Chronological
12 Yr amser hwnnw yr aeth yr Iesu ar y dydd Saboth trwy’r ŷd: ac yr oedd chwant bwyd ar ei ddisgyblion, a hwy a ddechreuasant dynnu tywys, a bwyta. 2 A phan welodd y Phariseaid, hwy a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy ddisgyblion yn gwneuthur yr hyn nid yw rydd ei wneuthur ar y Saboth. 3 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Oni ddarllenasoch pa beth a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef? 4 Pa fodd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y bwytaodd y bara gosod, yr hwn nid oedd rydd iddo ei fwyta, nac i’r rhai oedd gydag ef, ond yn unig i’r offeiriaid? 5 Neu oni ddarllenasoch yn y gyfraith, fod yr offeiriaid ar y Sabothau yn y deml yn halogi’r Saboth, a’u bod yn ddigerydd? 6 Eithr yr ydwyf yn dywedyd i chwi, fod yma un mwy na’r deml. 7 Ond pe gwybuasech beth yw hyn, Trugaredd a ewyllysiaf, ac nid aberth, ni farnasech chwi yn erbyn y rhai diniwed. 8 Canys Arglwydd ar y Saboth hefyd yw Mab y dyn. 9 Ac wedi iddo ymadael oddi yno, efe a aeth i’w synagog hwynt.
10 Ac wele, yr oedd dyn a chanddo law wedi gwywo. A hwy a ofynasant iddo, gan ddywedyd, Ai rhydd iacháu ar y Sabothau? fel y gallent achwyn arno. 11 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Pa ddyn ohonoch fydd a chanddo un ddafad, ac o syrth honno mewn pwll ar y dydd Saboth, nid ymeifl ynddi, a’i chodi allan? 12 Pa faint gwell gan hynny ydyw dyn na dafad? Felly rhydd yw gwneuthur yn dda ar y Sabothau. 13 Yna y dywedodd efe wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a’i hestynnodd; a hi a wnaed yn iach, fel y llall.
14 Yna yr aeth y Phariseaid allan, ac a ymgyngorasant yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 15 A’r Iesu gan wybod, a giliodd oddi yno; a thorfeydd lawer a’i canlynasant ef, ac efe a’u hiachaodd hwynt oll; 16 Ac a orchmynnodd iddynt, na wnaent ef yn gyhoedd: 17 Fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy Eseias y proffwyd, gan ddywedyd, 18 Wele fy ngwasanaethwr, yr hwn a ddewisais; fy anwylyd, yn yr hwn y mae fy enaid yn fodlon: gosodaf fy ysbryd arno, ac efe a draetha farn i’r Cenhedloedd. 19 Nid ymryson efe, ac ni lefain, ac ni chlyw neb ei lais ef yn yr heolydd. 20 Corsen ysig nis tyr, a llin yn mygu nis diffydd, hyd oni ddygo efe allan farn i fuddugoliaeth. 21 Ac yn ei enw ef y gobeithia’r Cenhedloedd.
3 Ac efe a aeth i mewn drachefn i’r synagog; ac yr oedd yno ddyn a chanddo law wedi gwywo. 2 A hwy a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y cyhuddent ef. 3 Ac efe a ddywedodd wrth y dyn yr oedd ganddo’r llaw wedi gwywo, Cyfod i’r canol. 4 Ac efe a ddywedodd wrthynt hwy, Ai rhydd gwneuthur da ar y dydd Saboth, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai lladd? A hwy a dawsant â sôn. 5 Ac wedi edrych arnynt o amgylch yn ddicllon, gan dristáu am galedrwydd eu calon hwynt, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn allan dy law. Ac efe a’i hestynnodd: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. 6 A’r Phariseaid a aethant allan, ac a ymgyngorasant yn ebrwydd gyda’r Herodianiaid yn ei erbyn ef, pa fodd y difethent ef. 7 A’r Iesu gyda’i ddisgyblion a giliodd tua’r môr: a lliaws mawr a’i canlynodd ef, o Galilea, ac o Jwdea, 8 Ac o Jerwsalem, ac o Idumea, ac o’r tu hwnt i’r Iorddonen; a’r rhai o gylch Tyrus a Sidon, lliaws mawr, pan glywsant gymaint a wnaethai efe, a ddaethant ato. 9 Ac efe a ddywedodd wrth ei ddisgyblion am fod llong yn barod iddo, oblegid y dyrfa, rhag iddynt ei wasgu ef. 10 Canys efe a iachasai lawer, hyd oni phwysent arno, er mwyn cyffwrdd ag ef, cynifer ag oedd â phlâu arnynt. 11 A’r ysbrydion aflan, pan welsant ef, a syrthiasant i lawr ger ei fron ef, ac a waeddasant, gan ddywedyd, Ti yw Mab Duw. 12 Yntau a orchmynnodd iddynt yn gaeth, na chyhoeddent ef.
