Old/New Testament
20 Yna Soffar y Naamathiad a atebodd ac a ddywedodd, 2 Am hynny y mae fy meddyliau yn peri i mi ateb: ac am hyn y mae brys arnaf. 3 Yr ydwyf yn clywed cerydd gwaradwyddus i mi; ac y mae ysbryd fy neall yn peri i mi ateb. 4 Oni wyddost ti hyn erioed, er pan osodwyd dyn ar y ddaear, 5 Mai byr yw gorfoledd yr annuwiolion, a llawenydd y rhagrithwyr dros funud awr? 6 Pe dyrchafai ei odidowgrwydd ef i’r nefoedd, a chyrhaeddyd o’i ben ef hyd y cymylau; 7 Efe a gollir yn dragywydd fel ei dom: y rhai a’i gwelsant a ddywedant, Pa le y mae efe? 8 Efe a eheda ymaith megis breuddwyd, ac ni cheir ef: ac efe a ymlidir fel gweledigaeth nos. 9 Y llygad a’i gwelodd, ni wêl ef mwy: a’i le ni chenfydd mwy ohono. 10 Ei feibion a gais fodloni’r tlodion: a’i ddwylo a roddant adref eu golud hwynt. 11 Ei esgyrn sydd yn llawn o bechod ei ieuenctid, yr hwn a orwedd gydag ef yn y pridd. 12 Er bod drygioni yn felys yn ei enau ef; er iddo ei gau dan ei dafod; 13 Er iddo ei arbed, ac heb ei ado; eithr ei atal o fewn taflod ei enau: 14 Ei fwyd a dry yn ei ymysgaroedd: bustl asbiaid ydyw o’i fewn ef. 15 Efe a lyncodd gyfoeth, ac efe a’i chwyda: Duw a’i tyn allan o’i fol ef. 16 Efe a sugn wenwyn asbiaid: tafod gwiber a’i lladd ef. 17 Ni chaiff weled afonydd, ffrydiau, ac aberoedd o fêl ac ymenyn. 18 Y mae efe yn rhoddi adref yr hyn a lafuriodd amdano, ac nis llwnc: yn ôl ei olud y rhydd adref, ac heb gael llawenydd ohono. 19 Am iddo ddryllio, a gado’r tlodion; ysglyfaethu tŷ nid adeiladodd; 20 Diau na chaiff lonydd yn ei fol, na weddill o’r hyn a ddymunodd. 21 Ni bydd gweddill o’i fwyd ef; am hynny ni ddisgwyl neb am ei dda ef. 22 Pan gyflawner ei ddigonoldeb, cyfyng fydd arno; llaw pob dyn blin a ddaw arno. 23 Pan fyddo efe ar fedr llenwi ei fol, Duw a ddenfyn arno angerdd ei ddigofaint; ac a’i glawia hi arno ef ymysg ei fwyd. 24 Efe a ffy oddi wrth arfau haearn; a’r bwa dur a’i trywana ef. 25 Efe a dynnir, ac a ddaw allan o’r corff, a gloywlafn a ddaw allan o’i fustl ef; dychryn fydd arno. 26 Pob tywyllwch a fydd cuddiedig yn ei ddirgeloedd ef: tân heb ei chwythu a’i hysa ef: yr hyn a adawer yn ei luestai ef, a ddrygir. 27 Y nefoedd a ddatguddiant ei anwiredd ef, a’r ddaear a gyfyd yn ei erbyn ef. 28 Cynnydd ei dŷ ef a gilia: ei dda a lifa ymaith yn nydd ei ddigofaint ef. 29 Dyma ran dyn annuwiol gan Dduw; a’r etifeddiaeth a osodwyd iddo gan Dduw.
