Print Page Options
Previous Prev Day Next DayNext

Chronological

Read the Bible in the chronological order in which its stories and events occurred.
Duration: 365 days
Beibl William Morgan (BWM)
Version
Mathew 2

Ac wedi geni’r Iesu ym Methlehem Jwdea, yn nyddiau Herod frenin, wele, doethion a ddaethant o’r dwyrain i Jerwsalem, Gan ddywedyd, Pa le y mae’r hwn a anwyd yn Frenin yr Iddewon? canys gwelsom ei seren ef yn y dwyrain, a daethom i’w addoli ef. Ond pan glybu Herod frenin, efe a gyffrowyd, a holl Jerwsalem gydag ef. A chwedi dwyn ynghyd yr holl archoffeiriaid ac ysgrifenyddion y bobl, efe a ymofynnodd â hwynt pa le y genid Crist. A hwy a ddywedasant wrtho, Ym Methlehem Jwdea: canys felly yr ysgrifennwyd trwy’r proffwyd; A thithau, Bethlehem, tir Jwda, nid lleiaf wyt ymhlith tywysogion Jwda: canys ohonot ti y daw Tywysog, yr hwn a fugeilia fy mhobl Israel. Yna Herod, wedi galw y doethion yn ddirgel, a’u holodd hwynt yn fanwl am yr amser yr ymddangosasai y seren. Ac wedi eu danfon hwy i Fethlehem, efe a ddywedodd, Ewch, ac ymofynnwch yn fanwl am y mab bychan; a phan gaffoch ef, mynegwch i mi, fel y gallwyf finnau ddyfod a’i addoli ef. Hwythau, wedi clywed y brenin, a aethant; ac wele, y seren a welsent yn y dwyrain a aeth o’u blaen hwy, hyd oni ddaeth hi a sefyll goruwch y lle yr oedd y mab bychan. 10 A phan welsant y seren, llawenychasant â llawenydd mawr dros ben.

11 A phan ddaethant i’r tŷ, hwy a welsant y mab bychan gyda Mair ei fam; a hwy a syrthiasant i lawr, ac a’i haddolasant ef: ac wedi agoryd eu trysorau, a offrymasant iddo anrhegion; aur, a thus, a myrr. 12 Ac wedi eu rhybuddio hwy gan Dduw trwy freuddwyd, na ddychwelent at Herod, hwy a aethant drachefn i’w gwlad ar hyd ffordd arall. 13 Ac wedi iddynt ymado, wele angel yr Arglwydd yn ymddangos i Joseff mewn breuddwyd, gan ddywedyd, Cyfod, cymer y mab bychan a’i fam, a ffo i’r Aifft, a bydd yno hyd oni ddywedwyf i ti: canys ceisio a wna Herod y mab bychan i’w ddifetha ef. 14 Ac yntau pan gyfododd, a gymerth y mab bychan a’i fam o hyd nos, ac a giliodd i’r Aifft; 15 Ac a fu yno hyd farwolaeth Herod: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedwyd gan yr Arglwydd trwy’r proffwyd, gan ddywedyd, O’r Aifft y gelwais fy mab.

16 Yna Herod, pan weles ei siomi gan y doethion, a ffromodd yn aruthr, ac a ddanfonodd, ac a laddodd yr holl fechgyn oedd ym Methlehem, ac yn ei holl gyffiniau, o ddwyflwydd oed a than hynny, wrth yr amser yr ymofynasai efe yn fanwl â’r doethion. 17 Yna y cyflawnwyd yr hyn a ddywedasid gan Jeremeias y proffwyd, gan ddywedyd, 18 Llef a glybuwyd yn Rama, galar, ac wylofain, ac ochain mawr, Rachel yn wylo am ei phlant; ac ni fynnai ei chysuro, am nad oeddynt.

19 Ond wedi marw Herod, wele angel yr Arglwydd mewn breuddwyd yn ymddangos i Joseff yn yr Aifft, 20 Gan ddywedyd, Cyfod, a chymer y mab bychan a’i fam, a dos i dir Israel: canys y rhai oedd yn ceisio einioes y mab bychan a fuant feirw. 21 Ac wedi ei gyfodi, efe a gymerth y mab bychan a’i fam, ac a ddaeth i dir Israel. 22 Eithr pan glybu efe fod Archelaus yn teyrnasu ar Jwdea yn lle ei dad Herod, efe a ofnodd fyned yno. Ac wedi ei rybuddio gan Dduw mewn breuddwyd, efe a giliodd i barthau Galilea. 23 A phan ddaeth, efe a drigodd mewn dinas a elwid Nasareth: fel y cyflawnid yr hyn a ddywedasid trwy’r proffwydi, Y gelwid ef yn Nasaread.

Luc 2:39-52

39 Ac wedi iddynt orffen pob peth yn ôl deddf yr Arglwydd, hwy a ddychwelasant i Galilea, i’w dinas eu hun Nasareth. 40 A’r bachgen a gynyddodd, ac a gryfhaodd yn yr ysbryd, yn gyflawn o ddoethineb: a gras Duw oedd arno ef.

41 A’i rieni ef a aent i Jerwsalem bob blwyddyn ar ŵyl y pasg. 42 A phan oedd efe yn ddeuddeng mlwydd oed, hwynt‐hwy a aethant i fyny i Jerwsalem yn ôl defod yr ŵyl. 43 Ac wedi gorffen y dyddiau, a hwy yn dychwelyd, arhosodd y bachgen Iesu yn Jerwsalem; ac ni wyddai Joseff a’i fam ef: 44 Eithr gan dybied ei fod ef yn y fintai, hwy a aethant daith diwrnod; ac a’i ceisiasant ef ymhlith eu cenedl a’u cydnabod. 45 A phryd na chawsant ef, hwy a ddychwelasant i Jerwsalem, gan ei geisio ef. 46 A bu, ar ôl tridiau, gael ohonynt hwy ef yn y deml, yn eistedd yng nghanol y doctoriaid, yn gwrando arnynt, ac yn eu holi hwynt. 47 A synnu a wnaeth ar bawb a’r a’i clywsant ef, oherwydd ei ddeall ef a’i atebion. 48 A phan welsant ef, bu aruthr ganddynt. A’i fam a ddywedodd wrtho, Fy mab, paham y gwnaethost felly â ni? wele, dy dad a minnau yn ofidus a’th geisiasom di. 49 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Paham y ceisiech fi? oni wyddech fod yn rhaid i mi fod ynghylch y pethau a berthyn i’m Tad? 50 A hwy ni ddeallasant y gair a ddywedasai efe wrthynt. 51 Ac efe a aeth i waered gyda hwynt, ac a ddaeth i Nasareth, ac a fu ostyngedig iddynt. A’i fam ef a gadwodd yr holl eiriau hyn yn ei chalon. 52 A’r Iesu a gynyddodd mewn doethineb a chorffolaeth, a ffafr gyda Duw a dynion.

Beibl William Morgan (BWM)

William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.