13 Ac efe a esgynnodd i’r mynydd, ac a alwodd ato y rhai a fynnodd efe: a hwy a ddaethant ato. 14 Ac efe a ordeiniodd ddeuddeg, fel y byddent gydag ef, ac fel y danfonai efe hwynt i bregethu; 15 Ac i fod ganddynt awdurdod i iacháu clefydau, ac i fwrw allan gythreuliaid. 16 Ac i Simon y rhoddes efe enw Pedr; 17 Ac Iago fab Sebedeus, ac Ioan brawd Iago, (ac efe a roddes iddynt enwau, Boanerges; yr hyn yw, Meibion y daran;) 18 Ac Andreas, a Philip, a Bartholomeus, a Mathew, a Thomas, ac Iago fab Alffeus, a Thadeus, a Simon y Canaanead, 19 A Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a’i bradychodd ef. A hwy a ddaethant i dŷ. 20 A’r dyrfa a ymgynullodd drachefn, fel na allent gymaint â bwyta bara. 21 A phan glybu’r eiddo ef, hwy a aethant i’w ddal ef: canys dywedasant, Y mae ef allan o’i bwyll.
22 A’r ysgrifenyddion, y rhai a ddaethent i waered o Jerwsalem, a ddywedasant fod Beelsebub ganddo, ac mai trwy bennaeth y cythreuliaid yr oedd efe yn bwrw allan gythreuliaid. 23 Ac wedi iddo eu galw hwy ato, efe a ddywedodd wrthynt mewn damhegion, Pa fodd y gall Satan fwrw allan Satan? 24 Ac o bydd teyrnas wedi ymrannu yn ei herbyn ei hun, ni ddichon y deyrnas honno sefyll. 25 Ac o bydd tŷ wedi ymrannu yn ei erbyn ei hun, ni ddichon y tŷ hwnnw sefyll. 26 Ac os Satan a gyfyd yn ei erbyn ei hun, ac a fydd wedi ymrannu, ni all efe sefyll, eithr y mae iddo ddiwedd. 27 Ni ddichon neb fyned i mewn i dŷ’r cadarn, ac ysbeilio ei ddodrefn ef, oni bydd iddo yn gyntaf rwymo’r cadarn; ac yna yr ysbeilia ei dŷ ef. 28 Yn wir y dywedaf i chwi, y maddeuir pob pechod i feibion dynion, a pha gabledd bynnag a gablant: 29 Eithr yr hwn a gablo yn erbyn yr Ysbryd Glân, ni chaiff faddeuant yn dragywydd, ond y mae yn euog o farn dragywydd: 30 Am iddynt ddywedyd, Y mae ysbryd aflan ganddo.
31 Daeth gan hynny ei frodyr ef a’i fam; a chan sefyll allan, hwy a anfonasant ato, gan ei alw ef. 32 A’r bobl oedd yn eistedd o’i amgylch, ac a ddywedasant wrtho, Wele, y mae dy fam di a’th frodyr allan yn dy geisio. 33 Ac efe a’u hatebodd hwynt, gan ddywedyd, Pwy yw fy mam i, neu fy mrodyr i? 34 Ac wedi iddo edrych oddi amgylch ar y rhai oedd yn eistedd yn ei gylch, efe a ddywedodd, Wele fy mam i, a’m brodyr i. 35 Canys pwy bynnag a wnelo ewyllys Duw, hwnnw yw fy mrawd i, a’m chwaer, a’m mam i.
6 A bu ar yr ail prif Saboth, fyned ohono trwy’r ŷd: a’i ddisgyblion a dynasant y tywys, ac a’u bwytasant, gwedi eu rhwbio â’u dwylo. 2 A rhai o’r Phariseaid a ddywedasant wrthynt, Paham yr ydych yn gwneuthur yr hyn nid yw gyfreithlon ei wneuthur ar y Sabothau? 3 A’r Iesu gan ateb iddynt a ddywedodd, Oni ddarllenasoch hyn chwaith, yr hyn a wnaeth Dafydd, pan oedd chwant bwyd arno ef, a’r rhai oedd gydag ef; 4 Y modd yr aeth efe i mewn i dŷ Dduw, ac y cymerth ac y bwytaodd y bara gosod, ac a’i rhoddes hefyd i’r rhai oedd gydag ef; yr hwn nid yw gyfreithlon ei fwyta, ond i’r offeiriaid yn unig? 5 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Y mae Mab y dyn yn Arglwydd ar y Saboth hefyd.