21 A Job a atebodd ac a ddywedodd, 2 Gan wrando gwrandewch fy ymadrodd; a bydded hyn yn lle eich cysur. 3 Dioddefwch fi, a minnau a lefaraf; ac wedi i mi ddywedyd, gwatwerwch. 4 A minnau, ydwyf fi yn gwneuthur fy nghwyn wrth ddyn? ac os ydwyf, paham na byddai gyfyng ar fy ysbryd? 5 Edrychwch arnaf, a synnwch: a gosodwch eich llaw ar eich genau. 6 Minnau pan gofiwyf, a ofnaf; a dychryn a ymeifl yn fy nghnawd. 7 Paham y mae yr annuwiolion yn byw, yn heneiddio, ac yn cryfhau mewn cyfoeth? 8 Eu had hwy sydd safadwy o’u blaen gyda hwynt, a’u hiliogaeth yn eu golwg. 9 Eu tai sydd mewn heddwch allan o ofn; ac nid ydyw gwialen Duw arnynt hwy. 10 Y mae eu tarw hwynt yn cyfloi, ac ni chyll ei had; ei fuwch ef a fwrw lo, ac nid erthyla. 11 Danfonant allan eu rhai bychain fel diadell, a’u bechgyn a neidiant. 12 Cymerant dympan a thelyn, a llawenychant wrth lais yr organ. 13 Treuliant eu dyddiau mewn daioni, ac mewn moment y disgynnant i’r bedd. 14 Dywedant hefyd wrth Dduw, Cilia oddi wrthym; canys nid ydym yn chwennych gwybod dy ffyrdd. 15 Pa beth ydyw yr Hollalluog, fel y gwasanaethem ef? a pha fudd fydd i ni os gweddïwn arno? 16 Wele, nid ydyw eu daioni hwy yn eu llaw eu hun: pell yw cyngor yr annuwiol oddi wrthyf fi. 17 Pa sawl gwaith y diffydd cannwyll yr annuwiolion? ac y daw eu dinistr arnynt hwy? Duw a ran ofidiau yn ei ddig. 18 Y maent hwy fel sofl o flaen gwynt, ac fel mân us yr hwn a gipia’r corwynt. 19 Duw a guddia ei anwiredd ef i’w feibion: efe a dâl iddo, ac efe a’i gwybydd. 20 Ei lygaid a welant ei ddinistr ef; ac efe a yf o ddigofaint yr Hollalluog. 21 Canys pa wynfyd sydd ganddo ef yn ei dŷ ar ei ôl, pan hanerer rhifedi ei fisoedd ef? 22 A ddysg neb wybodaeth i Dduw? gan ei fod yn barnu y rhai uchel. 23 Y naill sydd yn marw yn ei gyflawn nerth, ac efe yn esmwyth ac yn heddychol yn gwbl. 24 Ei fronnau ef sydd yn llawn llaeth, a’i esgyrn yn iraidd gan fêr. 25 A’r llall sydd yn marw mewn chwerwder enaid, ac ni fwytaodd mewn hyfrydwch. 26 Hwy a orweddant ynghyd yn y pridd, a’r pryfed a’u gorchuddia hwynt. 27 Wele, mi a adwaen eich meddyliau, a’r bwriadau yr ydych chwi yn eu dychmygu ar gam yn fy erbyn. 28 Canys dywedwch, Pa le y mae tŷ y pendefig? a pha le y mae lluesty anheddau yr annuwiolion? 29 Oni ofynasoch chwi i’r rhai oedd yn myned heibio ar hyd y ffordd? ac onid adwaenoch chwi eu harwyddion hwy, 30 Mai hyd ddydd dinistr yr arbedir y drygionus? yn nydd cynddaredd y dygir hwynt allan. 31 Pwy a fynega ei ffordd ef yn ei wyneb ef? a phwy a dâl iddo fel y gwnaeth? 32 Eto efe a ddygir i’r bedd, ac a erys yn y pentwr. 33 Y mae priddellau y dyffryn yn felys iddo, a phob dyn a dynn ar ei ôl ef, megis yr aeth aneirif o’i flaen ef. 34 Pa fodd gan hynny y cysurwch fi ag oferedd, gan fod camwedd yn eich atebion chwi?
