 Ac efe yn myned i’r llong, yr hwn y buasai’r cythraul ynddo a ddymunodd arno gael bod gydag ef. 19 Ond yr Iesu ni adawodd iddo; eithr dywedodd wrtho, Dos i’th dŷ at yr eiddot, a mynega iddynt pa faint a wnaeth yr Arglwydd erot, ac iddo drugarhau wrthyt. 20 Ac efe a aeth ymaith, ac a ddechreuodd gyhoeddi trwy Decapolis, pa bethau eu maint a wnaethai yr Iesu iddo: a phawb a ryfeddasant.
21 Ac wedi i’r Iesu drachefn fyned mewn llong i’r lan arall, ymgasglodd tyrfa fawr ato: ac yr oedd efe wrth y môr. 22 Ac wele, un o benaethiaid y synagog a ddaeth, a’i enw Jairus: a phan ei gwelodd, efe a syrthiodd wrth ei draed ef; 23 Ac efe a fawr ymbiliodd ag ef, gan ddywedyd, Y mae fy merch fechan ar dranc: atolwg i ti ddyfod, a dodi dy ddwylo arni, fel yr iachaer hi; a byw fydd. 24 A’r Iesu a aeth gydag ef: a thyrfa fawr a’i canlynodd ef, ac a’i gwasgasant ef. 25 A rhyw wraig, yr hon a fuasai mewn diferlif gwaed ddeuddeng mlynedd, 26 Ac a oddefasai lawer gan laweroedd o feddygon, ac a dreuliasai gymaint ag oedd ar ei helw, ac ni chawsai ddim llesâd, eithr yn hytrach myned waethwaeth, 27 Pan glybu hi am yr Iesu, hi a ddaeth yn y dyrfa o’r tu ôl, ac a gyffyrddodd â’i wisg ef; 28 Canys hi a ddywedasai, Os cyffyrddaf â’i ddillad ef, iach fyddaf. 29 Ac yn ebrwydd y sychodd ffynhonnell ei gwaed hi: a hi a wybu yn ei chorff ddarfod ei hiacháu o’r pla. 30 Ac yn y fan yr Iesu, gan wybod ynddo’i hun fyned rhinwedd allan ohono, a drodd yn y dyrfa, ac a ddywedodd, Pwy a gyffyrddodd â’m dillad? 31 A’i ddisgyblion a ddywedasant wrtho, Ti a weli’r dyrfa yn dy wasgu, ac a ddywedi di, Pwy a’m cyffyrddodd? 32 Ac yntau a edrychodd o amgylch, i weled yr hon a wnaethai hyn. 33 Ond y wraig, gan ofni a chrynu, yn gwybod beth a wnaethid ynddi, a ddaeth ac a syrthiodd ger ei fron ef, ac a ddywedodd iddo yr holl wirionedd. 34 Ac efe a ddywedodd wrthi, Ha ferch, dy ffydd a’th iachaodd: dos mewn heddwch, a bydd iach o’th bla. 35 Ac efe eto yn llefaru, daeth rhai o dŷ pennaeth y synagog, gan ddywedyd, Bu farw dy ferch: i ba beth eto yr aflonyddi’r Athro? 36 A’r Iesu, yn ebrwydd wedi clywed y gair a ddywedasid, a ddywedodd wrth bennaeth y synagog, Nac ofna; cred yn unig. 37 Ac ni adawodd efe neb i’w ddilyn, ond Pedr, ac Iago, ac Ioan brawd Iago. 38 Ac efe a ddaeth i dŷ pennaeth y synagog, ac a ganfu’r cynnwrf, a’r rhai oedd yn wylo ac yn ochain llawer. 39 Ac wedi iddo fyned i mewn, efe a ddywedodd wrthynt, Paham y gwnewch gynnwrf, ac yr wylwch? ni bu farw’r eneth, eithr cysgu y mae. 40 A hwy a’i gwatwarasant ef. Ond efe, gwedi bwrw pawb allan, a gymerth dad yr eneth a’i mam, a’r rhai oedd gydag ef, ac a aeth i mewn lle yr oedd yr eneth yn gorwedd. 41 Ac wedi ymaflyd yn llaw’r eneth, efe a ddywedodd wrthi, Talitha, cwmi; yr hyn o’i gyfieithu yw, Yr eneth, yr wyf yn dywedyd wrthyt, cyfod. 42 Ac yn y fan y cyfododd yr eneth, ac a rodiodd: canys deuddeng mlwydd oed ydoedd hi. A synnu a wnaeth arnynt â syndod mawr. 43 Ac efe a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na châi neb wybod hyn; ac a ddywedodd am roddi peth iddi i’w fwyta.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.