6 A bu hefyd ar Saboth arall, iddo fyned i mewn i’r synagog, ac athrawiaethu: ac yr oedd yno ddyn a’i law ddeau wedi gwywo. 7 A’r ysgrifenyddion a’r Phariseaid a’i gwyliasant ef, a iachâi efe ef ar y dydd Saboth; fel y caffent achwyn yn ei erbyn ef. 8 Eithr efe a wybu eu meddyliau hwynt, ac a ddywedodd wrth y dyn oedd â’r llaw wedi gwywo, Cyfod i fyny, a saf yn y canol. Ac efe a gyfododd i fyny, ac a safodd. 9 Yr Iesu am hynny a ddywedodd wrthynt, Myfi a ofynnaf i chwi, Beth sydd gyfreithlon ar y Sabothau? gwneuthur da, ynteu gwneuthur drwg? cadw einioes, ai colli? 10 Ac wedi edrych arnynt oll oddi amgylch, efe a ddywedodd wrth y dyn, Estyn dy law. Ac efe a wnaeth felly: a’i law ef a wnaed yn iach fel y llall. 11 A hwy a lanwyd o ynfydrwydd, ac a ymddiddanasant y naill wrth y llall, pa beth a wnaent i’r Iesu. 12 A bu yn y dyddiau hynny, fyned ohono ef allan i’r mynydd i weddïo; a pharhau ar hyd y nos yn gweddïo Duw.
13 A phan aeth hi yn ddydd, efe a alwodd ato ei ddisgyblion: ac ohonynt efe a etholodd ddeuddeg, y rhai hefyd a enwodd efe yn apostolion; 14 Simon (yr hwn hefyd a enwodd efe Pedr,) ac Andreas ei frawd; Iago, ac Ioan; Philip, a Bartholomeus; 15 Mathew, a Thomas; Iago mab Alffeus, a Simon a elwir Selotes; 16 Jwdas brawd Iago, a Jwdas Iscariot, yr hwn hefyd a aeth yn fradwr.
17 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a safodd mewn gwastatir; a’r dyrfa o’i ddisgyblion, a lliaws mawr o bobl o holl Jwdea a Jerwsalem, ac o duedd môr Tyrus a Sidon, y rhai a ddaeth i wrando arno, ac i’w hiacháu o’u clefydau, 18 A’r rhai a flinid gan ysbrydion aflan: a hwy a iachawyd. 19 A’r holl dyrfa oedd yn ceisio cyffwrdd ag ef; am fod nerth yn myned ohono allan, ac yn iacháu pawb.
20 Ac efe a ddyrchafodd ei olygon ar ei ddisgyblion, ac a ddywedodd, Gwyn eich byd y tlodion: canys eiddoch chwi yw teyrnas Dduw. 21 Gwyn eich byd y rhai ydych yn dwyn newyn yr awr hon: canys chwi a ddigonir. Gwyn eich byd y rhai ydych yn wylo yr awr hon: canys chwi a chwerddwch. 22 Gwyn eich byd pan y’ch casao dynion, a phan y’ch didolant oddi wrthynt, ac y’ch gwaradwyddant, ac y bwriant eich enw allan megis drwg, er mwyn Mab y dyn. 23 Byddwch lawen y dydd hwnnw, a llemwch; canys wele, eich gwobr sydd fawr yn y nef: oblegid yr un ffunud y gwnaeth eu tadau hwynt i’r proffwydi. 24 Eithr gwae chwi’r cyfoethogion! canys derbyniasoch eich diddanwch. 25 Gwae chwi’r rhai llawn! canys chwi a ddygwch newyn. Gwae chwi’r rhai a chwerddwch yr awr hon! canys chwi a alerwch ac a wylwch. 26 Gwae chwi pan ddywedo pob dyn yn dda amdanoch! canys felly y gwnaeth eu tadau hwynt i’r gau broffwydi.