24 A thrannoeth yr aethant i mewn i Cesarea. Ac yr oedd Cornelius yn disgwyl amdanynt; ac efe a alwasai ei geraint a’i annwyl gyfeillion ynghyd. 25 Ac fel yr oedd Pedr yn dyfod i mewn, Cornelius a gyfarfu ag ef, ac a syrthiodd wrth ei draed, ac a’i haddolodd ef. 26 Eithr Pedr a’i cyfododd ef i fyny, gan ddywedyd, Cyfod; dyn wyf finnau hefyd. 27 A than ymddiddan ag ef, efe a ddaeth i mewn, ac a gafodd lawer wedi ymgynnull ynghyd. 28 Ac efe a ddywedodd wrthynt, Chwi a wyddoch mai anghyfreithlon yw i ŵr o Iddew ymwasgu neu ddyfod at alltud: eithr Duw a ddangosodd i mi na alwn neb yn gyffredin neu yn aflan. 29 O ba herwydd, ie, yn ddi‐nag, y deuthum, pan anfonwyd amdanaf: yr wyf gan hynny yn gofyn am ba achos y danfonasoch amdanaf. 30 A Chornelius a ddywedodd, Er ys pedwar diwrnod i’r awr hon o’r dydd yr oeddwn yn ymprydio, ac ar y nawfed awr yn gweddïo yn fy nhŷ: ac wele, safodd gŵr ger fy mron mewn gwisg ddisglair, 31 Ac a ddywedodd, Cornelius, gwrandawyd dy weddi di, a’th elusennau a ddaethant mewn coffa gerbron Duw. 32 Am hynny anfon i Jopa, a galw am Simon, yr hwn a gyfenwir Pedr: y mae efe yn lletya yn nhŷ Simon, barcer, yng nglan y môr; yr hwn, pan ddelo atat, a lefara wrthyt. 33 Am hynny yn ddi‐oed myfi a anfonais atat; a thi a wnaethost yn dda ddyfod. Yr awron, gan hynny, yr ŷm ni oll yn bresennol gerbron Duw, i wrando’r holl bethau a orchmynnwyd i ti gan Dduw.
34 Yna yr agorodd Pedr ei enau, ac a ddywedodd, Yr wyf yn deall mewn gwirionedd, nad ydyw Duw dderbyniwr wyneb: 35 Ond ym mhob cenedl, y neb sydd yn ei ofni ef, ac yn gweithredu cyfiawnder, sydd gymeradwy ganddo ef. 36 Y gair yr hwn a anfonodd Duw i blant Israel, gan bregethu tangnefedd trwy Iesu Grist: (efe yw Arglwydd pawb oll:) 37 Chwychwi a wyddoch y gair a fu yn holl Jwdea, gan ddechrau o Galilea, wedi’r bedydd a bregethodd Ioan: 38 Y modd yr eneiniodd Duw Iesu o Nasareth â’r Ysbryd Glân, ac â nerth; yr hwn a gerddodd o amgylch gan wneuthur daioni, ac iacháu pawb a’r oedd wedi eu gorthrymu gan ddiafol: oblegid yr oedd Duw gydag ef. 39 A ninnau ydym dystion o’r pethau oll a wnaeth efe yng ngwlad yr Iddewon, ac yn Jerwsalem; yr hwn a laddasant, ac a groeshoeliasant ar bren: 40 Hwn a gyfododd Duw y trydydd dydd, ac a’i rhoddes ef i’w wneuthur yn amlwg; 41 Nid i’r bobl oll, eithr i’r tystion etholedig o’r blaen gan Dduw, sef i ni, y rhai a fwytasom ac a yfasom gydag ef wedi ei atgyfodi ef o feirw. 42 Ac efe a orchmynnodd i ni bregethu i’r bobl, a thystiolaethu, mai efe yw’r hwn a ordeiniwyd gan Dduw yn Farnwr byw a meirw. 43 I hwn y mae’r holl broffwydi yn dwyn tystiolaeth, y derbyn pawb a gredo ynddo ef faddeuant pechodau trwy ei enw ef.
44 A Phedr eto yn llefaru’r geiriau hyn, syrthiodd yr Ysbryd Glân ar bawb a oedd yn clywed y gair. 45 A’r rhai o’r enwaediad a oeddynt yn credu, cynifer ag a ddaethent gyda Phedr, a synasant, am dywallt dawn yr Ysbryd Glân ar y Cenhedloedd hefyd. 46 Canys yr oeddynt yn eu clywed hwy yn llefaru â thafodau, ac yn mawrygu Duw. Yna yr atebodd Pedr, 47 A all neb luddias dwfr, fel na fedyddier y rhai hyn, y rhai a dderbyniasant yr Ysbryd Glân fel ninnau? 48 Ac efe a orchmynnodd eu bedyddio hwynt yn enw yr Arglwydd. Yna y deisyfasant arno aros dros ennyd o ddyddiau.
William Morgan Welsh Bible Edition © British & Foreign Bible Society 1992.