27 Ond yr wyf yn dywedyd wrthych chwi y rhai ydych yn gwrando, Cerwch eich gelynion; gwnewch dda i’r rhai a’ch casânt: 28 Bendithiwch y rhai a’ch melltithiant, a gweddïwch dros y rhai a’ch drygant. 29 Ac i’r hwn a’th drawo ar y naill gern, cynnig y llall hefyd; ac i’r hwn a ddygo ymaith dy gochl, na wahardd dy bais hefyd. 30 A dyro i bob un a geisio gennyt; a chan y neb a fyddo’n dwyn yr eiddot, na chais eilchwyl. 31 Ac fel y mynnech wneuthur o ddynion i chwi, gwnewch chwithau iddynt yr un ffunud. 32 Ac os cerwch y rhai a’ch carant chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae pechaduriaid hefyd yn caru’r rhai a’u câr hwythau. 33 Ac os gwnewch dda i’r rhai a wnânt dda i chwithau, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn gwneuthur yr un peth. 34 Ac os rhoddwch echwyn i’r rhai yr ydych yn gobeithio y cewch chwithau ganddynt, pa ddiolch fydd i chwi? oblegid y mae’r pechaduriaid hefyd yn rhoddi echwyn i bechaduriaid, fel y derbyniont y cyffelyb. 35 Eithr cerwch eich gelynion, a gwnewch dda, a rhoddwch echwyn, heb obeithio dim drachefn; a’ch gwobr a fydd mawr, a phlant fyddwch i’r Goruchaf: canys daionus yw efe i’r rhai anniolchgar a drwg. 36 Byddwch gan hynny drugarogion, megis ag y mae eich Tad yn drugarog. 37 Ac na fernwch, ac ni’ch bernir: na chondemniwch, ac ni’ch condemnir: maddeuwch, a maddeuir i chwithau: 38 Rhoddwch, a rhoddir i chwi; mesur da, dwysedig, ac wedi ei ysgwyd, ac yn myned trosodd, a roddant yn eich mynwes: canys â’r un mesur ag y mesuroch, y mesurir i chwi drachefn. 39 Ac efe a ddywedodd ddameg wrthynt: a ddichon y dall dywyso’r dall? oni syrthiant ill dau yn y clawdd? 40 Nid yw’r disgybl uwchlaw ei athro: eithr pob un perffaith a fydd fel ei athro. 41 A phaham yr wyt ti yn edrych ar y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd, ac nad ydwyt yn ystyried y trawst sydd yn dy lygad dy hun? 42 Neu pa fodd y gelli di ddywedyd wrth dy frawd, Fy mrawd, gad i mi dynnu allan y brycheuyn sydd yn dy lygad, a thithau heb weled y trawst sydd yn dy lygad dy hun? O ragrithiwr, bwrw allan y trawst o’th lygad dy hun yn gyntaf, ac yna y gweli yn eglur dynnu allan y brycheuyn sydd yn llygad dy frawd. 43 Canys nid yw pren da yn dwyn ffrwyth drwg; na phren drwg yn dwyn ffrwyth da. 44 Oblegid pob pren a adwaenir wrth ei ffrwyth ei hun: canys nid oddi ar ddrain y casglant ffigys, nac oddi ar berth yr heliant rawnwin. 45 Y dyn da, o ddaionus drysor ei galon, a ddwg allan ddaioni; a’r dyn drwg, o ddrygionus drysor ei galon, a ddwg allan ddrygioni: canys o helaethrwydd y galon y mae ei enau yn llefaru.
46 Paham hefyd yr ydych yn fy ngalw i, Arglwydd, Arglwydd, ac nad ydych yn gwneuthur yr hyn yr wyf yn ei ddywedyd? 47 Pwy bynnag a ddêl ataf fi, ac a wrendy fy ngeiriau, ac a’u gwnelo hwynt, mi a ddangosaf i chwi i bwy y mae efe yn gyffelyb: 48 Cyffelyb yw i ddyn yn adeiladu tŷ, yr hwn a gloddiodd, ac a aeth yn ddwfn, ac a osododd ei sail ar y graig: a phan ddaeth llifeiriant, y llifddyfroedd a gurodd ar y tŷ hwnnw, ac ni allai ei siglo; canys yr oedd wedi ei seilio ar y graig. 49 Ond yr hwn a wrendy, ac ni wna, cyffelyb yw i ddyn a adeiladai dŷ ar y ddaear, heb sail; ar yr hwn y curodd y llifddyfroedd, ac yn y fan y syrthiodd: a chwymp y tŷ hwnnw oedd fawr.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.